CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


DEFNYDDIO TIR AC ANHEDDU YN Y CYFNOD CANOLOESOL A CHYN-GANOLOESOL

Ychydig a wyddys am yr ardal yn ystod cyfnod diweddar y Rhufeiniaid a chyfnod y canol oesoedd cynnar, er y tybir bod llawer ohoni wedi'i hawlio yn rhan o diroedd pori'r cymunedau a oedd yn dod i'r amlwg o amgylch Elenydd.

Y Faenor Sistersaidd

Erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd yr holl ardal bron yn rhan o diroedd a roddodd yr Arglwydd Rhys i abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Mae'r rhan fwyaf o'r dirwedd hanesyddol i'w chael yn nhir maenor Cwmteuddwr, gyda'r rhan orllewinol o fewn tir maenor Cwmystwyth i'r gogledd-orllewin a maenor Pennardd i'r de-ddwyrain. Er mai ychydig yn unig o gofnodion cyfoes sydd wedi goroesi, mae peth tystiolaeth yn awgrymu ym mha ddull y byddai'r maenorau mynachaidd hyn yn cael eu rheoli yn y Canol Oesoedd.

Fel yn achos stadau Sistersaidd eraill, sefydlwyd canolfannau'r maenorau yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol i'r abatai eu hunain dyfu cnydau neu bori ar y demên. Sefydlwyd dwy faenor o'r fath o fewn maenor Cwmteuddwr, un yn yr ardal o'r enw Llanmadog, ger Gwesty Cwm Elan bellach, gyda chanolfan ategol yn Nannerth mewn cwm bychan ag afon Gwy yn ffin iddo, ychydig dros 5 cilometr i'r gogledd. Nid oes unrhyw adeiladau sy'n dal i sefyll yn gysylltiedig â'r naill ganolfan neu'r llall, er y gwyddys am safle capel y faenor, sef Capel Madog mewn cae gyferbyn â Gwesty Cwm Elan. Roedd rhai o olion yr adeilad i'w gweld ar ddechrau'r 19eg ganrif, ac roedd gan y pensaer Stephen Williams ran bwysig yn y penderfyniad i ddargyfeirio trac Rheilffordd Cwm Elan rhyw fymryn i'w osgoi ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ymhlith yr enwau lleoedd eraill sy'n awgrymu cysylltiadau â maenor fynachaidd mae Nant Madog, Llanmadog , a Choed-y-mynach, sef enw coetir a fferm tuag un cilometr i'r gogledd. Adwaenir y rhan o'r cwm lle y gorwedd Pentref Elan, tua hanner cilometr i'r de-orllewin, fel Cwm yr Esgob sydd hefyd yn ymddangos yn arwyddocaol. Ymhlith yr enwau eraill yn yr ardal sy'n awgrymu cysylltiad â'r hen faenor mae Dol-y-mynach a Chraig y Mynach, lleoedd pur agos at ei gilydd yng nghwm Claerwen, ger Llannerch-y-cawr. Mae Nant Offeiriad, un o lednentydd Nant Cletwr, i'r gorllewin o Graig Goch, a Nant Rhingyll i'r dwyrain o gronfa ddwr Garreg-ddu ymhlith yr enwau lleoedd eraill a allai o bosibl fod â chysylltiadau eglwysig cynnar.

