CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


STADAU Â THIR A GWELLIANNAU AMAETHYDDOL YN Y 18FED A’R 19EG GANRIF

Stadau â thir a thai bonedd a ymgododd yn ystod y canrifoedd blaenorol, yn enwedig y tai bonedd a oedd wedi’u hadeiladu yn Nantgwyllt a Chwm Elan, wnaeth dra-arglwyddiaethu ar hanes cwm Elan yn y 18fed a'r 19eg ganrif.

Roedd stad Nantgwyllt wedi symud o ddwylo'r teulu Howells (oedd erbyn hyn wedi ei Seisnigeiddio yn Powells) i ddwylo teuluoedd Lewis a Lewis Lloyd ac wedi parhau i ehangu. Gwelodd y 18fed ganrif ychwanegu eiddo megis Cnwch, Cwm Esgob a Pherthi Llwydion (Perthyllwydion), ac roedd eglwys fach berchenogol wedi’i hadeiladu ar gyfer stad Nantgwyllt. Byddai nifer o’r stadau hyn yn cael eu prynu a'u datblygu fel buddsoddiadau gan 'ffermwyr hamdden’ nad oedd ganddynt gysylltiadau blaenorol â’r ardal. Prynwyd Maenor Cwmteuddwr gan Mr Thomas Grove o Fern House, Donhead St Andrew, Wiltshire ym 1792 oddi wrth John Jones o’r Hafod. Disgrifiwyd Grove gan ei gyfoeswr, yr hanesydd o Sir Faesyfed, y Parchedig Jonathan Williams, fel ‘a Wiltshire gentleman, who purchased 10,000 almost worthless acres, which he is now converting into a paradise’. Yn ddiamau roedd y stad yn ddeniadol ar lawer ystyr: ellid gwneud Cwm Elan yn breswylfa haf deniadol, i ffwrdd o brif blasty’r teulu yng ngorllewin Wiltshire; roedd y golygfeydd gwyllt o’i amgylch, yn fynyddoedd ac yn raeadrau wedi dod yn ffasiynol; roedd yn cynnig her o ran amaethyddiaeth, sef cyflwyno polisïau ffermio newydd er mwyn cynyddu cynhyrchiant; ac hefyd yn cynnig cyfleoedd i hela a fyddai'n ddeniadol i heliwr brwd fel Grove. Hefyd roedd rhagolygon y byddai refeniw yn dod yn sgîl mwyngloddio’r plwm, a oedd yn ymddangos yn broffidiol, dros y bryn yng Nghwmystwyth.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, disgrifia Jonathan Williams Cwm Elan fel hyn:

‘situated on the left bank of the Elan, in a narrow vale, surrounded by the hills, some of which are inclosed and cultivated, and studded with convenient farm-houses seated at proper distances, whilst others are entirely covered with groves of oak from their summit down to the waters-edge’.

Yn wir, roedd y golygfeydd mor drawiadol fel bod Jonathan Williams ei hun yn ystyried ‘nor is there another parish in this county or perhaps in the Principality itself, that can exhibit more romantic scenes of Nature than those well wooded, watered, and rocky yet fertile districts’.

Crybwyllir y gwelliannau amaethyddol yr oedd landlordiaid megis Thomas Grove yn eu cyflwyno yn y gerdd mesur moel 350 llinell o hyd o’r enw ‘Coombe-Ellen’ (Cwm Elan) a gyhoeddwyd ym 1798 gan William Lisle Bowles. Roedd y gerdd yn enghraifft o gerddi'r cyfnod rhamantaidd diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yng ngeiriau Desmond Hawkins, ‘the poem reaches a climax when the poet ends his contemplation of the awesome solitude and pristine beauty of untouched Nature with the thought that human cultivation can further enhance the scene’. Mae’n debyg mai cyfeiriad oedd hyn at y cylchdro âr newydd a’r meillion yr oedd ffermwyr a thirfeddianwyr blaengar yn eu cyflwyno i wella amaethu yn y cyfnod:

. . . . . . . . . ‘here I bid farewell
To Fancy’s fading pictures, and farewell
The ideal spirit that abides unseen
‘Mid rocks, and woods and solitudes. I hail
Rather the steps of Culture, that ascend
The precipice’s side. She bids the wild
Bloom, and adorns with beauty not its own
The ridged mountain’s tract; she speaks, and lo!
The yellow harvest nods upon the slope;
And through the dark and matted moss upshoots
The bursting clover, smiling in the sun.
These are thy offspring, Culture!’

