CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Deuddwr
Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys
(HLCA 1139)


CPAT PHOTO 03-c-0691

Tirwedd donnog iseldirol o gaeau a ffermydd canoloesol eu tarddiad neu ddiweddarach ar hyd ran isaf cwm Elan a'i chymer rhwng Pentref Elan a Llansantffraid Cwmdeuddwr i'r gorllewin o Rhaeadr.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ceir arwyddion o'r gweithgarwch cynnar yn yr ardal yn y casgliad posibl o safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol, gan gynnwys ffosydd cylch, cylch pydewau a meingylch ger fferm Coed-y-mynach, ar fymryn o deras i'r gogledd o afon Elan. Er mai ychydig o dystiolaeth hysbys sydd am anheddiad cynnar yn yr ardal, mae'n debygol bod patrwm o anheddu gwasgaredig ar sail economi amaethyddol gymysg wedi datblygu o ganlyniad i glirio'r coetir yn raddol a gwella'r tir rhwng y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol.

Roedd yr ardal yn gyfran bwysig o iseldir cwmwd canoloesol cynnar Deuddwr, ac yn rhan o dir y faenor fawr y rhoddodd Rhys ap Gruffydd i'r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur ym 1184. Sefydlwyd canolfan y plasty ar ardal o dir ffrwythlon yn ardal Llanmadog, i'r gogledd-ddwyrain o Bentref Elan. Gallai mai dyna oedd canolfan weinyddu'r faenor a lle y byddai trigolion yr abaty yn amaethu neu lle y byddai rhywun yn amaethu ar eu rhan. Dywedir bod olion capel y faenor, sef Capel Madoc, i'w gweld yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed. Datblygodd ffermydd â thenantiaid a ffermydd rhydd-ddaliadol yn yr ardal, yn ystod y Canol Oesoedd mae'n debyg, a chafodd nifer o ffermydd newydd eu creu yn dilyn diddymu abaty Ystrad Fflur ym 1539 ac wrth i'w diroedd gael eu gwerthu wedyn.

Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y 16eg ganrif a diwedd y 18fed ganrif, gwelwyd twf yn nifer y stadau tiriog ar sail eiddo'r boneddigion yn Rhydoldog, Noyadd, Dderw a Gwardolau, a oedd rhyngddynt yn berchen ar lawer o'r tir yn yr ardal. Hwy hefyd arloesodd trwy gyflwyno nifer o welliannau amaethyddol. Roedd llawer o felinau dwr ar waith ar nant Gwynllyn i'r gogledd-orllewin o Raeadr o ddiwedd y 17eg ganrif hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, i falu yd lleol a chribo a phannu gwlân y preiddiau o ddefaid a oedd yn pori ar y mynyddoedd i'r gorllewin. Awgrymir yr arfer o sychu yd cyn ei falu neu ei storio yn y 17eg ganrif neu ddiweddarach yn y dystiolaeth ddaw o enwau'r caeau. Goroesodd darnau mawr o goetir llydanddail hyd ddiwedd y 18fed ganrif, wrth i niferoedd mawr o goed derw gael eu cwympo ar dir yn Llanfadog Uchaf.

Arweiniodd y pwysau am well cludiant at greu ffordd dyrpeg Rhaeadr i Aberystwyth dros y mynyddoedd trwy ran uchaf cwm Elan ar ddiwedd y 18fed ganrif, a ddisodlwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif gan y ffordd lai unionsyth ar hyd y dyffryn trwy Langurig. Daeth gwelliannau pellach i'r teithio pellter hir yn sgîl dyfodiad Rheilffordd Canolbarth Cymru rhwng Llanidloes a Llanelwedd, a groesai ochr ddwyreiniol yr ardal. Mae'r rheilffordd bellach ar gau, ond gellir gweld ei hynt o hyd yn yr argloddiau a'r trychfeydd a thwnnel byr i'r de o Raeadr.

Er ei bod y tu hwnt i gronfeydd dwr cwm Elan, effeithiodd y gwaith adeiladu rhwng 1894 a 1910 ar yr ardal, serch hynny. Roedd Rheilffordd Cwm Elan yn cysylltu'r gwaith adeiladu â Rheilffordd Canolbarth Cymru yng Nghyffordd Cwm Elan, i'r de o Raeadr, ac roedd traphont ddwr a gludai dwr i Birmingham yn ei chroesi. Mae hynt Rheilffordd Cwm Elan sydd bellach wedi'i datgymalu yn parhau i fod yn nodwedd neilltuol yn y dirwedd, yn enwedig ar ochr y ffordd o Raeadr i'r cronfeydd dwr. Gwelir cwrs y draphont ddwr lle mae'n croesi Nant Madog, Nant yr Haidd a Nant Caethon, mae siambr falf awyr i'r gogledd o fferm Noyadd, a'r siambr all-lif neilltuol o frics ar ochr y bryn i ogledd-ddwyrain fferm Coed-y-mynach.

Caeau bychain afreolaidd â gwrychoedd o'u hamgylch yw prif nodwedd yr ardal o ran caeau. Mae'n bosibl mai gweddillion cyfundrefn maes agored o'r canol oesoedd ar gyrion deheuol Llansantffraid Cwmdeuddwr sy'n gysylltiedig â'r anheddiad cnewyllol canoloesol yw'r ardal fechan o laingaeau. Ceir nifer o ardaloedd â chaeau bychain rheolaidd, gan gynnwys ardal helaethach ger canolfan y faenor fynachaidd yn Llanmadog, ac ymddengys bod rhan ohoni yn gysylltiedig ag amaethu cefnen a rhych. Mae'n bosibl fod y gyfundrefn caeau hon yn dyddio yn wreiddiol o'r canol oesoedd neu gallai fod wedi tarddu o amgaead tyddyn mynachaidd yn dilyn diddymu'r abaty yn Ystrad Fflur. Ceir nifer fechan o ardaloedd â chaeau mwy syth eu hochrau, er enghraifft y rheiny i'r de o fferm Fron-dorddu, sy'n edrych yn debyg i amgaead o'r 18fed ganrif neu 19eg o amgylch ymylon y tir comin ucheldirol.

Ffynonellau

Banks 1880; Baughan 1991; Bidgood 1995; Cadw 1999; Cragg 1997; Howse 1949; Jones & Owen 2003; Judge 1997; Kidner 2003; Price 1936; Pugh 1931-40; Ridyard 1994a, 1994b, 1997, 1998; Smith & Jones 1963; D. H. Williams 1990, 2001; J. Williams 1848; S. W. Williams 1894; Cofnod o Safleoedd a Henebion Rhanbarthol.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaet Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn, neu cysylltech â gwefan Comisiwn Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk