CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Cwm Elan
Mynegai o enwau lleoedd

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


ENWAU LLEOEDD

Mae enwau lleoedd yng Nghwm Elan yn darparu cofnod o draddodiad llafar a ddatblygodd dros sawl cenhedlaeth ac yn darparu tystiolaeth o’r ffyrdd yr oedd y rheiny a gafodd fywoliaeth yng nghwm Elan yn ei amgyffred a'i ecsbloetio, gan ategu tystiolaeth ffynonellau eraill. Yn y 1860au a’r 1870au, Cwmteuddwr oedd yr unig blwyf yn Sir Faesyfed lle byddai'r trigolion yn siarad Cymraeg fel arfer, ac erbyn yr 1880au, dyma’r unig blwyf lle byddai rhywun yn ei siarad o gwbl. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o’r enwau cynnar yn Gymraeg, er bod rhai ohonynt ar ffurfiau a Seisnigeiddiwyd. Mapiau graddfa fawr yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif sy'n cynnig y cofnod mwyaf cyson o'r enwau lleoedd, ond mae'n debygol bod llawer ohonynt wedi tarddu o gyfnod llawer cynt. Mae’r enwau yn arbennig o arwyddocaol yn achos rhannau mynyddig yr ardal, gan fod enwau lleoedd yn y fan yma, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn aml yn cynnwys elfennau disgrifiadol. Yn y cymoedd ac ar ymylon y cymoedd yr oedd llawer o’r bobl yn byw, a dyma lle y ceir y cofnodion cyntaf o enwau ffermydd a daliadau mewn prydlesau, ewyllysiau a thrafodion ysgrifenedig o ganol y 16eg ganrif ymlaen, er bod rhai ohonynt o leiaf yn dyddio o gyfnod cynharach o lawer na hynny. Darllenwch y rhestr i weld enwau’r lleoedd yn ardal yr astudiaeth.

Oherwydd topograffeg benodol Elenydd, mae enwau lleoedd sy’n gwahaniaethu rhwng cribau (esgair, rhestr, trum/drum, cefn, crib) a llethrau neu esgyniadau (llethr, rhiw, llechwedd, allt a lan) yn arbennig o gyffredin, er bod yr ymadroddion cyffredin fan, bryn, moel/foel, moelfryn a mynydd hefyd yn ymddangos. Ymddengys bod y geiriau ar gyfer bryniau a chribau yn ymgyfnewidiol i raddau, er bod trum yn tueddu i gael ei neilltuo ar gyfer y copaon uchaf, dros 500m, a’r geiriau eraill ar gyfer copaon islaw 500m. Yn aml fe ddefnyddir esgair ar gyfer y cribau rhwng cymoedd nentydd a cefn ar gyfer y rhai a geir yn y mannau helaeth ucheldirol sy'n fwy gwastad. Ymddengys bod y geiriau ar gyfer llethrau hefyd yn ymgyfnewidiol, er bod llethr a rhiw yn tueddu i gael eu defnyddio ar gyfer y llethrau uchaf, ac allt a lan yn amlach ar gyfer y llethrau isaf, islaw 400m, o amgylch ymylon yr ucheldiroedd. Ymhlith y geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio codiadau tir arwahanol ceir talcen, pentanau, clap, clapiau, cnapiau, cnwch (cnwc), uchelfa, copa, crug, banc, talar, ac yn fwy barddonol, llofft, castell a disgwylfa. Gelwir y brigiadau lu ar ochrau’r cymoedd serth yn carreg/cerrig, neu craig/creigiau. Dynodir pant yn aml â’r gair pwll.

Yn aml cyfeirir at ddyffryn afon ehangach fel cwm, a llawer o ddyffrynnoedd cul y nentydd ar ymyl yr ucheldiroedd fel ceunant neu dyfnant. Mae enwau rhai o’r dyffrynnoedd ucheldirol basach yn cynnwys elfennau fel pant a bwlch, a gelwir pen uchaf nifer o'r nentydd ucheldirol yn blaen.