Daeth Thomas Grove o Gwm Elan yn un o ohebwyr lleol Walter Davies yn ei adroddiad ar Amaethyddiaeth ac Economi Cartref De Cymru, a gyhoeddwyd ym 1815 ar ran y Bwrdd Amaeth. Yn wir, ar ymweliad cyntaf Davies â Sir Faesyfed ym 1802, fe ddaeth i’r Sir trwy Gwmystwyth gan deithio ar ei union i Gwm Elan, lle disgrifiodd Grove fel ‘an improver on the Wiltshire system’, ac yna i stadau Nantgwyllt a Noyadd cyn mynd yn ei flaen i Raeadr. Mae nodiadau Davies yn cyfeirio at rai o'r gwelliannau yr oedd Grove wedi eu gwneud i ffermio defaid, gan gynnwys corlannu ei braidd a chroesi bridiau cynhenid â defaid Southdown. Nododd hefyd fod mwyn plwm wedi’i ddarganfod a'i gloddio ar stad Grove. Trosglwyddwyd yr eiddo i’w fab, Thomas Grove yr ieuaf cyn tua 1809 pan olynodd ei dad yn Uchel Siryf Sir Faesyfed. Roedd y mab, fel ei dad o'i flaen, wedi parhau i aros yng Nghwm Elan am ryw dri mis bob haf, ac roedd wedi parhau hefyd â'r gwelliannau amaethyddol yr oedd ei dad wedi rhoi cychwyn arnynt. Ym 1811, nododd Walter Davies gyda rhywfaint o ryddhad nad oedd sail i’r sïon fod stad Cwm Elan wedi dirywio ers i’r mab gymryd yr awenau.

Mae’n bosibl fod yr arfer a gyflwynodd Grove o gorlannu'r defaid ar ei stad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg wedi golygu bod angen cau ambell ardal benodol o'r rhostir ynghyd â'r cnydau a dyfwyd i'r anifeiliaid eu pori, gan gynnwys y meillion yr oedd Bowles yn cyfeirio atynt, gan y byddai hyn o fudd trwy wella maeth y da byw, yn rheoli bridio ac yn gwella ffrwythlondeb y tir trwy wrteithio. Roedd y gwelliannau hyn a rhai eraill hefyd wedi dod yn gyffredin erbyn diwedd y 19eg ganrif. Nododd y Parchedig R. W. Banks, wrth iddo ysgrifennu am Gwmteuddwr ym 1880, bod ‘the practice has been for each tenant to secure a distinct sheep walk and maintain his rights on it by keeping a strong flock, with as little change of sheep as may be’, er bod cydgymysgu diadelloedd yn gyfreithlon yn fwy cyffredin. Yn negawd cyntaf y 19eg ganrif, canmolodd Jonathan Williams ansawdd yr anifeiliaid a gynhyrchwyd gan y ffermydd lleol:

‘many boast of a produce and stock scarcely to be surpassed for quality and usefulness in any part of the county. The sheep of this parish, which depasture upon the hills the whole of the year, are second to none in the Principality of Wales for symmetry of form, and a sound constitution; and the flavour and delicacy of their flesh are not surpassed by English venison, whilst their wool is admired for its fineness and sought for by the manufacturers of cloth’.

Hyd at ganol y 18fed ganrif, mae’n debyg i wlân yr ardal gael ei brosesu’n lleol, ond ar ôl hynny mae'n debyg ei fod yn cyflenwi'r diwydiant gwlân cynyddol yn Y Drenewydd a'r Trallwng yn nyffryn Hafren yn Sir Drefaldwyn.

Cedwid y rhan fwyaf o’r gwartheg yng Nghwmteuddwr yn y cyfnod hwn i ateb y galw am gynnyrch llaeth ac, yn arwyddocaol, fe estynnwyd nifer sylweddol o ffermdai megis Ciloerwynt yn y 18fed ganrif i gynnwys llaethdy ar wahân. Cydnabu Jonathan Williams bod ‘small black and brindled cows, the aboriginals of this part of the county . . have of late years undergone great improvement’ trwy eu croesi â bridiau Sir Amwythig a Swydd Stafford, ond beirniadai gyflwyno bridiau bîff megis gwartheg Sir Henffordd. Er bod awduron cyfoes eraill yn anghytuno, ystyriai bod y rhain yn ‘ill adapted to contend with the frequent inclemency of the weather, or to thrive with a scanty herbage, or in short to fulfil those purposes to which the climate of this county and the nature of the soil are more peculiarly adapted’.