Roedd prif adnoddau'r tiroedd mynachaidd hyn wedi'u seilio'n ddiamau ar borfeydd ucheldirol helaeth lle roedd gwartheg, ac yn gynyddol, diadelloedd mawr o ddefaid yn pori, gan drigolion y maenorau mynachaidd eu hunain, a chan y rheiny a oedd â thyddynnod o fewn eu ffiniau. Fel yn y cyfnod cyn iddynt gael eu gadael i'r abaty, mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r incwm a ddeilliodd o hynny yn dod o renti a hawliadau arferol a delid gan y rheiny a oedd â thyddynnod yn yr ardal, er oherwydd natur y stad, mae'n debygol bod lefel yr arian a ddeuai o'r ffynhonnell hon yn gymharol isel. Mae'n debyg fod y rhan fwyaf o'u cyfoeth yn deillio o'r fasnach wlân, gan fod gan fynaich Ystrad Fflur drwydded y Goron yn dyddio o 1200 i allforio eu gwlân yn ddi-dreth i Ffrainc a Fflandrys. Roedd canolfannau'r maenorau mewn sefyllfa dda i reoli'r preiddiau o ddefaid a ddygwyd i lawr o ochr ddwyreiniol Elenydd: mae pentref Llanmadog wedi'i adeiladu ar y ddwy ochr i'r prif gwm ar ochr ddwyreiniol yr ucheldiroedd, a Nannerth ar gwm un o'r prif nentydd, sef Nant y Sarn, sydd ag enw arwyddocaol. Mae'r cwm yma'n rhoi mynediad uniongyrchol i ardaloedd gogleddol y rhostir o ddyffryn afon Gwy.

Mae'n debygol i rai cnydau gael eu tyfu ar diroedd demên wedi'u trin ger canolfan maenor Llanfadog, ac ymddengys yn bosibl fod y gyfundrefn caeau reolaidd ar hyd lan ogleddol afon Elan rhwng fferm Coed-y-mynach a Noyadd yn deillio naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r faenor fynachaidd ganoloesol. Gwelwyd cefnen a rhych isel yn y caeau gyferbyn â Gwesty Cwm Elan, a allai fod wedi dyddio o'r cyfnod canoloesol. Mae'n debygol fod gan dyddynnod eraill o fewn ffiniau'r faenor, yn enwedig yn y cymoedd ac ar y tir is gerllaw afonydd Elan a Gwy, gaeau wedi'u trin.

Ymhlith yr adnoddau eraill yn yr ardal a fyddai ar gael i'r faenor fyddai'r coetiroedd derw a fyddai ar un adeg wedi bod yn ffin i gymoedd yr afonydd, ac yn cyflenwi tanwydd a deunydd adeiladu, a'r afonydd a llynnoedd ucheldirol Elenydd yn cyflenwi pysgod. Roedd Llyn Teifi a Llyn Fyrddon Fawr ill dau yn cyflenwi llyswennod a brithyll i'r mynachlog. Stiwardiaid lleyg fyddai'n rheoli'r rhan fwyaf o faenorau Sistersaidd eraill yng Nghymru. Ar adeg diddymu abaty Ystrad Fflur ym 1539, roedd maenor Cwmteuddwr yn anarferol oherwydd mai mynach-feili oedd yn ei rheoli. Roedd arferiad blynyddol landlordiaid y plwyf o rentu eu diadelloedd i denantiaid eu tir i bob pwrpas yn drefniant anarferol arall, a oedd yn amlwg yn digwydd yng Nghwmteuddwr ar ddechrau'r 19eg ganrif, arfer yr awgrymid y gallai ei fod wedi bod yn un mynachaidd. Mae sylwadau John Leland yng nghylch Elenydd ar ddiwedd y 1530au bod 'everi man there about puttith in bestes, as many a they wylle, without paying of mony' yn peri i ni amau pa mor llym mewn gwirionedd oedd y rheolaeth ar diroedd mynachlogydd yng Nghwmteuddwr ar adeg diddymiad y mynachlogydd.

Chwalu'r Faenor Fynachaidd

Parhaodd y faenor yn nwylo mynaich abaty Ystrad Fflur nes ei ddiddymu ym 1539 yn ystod teyrnasiad Harri'r VIII, pan feddiannodd y goron yr holl stadau a oedd yn perthyn iddi. Arhosodd y tir ym meddiant y goron am nifer o flynyddoedd, gyda nifer o garfanau yn ei brydlesu nes i Syr James Croft o Gastell Croft a Thomas Wigmore o Shobdon ei brynu a'i werthu fesul llain. Gellir dysgu llawer o faint y llainddaliadau mynachaidd, a'r daliadau a oedd eisoes yn bodoli a natur eu heconomi, o'r gweithredoedd a'r prydlesau amrywiol a oedd yn ymwneud â rhannu'r stad yn ddiweddarach yn y 16eg ganrif. Mae rhai o'r dogfennau hyn yn cyfeirio yn ôl at y trefniadau tenantiaeth roedd gan abad Ystrad Fflur ar waith yn ystod degawd cyntaf y 16eg ganrif.

Llechfeddiannau ar Rostir Elenydd

Mae'n debyg bod llawer o'r llechfeddiannau unigol ar rostir Elenydd mewn bodolaeth yno eisoes erbyn yr 16eg ganrif, a nifer ohonynt yn deillio, o bosib, o rai canrifoedd ynghynt. Erbyn heddiw, ynysoedd o gaeau amgaeedig rhwng 3 metr a 35 hectar mewn maint sy'n cynrychioli'r llechfeddiannau hyn yn y rhostir. Gwelir y rhain dim ond ar rannau mwy hygyrch o'r rhostir sy'n fwy ffafriol o ran amaethu, ar ymylon y rhostir, neu o fewn cyrraedd hawdd o gymoedd Elan a Chlaerwen, ar lethrau deheuol neu ddwyreiniol cysgodol cymoedd y nentydd. Ar y dechrau, sefydlwyd llechfeddiannau o'r math hyn gydag awdurdod y llysoedd maenorol neu hebddo, ac yn aml fe fyddai llechfeddiannau ar y comin yn cael eu rheoleiddio trwy osod dirwyon blynyddol a droswyd yn rhenti neu weithiau yn ddaliadaethau rhydd-ddaliadol.

Mae'n bosibl fod llawer o'r aneddiadau hyn ar yr ucheldiroedd wedi deillio o'r cyfnod canoloesol fel hafodydd dros dro, lle byddai rhywun yn preswylio o fis mai tan fis Awst neu fis Medi, er mwyn gallu defnyddio'r porfeydd ucheldirol gryn bellter o fferm y faenor. Yn ddiweddarach, byddai rhai ohonynt yn datblygu'n ffermydd parhaol, ac mae cyfran ohonynt wedi goroesi hyd heddiw.

Mae enwau nifer o lechfeddiannau ar Elenydd yn cynnwys yr elfen arwyddocaol lluest, sy'n ymddangos fel pe byddai'n rhannu'r un ystyr â hafod yn lleol. Gair ydyw sy'n disgrifio annedd dros dro o ryw fath. Enwau dwy fferm gyfagos â'i gilydd sydd bellach wedi'u gadael yn segur, ar yr ucheldiroedd sydd i'r gorllewin o gronfa ddwr Graig Goch, er enghraifft, yw Lluest-aber-caethon a Lluest-Calettwr, sef y nentydd gerllaw. Enwir sawl fferm ucheldirol arall ar ôl nant neu afon, megis Aberglanhirin, Abergwngu a Chlaerwen. Mae'r elfen hafod yn digwydd mewn enwau lleoedd, fel yng Nghwm yr Hafod ac Esgairhafod, gan arwyddocau nodweddion topograffigol sy'n gysylltiedig â hafodydd. Mae'r elfen ty yn awgrymu aneddiadau ucheldirol eraill, er enghraifft yn yr enwau Esgair y Ty a Gwar-y-ty.

CPAT PHOTO 03-c-0675

Golygfa o'r awyr o'r llociau cerrig a safle ty adfeiliedig yng nghwm Rhiwnant, i'r de o gronfa ddwr Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0675.
Y tueddiad yw i'r llechfeddiannau sydd wedi'u henwi, a'r ffermydd ucheldirol fod yn rhai yr oedd pobl yn dal i fyw ynddynt pan gynhyrchwyd mapiau manwl-gywir cyntaf yr ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir amrediad o dystiolaeth archeolegol bod llawer mwy o hafodydd ac anheddau tebyg eraill a adawyd yn segur cyn i'r mapiau manwl cyntaf o'r ardal gael eu cynhyrchu. Ychydig o safleoedd yn unig sy'n bodoli o'r lleoedd hyn, os oes rhai o gwbl, ac mae'r dyddio yn aml yn annelwig oherwydd bod adeiladau diweddarach wedi'u codi ar safleoedd hen adeiladau mewn ambell achos. Ymddengys mai nifer o lwyfannau o siâp petryal, ar ongl sgwâr i'r llethr, lle byddai adeiladau o bren yn cael eu codi oedd adeiladau cynharaf y cyfnod hwn ar Elenydd. Ambell waith, fel yn achos llwyfan ar Graig y Lluest, mae olion waliau cerrig i'w gweld, ac mae'n ymddangos bod y rhain yn cynrychioli waliau siliau isel y codwyd adeiladau pren arnynt.

Mae'r ddogfennaeth gyntaf o nifer o hafodydd ar Elenydd yn dyddio o'r 16eg ganrif, ond mae'n bosibl eu bod yn deillio o gyfnod llawer cynharach. Mae'r brydles a ddechreuodd yn 1579 ar gyfer daliad a thiroedd Cwm Coel, [sydd bellach ar ymyl orllewinol cronfa ddwr Garreg-ddu], yn nodweddiadol o brydlesau'r cyfnod hwn. Byddai'r tir yn cael ei brydlesu i gadw 40 o wartheg a 100 o ddefaid arno. Cyfeirir at yr arferiad hynafol o symud i hafodydd dros dro yn yr ucheldiroedd dros yr haf er mwyn manteisio ar y porfeydd ucheldirol mewn prydles a luniwyd ym 1585 am 'messuage or tenement called Y Brith come [cwm] Ycha, together with one somer house, called Y Clettwr mawr, sometime parcel', sy'n sôn, mae'n amlwg, am dy parhaol ar y tir is yng nghwm Nant Brithgwm, ar ochr orllewinol cronfa ddwr Penygarreg, a hafod, oedd mae'n debyg ar safle'r fferm ucheldirol adfeiliedig yn Lluest-Calettwr, sydd ar y bryniau rhyw 3 chilometr i'r gogledd-orllewin, ger pen Nant Cletwr. Ar ddiwedd y 1530au, mae John Leland yn cofnodi iddo weld 'two veri poore cottagis for somer dayres [llaethdai'r haf]' na ddaethpwyd ar eu traws hyd yma, a oedd yn ddiamau yn cynhyrchu cynhyrchion llaeth a fyddai'n cael eu gwerthu ym marchnadoedd y pentrefi cyfagos.

Ffermydd O'r Canol Oesoedd Hwyr a'r Cyfnod Ôl-ganoloesol Cynnar Mae'n debygol bod llawer o'r adeiladau pren cynnar wedi diflannu'n llwyr, er y gallai hanes yr hen ffermdy yng Nghiloerwynt fod yn nodweddiadol o lawer o'r tyddynnod canoloesol hwyr llai yn yr ardal. Safai'r ty mewn llechfeddiant yng nghwm Claerwen a gofnodwyd am y tro cyntaf mewn dogfen yn dyddio o 1568 lle gelwir y perchennog yn iwmon. Efallai mai neuadd un-cowlas nenfforchog oedd y ty gwreiddiol pan godwyd ef. (Symudwyd hwn i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ym 1955 a'i ddisodli gan fyngalo newydd.) Yn sgîl dyddio trwy gyfrwng cyfrif y cylchoedd yn y pren, gwelwyd bod hwn wedi'i godi tua 1476, er na wyddys i sicrwydd a oedd y muriau allanol gwreiddiol yn rhai pren ynteu'n rhai cerrig. Yn ddiweddarach, roedd yr adeilad yn dy hir un llawr gydag ystafell fyw ac aelwyd ar un pen, a llety i'r gwartheg, y lloi a'r ceffylau ar y pen arall. 1734 oedd y dyddiad ar y linter ac efallai bod yr adeilad hwn yn adlewyrchu ffurf yr un a godwyd yn y 15fed ganrif.

