CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


CPAT PHOTO 86-C-140

Nid yw'r gwaith o ddisgrifio nodweddion yr ardal Tirwedd Hanesyddol hon wedi dechrau hyd yma.

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Maer ardal anghysbell hon yn cynnwys y rhan fwyaf o dalgylch Afon Elan ai his afon,Afon Claerwen,syn draenio ochr de ddwyreiniol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru.Maen cynnwys ardal eang o wastadedd uwchdir hynod ddyranedig rhwng tua 400 a 550m uwchben SO, gyda chymoedd rhiciog dwfn Elan a Chlaerwen yn darparur unig lwybrau or dwyrain ir gorllewin ar draws yr ardal hon o Gymru,sydd fel arall yn diarffordd ac yn wag.Syrthia lloriaur cymoedd o dros 300m uwchben SO yn y gorllewin i 200m uwchben SO yn y dwyrain,o ble maer Afon Elan yn parhau i lifo am bellter byr y tu hwnt ir ardal a ddisgrifir yma,i ymuno ag Afon Gwy ir de or Rhaeadr.

Maer ardal hon yn enghraifft wych yng Nghymru o dirwedd syn dangos ymdrech ddynol ar raddfa fawr, gan ei bod wedii newid yn sylweddol gan gynlluniau peirianneg sifil mawr a oedd yn eiddo ir diwydiant dw r ar stad o dan ei reolaeth yn ystod y 19eg ar 20fed ganrifoedd.Maer cynlluniau yn cwmpasu adeiladu cyfres o argaeau enfawr a gweithiau atodol yr ymgymerwyd hwy mewn dau gam pwysig rhwng diwedd y 19eg a chanol yr 20fed ganrifoedd.Roedd y cam cyntaf yn un o gyflawniadau peirianneg sifil mwyaf y 19eg ganrif drwy Brydain gyfan,a bu sn amdanynt unwaith fel wythfed rhyfeddod y byd.

Dechreuwyd adeiladur gyfres o argaeau,a adwaenir yn gyffredinol fel Cwm Elan,gan Gorffolaeth Birmingham, er mwyn cyflenwi dw r ir ddinas,ym 1893,gan ddechrau gydag Argae Caban-coch.Disgrifwyd y strwythur enfawr hwn ai dri is-argae mewn adroddiad swyddogol cyfoesol fel of cyclopean rubble embedded in concrete and faced upstream and down-stream with shaped stones arranged in snecked courses.Erbyn pryd eu cwblhawyd ym 1904, roedd y Gorffolaeth wedi adeiladu nid yn unig yr ystod ddisgwyliedig o dyrau hidlo a falfiau,tanciau setlo, gwelyau hidlo a thai peiriannau a generaduron oedd yn angenrheidiol er mwyn rheoli lefel y dw r a chynnal ei lif parhaus,ond roedd hefyd wedi amgur rhan fwyaf or tir cyfagos oddi-amgylch y cronfeydd gyda chyfres o waliau cerrig enfawr a ffiniau cymhleth er mwyn diogelur dw r rhag ei lygru.Roedd uchder y cronfeydd yn golygu bod dw r yn gallu cyrraedd cyrion Birmingham drwy ddisgyrchiant yn unig,heb gost pwmpio, ar hyd cyfundrefn anhygoel o ddyfrbontydd wediu claddu, syn 126km o hyd.

Cyflogodd Corffolaeth Birmingham lafur uniongyrchol ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys adeiladu rheilffordd er mwyn cludo deunyddiau o Reilffyrdd Cambria yn Rhaeadr, a bun rhaid adeiladu mwy na 50km o drac er mwyn gwasanaethur safleoedd adeiladu amrywiol.Rhwng 1906 a 1909,adeiladwyd gardd-bentref bychan,o ansawdd uchel, yn yr arddull Celf a Chrefft nodedig,oedd yn cynnwys casgliad taclus o dai ar wahn ac o dai pr o gerrig wediu osod ar hyd glan deheuol Afon Elan,wrth droed y brif argae fel cartrefi ir rheini a fyddain gweithio ac yn cynnal peiriannau ac offer cymhlethfar argae. Roedd y pentref yn cynnwys ysgol,siop a swyddfa stad.

Mae llawer or tirwedd urddasol hwn wedi goroesi fwy neu lai yn ddigyfnewid ers troad y ganrif gan ir stad gael ei rheolin llym,er mwyn cadw purdeb y dw r, gan fyrddau a chwmnau dw r naill ar l y llall.Maer tirwedd, felly, wedi osgoi nifer or tueddiadau diweddar o ran coedwigaeth ar raddfa fawr a gwelliannau amaethyddol eraill ar uwchdiroedd.Gwnaed darpariaeth ar gyfer ehangur cynllun gwreiddiol yn y dyfodol wrth adeiladu Argae Claerwen yn y cwm nesaf yn ystod 194852,gan wneud cymhlethfa Cwm Elan yn un or cynlluniau cyflenwi dw r yfed mwyaf ym Mhrydain gyda chynhwysedd cyfunol o fwy na 100 biliwn litr o ddw r. Ers preifateiddior cwmnau dw r, trosglwyddwyd perchenogaeth a rheolaeth Stad Cwm Elan i ymddiriedolaeth elusennol syn gyfrifol am ddiogelu treftadaeth unigrywr ardal a pharhau iw rheolin gydymdeimladol.Bydd hyn, gobeithio, yn cadw awyrgylch a thawelwch unigrywr tirwedd.

Gwasgarwyd carneddau claddu a meini hirion trawiadol Oes yr Efydd yn helaeth ar draws yr ardaloedd uwchdir anghysbell ac anhygyrch syn amgylchynur cronfeydd dw r, tra bod gwersyll-ymdeithio Rhufeinig yn Esgair Perfedd.Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o stad helaeth Cwmteuddwr o dir pori comin a daliadau anghysbell a oedd yn eiddo ir Abaty Sistersiaidd yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Mae ffermydd l-ganoloesol yma hefyd,a nifer sylweddol o fwynfeydd a henebion diwydiannol o ddiwedd y 18fed a dechraur 19eg ganrifoedd. Er bod themar tirwedd llawer yn fwy trawiadol nar safleoedd eilradd hyn,mae llawer or safleoedd hyn wedi eu diogelu cystal gan y stad fel eu bod yn ffurfio atodiad hanesyddol gwerthfawr i dirwedd sydd fel arall yn fodern.Mae gan yr ardal hefyd gysylltiadau pwysig P. B.Shelley a fun mawrygu rhinweddau ei chymeriad tran barddoni yn Nant Gwyllt.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.