Yn ystod y cyfnod o’r 18fed i’r 20fed ganrif gwelwyd pwyslais cynyddol ledled Cymru ar ffermio defaid a dirywiad ym mhwysigrwydd ffermydd gwartheg iseldirol a llaethdai ucheldirol fel ei gilydd. Aeth y tai hirion â beudai’n segur, a disodlwyd rhai ohonynt gan ffermdai a siediau gwartheg ar wahân. Gadawyd yr hafodydd a'r lluestau mwy digroeso, ac roedd codi corlannau cerrig, yn nodweddu'r dulliau o reoli'r praidd ar rostir Elenydd. Roedd llawer o’r rhain wedi’u rhannu yn wahanol lociau. Codwyd cysgodfeydd defaid yma ac acw, a chytiau a chysgodfeydd o gerrig sychion i’r bugeiliaid hefyd, rhai ohonynt wedi’u hadeiladu ar adfeilion yr hafdai cynharach. Byddai'r cneifio’n digwydd ar y ffermydd iseldirol yn y gwanwyn, ac roedd gan rai o'r ffermydd mawr a chanolfannau'r ystadau megis Nantgwyllt ysguboriau lle byddai'r gwlân yn cael ei storio cyn cael ei werthu i'r delwyr. Mae’n bosibl fod hwn ymhlith yr adeiladau a ddangosir mewn llun sy’n dangos cneifio yn llyfr Eustace Tickell, The Vale of Nantgwilt, a gyhoeddwyd ym 1894.

Planhigfeydd Coetirol Cynnar

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif yn nodi nifer o blanhigfeydd cymharol fychain ar ochrau cymoedd Claerwen ac Elan a oedd yn ddiamau ymhlith buddsoddiadau landlordiaid a thenantiaid diwedd y 18fed ganrif ymlaen. Mae traethawd Eustace Tickell o 1894, a gyhoeddwyd yn union cyn boddi'r cymoedd, yn disgrifio Nantgwyllt fel rhywle ‘backed by wooded slopes of oak spruce and larch, interspersed with towering groups of Scotch fir’, sydd hefyd i’w gweld yn y lluniau sy’n cyd-fynd â’i draethawd. Mae’n amlwg i rai o’r planhigfeydd hyn fod yn rhai addurniadol.

Hela

Roedd y dirwedd a ddatblygwyd gan rai o dirfeddianwyr pwysicaf yr ardal ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif hefyd yn ystyried helwyr. Ymddengys bod cerdd William Lisle Bowles, y cyfeirir ati uchod yn crybwyll hoffter Thomas Grove o hela:

‘All day, along the mountain’s heathy waste,
Booted and strapped, and in rough coat succinct,
His small shrill whistle pendent at his breast,
With dogs and gun, untired the sportsman roams’.

Roedd hela yn orchwyl yr oedd bonheddwyr eraill yr ardal hefyd yn ymddiddori ynddo. Byddai un o feibion y teulu Lewis o Nantgwyllt yn cael ei goffáu yn y gân hela boblogaidd o ddechrau'r 19eg ganrif sef ‘Cŵn Squeir Lewis Nantgwillt’. Nododd Jonathan Williams fod grugieir, y rhywogaeth ddu a’r rhywogaeth goch fel ei gilydd i’w cael ar y rhostir, ac er mai tila oedd yr ymdrech i ddatblygu stad saethu yn yr ardal ar yr adeg dan sylw, mae nifer o garnau saethu i'w gweld ar rostir Elenydd a allai ddyddio o’r cyfnod hwn.

Ffermio Cwningod a Thyfu Cnydau ar yr Ucheldiroedd

Mae’r grwpiau o gwningaroedd artiffisial neu ‘domenni clustog’ ac ardaloedd cefnen a rhych sydd i’w gweld ar rostir Elenydd yn dystiolaeth o arloesi amaethyddol pellach ffermwyr a thirfeddianwyr arloesol megis Thomas Grove a oedd a’u bryd ar gynyddu’r refeniw a ddeuai o’r tir.