Daeth carreg yn fwy poblogaidd o bosibl o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen. Mae'n ymddangos fod tai hirion eraill o gerrig wedi'u codi ar yr ucheldir yn ystod y cyfnod o ddiwedd y 16eg ganrif i ddechrau'r 18fed, unwaith eto gydag ystafelloedd byw ar y naill ben a llety i'r anifeiliaid ar y pen arall. Roedd pobl yn byw mewn nifer o'r rhain, megis Bryn Melys, Lluest fach (Llwst-fach), a Phenglaneinon hyd ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif pan adawyd hwy yn segur. Cafwyd y sylwadau craff hyn gan y Parch. R.W. Banks yn 1880 :

'the site of the old enclosure, as the names show, was generally selected by the side of one of the brooks, which run from the higher ground, and feed the rivers of the district, with a view to turn out a flock of sheep on the soundest portion of the extensive pasturages which the wastes afford, and at the same time obtain shelter from the steep hill sides. Rude, yet substantial dwellings, constructed of the large schistous flagstones of the district, with a chimney shaft of some pretensions . . . still in many instances remain, and wear the appearance of buildings which may have existed in the sixteenth century.'

Fel Ciloerwynt, roedd llawer o'r ffermydd iseldirol a'r caeau o'u hamgylch, a welir ar fapiau o ddiwedd y 19eg ganrif, eisoes yn bodoli erbyn diwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 16eg. Y tro cyntaf y ceir cofnod o'r plasty diweddarach o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Nantgwyllt yng nghwm Claerwen er enghraifft, dywedir mai daliad 'Y nauntgwyllt' ydyw mewn prydles sy'n dyddio o 1568. Daw'r enw o'r nant gerllaw. Soniwyd am bedair fferm gyfagos yn y cwm ac mewn gweithred ddyddiedig 10 Hydref 1579 a ddefnyddiwyd gan berchnogion Maenor Cwmteuddwr ar y pryd, Syr James Croft a Thomas Wigmore yswain i roi 'Aber Nant Guilth' (Nantgwyllt), Aber Elan, 'Pen Glan Eignon' (Penglaneinon) a 'y Kayhayth' (Cae-haidd) am £110 a rhent blynyddol o 6s 8c i Howell ap John ap Howell, bonheddwr.

CPAT PHOTO 1538.20

Ty hir o garreg yn Llannerch-y-cawr yng nghwm Claerwen. Llun: CPAT 1538.20.

Mae'n bosibl fod y ty hir sydd wedi goroesi yn Llannerch-y-cawr yng nghwm Claerwen, sydd bellach yn eiddo i Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yn fwy nodweddiadol o'r ffermydd iseldirol helaethach o ddiwedd y 15fed a dechrau'r 16eg ganrif a oedd yn perthyn i ddosbarth bonedd a dyfodd ar ddiwedd y canol oesoedd. Newidiwyd y ty hir hwn o garreg yn y 17eg ganrif a chanrifoedd diweddarach o neuadd dau gowlas nenffyrchog o ddiwedd y 15fed i ddechrau'r 16eg gydag aelwyd agored ganolog a muriau allanol o bren ar blatfform i fyny ac i lawr llethr y bryn. Roedd cyfosodiad yr ystafelloedd byw ar ben uchaf y ty a'r beudy ar y pen isaf yn un o nodweddion mwyaf unigryw y ty hir, ac mae'n nodweddiadol o ffermydd gwartheg yr ardal ar ddiwedd y Canol Oesoedd a dechrau'r cyfnod Ôl Ganoloesol.. Gwyddys am neuadd cowlas-sengl llai o fath tebyg yn Nannerth-ganol yn nyffryn Gwy, ychydig y tu allan i'r ardal nodwedd. Mae cyfrif y cylchoedd yn y pren wedi dangos mai 1555/56 yw dyddiad hon. Mae'n debygol fod y ffermdy, sydd â beudy ar un pen iddo unwaith eto, yn fwy nodweddiadol o ffermydd bychain yn yr ardal o'r 15fed a'r 16eg ganrif ymlaen. Mae Nannerth Ffwrdd (ychydig y tu allan i'r ardal nodwedd) a Thy'n y waun, i'r gorllewin o Raeadr ymhlith y ffermydd eraill sydd ar y ffurf linellol hon. Mae'n bosibl fod y fferm fechan yng Nghnwch, i'r de o argae Gaban-coch, yn enghraifft o gynllun nodweddiadol arall, un hwyrach mae'n debyg, lle bydd casgliad anffurfiol o adeiladau bychain o amgylch buarth.

