CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Carn Gafallt
Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys
(HLCA 1138)


CPAT PHOTO 03-c-0687

Ardal fechan ucheldirol anghysbell rhwng cymoedd Elan a Dulas, gydag ochrau serth coediog. Bellach, rheolir hi yn rhannol fel gwarchodfa natur, â henebion claddu cynhanesyddol ac olion amaethu ôl-ganoloesol o bosib.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal fechan ucheldirol anghysbell wedi'i gorchuddio â grug yn bennaf, rhwng cymoedd Elan a Dulas, rhwng 250 a 460m uwchlaw'r Datwm Ordnans. Rhai llethrau dan orchudd o redyn gyda brigiadau creigiog ac ambell glogfaen fawr naturiol.

Roedd yr ardal yn ffurfio rhan o gantref canoloesol cynnar a chanoloesol Buellt, a bu'n rhan o stad Glanwysg, ond prynwyd hi gan yr RSPB sydd bellach yn ei rhedeg yn rhannol fel gwarchodfa natur. Mae grwp o garneddi claddu, o'r Oes Efydd mae'n debyg, ar ymyl ddeheuol y bryn uwchlaw Talwrn, a sawl carnedd unigol mewn mannau eraill yn awgrymu gweithgarwch cynhanesyddol, ac y gallai fod porfeydd ucheldirol wedi'u hecsbloetio i'w pori ers cyfnod cynnar. Mae gan un o'r carneddi, o'r 8fed ganrif efallai, gysylltiad chwedlonol â Chabal, ci'r Brenin Arthur, a hela'r twrch trwyth.

Mae arwyddion o'r gweithgarwch amaethyddol gynt mewn nifer o ardaloedd unigol â charneddi carega ac olion amaethu cefnen a rhych a welwyd yn yr awyrluniau. Ni phennwyd dyddiad ar gyfer y rhain, ond mae'n bosibl eu bod yn perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'r grwp bychan o gaeau amgaeedig ym Mhen-y-rhiw a Gwarallt yn enghreifftiau o lechfeddiannau canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar ar y tir comin uwchdirol. Ceir nifer o dai ar ymylon yr ucheldir, a oedd yn gartrefi yng nghanol y 19eg ganrif ond sydd bellach yn wag, yn cynnwys yr adfeilion yng Ngwarallt uwchlaw Crownant.

Ffynonellau

Guest 1849; Jones 1909-30; RCAHMW 1997; Wade-Evans 1938; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk