CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Cwm Elan


MWYNFEYDD METEL AR DDIWEDD Y 18FED A’R 19EG GANRIF

Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau mwyngloddio penodol o ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif sy'n bwysig o ran hanes tirwedd ardal y dirwedd hanesyddol, er eu bod ar ymylon megis y gwaith mwy helaeth yn rhan uchaf cwm Ystwyth yng ngogledd Ceredigion, ychydig i’r gorllewin, ac yn llai na hwy. Mae’r rhan fwyaf o’r mwyngloddiau yng nghwm Elan wedi’u cuddio yn lled dda, er bod gan y pentyrrau gwastraff mwynau a’r ffrydiau sy’n harneisio pŵer dŵr ar gyfer prosesu mwynau ddylanwad mwy eang ar y dirwedd, mewn mannau.

Ar y dechrau, er gwaethaf ymgais fer i fwyndoddi’r mwynau yn Aberystwyth ar ddiwedd yr 1780au a dechrau’r 1790au, fe fyddai’r rhan fwyaf o'r mwynau o'r mwyngloddiau bychain hyn yn Sir Faesyfed, fel y rhai o Gwmystwyth, yn cael eu cludo dros y mynyddoedd i'r arfordir, i deithio ar long i Lannau Dyfrdwy neu Gastell-nedd neu Abertawe i’w mwyndoddi, er o 1864 ymlaen, roedd modd cludo’r mwynau ar y rheilffordd o Raeadr.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o weithfeydd cynhanesyddol neu ganoloesol yn unrhyw un o fwyngloddiau ardal tirwedd hanesyddol Cwm Elan, er ei bod yn debygol bod mwyngloddio cynnar yng Nghwmystwyth wedi dylanwadu ar olwg ac amgylchedd ochr orllewinol Elenydd erbyn diwedd y 16eg ganrif pan gofnododd John Leland fod y mwyngloddio ‘hath destroid the Woddes that sometime grew plentifull thereabout’

Ymddengys bod y mwynglawdd a elwir yn fwynglawdd Cwm Elan yn cynhyrchu mwyn plwm a mwyn sinc, a’i fod wedi’i weithio mewn un cyfnod yn unig. Mae’n darparu’r enghraifft orau o bosibl, o dechnoleg mwyngloddio a chynllunio ym Mhowys yn y 19eg ganrif, gan fod y strwythurau wedi cadw yn hynod o dda. Gorwedda ar lethrau gorllewinol Nant Methan mewn cwm ucheldirol ar ymyl yr ardal rostirol i’r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu, ac mae’n deillio o'r adeg y daethpwyd o hyd i fwyn plwm wrth gloddio ffos draenio ym 1796, yn ddiamau fel rhan o'r gwelliannau amaethyddol ar stad Thomas Grove. Grove oedd yn gyfrifol am y gweithiau cyntaf, a allai fod wedi cynnwys cyfres o doriadau agored bas ar hyd lannau nant sy’n llifo i Nant Methan, ond yn ddiweddarach fe roddodd y gwaith ar brydles. Dechreuodd prif gyfnod y gwaith, pan godwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau sydd wedi goroesi, ym 1871, wrth i gwmni Cwm Elan Mining gael ei ffurfio, ac erbyn y flwyddyn ganlynol roedd yn cynnwys ceuffyrdd a siafftiau bas a dwfn. Dechreuodd gwaith y felin brosesu ym 1873 gydag offer a gyflenwyd gan William Thomas o Ffowndri Llanidloes. Roedd tair olwyn ddŵr yn pweru’r gwaith, ac roedd yr olwyn fwyaf yn un ar bymtheg ar hugain o droedfeddi o ddiamedr. Roedd ffrwd 16-cilometr yn pweru’r olwynion dŵr hyn. Gwnaed arolwg manwl o lwybr y ffrwd ar draws rhostir Elenydd o Lyn Cerrigllwydion Isaf, 170 metr yn uwch a dim ond 7 cilometr o bellter fel yr hed y frân, ac fe gymerodd dri mis i’w gwblhau. Arweiniodd sychder a diffyg arian at ymddatodiad y cwmni ym 1874. Ymhlith yr olion gweladwy sydd wedi goroesi mae siafftiau sy’n rhannol wedi cwympo, biniau mwynau i storio’r mwynau, llwyfannau ar gyfer tai cerrig a jigeri, a cherwyn i brosesu mwyn a phwll gwaddodi. Mae adfeilion adeiladau cerrig a oedd yn gysylltiedig â'r mwynglawdd wedi goroesi, gan gynnwys arfdy ffrwydron, gefail a thŷ a swyddfa rheolwr y mwynglawdd, y cyfan ohonynt, yn ôl pob tebyg, wedi'u hadeiladu o garreg a gafwyd o'r chwarel gerrig fechan gerllaw. Ceir hefyd olion tŷ brics coch a godwyd yn y 1890au gan Gorfforaeth Birmingham yn gartref i weithwyr y stad, ar ôl iddi brynu Stad Elan i adeiladu'r cronfeydd dŵr oedd yno eisoes.

Gellir gweld olion ail cymhlyg mwyngloddio a gynhyrchai mwynau copr a phlwm yng nghwm Rhiwnant a Nant y Carw, i’r de o gwm Claerwen, a oedd yn cynnwys nifer o wahanol fwyngloddiau bychain. Gorweddai Dalrhiw ar oleddf ar ochr ddeheuol afon Rhiwnant. Mae ceuffordd a dorrwyd i gyfeiriad y de o lannau’r nant ym 1850 yn nodi lleoliad y gweithfeydd cynnar, ond cafodd suddo siafft a datblygu gwaith prosesu ar y safle wedi hynny fwy o ddylanwad ar y dirwedd. Olwynion dŵr yn tynnu pŵer o’r dŵr a ddeuai o ffrydiau a darddai o afon Rhiwnant oedd yn gyrru’r gwaith prosesu. Ymhlith olion gweladwy’r gwaith mwyngloddio mae siafft a ddefnyddid i godi’r mwyn trwy ddefnyddio dyfais troi fyddai ceffyl yn ei dynnu, biniau mwynau, a melin fathru ag olwyn ddŵr yn ei gyrru, cafn olwyn ar gyfer olwyn hanner cant a dwy o droedfeddi a chafn olwyn arall a oedd, mae'n debyg, yn pweru'r jigeri. Fel yng Nghwm Elan ceir olion nifer o adeiladau cerrig gan gynnwys swyddfa’r mwynglawdd, gefail bosibl, a lloc bychan â muriau, gardd efallai. Mae’n bosibl mai fel ffald i’r ceffylau a oedd yn gweithio â'r ddyfais troi, neu i gludo’r mwyn a oedd wedi’i brosesu o’r mwynglawdd y defnyddiwyd y lloc â gwrthglawdd isel ychydig i’r de o adeiladau’r mwynglawdd. Parhaodd y gwaith yn y fan hon tan 1881.

CPAT PHOTO 03-c-0665

Golygfa o’r awyr o safleoedd mwyngloddio plwm Dalrhiw a De Nant y Car, i’r de o afon Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0665.
Roedd y drydedd set mwyngloddiau, sef De Nant y Car, ar lan ogleddol nant Rhiwnant gyferbyn â mwynglawdd Dalrhiw, yn cynhyrchu copr, plwm a sinc. Fel yn achos Dalrhiw, mae’n ymddangos mai cyfres o geuffyrdd a gloddiwyd i mewn i ochr y bryn yn agos at y nant oedd y gweithfeydd cynharaf. Yn ystod y 1860au a’r 1870au y gwnaed y prif waith datblygu ar y mwynglawdd, ac roedd yn rhaid suddo siafft ac adeiladu mathrwr a chafn olwyn trawiadol, ynghyd â chodi adeiladau cysylltiedig eraill sydd ymhlith prif nodweddion y safle. Gall tomenni pridd gwastraff a grëir wrth ddatblygu a phrosesu gwastraff greu nodwedd unigryw yn y dirwedd lle mae ‘bysedd’ nodweddiadol y gwastraff yn pelydru islaw’r siafft a'r biniau mwynau. Ar safle ar ochr ddeheuol cwm Claerwen, i’r gogledd, lle’r aed ati i geisio cloddio yn arbrofol cyn canol y 19eg ganrif oedd mwynglawdd Nant y Car yn wreiddiol. O 1844 datblygodd y gwaith ar raddfa lawer mwy, ac erbyn y 1850au, roedd gwythïen doreithiog o fwyn copr yn cael ei chloddio. Fodd bynnag, erbyn 1854, gwelwyd mai siomedig oedd hon. Ar ôl chwilio mewn mannau eraill yn y set ym 1855 daethpwyd o hyd i wythïen blwm addawol mewn ceuffordd ar ochr ogleddol nant Rhiwnant, yn y mwynglawdd a fyddai'n dwyn yr enw De Nant y Car. Daethpwyd â pheiriannau ychwanegol i ddyfnhau’r gweithfeydd y flwyddyn ganlynol, er yn y pen draw gwelwyd bod y wythïen yn siomedig, ac fe ddiddymwyd y cwmni ym 1859. Mae olion gweladwy De Nant y Car yn cynnwys cyfres o geuffyrdd wedi’u cloddio i mewn o lannau’r nant, siafft i’r injan ynghyd â sylfeini’r cwt weindio, gerllaw tramffordd, biniau mwynau, tomenni gwastraff a llwyfannau ar gyfer mathrwr a jigeri, a dwy gerwyn gron i brosesu mwynau, ag olwyn ddŵr yn eu pweru.