Dynodir yr afonydd o bwys megis Elan, Claerwen ac Ystwyth, a defnyddir y gair afon (cymer neu geg) i gymer Elan â nifer o’r prif nentydd sy’n ei bwydo, gan gynnwys Claerwen, Afon Gwngu a Nant Hirin. Gelwir y rhan fwyaf o’r bron i 200 o nentydd a’r ffrydiau sydd yn ardal yr astudiaeth yn nant, a defnyddir y ffurf luosog hynafol neint ar gyfer ardal â sawl ffrwd fechan ger blaen afon Ystwyth, er bod llawer o’r nentydd llai yn cynnwys yr elfen ffos neu ffrwd. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o raeadrau, er na chyfeirir at yr un ohonynt fel pistyll, efallai gan eu bod mor gyffredin, er bod Cwm Pistyll yn digwydd mewn un man, a hefyd sgwd sef llif neu gwymp, mewn man arall. Mae Ffynnon yn elfen annisgwyl o anarferol yn enwau lleoedd yr ardal, ac mae’r ffynhonnau a enwir, sef Ffynnon Fyw a Ffynnon Mary ill dwy ar ymyl ddeheuol Elenydd, yng nghymuned Llanafan Fawr. Mae’r llynnoedd ucheldirol, a nodweddion topograffaidd cysylltiedig Elenydd yn cynnwys yr elfen llyn, bob tro, felly hefyd y llyn iseldirol bychan o’r enw Gwynllyn i’r gogledd-orllewin o Raeadr. Gelwir cymer afonydd Elan a Gwy i’r de o Raeadr yn Llyn Aberdeuddwr.

Disgrifir y nodweddion topograffaidd hyn â nifer o eiriau disgrifiadol, gan gynnwys enwau rhannau o'r corff, megis safn, braich, bron/fron, troed a gwar. Mae geiriau sy’n disgrifio’r priodoleddau o ran lliw yn gyffredin ac yn eu plith mae coch/cochion, gwen/gwyn, gwinau, rhudd, llwyd/lwyd/llwydion, melyn, du/ddu/duon, a glas/las. Gellir cysylltu’r priodoleddau o ran lliw ag uchderau cymharol benodol, gan dueddu i gysylltu du/ddu/duon ag uchder o 500m uwchlaw lefel y môr, llwyd/lwyd/llwydion a glas/las ag uchder uwchlaw 400m, a coch/cochion, gwen/gwyn, a melyn oll uwchlaw 300m ond islaw 400m. Mae lleoliadau a meintiau o’u cymharu â’i gilydd yn dilyn yr un fformwlâu enwau lleoedd ag a wnânt mewn mannau eraill yng Nghymru, gan gynnwys ucha/uchaf, canol/ganol, isaf, ochr, perfedd, dan, traws, pen, mawr/fawr, bach/fach a bychannau/bychan.

Ailadroddir nifer o enwau lleoedd o fewn ardal eang wasgaredig, fel yn achos Llethr Melyn sy’n ymddangos ddwywaith, Banc Du sy’n ymddangos deirgwaith, a Lan Wen sy’n ymddangos bedair gwaith, er ei fod yn arwyddocaol efallai mai ychydig iawn o ddyblygu a geir yn enwau’r nentydd, sy’n tueddu i ddarparu cyd-destun ar gyfer enwi lleoedd mewn sawl rhan o’r ardal. Mewn achosion eraill, bydd yr enwau a ymddengys yn agos at ei gilydd yn tueddu i fod mewn parau gyda lliw neu wawr neu faint yn eu gwahaniaethu, er enghraifft wen a du, yn achos Afon Claerwen (claer a wen) ac Afon Claerddu (ddu), a bach a mawr yn achos Chwarel Bach a Chwarel Mawr. Mae paru enwau bryniau a nentydd yn digwydd yn aml (e.e. Nant Cormwg ac Esgair Cormwg), a rhannu enwau lleoedd yn ymestyn mewn sawl achos i ardaloedd topograffaidd cyfagos i ddarparu map geiriau o’r rhostir. Dichon fod hyn wedi dechrau fel dyfais i wahaniaethu rhwng gwahanol ardaloedd pori agored o rhwng 0.5 a 3 cilometr ar draws. Daw gwreiddyn yr enw yn aml o enw nant neu afon, sef y modd arferol o gyrraedd y rhostir. Mae enwau Afon Gwngu, Abergwngu, Llyn Gwngu, Llethr Gwngu a Blaen Gwngu yn diffinio ardal rhyw 3 chilometr ar draws ger blaenddyfroedd afon Elan. Mae Nant Egnant, Cae Blaenegnant, Bryn Llyn Egnant, a Bryn Caeblaenegnant yn yr un modd yn diffinio ardal o’r ucheldiroedd tua 1.5 cilometr o led i'r gorllewin o gronfa ddŵr Claerwen. Ambell dro, fe fydd enwau lleoedd yn yr ardal yn deillio o anheddiad penodol, er enghraifft yn achos Treheslog, Creigiau Treheslog a Banc Treheslog, a hyd yn oed o liw, fel yn achos Creigiau duon, Banc du, Chwarel du a Lan du, sydd oll o fewn 1 cilometr i’w gilydd.

