CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


AMGYLCHEDDAU, FFINIAU A CHANFYDDIADAU

Yr amgylchedd naturiol

Siâl, llechi, carreg laid a lleidfaen Silwraidd a rhai o’r cyfnod Ordoficaidd, ynghyd â haenau o greigiau amryfaen yw’r rhan fwyaf o’r creigiau dan ardal tirwedd hanesyddol cwm Elan. Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, rhwng 70,000 a 12,000 o flynyddoedd yn ôl, cuddiwyd yr ardal dan ddalen o iâ rhewlifol ac fe gafodd hyn gryn effaith ar y dopograffeg bresennol. Ymhlith nodweddion unigryw y cyfnod yma o rewlifiant mae llwyfandiroedd ucheldirol llyfn a gwastad, cymoedd rhewlifol serth siâp U, dyddodion marianol a therasau a llwyfannau ar y bryniau lle torrodd y dŵr tawdd trwy haenau o weddillion cerrig a ymgasglodd yn eu sgîl. Torrodd y rhewlifoedd ar draws llif afon Ystwyth a oedd yn wreiddiol yn bwydo llyn yn ardal Gors Lwyd, yn y cefndeuddwr rhwng afonydd Ystwyth ac Elan, a oedd yn ei dro yn bwydo afon Elan, un o lednentydd afon Gwy.

Gellir rhannu'r dirwedd yn nifer o ardaloedd topograffig ar wahân ac adlewyrchir y rhain yn yr ardaloedd nodwedd a ddiffinnir isod. I’r dwyrain mae ardal iseldirol donnog, y rhan fwyaf ohoni rhwng 190-250m uwchlaw'r môr, o Raeadr i Bentref Elan, â'r mynyddoedd ar y ffin orllewinol ac afon Gwy ar y ffin ddwyreiniol iddi.

Adeiladwyd yr argae isaf, sef Caban-coch mewn man cul yng ngwm Elan, rhwng llethrau serth Craig Gigfran i'r gogledd a Chraig Cnwch i'r de. Cyn hynny, roedd afonydd Elan a Chlaerwen yn ymuno â’i gilydd tua chilometr yn uwch na’r argae, ac yna’n gwahanu ac yn ymnadreddu yn ddwy afon ar wahân i mewn i rostir Elenydd am 20 cilometr pellach yn achos afon Elan, a 15 cilometr pellach yn achos afon Claerwen. Mae dŵr o ran ddeheuol y rhostir yn mynd i lednentydd afon Irfon, sydd yn un o lednentydd afon Gwy, a’r dŵr o’r rhan orllewinol yn mynd i afon Ystwyth i’r gogledd-orllewin, i afon Teifi i’r gorllewin, ac i afon Tywi i’r de-orllewin. Cyn creu cronfeydd dŵr roedd afonydd Elan a Chlaerwen yn llifo trwy gymoedd serth eu hochrau gweddol wastad eu gwaelod, yn aml yn gulach na hanner cilometr ar draws, a byddai gwaelod y cwm yn codi o ryw 250 metr uwchlaw y Datwm Ordnans ger y cymer i ychydig dan 400 metr yn y rhannau uchaf.

CPAT PHOTO 1526.29

Cwm rhewlifol Ffurf U nodweddiadol rhan uchaf cwm Claerwen. Llun: CPAT 1526.29.

Rhennir rhostir Elenydd, sef rhan ganol Mynyddoedd y Cambrian, yn fras, yn dair rhan gan gymoedd yr afonydd. Mae rhan ddeheuol y rhostir, i’r de o gwm Claerwen, yn uwch ar y cyfan, ac yn fwy diarffordd. Ceir llwyfandiroedd ucheldirol helaeth ar uchder o rhwng 400 a 500 metr, a chopaon megis Drum yr Eira, Drygarn Fawr a Phen y Gorllwyn sy’n ymestyn dros 600 metr. Gellir gweld Bae Ceredigion a Bannau Brycheiniog o’r fan hon ar ddiwrnod clir. Yn rhan orllewinol y rhos, rhwng cymoedd Elan a Chlaerwen, gwelir llwyfandiroedd eang a chopaon ychydig yn is, megis Bryn Garw, Trumau a Chraig Dyfnant ychydig dros 500 metr o uchder. Mae rhan ddwyreiniol y rhos, sy’n tremio dros ddyffryn Gwy, yn is ar y cyfan, er bod yno nifer o gopaon megis Moelfryn a Chrugyn Ci sydd dros 500 metr.

