CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Cwm Elan


DEFNYDD TIR AC ANHEDDU CYNNAR

Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig

Nid oes safleoedd anheddu cynnar wedi’u dynodi yn ardal y dirwedd hanesyddol, er bod y dystiolaeth amgylcheddol a niferoedd uchel yr henebion claddu a defodol cynhanesyddol yn dangos yn eglur bod yr ardal eisoes wedi'i phoblogi a bod clirio yn digwydd yn ystod y cyfnodau Neolithig hwyr a'r Oes Efydd gynnar, o efallai 3000 CC o leiaf. Cymaint felly fel ei bod yn debyg mai o’r cyfnod hwn y tarddodd y patrymau defnydd tir a ddaeth yn fwy cyfarwydd yn ddiweddarach — patrymau fel yr aneddiadau gydol y flwyddyn oedd â chysylltiad â thir âr a dolydd yn y dyffrynnoedd is, a defnydd o’r porfeydd ucheldirol yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r carneddau claddu carreg, y meini hirion, y rhesi cerrig a’r cylchoedd cerrig sy’n coroni nifer o gopaon a chribynnau llwyfandir Elenydd yn henebion claddu a chynnal defodau nodweddiadol o’r cyfnod cynhanesyddol er na welir mohonynt ar rai o rannau llai hygyrch canol y rhostir.

Mae rhai o’r carneddau yn fychan, er bod eraill sawl metr o uchder ac yn ffurfio tirnodau sy'n weladwy o bell. Ymddengys bod rhai o'r carneddau yn eithaf cymhleth yn strwythurol, gydag ymylfeini o slabiau carreg unionsyth neu siambrau claddu mewnol o'r enw cistfeini. Mewn ambell achos, gwyddys am gistfeini arunig fel pe byddai cerrig y domen gladdu wedi eu hysbeilio, ac yn achos heneb ar Beddaufolau, ar y bryniau uwchlaw ochr ddwyreiniol cronfa ddŵr Garreg-ddu, ceir olion siambr gerrig llawer mwy, hyd at tua 2.5 metr o led, sy’n debyg o ran ei golwg i feddrod siambrog Neolithig. Mae llawer o’r tomenni claddu yn parhau i fod mewn cyflwr da er, yn anffodus, mae cerrig rhai ohonynt wedi’u hysbeilio yn y gorffennol, neu mae rhywrai wedi aflonyddu ar y tomenni i greu llochesi i ddefaid, neu efallai garnau saethu, a nodwyr ffiniau modern wedi eu gosod arnynt, cerddwyr wedi pentyrru cerrig arnynt i ffurfio carnedd, neu goelcerthi wedi eu cynnau arnynt a’u haflonyddu. Ffodus yw mai ychydig sydd wedi dioddef tynged un o'r tair carnedd ar Glap yr Arian, a gludwyd oddi yno mewn cert i gynhyrchu metlin ffordd ym 1910. Yn ystod y broses daethpwyd o hyd i ran o fwyell forthwyl garreg.

