CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan


CYNLLUN CRONFA DDŴR CWM ELAN

Trawsnewidiwyd cymeriad tirwedd cwm Elan yn llwyr pan adeiladwyd y gronfa ddŵr rhwng 1893 a 1906 ar gyfer corfforaeth Birmingham. Agorwyd hi’n swyddogol â rhwysg gan y Brenin Edward VII ym 1904. O oes Fictoria ac oes Edward yn bennaf y tarddodd y dirwedd newydd syfrdanol a grëwyd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhan hon o orllewin Sir Faesyfed yn enwog oherwydd y dirwedd newydd yma, a grëwyd fel prosiect dinesig gan ddinas bell, ac mae cysylltiadau llenyddol a hanesyddol y cwm yn parhau i chwarae rhan ddylanwadol yn ein canfyddiad o gwm Elan. Yr un oedd y priodweddau a oedd wedi cyfrannu at hudoliaeth prydferthwch cwm Elan – y nentydd llifeiriol, y cymoedd serth eu hochrau a’r pellenigrwydd — a’r rheiny oedd yn golygu ei fod yn safle delfrydol ar gyfer cynllun cronfeydd dŵr Birmingham.

CPAT PHOTO 1527.29

Cronfa ddŵr Penygarreg gan edrych i lawr yr afon. Roedd cysylltiadau llenyddol cynharach yn enwog pan ddechreuodd y gwaith ar gynllun cronfa ddŵr Birmingham, ac mae’n debyg eu bod wedi cael dylanwad cyfrwys ar sawl agwedd hardd ar ei dyluniad. Llun: CPAT 1527.29.

Fel dinasoedd diwydiannol eraill Prydain, daeth Birmingham dan bwysau cynyddol yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif i ddarparu digon o gyflenwadau dŵr ar gyfer ei gweithlu a oedd yn cyflym gynyddu. Ar y pryd, tua 650,000 oedd maint poblogaeth y ddinas. Roedd y cyflenwad dŵr yn annigonol ac roedd llygredd ynddo yn aml, gan arwain at epidemigion teiffoid a cholera. Fel yn achos cynllun Corfforaeth Lerpwl ychydig flynyddoedd ynghynt yn Llyn Efyrnwy, Sir Drefaldwyn, roedd maint cyflenwad a phurdeb y dŵr yn ffactorau pwysig, a byddai Birmingham fel Lerpwl yn ceisio ateb i’r problemau hyn ym mryniau Cymru, rhyw 75 milltir o’r ddinas.

Archwiliwyd cwm Elan gyntaf fel ffynhonnell addas ar gyfer cyflenwad dŵr Birmingham ym 1870 gan Sir Robert Rawlinson. Ni wnaed dim ar ôl hynny am ugain mlynedd, hyd 1890 pan benodwyd James Mansergh, peiriannydd dŵr mwyaf enwog ei ddydd, yn beiriannydd ymgynghorol ar gyfer y prosiect. Roedd Mansergh wedi dod yn gyfarwydd â chymoedd Elan a Chlaerwen pan weithiai ar reilffordd Canol Cymru yn y 1860au hwyr. Roedd Corfforaeth Birmingham wedi ymrwymo i’r buddsoddiad sylweddol y byddai ei angen er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau dŵr yn diwallu'r anghenion dŵr ar y pryd ac yn y dyfodol, a derbyniasant argymhelliad yr ymgynghorydd i brynu cefndeuddwr cwm Elan yr oedd aelod o Bwyllgor Dŵr y gorfforaeth wedi ei ddisgrifio fel 'treasures of untold value'.

Roedd cynllun cwm Elan, fel cynllun cynnar Lerpwl yn Llyn Efyrnwy, yn rhydd o’r dadleuon gwleidyddol a gododd ynghylch cronfeydd dŵr yng Nghymru i gyflenwi dinasoedd Lloegr yn ail hanner yr 20fed ganrif, fel yn achos cronfa ddŵr Tryweryn ger y Bala, a adeiladwyd ar gyfer Lerpwl yn y 1960au cynnar. Roedd yr ychydig wrthwynebiad a welwyd yn ymwneud â mater iawndal ariannol â’r aflonyddu ar gyflenwadau dŵr a oedd eisoes yn bodoli. Gellid disgwyl y byddai arglwydd y faenor, Robert Lewis Lloyd o Nantgwilt yn gwrthwynebu, er bod y pwyllgor a oedd yn rheoli’r cynllun ‘very prudently therefore came to terms with that gentleman early in the proceedings’. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad difrifol i adeiladu’r draphont ddŵr 73 milltir i gronfa ddŵr Frankley ger Birmingham. Nododd Mansergh mewn dull coeglyd braidd ym 1894 bod y ‘landowners being well enough aware nowadays that they have little chance to stop a great and useful scheme of this character, and that their prudent policy is to acquiesce, with the chance of bleeding the promoters heavily for interfering with their property. Experience showing that in this process they are perhaps more than fairly proficient’. Hefyd cafwyd ymchwiliad helaeth i hawliau a breintiau’r cominwyr lleol.