Mae dwy ardal dopograffigol benodol bellach yn ardal yr astudiaeth, sef Carn Gafallt, bloc ucheldirol diarffordd i’r dwyrain o Bentref Elan, a Chwm Dulas sy’n gwm serth ei ochrau ar ochr ddeheuol Carn Gafallt sydd â’i ddŵr yn llifo i un arall o lednentydd afon Gwy.

Mae’r priddoedd yn ardal iseldirol Cwmteuddwr rhwng Rhaeadr a Phentref Elan, ac yng Nghwm Dulas wedi’u draenio’n dda ar y cyfan, ac fe geir priddoedd mân lomog a siltiog ynghyd â phriddoedd llifwaddodol siltiog dyfnach mewn mannau dros yr isbriddoedd graeanog, ar y tir mwy gwastad sy’n ffinio ag afon Elan. Byddai priddoedd tebyg wedi bod yng ngwaelod y cwm ar hyd rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen cyn i’r cronfeydd dŵr gael eu hadeiladu. Ffurfiwyd llyn iseldirol bach Gwynllyn, i’r gogledd-orllewin o Raeadr, yn sgîl y rhwystrau i ddraeniad a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae’r priddoedd ar y llethrau serth ac ymylon y cymoedd wedi’u draenio’n dda ar y cyfan ac yn cynnwys priddoedd mân lomog a siltiog, ac mae caeau caeëdig ar rai o’r mannau mwy gwastad lle nad oes brigiadau a sgrïau. Gorchuddir ucheldiroedd Elenydd â gorgors a basn mawn hyd at 3 metr o ddyfnder, gydag ardaloedd â phriddoedd ucheldirol lomog.

Migwyn, plu’r gweunydd a grugoedd sy’n tyfu helaethaf ar orgorsydd Elenydd a cheir llynnoedd mawn a llynnoedd dŵr croyw mwy eu maint, megis Llyn Gynon, Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Fyrddon Fach, yn enwedig yn ardaloedd gogleddol a gorllewinol y rhostir. Mae’r llynnoedd, sydd wedi’u cronni ers y cyfnod rhewlifol diwethaf, cymaint â 25 hectar o ran maint, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys brithyll brown a rhywogaethau eraill o bysgod. Mae ardaloedd sychach y rhostir, ar y priddoedd asid tenau sy’n draenio’n rhwydd, y tu hwnt i ffin y gorgorsydd, yn cynnal llystyfiant rhostirol glaswelltog gan gynnwys grug mawr, llus ac eithin. Yn draddodiadol, mae’r ardaloedd ucheldirol hyn wedi darparu porfa o ansawdd gwael i ganolig y manteisiwyd arni yn ystod yr haf, ac ychydig o reolaeth a fu arni ac eithrio at ddibenion cadwraeth bywyd gwyllt mewn ambell ardal.

Mae’r priddoedd sy’n draenio’n rhwydd ar gymoedd serthach afonydd a nentydd megis cymoedd Elan a Chlaerwen, Cwm Dulas, a llethrau dwyreiniol Elenydd sy’n tremio dros Raeadr, yn cynnal coetiroedd llydan-ddeiliog gyda choed derw digoes neu ynn yn achos y ceunentydd neu’r llethrau mwy creigiog, ynghyd â grugoedd ac eithin. Yn gyffredinol, cliriwyd y tir llai serth yn yr ardaloedd hyn o lystyfiant naturiol a’u hamgáu, efallai o’r cyfnod canoloesol ymlaen, er mwyn creu glaswelltir o ansawdd cymedrol. Plannwyd conwydd yn rhai o’r ardaloedd hyn, ar raddfa lai yn y 19eg ganrif, ond yn fwy helaeth wrth i’r cronfeydd dŵr gael eu creu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed.

Bydd y priddoedd sydd wedi’u draenio’n dda ar y tir mwy gwastad ar hyd y rhannau isaf o gymoedd Elan a Chlaerwen na chafodd eu boddi, ac yn yr ardal iseldirol rhwng Pentref Elan a Rhaeadr yn cael eu cynnal fel glaswelltir bron yn ddieithriad erbyn heddiw, er yn hanesyddol mae’n debyg iddynt gael eu defnyddio i gynhyrchu cnydau grawn a gwraidd yn ogystal ag ar gyfer pori.