Twf y Stadau Bonedd yn y Cyfnod Ôl-Ganoloesol Cynnar

Arweiniodd chwalu'r faenor fynachaidd ar ddiwedd y 16eg ganrif at nifer o stadau bonedd a fyddai'n tra-arglwyddiaethu ar hanes yr ardal yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ym 1579/80 roedd teulu Howell o Nantgwyllt wrthi'n prynu tir lleol, gan gynnwys 'Groy gwonyon' (Mae Gro Hill ar ochr ddwyreiniol y cwm), a 'talke y rose y gelyne' (saif Rhosygelynnen i'r gorllewin) sef bryniau caeedig, mae'n debyg, o fewn cilometr o Nantgwyllt, ar ymylon y rhostir. Ym 1581 fe werthodd Aber Elan a Phenglaneinon, er ym 1585 prynodd dir ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys 'Dolfola' (Dol-falau, fferm 2.8 cilometr i ffwrdd yng nghwm Elan, sydd bellach dan ddyfroedd cronfa ddwr Garreg-ddu) a 'Blaenllyngwynllyn' (fferm ger Gwynllyn, tua 7 cilometr i'r gogledd-ddwyrain), a daeth llawer o'r tir yn y fan hon a mannau eraill dan denantiaeth ffermwyr eraill. Erbyn adeg ei farwolaeth ym 1597 roedd yn berchen ar lawer o dir a melinau yn Sir Faesyfed a gogledd Sir Frycheiniog ac roedd ganddo ddwsin o ffermydd yn Llanafan Fawr, deg yn Llanwrthwl yn Sir Frycheiniog, a thros ugain eiddo yng Nghwmteuddwr. Canodd y bardd toreithiog a'r achwr Lewys Dwnn farwnad iddo. Daeth ei fab hynaf yn Uchel Siryf Sir Faesyfed. Tarddodd llawer o'i gyfoeth o'i fuchesi gwartheg a'i breiddiau o ddefaid, a seiliwyd gwerth masnachol yr olaf ar wlân, ceffylau a pheth grawn yn bennaf . Yn y 1670au, ceir cyfeiriad at ei ddisgynnydd, Howell Powell yn 'Fonheddwr, o Nantgwyllt'.