CPAT PHOTO 03-c-0602

Traphont Garreg ddu, yn croesi cyffordd cronfeydd Caban-coch a Charreg ddu, sy’n cludo'r ffordd i fyny cwm Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0602.

Daeth y mesur seneddol a roddai'r grym cyfreithiol angenrheidiol i Gorfforaeth Birmingham allu dechrau'r cynllun yn gyfraith ym 1892. Roedd pennu ardal y cefndeuddwr y byddent yn ei chaffael, yng ngeiriau Mansergh ei hun yn ‘a comparatively easy problem (considered from a water engineer’s point of view), because the contraction of the valley at Caban-coch, and the opening out above of the wide expanse of flat land, fixed at once the position of the dam of the lowest reservoir’. Mapiodd yr Arolwg Ordnans gwmpas y cefndeuddwr ar ei gynlluniau ar ôl archwiliad manwl, a chrëwyd model tri-dimensiwn wrth raddfa. Nodwyd y cefndeuddwr ar y llawr trwy osod pileri cerrig bob hyn a hyn. Roedd Birmingham i fod i brynu’r cefndeuddwr cyfan, ardal o ryw 71 o filltiroedd sgwâr, yr oedd Mansergh yn ei ystyried yn ‘abnormally extensive tract of country to be secured in a mountain district’, yn ôl safonau 1894, ac roedd yn gyfran fawr o’r tiroedd yr oedd Rhys ap Gruffydd wedi eu rhoi i'r fynachlog Sistersaidd a oedd newydd ei sefydlu yn Ystrad Fflur yn 1184.

Roedd teulu Lloyd Nantgwilt wedi cadw cofnodion o’r glawiad ers 1870, oedd yn dangos mai tua 70 modfedd oedd glawiad blynyddol ardal y cefndeuddwr ar gyfartaledd. Tua 100 miliwn o alwyni'r dydd fyddai hyn, dros ardal gyfan y cefndeuddwr. O’r swm hwn, roedd y mesur seneddol yn darparu ar gyfer cyflenwi tua 27 miliwn o alwyni o ddŵr digolledu i afon Elan bob dydd, er bod y ddeddf yn caniatáu i gyfran o hyn gael ei neilltuo i greu llifeiriaint yn awr ac yn y man i helpu’r pysgod i symud i fyny’r afon.

Roedd y cynllun gwreiddiol, a fyddai’n caniatáu ar gyfer ehangiad yn y dyfodol, yn cynnwys chwe chronfa ddŵr, tair ar afon Elan- sef Caban-coch (yn rhannol ar afon Claerwen), Penygarreg a Chraig Goch, a thair ar afon Claerwen, sef Dolymynach, Ciloerwynt a Phant-y-beddau. Y bwriad erioed oedd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud ‘by instalments to meet the growing requirements of the districts to be supplied’. Roedd tair cronfa ddŵr Elan yn cyflenwi digon o ddŵr i ddiwallu gofynion y ddinas yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif, ac oherwydd hynny ni chodwyd argaeau Ciloerwynt a Phant-y-beddau wedi’r cwbl. Adeiladwyd sylfeini argae Dol-y-mynach a thwnnel Dolymynach o afon Claerwen i afon Elan ar gyfnod cynnar, fodd bynnag, gan y byddai safle’r argae yn cael ei foddi unwaith y byddai cronfa ddŵr Caban-coch wedi’i llenwi, ond ni orffennwyd yr argae fel y bwriadwyd yn wreiddiol, a chronfa ddŵr fechan yn unig a grëwyd. Byddai un argae llawer mwy, a adeiladwyd ar ddiwedd y 1940au a dechrau’r 1950au yn disodli’r cynnig gwreiddiol yng nghwm Claerwen a disgrifir yr argae hwn isod. Pâr cymesur o bwerdai trydan dŵr islaw argae Caban-coch ynghyd â'u tyrbinau a'u generaduron gwreiddiol a oedd yn ffurfio rhan hanfodol o gynllun cronfa ddŵr cwm Elan.

CPAT PHOTO 03-c-0681

Cronfa ddŵr Dol-y-mynach a’i hargae anorffenedig ar y dde ym mlaendir y llun. Llun: CPAT 03-c-0681.

Roedd technoleg y cyfnod yn ffafrio adeiladu argaeau cymharol uchel o garreg ar draws cymoedd ag ochrau serth. Un o nodweddion y cynllun yr oedd Mansergh yn ei ystyried yn 'novel and unique' oedd ei fod yn angenrheidiol i’r dŵr gael ei dynnu uwchlaw'r argae isaf yng Nghaban-coch er mwyn sicrhau bod y draphont ddŵr rhwng Elan a Birmingham yn ddigon uchel. Tynnir y dŵr, felly, ger tŵr y Foel, ychydig uwchlaw cored islaw traphont Garreg-ddu. Mae’r fan hon rhyw 40 troedfedd dan wyneb y gronfa ddŵr fel rheol, ac mae angen y draphont i fynd â'r ffordd yn uwch i fyny cwm Claerwen, gan ddisodli'r hen ffordd a oedd ar waelod y cwm. Cludir y dŵr o dŵr y Foel trwy dwnnel sydd wedi’i gloddio islaw bryn y Foel, ac sy’n rhedeg i’r gwelyau ffiltro gyferbyn â phentref Elan, ac o’r fan honno i gyfeiriad Rhaeadr. Tua 120 troedfedd ar gyfartaledd oedd uchder y tri argae cyfan, sef Caban-coch, Penygarreg a Chraig Goch, ac roedd trwch eu seiliau wedi’i gynllunio yn y fath fodd fel ei fod bron yn gyfartal â'u huchder.

O flociau afreolaidd o rwbel wedi’u hymgorffori mewn concrit yr adeiladwyd yr argaeau yn sylfaenol. Roedd y leinin concrit yn chwe throedfedd o drwch, ac roedd gorchudd y blociau i'r ddau gyfeiriad yn cynnwys cerrig wedi'u siapio'n benodol, a'u gosod fel gwaith maen llanw. Daeth y cerrig ar gyfer craidd yr argaeau yng Nghaban-coch, Penygarreg a Chraig Goch o’r ddwy chwarel a agorwyd yn arbennig ar yr un brigiad amryfaen ar y ddwy ochr i afon Elan ger Caban coch, sef chwarel Cigfran i'r gogledd a chwarel Craig Cnwch i'r de, a chwarel Aberdeuddwr ar Gerrig Gwynion, ychydig i’r de o Raeadr. Daeth y cerrig arwynebol a cherrig eraill wedi’u trin o’r chwareli yn Llanelwedd ger Llanfair ym Muallt ac o Bont-y-pridd. Daeth y sment o weithfeydd ar afon Medway yn ne-ddwyrain Lloegr, a chludwyd ef dros y môr i Aberystwyth ac yna ar y trên i gwm Elan. Roedd cost cynllun cwm Elan yn y pen draw ychydig yn uwch na’r gyllideb a neilltuwyd ar ei gyfer oherwydd na ellid dod o hyd i gerrig adeiladu addas ger unrhyw un o’r argaeau ar wahân i Gaban-coch, a’r ffaith fod angen dod â cherrig ychwanegol i mewn o leoedd eraill.

Cludwyd y deunyddiau adeiladu i gwm Elan ar Reilffordd Cwm Elan, a adeiladwyd gan Gorfforaeth Birmingham yn benodol ar gyfer y gwaith dŵr. Y rhan gyntaf o’r rheilffordd i gael ei hadeiladu oedd yr adran dair milltir o hyd o Gyffordd Rhaeadr ar adran canolbarth Cymru Rheilffordd Canol Cymru i’r depo islaw safle argae Caban-coch, ar lan ogleddol afon Elan. Roedd y depo hwn yn cynnwys sied oeri sment, storfeydd cyffredinol, depo glo, gweithdai i seiri, gofaint, ffitwyr ac adeiladwyr wagenni, a melinau llifio. 33 milltir oedd cyfanswm y gwahanol draciau rheilffordd a oedd yn arwain at bob un o’r argaeau, ac roedd chwech o locomotifau yn gweithio arnynt a allai gludo 1,000 o dunelli bob dydd.