Rhoddodd ddadansoddiad o waddodion mawn ym mhen Cwm Elan, Llyn Gynnon (Ceredigion), mewn dyffryn i’r gogledd o gronfa Claerwen yn Esgair Nantybeddau ac ar safleoedd llwyfandir uwchdirol ym Mhwll-nant-ddu, rhwng Claerwen a Phenygarreg a Bryniau Pica i’r gorllewin o gronfa Claerwen, ddarlun o’r newidiadau mewn llystyfiant a newidiadau hydrolegol yn uwchdiroedd Elenydd a’r dyffrynnoedd o’u cwmpas. Mae’r astudiaethau hyn wedi dangos bod y coetir bedw wedi’i sefydlu dros ran helaeth o’r ardal erbyn tua 8500 CC, yn dilyn diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, ynghyd â pheth helyg efallai ar y tir lleithiach, a bod hesg a glaswelltydd yn ffurfio rhostir agored o bosibl, mewn rhai mannau uchel. O ryw 8200 CC ymlaen gwelwyd y cyll yn ymledu’n gyflym, a choetiroedd llydan-ddeiliog, gan gynnwys deri a llwyfen yn tyfu ymhob man ond yr uchderau eithaf. Ceir ysgyrion golosg yn y dyddodion mawn, sef yr awgrym cyntaf bod gweithgarwch dynol yn yr ardal yn ystod y cyfnod oddeutu 7500 CC, sef y cyfnod Mesolithig. O ryw 6200 CC gwelwyd cynnydd mewn paill coed gwern, sy’n awgrymu dechrau cyfnod lleithiach, ac erbyn 5000 CC gwelwyd newid i amodau mwy agored gyda rhostiroedd a chynnydd sydyn yn y gorchudd grug, glaswellt a hesg. Ceir tystiolaeth barhaus o weithgarwch dynol yn rhychwantu’r cyfnod Mesolithig hwyr a’r cyfnod Neolithig cynnar, gan gynnwys enghreifftiau o hela anifeiliaid a phori’r preiddiau dof yno. Cafwyd gwaith clirio coedydd helaethach yn ystod yr Oes Efydd, o ryw 1200 CC ac mae peth tystiolaeth yn awgrymu bod amaethu yn digwydd ar yr adeg yma, ac yn ystod yr Oes Haearn ddilynol. Erbyn diwedd y ganrif 1af CC ac yn y ganrif 1af OC mae’n debyg bod patrwm y llystyfiant wedi datblygu’n dra thebyg i’r hyn a welwn heddiw. Ceir tystiolaeth bellach bod y dwysâd yn y gwaith o glirio fforestydd wedi effeithio yn arbennig ar y coetir gwern, derw a bedw yn y cymoedd isaf. Tybir bod hyn wedi digwydd yn ystod y cyfnod canoloesol. Ceir tystiolaeth ar yr un pryd o weithgarwch bugeiliol wrth i bori yn yr ardal ddwysáu yn dilyn sefydlu maenordai mynachaidd y fynachlog Sistersaidd yn Ystrad Fflur ar ddiwedd y 12fed ganrif.

Ffiniau Gweinyddol

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, roedd y rhan helaethaf o’r ardal astudiaeth, i’r gogledd o afon Claerwen, o fewn cwmwd o’r enw Cwmwd Deuddwr (a dalfyrrwyd i Cwmteuddwr), enw a ddeilliodd o’r ddwy afon sef Gwy ac Elan. Roedd yr ardal i’r de o afon Claerwen o fewn cwmwd Dinan yng nghantref Buellt, a ddaeth wedyn yn gantref Buellt yn Sir Frycheiniog.

Roedd rhan orllewinol Cwmdeuddwr felly o fewn cymydau Mefenydd a Phennardd a ddaeth wedyn yn gantrefi Ilar a Phenarth yn Sir Aberteifi. O rywdro rhwng y 7fed ganrif a dechrau’r 10fed ganrif, roedd Cwmdeuddwr wedi bod yn rhan o deyrnas Powys, ond ar ddiwedd y 10fed ganrif a dechrau’r 11eg, daeth yn rhan o diriogaeth ar wahân rhwng afon Gwy ac afon Hafren, a elwid yn Rhwng Gwy a Hafren, a oedd ynghyd â theyrnas Brycheiniog yn deyrngar i deulu brenhinol Deuheubarth yn ne-orllewin Cymru.