Twf y Boblogaeth yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif

Parhaodd y boblogaeth i ehangu yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif. Parhawyd i greu daliadau newydd o'r rhostir ymhell i'r 17eg ganrif, os nad yn hwyrach. Ym 1674, er enghraifft, rhoddwyd grant am 'that new cottage in Clarwen [Claerwen], then lately built. . . upon Y Eskyrne y Guion [?Esgair y Guon, nad yw'n arbennig o agos], being a common or waste within the lordship of the Grange, with all inclosures thereto, and with liberty to inclose on the same common, not exceeding sixteen acres'. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, ni fyddai natur economi amaethyddol yr ardal a oedd wedi dod i'r amlwg yn y cyfnod canoloesol hwyr yn newid llawer hyd ganol y 18fed ganrif. Mewn cyferbyniad â thai'r bonheddwyr, fodd bynnag, mae'n debyg bod llawer teulu wedi goroesi ar bron ddim. Mae cofnodion trethu a elwir yn asesiad Cymhorthdal Lleyg ar gyfer Cwm Elan ym 1544 yn awgrymu bod yno tua 21 o aelwydydd trethadwy, er bod yno rai aelwydydd tlawd hefyd na aseswyd mohonynt. Rhestrir ddwywaith cymaint o aelwydydd â hyn yn ardal Dyffryn Elan yng nghofnodion Treth Aelwyd 1670. Roedd nifer y teuluoedd ar bob aelwyd yn awgrymu bod yr ardal yn un o'r rhai lleiaf ffyniannus mewn sir a oedd eisoes yn dlawd o'i chymharu â'i chymdogion.

Torri Mawn a Hawliau Eraill ar Dir Comin

Byddai ffermydd a daliadau Elenydd a chwm Elan yn y 16eg a'r 17eg ganrif wedi bod â hawliau ar dir comin ers blynyddoedd maith, yn deillio o faenor Cwmteuddwr a maenor hynafol Buellt. Byddai'r rhain wedi cynnwys hawliau pori defaid, gwartheg a merlod a hawliau i dorri mawn a chasglu coed ar gyfer tanwydd neu i atgyweirio (cytawl). Nid oes sicrwydd ynghylch pryd yn hollol y dechreuwyd torri'r mawn ar y rhostir, ond mae'n debyg na ddaeth yn ffynhonnell tanwydd i'r ty nes i'r holl goed a oedd ar gael yn rhwydd ddiflannu. Mae tystiolaeth o dorri mawn i'w weld mewn sawl lle ar Elenydd, er enghraifft ar War y Ty ar ochr ogleddol y rhostir, ar Waun Lydan, i'r de o argae Claerwen, a rhwng Allt Goch ac Y Gamriw, i'r dwyrain o gronfa ddwr Caban-coch, ac yn aml mae hyn i'w weld amlycaf o'r awyr. Mae'n bosibl fod gwaith maes wedi dangos y llwyfannau artiffisial a ddefnyddid i sychu'r mawn mewn ambell achos, gan gynnwys y rhai ar Ros Saeth-maen. Oherwydd hynny, y tomenni mawn mwyaf hygyrch a basaf a ddefnyddid gan amlaf er mwyn lleihau'r baich o'i gludo o'r bryniau. Mewn ambell ardal, mae'n amlwg fod gan bob fferm neu grwp o ffermydd cyfagos ei mawnfa ei hun gyda thrac yn arwain ati. Mae'n rhaid fod y rhain wedi'u defnyddio dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Dywedodd y gwyddonydd Michael Faraday wrth groesi'r rhostir ar y ffordd dyrpeg o Raeadr i Aberystwyth tua 1820 bod 'a turfcutter or a peat digger here and there drew the eye for want of a better object'. Meddai Jonathan Williams, wrth ysgrifennu yn y degawd cynt bod y mynyddoedd ym mhlwyf Cwmteuddwr yn

'contain turbaries which supply the neighbourhood with the most excellent peat. This kind of fuel when dried by the joint action of the sun and the wind becomes a black and hard substance, make a cheerful fire, reflects great head, and is little inferior to coal. A peat pit is three feet deep and more, and often contains branches and trunks of trees'.

Roedd torri mawn wedi dod i ben, fwy neu lai, yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, gan ei fod yn gorfod cystadlu yn uniongyrchol â'r glo a ddeuai o'r depos yn Rhaeadr ar ôl agor Rheilffordd Canolbarth Cymru ym 1864.