Mae grŵp trawiadol o domenni clustog i’w gweld ar Esgair y Tŷ, ychydig i’r gorllewin o Bont ar Elan. Mae nifer o’r tomenni hyd at 40 metr o hyd, 6 metr o led a metr o uchder, ac maent yn dangos bod y landlord neu'r tenant wedi gwneud buddsoddiad sylweddol. Gellir gweld grwpiau pellach o domenni ger fferm Glanhirin a ger fferm Aber Glanhirin tua 1.5 a 3 cilometr ymhellach i’r gorllewin. Gwyddys am ddwy domen bellach ar y cyfrwy rhwng Esgair Dderw a Phenrhiw-wen, yn agosach at Raeadr. Mae cloddiadau mewn mannau eraill wedi dangos bod tomenni yn cael eu codi â thyllau artiffisial i gwningod yn eu hochrau. Byddai’r cwningod yn cael eu difa yn rheolaidd gyda chymorth ffuredau, er mwyn eu gwerthu am eu cig a’u crwyn. Byddai cwningaroedd artiffisial yn cael eu hadeiladu mor gynnar â'r cyfnod canoloesol, ond mae'n ymddangos bod y rhai hyn yn dyddio o gyfnod diweddarach na hynny. Mae crynodiad o grwpiau tebyg o domenni clustog yn Sir Faesyfed ac yn Sir Frycheiniog yn awgrymu y gall eu bod wedi cyflenwi marchnadoedd yn nhrefi diwydiannol de Cymru a’r Mers. Byddai eu lleoliad, ger y ffordd dyrpeg ar draws y rhostir yn golygu bod modd mynd â’r cynnyrch i’r farchnad ynghynt.

CPAT PHOTO 03-c-0640

Rhai o’r twmpathau hir, isel ar Esgair y Tŷ. Gelwir y rhain yn domenni clustog ac maent yn cynrychioli cwningaroedd artiffisial. Llun: CPAT 03-c-0640.
Ceir enghreifftiau o hen amaethu'r ucheldiroedd mewn nifer o ardaloedd cefnen a rhych ar wahân. Dim ond yn ddiweddar y gwelwyd rhai ohonynt o ganlyniad i archwiliad o’r awyr. Ceir peth o’r rhychau yn yr un ardal yn gyffredinol â’r tomenni clustog, er enghraifft yn achos llethrau deheuol Esgair y Tŷ ac o fewn ardal y llechfeddiant yn Aber Glanhirin. Mae rhychau eraill ar gael ger y llechfeddiant yn Lluest-pen-rhiw ac ar lethrau Moelfryn (ar y bryniau uwchlaw Nannerth), ar Gefn Gwair (i’r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch), ar Gefn Cwm (i’r dwyrain o gronfa ddŵr Craig Goch) ac mewn ambell le ar Garn Gafallt (i’r de-ddwyrain o Bentref Elan. Mae’r rhychau yn gyffredinol yn weddol isel a chul, hyd at 4 metr mewn uchder a chyn guled â 1.5 metr o led, ac yn bennaf rhwng 300 a 400 metr uwchlaw lefel y môr, ar yr ymyl lle gellid disgwyl gweld olion amaethu neu y tu hwnt i hynny, ac yn bennaf ar y llethrau mwy cysgodol sy’n wynebu’r de.

Nid oes unrhyw sicrwydd bod yr holl rychau yn deillio o'r un cyfnod, ac er y gallai rhai ohonynt ddyddio o'r canol oesoedd neu'r canol oesoedd hwyr, ymddengys yn debygol bod llawer ohonynt os nad pob un yn perthyn i’r un cyfnod arloesi amaethyddol â’r tomenni clustog, sef cyfnod amaethu cymharol fyrhoedlog yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Amgaeir peth o'r tir aredig ucheldirol hwn â chloddiau pridd, er nad oes sicrwydd ynghylch sut y byddai'r cnydau'n cael eu hamddiffyn rhag yr anifeiliaid a borai'r rhostir cyfagos. Mae'n arwyddocaol bod fferm Aber Glanhirin yn dal i fod yn berchen ar ysgubor ddyrnu garreg o’r cyfnod hwn pan ddyrnid yr ŷd a dyfid ar y rhychau.

Tirwedd y caeau

ARoedd amrywiaeth o wahanol fathau o ffiniau i’r caeau wedi datblygu yn nhirwedd yr ardal erbyn diwedd y 19eg ganrif, rhai yn hynafol iawn ac eraill yn fwy diweddar eu gwreiddiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r tir iseldirol i’r gorllewin o Raeadr, yng Nghwm Dulas ac yn rhan isaf cymoedd Elan a Chlaerwen yn debygol o fod wedi’i glirio at ddefnydd amaethyddiaeth fugeiliol neu âr yn y fan hon ers y cyfnod cynnar, ac mae wedi arwain at nifer o wahanol fathau o dirwedd o ran y caeau. Mae caeau bychain a chanolig eu maint o siâp afreolaidd yn nodweddu’r rhan fwyaf o’r ardal, ac mae llawer o’r rhain yn deillio o’r cyfnod canoloesol neu cyn hynny, yn aml gyda gwrychoedd isel aml-rywogaeth ac ambell goeden fwy aeddfed yma ac acw.

Cyfunwyd nifer gymharol fychan o gaeau dros y degawdau diwethaf, gyda chloddiau isel o bridd neu linellau ysbeidiol o goed neu lwyni yn rhedeg ar draws cae yn cynrychioli llinellau’r hen wrychoedd. Yn yr ardaloedd isel hyn ceir nifer o ardaloedd cymharol fychan a neilltuol lle ceir patrymau mwy rheolaidd yn y caeau, sy’n awgrymu bod y borfa agored gynt wedi ei hamgáu yn y cyfnod ôl-ganoloesol.

Fel y nodwyd uchod, ymddengys bod posibilrwydd y gallai'r system feysydd reolaidd ar hyd lan ogleddol afon Elan, rhwng Coed-y-mynach a Noyadd, â pheth ohoni'n gysylltiedig â chefnen a rhych o darddiad canoloesol o bosibl, fod yn gysylltiedig naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â chanolfan y faenor fynachaidd yn Llanfadog.

Mae’r ardaloedd tuag at ochrau coediog y cwm, yn enwedig yng Nghwm Dulas, o amgylch blaen cwm Nant Madog ger Galedrhyd a chyffiniau blaen cymoedd Nant Caethon a Nant Gwynllyn rhwng Rhydoldog a Threheslog wedi’u nodweddu gan gaeau llai, afreolaidd eu siâp sy'n ymddangos fel asartau ac wedi'u creu gan gwympo rhai o'r coed yn y coetir gerllaw. Bodolai patrymau caeau tebyg yng nghymoedd Claerwen ac Elan un tro, er eu bod bellach wedi’u boddi, ac yn yr un modd mae’n debygol eu bod yn cynrychioli ffermydd rhydd-ddaliadol yn y cyfnod canoloesol a chanoloesol hwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau hyn yn parhau i gael eu defnyddio, er bod nifer o hen wrychoedd wedi gordyfu ac mae ffensys pyst a gwifrau wedi eu disodli. Mewn rhai mannau mae ffiniau'r caeau o amgylch ymylon yr ucheldiroedd wedi'u gadael i bob pwrpas, maent naill ai wedi gordyfu neu mae eu gwrychoedd yn anghyflawn neu mae grug a rhedyn wedi'u llyncu. Mae conwydd wedi’u plannu dros nifer o gaeau bychain, megis ardal Y Clyn ar ochr ddeheuol Cwm Dulas.

Defnyddir y caeau iseldirol ar gyfer porfa a chnydau porthiant erbyn heddiw, er bod presenoldeb cyfundrefn caeau glaslain, yn enwedig ar y tir mwy llethrog, yn awgrymu bod cyfran uwch o'r tir yn cael ei amaethu ar gyfer grawn neu gnydau eraill yn y canrifoedd a aeth heibio