O ddiwedd yr 11eg ganrif a thrwy’r rhan helaethaf o’r 12fed ganrif, byddai anghydfod rhwng teulu brenhinol Deheubarth ac Arglwyddi Eingl-Normanaidd y Mers ynghylch perchnogaeth cwmwd Cwmdeuddwr. Roedd ysgarmes eisoes wedi digwydd rhwng y teulu Mortimer a Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys) erbyn 1176 pan ragodwyd dau fab-yng-nghyfraith Rhys, sef Morgan ap Maredudd ac Einion Clyd, Arglwydd Elfael, a’u lladd yng nghoedwig ‘Llawr Dderw’ ger Rhaeadr yng Nghwmdeuddwr. Yn ddiweddarach, fe feddiannodd Rhys y diriogaeth a sefydlu castell yn Rhaeadr ym 1177. Ym 1184 roedd y rhan fwyaf o gwmwd Cwmdeuddwr ymhlith y lleiniau helaeth o dir a roddodd Rhys i’r fynachlog Sistersaidd newydd yn Ystrad Fflur, ac ef oedd y prif gymwynaswr. Rhoddwyd y tir i abad Ystrad Fflur, gerbron byddin Rhys, yn eglwys Sant Ffraid yn Rhaeadr. Cadwodd Rhys ardal fechan o’r cwmwd, sef maenor Cwmdeuddwr yn agos at Raeadr, er mwyn amddiffyn castell Rhaeadr a chyflenwi ar ei gyfer. Adwaenid y rhan o’r cwmwd a oedd yn cynnwys Elenydd a chwm Elan fel maenor Grange.

O fewn ychydig flynyddoedd, syrthiodd Cwmdeuddwr i ddwylo teulu Eingl-Normanaidd Mortimer, ac yn dilyn hyn daeth Cwmdeuddwr yn rhan o arglwyddiaeth mers cantref Maelienydd. Pan ddaeth Edward IV i’r orsedd ym 1462, daeth y tŷ yn faenor y goron, ac arhosodd felly hyd ei werthu ym 1825. Adeg y Ddeddf Uno ym 1536, ffurfiwyd cyn gymydau teulu Mortimer, sef Cwmdeuddwr a Gwerthrynion, yn gantref Rhaeadr yn Sir Faesyfed.

Erbyn heddiw, mae rhannau dwyreiniol yr ardal astudiaeth yn bennaf o fewn cymunedau Rhaeadr a Llanwrthwl, ynghyd â rhannau o gymunedau Llanwrtyd, Treflys a Llanafan-fawr yn Sir Powys, a grëwyd ym 1974 trwy uno Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Drefaldwyn. Mae rhan orllewinol ardal yr astudiaeth o fewn cymunedau Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur a Thregaron yn sir Ceredigion.

Prynwyd Grange Cwmdeuddwr ym 1792 gan ŵr bonheddig o Wiltshire, Mr Thomas Grove, a dechreuodd yntau ddatblygu’r stad. Ar ôl newid dwylo sawl tro, prynwyd tiroedd y faenor o fewn cefndeuddwr afonydd Elan a Chlaerwen gan gorfforaeth Birmingham ym 1892 i adeiladu’r cronfeydd dŵr. Dechreuodd y gwaith ar y rhain ym 1893. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y cronfeydd ac am stad Elan i gwmni Dŵr Cymru ym 1974 wrth i’r cwmnïau dŵr preifat gael eu creu, a hon yw’r ardal unigol fwyaf dan berchnogaeth cwmni dŵr ym Mhrydain. Ym 1989 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elan Dŵr Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am ddiogelu amgylchedd naturiol y stad ac annog mynediad a dealltwriaeth y cyhoedd. Mae rhan ddeheuol Elenydd yn Sir Frycheiniog, sef Comin Abergwesyn, bellach yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Prynodd y Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar Garn Gafallt yn Sir Frycheiniog, ardal ucheldirol fechan ar wahân, oddi wrth Stad Glanwysg ym 1983.

O safbwynt eglwysig, roedd y rhan fwyaf o ardal yr astudiaeth o fewn plwyfi canoloesol Llansantffraid Cwmdeuddwr a Llanwrthwl, o fewn deoniaeth Buellt yn esgobaeth Tyddewi.

Canfyddiadau cynnar ynghylch y dirwedd

Mae cofnodion cynnar pobl a deithiodd trwy’r ardal, mapiau cynnar a chofnodion enwau lleoedd yn darparu cofnod ynglŷn â sut yr oedd y rhai a drigai neu a deithiai yn nhirwedd cwm Elan yn y gorffennol yn disgrifio ac yn canfod yr ardal.