Daethpwyd o hyd i wythïen newydd a chyfoethocach tua 1883, yn uwch i fyny’r cwm ym mwynglawdd Nantygarw, ac fe arweiniodd hyn at adael De Nant y Car yn segur. Gorwedd y mwynglawdd ar yr unig dir sydd ar gael ar deras naturiol wrth geg crognant ymhell uwchlaw afon Rhiwnant. Islaw’r safle, mae ochrau’r prif ddyffryn yn serth ac yn greigiog, ac uwchlaw hynny mae’r tir sy’n codi’n raddol yn esgyn at lwyfandir rhostirol i’r gogledd. Mae'r olygfa o'r safle tuag at y dwyrain yn ysblennydd. Mae'n tremio dros Gwm Rhiwnant i Dalrhiw, De Nant y Car a thu hwnt. Canlyniad mwy nag un cyfnod o ddeiliadaeth yw’r olion sydd wedi goroesi a drawsnewidiodd y lle ucheldirol diarffordd hwn, er mai olion y cyfnod gweithgaredd diweddaraf sydd amlycaf i’w gweld. Dyma’r cyfnod pan osodwyd y felin brosesu y mae'r safle’n fwyaf enwog amdani o bosibl. Mae olion strwythurol sylweddol eraill yn goroesi, gan gynnwys y siafft, y cafn olwynion a’r efail. Mae tomenni gwastraff prosesu helaeth yn ymledu allan o'r felin brosesu, ac ar waelod y safle mae'r gwastraff yn cwympo i lawr ochrau serth y dyffryn i Riwnant islaw. Ymhlith y strwythurau y gellir eu gweld mae melin mathru sylweddol, sy’n parhau i sefyll dros 4 metr o daldra, a ffrwd a luniwyd ym1893 i’w bweru sy’n cario'r dŵr o Lyn Carw, tua 100 metr uwchlaw, a thua 2 cilometr i'r gorllewin, llwyfannau jigeri, a cherwyn fach gron, cronfa ddŵr a phyllau gwaddodi. Ymhlith yr olion adeiladu mae barics posibl i letya gweithwyr yn ystod yr wythnos, gefail, swyddfa'r mwynglawdd a thŷ'r rheolwr, o bosibl, ac arfdy ffrwydron dros 3 metr o daldra sydd bron yn gyfan ar wahân i’r to.

Caeodd mwynglawdd Nantygarw, y diweddaraf a’r mwyaf anghysbell o fwyngloddiau cwm Elan ym 1893, ac er na wyddys llawer am y gweithfeydd, cyflogid 50 o ddynion yno, sy’n awgrymu menter resymol ei maint. Er gwaethaf eu helw mawr, fe ymddatododd y cwmni ym 1897, ac er bod peth gweithgarwch wedi parhau yno hyd 1899, rhoddwyd y gorau i fwyngloddio pellach yno rhag ofn y byddai cyflenwadau dŵr cronfeydd Cwm Elan yn cael eu halogi.

(yn ôl i’r brig)