Defnyddir amrywiaeth eang o ansoddeiriau ac enwau wrth ddisgrifio cyflwr y tir, er enghraifft wrth bwysleisio gerwinder y dirwedd neu pa mor agored ydyw i'r tywydd, er enghraifft gwyllt, llaith, sych, dyrys, caled, garw, chwefrin/chwefri, wynt/gwynt, eira. Mae’r geiriau melys a paradwys, tawel, clyd yn llai cyffredin ac yn ymdrin yn bennaf â lleoliadau mwy cysgodol, yn enwedig ar y llethrau sy’n wynebu’r de.

Defnyddir amrywiaeth eang o eiriau i ddisgrifio siapiau'r tirffurfiau, gan gynnwys cadenu, crychion/crych, cwta, hir, pica/bica, crwn, lled, cam.

Mae enwau ardaloedd â choetiroedd llydan-ddeiliog naturiol a lled-naturiol, ynghyd â nifer o blanhigfeydd conwydd yn cynnwys y gair coed, er na ddefnyddir hyn fel elfen mewn enwau lleoedd mewn mannau eraill, a hefyd llwyn, perth a gelli/celli. Bedwen/fedwen (lluosog, bedw) yw'r rhywogaeth fwyaf cyffredin o goed a enwir ac ni cheir ond cyfeiriadau prin at onnen, derwen, (lluosog derw/dderw/deri/dderi), helyg, gelynnen/celyn, ac afallen, ac wrth gwrs dim ond yn yr iseldiroedd i’r gorllewin o Raeadr y ceir yr olaf. Ymhlith y cyfeiriadau anaml eraill at lystyfiant ceir draen, eithinog, cors a mign (ar y ffurf figyn/fign), hesgog/hesg, a brwyn.

Mae sawl enw anifail yn codi, yn enwedig yn yr ardaloedd ucheldirol, gan gynnwys anifeiliaid dof megis gaseg/caseg, march, geifr/geifre, defaid, ci, gwartheg, anner, ych, moch, a hwch. Mae’n bosibl fod y rhain yn cynnig awgrym ynghylch y defnydd blaenorol a wnaed o’r tir, ond gallent ar y llaw arall fod yn eiriau i ddisgrifio nodweddion topograffaidd. Yn gyffredinol, fodd bynnag, maent yn codi mor anaml fel mai ychydig o gasgliadau ystyrlon y gellir eu llunio. Pur anaml hefyd y bydd enwau adar, megis aderyn, cywion, ceiliog a twrci (llygriad o dwrgi, efallai?), gigfran/cigfran, a gwalch yn codi. Mae nifer o enwau anifeiliaid gwyllt hefyd i’w gweld yn yr ardal. Credir bod enw afon Elan, a gofnodwyd yn gyntaf yn y 12fed ganrif, yn tarddu o’r Gymraeg elain, i ddisgrifio neidio a rhuthro yr afon cyn i’r gronfa ddŵr gael ei hadeiladu. Mae bwch a carw yn elfennau eraill a geir mewn enwau lleoedd yn yr ardal.

Mae nifer o enwau lleoedd sydd wedi’u gwasgaru yn arwyddocaol yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio ac anheddu'r tir yn y gorffennol. Digwydd Dol fel elfen mewn nifer o enwau lleoedd mewn tiroedd islaw 300m yn rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen ac yn yr iseldiroedd i’r gorllewin o Raeadr, mewn ardaloedd lle y gallai dolydd gwair fod wedi’u creu. Nodir y porfeydd ucheldirol, ar y llaw arall, â gwasgariad eang yr enwau lleoedd sy'n cynnwys yr elfen waun/gwaun sydd i'w gael fel arfer ar bob tir ond yr uchaf, o fewn y rhostir agored rhwng 400 a 500m. Mae nifer llai o enwau ar uchder tebyg yn cynnwys Rhos, sydd yn aml efallai yn awgrymu porfa ucheldirol yr haf, yn ymestyn i lawr i 300-400m yng nghwm Elan ei hun, weithiau naill ai o fewn ymylon y tir caeëdig, neu’n agos ato. Cyfyngir enwau waun a rhos, fel enwau'r llechfeddiannau, i'r ardaloedd pori ucheldirol mwy hygyrch ar Elenydd. Pur anaml y deuir ar eu traws yn yr ucheldiroedd diarffordd yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal, sy’n awgrymu eu bod yn ymwneud â chyfnod penodol o ran anheddu a defnyddio tir. Ni cheir yr elfen ffridd mewn enwau lleoedd yn yr ardal, sy'n awgrymu bod enw arall yn fwy cyffredin yn lleol, neu nad yw’r system draddodiadol o ddefnyddio tir y mae’r gair yn cyfeirio’n benodol ati mewn rhannau eraill o ucheldir Cymru wedi datblygu cymaint yn y fan hon.

Mae’r elfennau eraill mewn enwau lleoedd sy’n awgrymu caeau, gan gynnwys cae, maes ac erw, yn brin yn yr ardal, ac maent i’w cael ar yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd fel ei gilydd. Pur anaml y cyfeirir at gnydau, sy’n cynnwys haidd a gwair. Y mae’r ddau yn elfennau mewn enwau lleoedd o amgylch ymylon y tir isel ar uchder o rhwng 300 a 400m.

Mae llawer o enwau yn awgrymu clirio ac amgáu. Mae Llannerch/llannerch, i’w weld mewn nifer o enwau lleoedd sy’n gysylltiedig ag aneddiadau gwasgaredig sydd ar y cyfan wedi'u cyfyngu i'r tir sydd nawr yn gaeëdig yn rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen. Mae'r geiriau garth, corlan, fuches, camlas, clawdd, (lluosog cloddiau) hefyd i’w gweld, ond nid yn ddigon aml i allu llunio unrhyw gasgliadau ar sail hynny, oni bai mai ychydig o’r ffurfiau hyn, fel waun a rhos, a geir yn ucheldiroedd diarffordd de-orllewin yr ardal. Gallai Magwyr (fel yn yr enw Nant y Fagwyr) fod yn enghraifft o wal neu loc neu yn fwy syml, lle creigiog.

Mae nifer o enwau lleoedd arwyddocaol yn ymwneud â hanes anheddu yn yr ardal, sy’n tueddu yn yr un modd i osgoi ucheldiroedd diarffordd rhan dde-orllewinol yr ardal. Cysylltir Tyddyn (a dalfyrrir yn ddieithriad i ty’n) ag anheddau sy'n bodoli eisoes ar y tir caeëdig ar ymyl y cwm, ar uchder o rhwng 200 a 300m ar y cyfan. Mewn cyferbyniad â hyn, mae lluest, ac yn llai aml hafod, caban i’w cael ar dir rhywfaint yn uwch, ar uchder o ryw 300-400m neu fymryn uwchlaw hyn. Digwydd yr elfen hafod lawer yn llai aml na mewn rhai ardaloedd eraill yng Nghymru, sy’n awgrymu bod lluest yn cael ei ddefnyddio yn lle hafod yn lleol. Mae'n debyg bod y ddau air fel ei gilydd yn awgrymu trigfannau tymhorol, y mae rhai ohonynt wedi aros yn ffermydd parhaol. Ceir yr elfen bod ‘annedd’, fel yn Bodtalog, mewn sawl cwm ucheldirol. Ceir yr elfen llawer llai penodol ar bob uchder, o waelod y cwm i fyny i’r rhostiroedd uwch lle ceir ef mewn enwau lleoedd fel Esgair-y-tŷ i ddynodi, o bosibl, hen aneddiadau tymhorol. Mae’r elfennau sy’n dynodi aneddiadau o statws uwch, megis cwrt a neuadd yn llai cyffredin, a chyfyngir hwy yn ôl y disgwyl i’r tir is i’r gorllewin o Raeadr.

Gwelir perchnogaeth neu gysylltiad ag unigolion mewn nifer gymharol fach o enwau lleoedd. Ceir sawl enw priod, er enghraifft, Dafydd-shon, Iago, Ifan, Ifor, Owen, Madog, Mair a Mary, Siencyn, a Steffan, ac ambell waith enwau sy’n dynodi cysylltiadau â phobl mewn galwedigaethau neu swyddi penodol mewn cymdeithas, er enghraifft esgob, mynach, gweis/gweision, offeiriad, rhingyll, er yn achos gwyddel a bleiddiad mae’n debygol mai mewn chwedl yn unig y mae’r cysylltiad. Gelwir crib ar ran ddeheuol y rhos i’r gogledd o Ros Saith-main yn Rhiw Saeson. Cyfyngir yr elfennau esgob a mynach ill dau i’r tir is yn rhan isaf cwm Claerwen, a’r iseldiroedd i’r dwyrain o Bentref Elan, ac maent yn gysylltiedig â’r faenor Sistersaidd a fodolai yn yr ardal hon cyn diddymu’r mynachlogydd yn y 16eg ganrif. Awgrymir cysylltiadau goruwchnaturiol mewn llond dwrn o enwau lleoedd, er enghraifft rhai sy’n cynnwys yr elfennau diawl a cawr. Mae dau air sy’n dangos ffiniau, sef gororion a ffin i’w cael ar ran o’r ffin sirol i’r gorllewin rhwng Sir Faesyfed a Cheredigion.

Enwir nifer o hynafiaethau yn unigol, gan gynnwys nifer o garneddi claddu cynhanesyddol â’r elfen carn (Carn Nant-y-ffald, Carn Wen, Carn Ricet, a Charn Pant Maenllwyd) a llawer o feini hirion â’r elfen maen (Maengwyngweddw, Maen Serth, Maen Cam, a Saith-maen). Ceir y rhan fwyaf ohonynt uwchlaw 400m, ac mae'n debyg eu bod yn enghreifftiau o batrymau defnydd tir hynafol, er mewn ambell achos arall, gallai’r ddwy elfen hon gyfeirio at frigiadau creigiau naturiol. Mae dyddiad y rhan fwyaf o’r enwau ar yr hynafiaethau yn ansicr, ond trafodir y chwedlau gwerin sy'n gysylltiedig â Charn Gafallt, ar y bryn i'r de-ddwyrain o Bentref Elan fel un o’r Mirabilia Britanniae (‘Rhyfeddodau Prydain’) sydd wedi’u hatodi at gasgliad o ganol y 10fed ganrif o'r enw Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, awdur Cymreig o’r 8fed ganrif. Mae’r ddogfen yn ffynhonnell gynnar ar gyfer y chwedl Arthuraidd. O’i gyfieithu i’r Saesneg, dyma a ddywed y darn perthnasol:

‘There is another wonder in the region called Buelt [Builth]. There is a heap of stones, and one stone laid on the heap having upon it the footmark of a dog. When he hunted the swine Troynt, Cabal, which was a dog of the warrior Arthur, impressed the stone with the print of his foot, and Arthur afterwards collected a heap of stones beneath the stone in which was the print of his dog’s foot, and it is called Carn Cabal [Carn Gafallt]. And people come and take away the stone in their hands for the space of a day and a night, and on the next day it is found on its heap.’

Ceir hanes hela’r baedd gwyllt, y Twrch Trwyth, yn chwedl Culhwch ac Olwen o’r 11eg ganrif. Mae hon yn rhan o’r Mabinogion, sef casgliad o chwedlau Cymraeg o’r canol oesoedd.

Cyfeirir at hen chwareli a mwyngloddiau mewn sawl man gyda'r geiriau mwyn, plwm, chwarel, a gwaith, ac mae’r olaf i’w gael ger safle hysbys mwynglawdd. Ymhlith yr adnoddau naturiol eraill y gallai'r enwau lleoedd fod yn cyfeirio atynt mae gro.

Cyfeirir at linellau cysylltu, gan gynnwys ffyrdd a thraciau a strwythurau cysylltiedig sy'n croesi'r mynydd â geiriau cyffredin fel sarn, ffordd, croes, pont/bont, a llidiart.

(yn ôl i’r brig)