Mae ucheldiroedd Elenydd wedi parhau i fod yn agored ar wahân i'r ardaloedd cymharol fychain a amgaeir gan lechfeddiannau. Yn gyffredinol, mae gan y rhain graidd o gaeau neu badogau llai a chynharach o amgylch yr annedd, gyda glannau pridd a cherrig y mae'n bosibl ar un adeg eu bod wedi cynnal gwrychoedd neu ffensys pren. Mae'n debyg fod rhai o'r rhain yn dyddio o'r cyfnodau canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar. Estynnwyd rhai o’r daliadau hyn yn aml trwy ychwanegu caeau a gosod ffiniau o ffensys pyst-a-gwifrau o’u hamgylch, sef techneg sy’n dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac sy’n dal i gael ei defnyddio heddiw. Gallai’r defaid fwydo drwy’r flwyddyn ar borfa’r comin ac mae'n debyg bod y caeau amgaeedig o amgylch y ffermydd ucheldirol wedi'u defnyddio i gadw gwartheg dros nos neu i fwrw lloi neu odro, neu i ddiogelu'r cnydau gwair i'w bwydo i'r gwartheg neu'r ceffylau dros y gaeaf.

Mae gan nifer o lechfeddiannau ucheldirol amgaeadau muriog amlochrog dau neu dri hectar o faint, fel yn Lluest-pen-rhiw uwchlaw Nannerth, Blaen Methan yng nghwm Nant Methan, ar lan nant Rhiwnant i’r de o gwm Claerwen, ac yng Ngherrigcwplau, ychydig islaw argae Claerwen. Codwyd y waliau, sydd bellach yn adfeiliedig yn aml, naill ai o slabiau mawr unionsyth (fel yng Ngherrigcwplau) neu o waliau cerrig sychion, neu o gyfuniad o’r ddau, gan ddibynnu ar natur y deunyddiau oedd ar gael yn lleol. Nid yw dyddiad yr amgaeadau muriog hyn wedi’i bennu hyd yma, ond mae’n ymddangos eu bod yn dyddio o ddiwedd y 17eg i ddechrau’r 19eg ganrif.

Mae’n debyg bod y ffiniau muriog achlysurol rhwng ffermydd neu stadau cyfagos yn dyddio o’r un cyfnod, a hefyd y wal sy’n gwahanu'r gwaith mwyn o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ym mwynglawdd Cwm Elan yn Nant Methan i'r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu oddi wrth y borfa anifeiliaid gyfagos. Gellir gweld buarthau a phadogau muriog ar nifer o ffermydd, fel Cnwch er enghraifft.

Mewn cyferbyniad â llawer o ardaloedd ucheldirol eraill yng Nghymru, mae’n ymddangos mai cymharol ychydig o amgáu a wnaed ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif o amgylch ymylon yr ardal ucheldirol, er bod olion amgáu hwyrach i’w gweld, yn y ffensys pyst-a-gwifrau ar Gefn Gwair i'r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch, er enghraifft, ac ar Ros y Gelynnen a Gurnos, i’r gorllewin o gronfa ddŵr Caban-coch.

Gellir gweld hen ffiniau caeau ar ffurf cloddiau a ffosydd o amgylch traethlin cronfeydd dŵr cwm Elan yn ystod cyfnodau pan fydd lefel y dŵr yn isel. Gellir gweld y rhan fwyaf o’r ffiniau hyn, os nad pob un, ar fapiau’r Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif, cyn i’r argaeau hyn gael eu hadeiladu. Disodlwyd rhai o’r ffiniau cynharach hyn â ffensys pyst-a-gwifrau modern sy’n ymestyn i lawr i ddyfroedd y gronfa ddŵr, i atal y stoc rhag crwydro yno yn ystod sychder. .

Datblygu Ffermdai a Thai Bonedd

Daeth cysylltiad teulu Grove â chwm Elan i ben ym 1815 pan werthodd Thomas Grove yr ieuengaf faenor Cwmteuddwr. Erbyn diwedd y 18fed, teulu Peele o Gwm Elan, teulu Lewis Lloyd o Nantgwyllt, teulu Oliver o Rydoldog, teulu Evans o Noyadd, teulu Prickards o Dderw a theulu Davies o Wardolau oedd yn berchen ar brif stadau'r ardal.

