Patrwm caeau ger Cae-yr-oen, yn edrych tuag at Ochr-cefn Uchaf a Chanol a'r coetiroedd cymysg o goed llydanddail a chonwydd yng Nghoed y Cefn.
Llun: CPAT 03-c-0593.
Tirwedd y caeau ar hyd cwm Elan, gan edrych tuag at Bentref Elan. Mae'n debyg bod patrwm y caeau bychain rheolaidd ger fferm Coed-y-mynach, sy'n gwrthgyferbynnu â'r caeau afreolaidd mewn mannau eraill, wedi tarddu o ganolfan y faenor Sistersaidd ganoloesol yno. Nodwyd casgliad o safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol cynharach hefyd yn yr ardal hon o astudio olion yn y cnydau.
Llun: CPAT 03-c-0691.
Plasty a gerddi Dderw. Codwyd y ty oddeutu 1870, gan gadw rhan o hen dy brics o 1799, a oedd yn ei dro wedi disodli ty cynharach o tua'r 16eg ganrif. Ychwanegwyd y gerddi teras o laswellt tua'r 1920au.
Llun: CPAT 03-c-0567.
Gwesty Cwm Elan ar y ffordd i Raeadr. Codwyd ef tua 1893-94 i ddarparu llety ar gyfer yr ymwelwyr a'r teithwyr ar wibdeithiau bws fydd yn ymweld â chronfeydd dwr Cwm Elan.
Llun: CPAT 1538.04
Y draphont ddwr yn cludo dwr o Gwm Elan i Birmingham. Yma mae'n croesi Nant Caethon, ychydig i'r dwyrain o Bentref Elan.
Llun: CPAT 1540.17.
Siambr all-lif o frics ger fferm Coed-y-mynach, ychydig i'r dwyrain o Bentref Elan. Mae'r adeilad yn nodweddiadol o'r strwythurau y gellir eu gweld ar hyd llinell y draphont ddwr o Gwm Elan ar draws Canoldir Lloegr tuag at Birmingham.
Llun: CPAT 1540.15.