Cymraeg / English
|
Nodweddu'r Dirwedd HanesyddolCwm Elan:
Elenydd
|
Y ddau lyn ucheldirol, sef Llyn Fyrddon Fach (yn y blaendir) a Llyn Fyrddon Fawr, ar uchder o ryw 530 metr ar ochr orllewinol ucheldir Elenydd. Roedd Llyn Fyrddon Fawr, yn ôl y sôn, yn un o lynnoedd ucheldirol yr ardal a oedd yn cyflenwi llyswennod a brithyll i'r fynachlog Sistersaidd ganoloesol yn Ystrad Fflur, tua 7 cilometr fel yr hed y frân, i'r de-orllewin. Llun: CPAT 03-c-0653. |
Rhan o gwm Claerwen, a'r afon yn y blaendir. Yn y cefndir gwelir cwm Afon Arban, gan dremio tuag at Crug Gynon ar y gorwel pell. Llun: CPAT 1526.32. |
Mae'r fferm fechan ucheldirol yng Nghiloerwynt yng ngwm Claerwen, a Chraig Fawr y tu hwnt iddi, yn nodweddiadol o nifer o lechfeddiannau ar rostir Elenydd. Mae'r ffermdy modern wedi disodli'r ty hir o garreg a symudwyd i Amgueddfa Werin Cymru ym 1955. Ar y dechrau roedd y ty hir yn adeilad â nenffyrch yn dyddio o tua 1476 a chyfeirir ato gyntaf mewn dogfennau sy'n dyddio o 1568. Llun: CPAT 1527.02. |
Lloc â muriau o gerrig ac olion ty hir yn Lluest-pen-rhiw, ar ymyl ddwyreiniol y rhostir, uwchlaw Nannerth. Mae ardaloedd cul o gefnen a rhych yn amlygu'r llechfeddiant. Llun: CPAT 03-c-0587. |
Olion ffermdy a thai allan yn Lluest-aber-caethon, i'r gorllewin o argae Craig Goch. Yn ôl carreg ddyddiad yn y simnai, codwyd y ty ym 1814, ond mae'n bosibl fod y llechfeddiant ar y rhostir wedi dechrau ymhell cyn hyn. Ar waelod y llun ar yr ochr dde gwelir lloc â gwrthglawdd hirgrwn y mae ei ddyddiad yn anhysbys. Llun: CPAT 03-c-0632. |
Tomenni clustog ac olion cefnen a rhych ar lethrau isaf Esgair y Ty. Yn y cefndir gellir gweld yr hen ffordd dyrpeg ar draws y rhostir rhwng Rhaeadr ac Aberystwyth ac ystumiau unigryw ac anarferol rhan uchaf afon Elan, sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r cyfnod rhewlifol hwyr. Llun: CPAT 03-c-0640. |