Mae nifer o’r carneddau i’w cael ar ffurf carneddau cylchog. O gloddio mewn mannau eraill, gwyddys fod y rhain yn cael eu defnyddio at ddibenion claddu a chynnal defodau. Credir bod gweithgareddau seremonïol cynhanesyddol hefyd yn esbonio mathau enigmatig amrywiol eraill o henebion cerrig cynhanesyddol y gwyddys amdanynt o Elenydd. Gwyddys am resi o rhwng tair ac wyth o gerrig unionsyth hyd at fetr a hanner o daldra yn Saith-maen, yn Rhosygelynnen ar y bryniau uwchlaw ochr orllewinol cronfa ddŵr Caban-coch ac yn Nant y Llyn, ar y bryniau i’r gorllewin o Dreheslog. Gwyddys am un cylch cerrig 25 metr o ddiamedr, sy'n cynnwys 16 carreg yng Nghrugian Bach, ger Allt Goch, ar y bryn uwchlaw ochr ddwyreiniol cronfa ddŵr Caban-coch, a cheir olion posibl ail gylch ym Mwlch y Ddau Faen. Cofnodwyd meini hirion ar wahanol rannau o'r rhostir. Mae rhai yn debygol o fod yn nodau terfyn, ond daethpwyd o hyd i nifer ohonynt mewn cysylltiad â henebion cynhanesyddol eraill, felly maent yn debygol o ddyddio o'r Oes Efydd. Mae rhai o’r meini bellach yn gorwedd lle y maent wedi cwympo, gan gynnwys dwy garreg fawr, un yn 3.7 metr o daldra, ger y mast radio ar Gefn Llanerchi. Mae maen tal arall ar Drum Nant y Gorlan, sy’n 2.7 metr o daldra hefyd wedi cwympo erbyn hyn. Mae’r garreg wen ym Mhen Maen Wern, sy’n 1.5 metr o daldra, ymhlith y talaf sy’n dal i sefyll. Mae croes wedi’i harysgrifennu ar y maen hir tal mewn lle amlwg, sef Maen Serth, ar y bryn uwchlaw'r ffordd dros y mynydd o Raeadr i Aberystwyth. Maen hir o’r cyfnod cynhanesyddol yw hwn o bosibl, a ‘Gristioneiddiwyd’ rhwng y 7fed a’r 9fed ganrif. Yn draddodiadol, credir bod hwn yn nodi’r fan lle rhagodwyd Einion Clyd, arglwydd Elfael, a’i ladd gan aelodau o’r teulu Mortimer ym 1176. Yn ôl yr hanesydd o Sir Faesyfed, W.H. Rouse, yr enw lleol ar y fan hon yw ‘Bedd y Tywysog’.

Mae gwasgariad arteffactau cynhanesyddol a gafwyd yn yr ardal nodwedd yn awgrymu anheddiad neu weithgaredd cynnar arall, gan gynnwys nifer o naddion fflint ar draethlin cronfa ddŵr Craig Goch a nifer o arteffactau copr ac efydd sy'n tarddu o wahanol gyfnodau'r Oes Efydd. Arfau yw’r rhan fwyaf o’r arteffactau metel, ac yn eu plith mae dagr neu halberd posibl y daethpwyd o hyd iddo ger Coed Glannau, i’r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu, dagr llafn ogif o'r Oes Efydd gynnar, a gafwyd trwy gloddio’r mawn ar Fwlch y Ddau Faen, i’r de o Glaerwen, a meingleddyf o ganol yr Oes Efydd a gafwyd ar Drygarn Fawr. Roedd yr offer a gafwyd yn yr ardal yn cynnwys pedair bwyell socedog efydd o’r Oes Efydd hwyr y daethpwyd o hyd iddynt ym 1895 ger argae Caban-coch wrth adeiladu cronfeydd dŵr cwm Elan. Ymddengys bod y bwyeill wedi’u darganfod gyda rhan o fowld carreg, ac mae’n bosibl eu bod yn rhan o gelc gof efydd. Daethpwyd o hyd iddynt o dan bentwr o sgri a oedd wedi cwympo o ochr serth y cwm pan roedd rhywrai wrthi'n ei dorri i baratoi metlin. Mae nifer o addurniadau aur o ganol yr Oes Efydd, a gafwyd yng Nghwm Dulas ac o'i amgylch, yn awgrymu eitemau mwy mawreddog sy'n dangos o bosibl fod yna elît ymhlith poblogaeth leol yr Oes Efydd. Yn eu plith mae modrwy neu glustdlws aur fylchgron o Waun Sarn a’r celc yn cynnwys pedair torch aur o ganol yr Oes Efydd a ddarganfuwyd wedi’u cuddio dan bentwr bychan o gerrig mewn porfa arw ar ymyl rhostir Carn Gafallt yn y 1950au. Rhan o gadfwyell o ddechrau’r Oes Efydd a gafwyd wrth symud carnedd Clap yr Arian, (a grybwyllir uchod), wedi’i lunio o ddolerit o ardal y Preselau yn Sir Benfro yw’r unig wrthrych a gafwyd mewn cysylltiad â thomenni claddu cynhanesyddol yn yr ardal.

Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd claddu a chynnal defodau cynhanesyddol y gwyddys amdanynt yn yr ardal ar ucheldiroedd Elenydd, er bod awgrym bod safleoedd tebyg wedi bodoli yn y dyffrynnoedd is ar un adeg, ac yna wedi cael eu haredig neu eu clirio yn yr ardaloedd hyn lle roedd mwy o amaethu. Cofnodwyd cymhlyg o safleoedd seremonïol posibl yng nghwm Elan, i’r dwyrain o fferm Coed-y-mynach mewn awyrluniau. Ymddengys bod y cymhlyg yn cynnwys dwy neu dair ffos gron, heneb hengor bosibl a chylch pydewau posibl ac mae’n debygol bod y rhain yn enghreifftiau o henebion pridd a phren o'r Oes Neolithig a'r Oes Efydd gynnar, sy'n gyfwerth â rhai o'r henebion cerrig y gwyddys amdanynt yn yr ucheldiroedd.

Gwyddys am glystyrau o safleoedd ucheldirol mewn amrywiol leoedd gan gynnwys y rheiny ar Garnau Cefn-y-ffordd, Drygarn Fawr, Darren a Bryn. Mae’n debyg i’r cymhlygau hyn, ynghyd â henebion claddu a defodol mwy diarffordd yn yr ardal nodwedd, arddel sawl swyddogaeth yn y dirwedd wrth iddi ddatblygu yn ystod y pedwerydd i’r ail mileniwm CC, rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae’n bosibl fod clystyrau o henebion yn cynrychioli canolbwyntiau seremonïol yn y dirwedd, a gallent o bosibl awgrymu gweithgareddau gwahanol deuluoedd neu lwythau yn yr ardal. Mae dosbarthiad yr henebion o lawr y dyffryn i ben y mynydd yn awgrymu bod y cymunedau hyn yn defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau iseldirol ac ucheldirol erbyn hyn.

Fe fydd yr henebion cynnar hyn yn gyfarwydd ac yn destunau parch yn y dirwedd, ac mewn ambell achos byddant yn destun chwedlau a fyddai wedi helpu i osod y lle yn y cof. Soniwyd uchod am y cysylltiad o’r 8fed ganrif rhwng Carn Gafallt a hela’r baedd gwyllt chwedlonol, sef y twrch trwyth. Yn gynnar yn y 16eg ganrif, cofnododd John Leland bod hynafiaethau ar Elenydd yn gysylltiedig â’r chwedlau Arthuraidd.

‘The first river that I passed over was Clardue [Claerddu] . . . . hard by were two hillettes, through the wich Clarduy passith, where they fable that a gigant was wont to wasch his hondes, and that Arture killid hym. The dwellers say also that the giant was buried therby, and show the place.’

Rhennir yr ymdeimlad o le y mae'r cysylltiadau chwedlonol a hanesyddol hyn yn ei greu mewn dull nodweddiadol yng ngherdd Ruth Bidgood, ‘Gigant Striding’ yn ei chasgliad The Fluent Moment a gyhoeddwyd ym 1996.

Between two little hills
a gigant striding was wont to wasch his hondes,
till Arthur killed him, for no reason known.

Perhaps it was just for his gigantic
striding, that diminished the moor;
his great hands commandeering the stream —

for being huge, anarchic; sharing
ancientness and threat
of the desolate land.

Fel yn y cyfnodau diweddarach, daeth creigiau, cerrig a charneddau yn fodd o ddiffinio tiriogaethau ac adnoddau yr oedd gwahanol gymunedau cyfagos yn eu hawlio, a thrwy hyn dros gannoedd o genedlaethau, datblygodd y patrwm o blwyfi a ddaeth i'r amlwg erbyn y cyfnod canoloesol cynnar. Adlewyrchir hyn yn ei dro yn strwythur y cymunedau o amgylch Elenydd a chwm Elan heddiw, gyda phob un yn cynrychioli ‘tiriogaeth’ sy’n ymestyn o lawr y dyffryn i fyny i’r llwyfandir rhostirol. Roedd yr henebion cynnar hyn a etifeddwyd yn darparu pwyntiau penodol y gellid eu defnyddio i ddyrannu tir o gyfnod cynnar a cheir enghreifftiau helaeth o hyn yn y ffaith fod terfynau deheuol cymuned Llanwrthwl, lle y mae’n cyffwrdd â therfynau cymunedau Llanwrtyd, Treflys a Llanafanfawr, yn croesi dim llai na naw o garneddau claddu, a oedd mae’n debyg yn nodwyr tiriogaeth nes i fapiau mwy manwl o’r ucheldir fod ar gael yn hwyrach yn y 19eg ganrif, ymhell wedi i bobl anghofio beth oedd eu pwrpas gwreiddiol.

Newidiodd arferion claddu a chynnal defodau yn sylweddol ym Mhrydain o ryw 1500CC ymlaen, a hyd ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, ni welir nemor ddim safleoedd claddu na chynnal defodau o fewn y dirwedd. Fe fyddai porfeydd ucheldirol a dyffrynnoedd iseldirol Elenydd yn parhau i gael eu defnyddio trwy gydol y cyfnod cynhanesyddol diweddarach a chyfnod y Rhufeiniaid, er ein bod yn dal i aros am adnabod yn sicr union natur y safleoedd anheddu o'r cyfnod. Mae’n debyg mai adeiladau pren a gwellt oedd adeiladau cynnar y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, ac ychydig yn unig o olion gweladwy sydd o hyn ar lefel y tir. Mae’n debygol y byddai amaethu cynnar wedi canolbwyntio ar y priddoedd mwyaf ffrwythlon a chroesawgar yn y dyffrynnoedd ac ar ymylon y dyffrynnoedd, ac felly wedi ei guddio neu ei drosi'n gaeau mwy diweddar.

Er gwaethaf y diffyg tystiolaeth o ran dyddio, fodd bynnag, ymddengys yn debygol bod nifer o gytiau cynnar a charneddau carega a ddarganfuwyd ar ucheldiroedd Elenydd yn enghreifftiau o anheddu a defnyddio'r tir yn ystod y rhychwant hir rhwng diwedd y cyfnod cynhanesyddol a chyfnod y canol oesoedd cynnar. Nodwyd dau safle anheddu posibl trwy waith maes i’r de o gwm Claerwen, sef lloc crwn 25 metr o led ar Esgair Gwar-y-cae gyda chwt crwn wedi’i gysylltu ag ochr fewnol y clawdd, a lloc crwn rhyw 16 metr o led yr ymddengys ei fod yn gysylltiedig â thri chwt crwn rhwng 10 a 11 metr mewn diamedr. Daethpwyd o hyd i garneddau carega ar ochr y bryn i’r de o Gnwch ac ar y llethrau i’r gogledd-ddwyrain o Allt Goch. Yn ddiamau erys safleoedd eraill o’r mathau hyn sydd heb eu darganfod eto.

CPAT PHOTO 03-c-0582

Siâp cerdyn chwarae nodweddiadol y gwersyll cyrch Rhufeinig ar Esgair Perfedd. Llun: CPAT 03-c-0582.

Ceir enghraifft ddramatig o gyfnod y goncwest Rufeinig yng Nghymru yn y gaer neu'r 'gwersyll cyrch' Rhufeinig dros dro a ddarganfuwyd ar Esgair Perfedd mor ddiweddar â 1966. Lloc â gwrthglawdd isel â siâp cerdyn chwarae nodweddiadol ar uchder o ryw 450 metr ydyw, ychydig i'r de o'r ffordd dyrpeg o Raeadr i Aberystwyth dros y mynydd. Mae'r gwersyll yn amgáu ardal o ychydig dros 6 hectar, a sefydlwyd ef i letya byddin o ryw 4,000 o ddynion a'u cyflenwadau mewn pebyll am gyfnod cyn fyrred ag ychydig ddyddiau o bosibl. Mae'n debyg bod y gaer yn dyddio o’r cyfnod rhwng 74-80 OC, ac mae’n debygol ei bod ar lwybr rhyfelgyrch i mewn i ardal bresennol Ceredigion neu Sir Drefaldwyn.

(yn ôl i’r brig)