Gelwid yr ardal fynyddig o amgylch blaen afon Elan yn Elenydd ers y cyfnod cynnar. Mae’n debyg bod yr enw’n deillio o enw afon Elan, ynghyd â’r terfyniad –ydd, sy’n awgrymu ‘ardal’ yr enw y mae’n gysylltiedig ag ef. Cofnodir yr enw gyntaf yng ngwaith Gerallt Gymro Itinerarium Cambriae, a ysgrifennwyd ym 1188, lle y disgrifia (o’i gyfieithu) ‘mynyddoedd uchel Moruge, a adwaenir fel Elennith yn Gymraeg’. Mae Gerallt Gymro yn dwyn sylw at Elenydd ac Eryri fel y ddwy brif gadwyn o fynyddoedd yng Nghymru, ac yn esbonio bod yr enw Saesneg ‘Moruge’, (sef ffurf nad yw wedi ei chofnodi yn unman arall, ond y credir ei bod yn deillio o air tebyg i’r Ffrangeg marais yn gysylltiedig â’r rhostiroedd ar y copa. Mae’r enw felly yn golygu ‘Mynyddoedd y Corsydd’ (‘Marsh Mountains’ yn Saesneg) i wahaniaethu rhyngddynt a ‘Mynyddoedd yr Eira’ (‘Snow Mountains’ yn Saesneg). Roedd Gerallt yn cyd-deithio â’r Archesgob Baldwyn ar ei siwrnai trwy Gymru i gymell y ffyddloniaid i ymuno â’r Croesgadau. Roedd y rhan arbennig hon o’r siwrnai yn ymestyn o abaty Ystrad Fflur i’r eglwys yn Llanbadarn Fawr. Ceir cofnod o gwm Elan ei hun fel Glan Elan am y tro cyntaf ar ddiwedd y 12fed ganrif ac wedi hynny fel Dyffryn Elan (Driffyn Elan).

CPAT PHOTO 03-c-0647

Llyn Cerrigllwydion Isaf, un o’r llynnoedd ucheldirol mawr ar Elenydd. Llun: CPAT 03-c-0647.

Ymwelodd John Leland, hynafiaethydd y brenin, â’r ardal yn y 1530au, unwaith eto mewn perthynas ag Ystrad Fflur. Mae’n bur debyg mai yng nghwmni tywyswyr lleol yr archwiliodd ef y cefn gwlad o amgylch yr abaty. Ymwelodd â Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill ar ochr orllewinol y rhostir, gan sylwi eu bod yn ‘plentiful of trouttes and elys’. O bwynt rhyw ddwy filltir y tu hwnt i’r llynnoedd, fe welodd olygfa y dichon nad yw wedi newid fawr ddim ers y 16eg ganrif. ‘I standing on Creggenaugllin [Carregyderlwyn?] saw no place within sight, no wood, but al hilly pastures’.

Ymhellach ar draws y rhostir, cyrhaeddodd ‘Llyn y vigin velen’ (Llyn y Figyn), enw y mae’n ei gyfieithu: ‘Y vigin is to say a quaking more. Velin is yellow’. Mae’r llyn, meddai ‘the colour of the mosse and corrupt gresse about it’. O’r fan hon, aeth ymlaen i ‘Llin creg lloydon’ (Llyn Cerrigllwydion), yn ôl pob golwg i ddilyn Llwybr y Mynaich tuag at Raeadr. Yn union fel heddiw, gwylltineb a phellenigrwydd yr ardal oedd wedi denu sylw’r ymwelydd: ‘Al the mountaine ground between Alen [Elan] and Strateflure [Strata Florida/Ystrad Fflur] longeth to Stratefleere, and is almost for wilde pastures and breding ground’.

Dechreuwyd cyhoeddi’r mapiau cyntaf o’r ardal yn yr 17eg ganrif, er mai ychydig fanylion a geir o’r ardal yn gyffredinol. Ar fap Morden o Dde Cymru a gyhoeddwyd yn Camden’s Britannia ym 1695, cyfeirir ato fel ‘Gwasted’ (gwastad neu dir gwastraff). Mae mapiau o ddechrau’r 19eg ganrif yn dangos nifer o sgarpiau o amgylch blaen afonydd Claerwen ac Elan, ardal y cyfeiriwyd ati yn y cyfnod fel ‘Cwm Toyddwr Hill’, ar ôl plwyf Cwmdeuddwr.

Dechreuwyd dangos plastai ar fapiau a gyhoeddwyd o ddechrau’r 18fed ganrif ymlaen. Dangoswyd Cwm Elan ar New and Accurate Map of South Wales Bowen a gyhoeddwyd trwy danysgrifiad ym 1729 (Hugh Powell o Gwm Elan oedd un o’r tanysgrifwyr). Dangosir Plastai Cwm Elan a Nantgwyllt ar fap Thomas Kitchen o Sir Faesyfed ym 1754 ac ar argraffiad 1813 Map of South Wales Coltman.

(yn ôl i’r brig)