Byddai dau o’r prif dai bonedd yn yr ardal, sef Cwm Elan a Nantgwyllt, yn cael eu dymchwel i wneud lle i gronfeydd dŵr Cwm Elan. Cedwir cofnod o’u golwg a’u lleoliad, fodd bynnag, mewn ffotograffau o’r oes, a brasluniau o ddiwedd y 1890au. Disgrifiwyd Cwm Elan gan Jonathan Williams fel ‘a neat and elegant mansion’. Roedd yn blasty tal, tri llawr o uchder gyda thri bae, ac fe'i codwyd gan Thomas Grove ar ôl 1792. Tŷ isel o gerrig a thalcen â phediment oedd Nantgwyllt ac mae’n debyg iddo gael ei ehangu gan Thomas Lloyd oddeutu 1770. Er gwaethaf y lleoliad prydferth, ystyrid ei fod yn ‘bitterly cold and damp in winter’, gan fod y llethr goediog i’r de o argae Claerwen yn cau’r haul allan yn llwyr. Pan rentiodd Percy Bysshe Shelley y tŷ ym 1812, disgrifiodd ef fel rhywle ‘silent, solitary, old’.

Wrth i gwm Elan gael ei foddi, diflannodd y gerddi hynod a gysylltid â thai bonedd Cwm Elan a Nantgwyllt. Disgrifia Jonathan Williams leoliad Cwm Elan:

‘The approach to the house is over a handsome stone bridge of one arch leading to a fine verdant lawn, which forms a curve with the course of the river and unites a ‘singular combination’, as a certain elegant author describes the situation, ‘of natural and artificial beauties, of wild scenery, and elegant ornament, of a foaming river, and rugged rocks, perpendicular precipices, and lofty mountains, contrasted with rich meadows and neat enclosures, leaving apparently nothing deficient to complete this singular and picturesque scene.’

Roedd coed addurnedig yn gysylltiedig â Nantgwyllt, a hefyd lawnt a oedd yn ymestyn i lawr at lannau afon Claerwen. Yn wahanol i’r tŷ ei hun, ni ddiddymwyd waliau’r ardd furiog amlochrog y tu ôl i’r tŷ a’r bont dros y ffordd yn Nantgwyllt sy’n dyddio o’r 18fed ganrif pan grëwyd cronfa ddŵr Caban-coch a gellir eu gweld wrth i lefel y dŵr yn y gronfa ddisgyn.

Mae Rhydoldog yn un o nifer fechan o dai bonedd yr ardal o’r 18fed ganrif sydd wedi goroesi. Cafodd ei godi ‘somewhat in the cottage style’ tua chanol y 18fed ganrif, ond yna estynnwyd y tŷ i ddisodli tŷ o’r 17eg ganrif. Codwyd plasty Dderw oddeutu 1870, gan ddisodli tŷ cynharach o frics yn dyddio o ryw 1799, a oedd yn ei dro yn disodli tŷ cynharach, o’r 16eg ganrif o bosibl.

Gorwedda plasty Dderw gyda’i barc bychan mewn lleoliad trawiadol ar lawr y cwm, ger rhigol ddofn Nant Gwynllyn. Ymddengys bod y parc yn dyddio o ryw 1800, ac mae lleiniau o goetir addurnol yn ei gau i mewn i’r gorllewin. Ychwanegwyd arweddion dŵr, gardd lysiau ar ddiwedd y 19eg ganrif a gardd laswellt ffurfiol â therasau yn arddull Celf a Chrefft a pherllan yn ystod yr 1920au.

Ailadeiladwyd neu helaethwyd nifer o ffermdai ucheldirol ac iseldirol yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg. Mae gan ffermdy yn Lluest-aber-caethon, a godwyd mae'n debyg ar safle tŷ cynharach, ond sydd ei hun bellach yn adfail, garreg yn y simdde â D. E. 1814 CLETTWR arni, i ddangos efallai bod yr adeilad wedi’i godi gan berchennog Lluest Clettwr gerllaw. Codwyd ffermdai newydd yng Ngherrigcwplau, Hirnant a Rhiwnant ar ddiwedd y 19eg ganrif, weithiau o garreg leol gyda brics o amgylch adwyon y ffenestri a'r drysau. Ailadeiladwyd neu disodlwyd llawer o ffermdai yn ystod yr 20fed ganrif. Codwyd byngalo newydd yn lle’r tŷ hir yn Llannerch-y-cawr, dymchwelwyd y ffermdy Fictoraidd yng Ngherrigcwplau a chodi adeilad yn ei le yn fuan ar ôl adeiladu argae Claerwen, a chodwyd ffermdy modern un llawr i ddisodli'r tŷ hir yng Nghiloerwynt, a ddymchwelwyd.

(yn ôl i’r brig)