Melinau Yd, Pandai a Melinau Llifio ac Odynnau Sychu Grawn

Mae'n debyg i rawn, gwlân a phren gael eu prosesu yn lleol hyd at ddiwedd y 17eg ganrif, gyda phwer dwr. Yn nogfen prydles fferm Ciloerwynt yng ngwm Claerwen ym 1569 y ceir un o'r cyfeiriadau cyntaf erioed at yr yd lleol. Yn ôl arferiad y cyfnod, gofynnwyd i denant Ciloerwynt fynd ag unrhyw yd yr oedd wedi'i dyfu i gael ei falu ym melin ei landlord. Nid oes sicrwydd ynghylch safle'r felin, ond mae'n bosibl mai'r un felin yng Nghwmteuddwr oedd hi â honno a oedd yn perthyn i deulu Howell Nantgwyllt ym 1597. Mae'n bosibl mai dyma safle'r hen felin ddwr i falu yd, sef Melin Gwynllyn, a elwir bellach yn Upper Mill ar nant Gwynllyn, i'r gogledd-orllewin o Raeadr. Mae'n ymddangos ei bod ar waith cyn 1670 tan oddeutu 1900 pan roedd yn cynnwys adeilad pren tri llawr. Melin wlân oedd Melin Gwynllyn i ddechrau, a sonnir amdani gyntaf ym 1710. Mae adeilad melin, wedi'i throsi, o'r enw Walk Mill, ychydig i lawr y nant yn enghraifft arall o felin wlân ond ni ysgrifennwyd rhyw lawer amdani. Roedd melin wlân arall, strwythur carreg o'r enw Fron Factory, ar gyfer cribo neu bannu, ar waith tua hanner cilometr i fyny'r nant hyd ryw 1840. Mae olion y ffrwd yn dal i'w gweld.

Roedd ail felin ddwr i falu yd, sef Gro Mill, a oedd yn perthyn i stad Nantgwyllt, ar waith o 1806 nes i ddyfroedd cronfa ddwr Caban-coch ei boddi ym 1892. Safai'r felin ychydig islaw cymer afonydd Elan a Chlaerwen, a deuai ei grym o ffrwd a dynnwyd o afon Elan i'r de o blasty Cwm Elan. Ar un adeg, roedd odyn sychu grawn wedi'i gysylltu â'r felin, a oedd hefyd yn gweithredu fel melin lifio.

Mae cymhlyg y felin lifio yr oedd stad Cwm Elan yn ei redeg hyd yn ddiweddar ar ymyl orllewinol cronfa ddwr Caban-coch, ochr yn ochr â Nantgwyllt ac ychydig i'r de o hen blasty Nantgwyllt, yn dyddio o tua'r 1920au, ac mae'n cynnwys cymhlyg o adeiladau coediog, a rhai o frics a deunyddiau rhychiog, ac olion craen godi ar draciau, sydd bellach yn segur. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu'r odynnau sychu grawn lleol a oedd, mae'n amlwg, ar waith erbyn o leiaf y 17eg ganrif, er na nodwyd unrhyw strwythurau sydd wedi goroesi. Mae gweithred o ddiwedd y 17eg ganrif sy'n ymwneud â Rhydoldog, er enghraifft, yn sôn am 'Kaer odin', enw cae sydd yn deillio o'r Gymraeg cae'r odin sydd, mae'n debyg, yn cyfeirio at odyn sychu grawn.

Chwareli Cerrig Cynharach

Gwelir sawl chwarel gerrig fach yma ac acw, yn enwedig o amgylch ymylon ucheldiroedd Elenydd, er enghraifft ger Rhydoldog, ar Dremblyd ac ar y bryniau uwchlaw Llannerch-y-cawr a oedd ar waith o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen ar gyfer codi adeiladau a waliau o gerrig. Mae'n bosibl fod y chwarel fechan yn Waun Geufron wedi cyflenwi'r deunydd ar gyfer ffordd dyrpeg Rhaeadr - Aberystwyth. Sonnir isod am chwareli eraill mwy yng Nghigfran a Chnwch, a agorwyd ar gyfer adeiladu'r cronfeydd dwr.

((yn ôl i'r brig) )