Yn ogystal â chludo deunyddiau, defnyddid y rheilffordd hefyd ar gyfer cludo gweithwyr o’r cytiau pren yn yr anheddiad dros dro ar lan ddeheuol yr afon, ar y safle y saif pentref Elan ei hun erbyn hyn. Dyna lle fyddai’r gweithwyr medrus, y gweithwyr heb sgiliau a'r gweithwyr clercaidd a oedd yn gweithio ar y cynllun oll yn byw. Holwyd yn ofalus gynllunwyr y cynlluniau peirianyddu sifil mawr y cyfnod er mwyn pennu’r arfer gorau o ran cynnal disgyblaeth a chyfreithlondeb, osgoi meddwdod a salwch o fewn gweithlu mawr, a oedd yn cynnwys dynion yn bennaf. Cododd problemau o’r fath ychydig flynyddoedd ynghynt pan gyrhaeddodd y mewnlifiad gweithwyr mewn lleoliad yr un mor ddiarffordd i adeiladu cynllun cronfa ddŵr Corfforaeth Lerpwl yn Llyn Efyrnwy, Sir Drefaldwyn. Darparwyd ysbytai, ysgoldy, neuadd gyhoeddus, depo ar gyfer y frigâd dân a ffreutur i’r pentref. Roedd y ffreutur yn unigryw am ei chyfnod gan ei bod yn dŷ cyhoeddus bwrdeistrefol, ac roedd yr elw yn cael ei neilltuo ar gyfer lles cymdeithasol y gymuned, ac yn talu am yr ystafell genhadol, ystafell hamdden, campfa, llyfrgell rhad ac am ddim, tiroedd hamdden a baddondy. Rheolwyd mynediad i'r pentref â phont grog dan warchodaeth dros afon Elan.

CPAT PHOTO 1528.25

Argae Craig Goch, gan edrych i fyny’r afon i gyfeiriad blaen cwm Elan. Llun: CPAT 1528.25.

Fel yn achos y gweithiau peirianyddol mawr eraill, deuai’r gweithlu o bob rhan o Brydain. George Yourdi oedd y peiriannydd preswyl trwy gydol y gwaith. Roedd yn ‘expert in cement work’ ac yn dod o dras Roegaidd a Gwyddelig. Roedd wedi ‘tramped miles up and down the valley, inspecting, directing, controlling, everywhere, on the coldest of frosty winter days or in the most torrid summer heat.’ Ymhlith y peirianwyr eraill a oedd yn ymwneud â’r gwaith oedd Eustace Tickell a oruchwyliodd adeiladu argae Penygarreg, ac fel y soniwyd mewn adran gynharach, a gynhyrchodd y llyfr o'r enw The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1894. Trigai Yourdi yn y tŷ yn Nantgwyllt tra cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith ei gyflawni, ac roedd y prif swyddfeydd ar safle islaw cored Garreg-ddu, ger cymer afonydd Elan a Chlaerwen.

Gwnaed y gwaith archwilio a phrisio a phennu iawndal o fewn cwm Elan gan y tirfesurwr a’r pensaer Stephen W.Williams a benodwyd gan James Mansergh a oedd eisoes wedi cydweithio ag ef ar y cynlluniau rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru. Roedd Williams hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r pentref ar gyfer y gweithwyr. Roedd Williams wedi bod yn gweithio ers amser maith ar ei ymchwil i dai Sistersaidd Cymru, ac roedd yn gyfarwydd â hynafiaethau lleol. Roedd ganddo ran weithredol yn y dasg o sicrhau bod hynt Rheilffordd Cwm Elan yn osgoi safle capel y maenordy ger Gwesty Cwm Elan. Williams ddyluniodd hefyd yr hyn a ddaeth yn swyddfeydd Bwrdd Dŵr Corfforaeth Birmingham yn Stryd y De, Rhaeadr, a godwyd yn wreiddiol at ei ddefnydd ei hun ym 1893. Ef oedd pensaer eglwys Nantgwyllt ger pen deheuol traphont Garreg-ddu, a oedd yn disodli un a foddwyd gan ddyfroedd y gronfa ddŵr, a adeiladwyd ym 1898 a’i hagor ym 1903. Credir bod y corbelau a gerfiwyd y tu mewn i'r eglwys yn cynnwys darluniad o Stephen Williams ac efallai o James Mansergh.

Roedd yn anochel y byddai’r tai a’r adeiladau a oedd yn bodoli yng nghwm Elan yn cael eu dymchwel a'u boddi. Fel y nododd Mansergh ym 1894

‘In the execution of these works (in addition to Nantgwilt already mentioned), there will be submerged the residence of Cwm Elan, the little church at Nantgwilt, the school, the Baptist chapel, and twenty farm and other buildings. With these, practically the whole of the valley lands now worked for agricultural purposes will be covered, leaving the area from which the water will be collected a vast tract of nearly uninhabited moorland, used only as sheepwalk.

All the manorial and other rights have been acquired so as to stop mining or quarrying of any description, and ample powers are possessed in the Act to prevent any chance of pollution, and ensure the collection of the water in its pristine purity’.

Mae’n amlwg bod sylw gofalus wedi’i roi i ddylunio a chynllunio'r gwaith er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar dirwedd cwm Elan. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gosodwyd yr iardiau gwaith, y ffatrïoedd prosesu, tyrchfeydd rheilffyrdd a gweithiau hanfodol eraill o’r fath mewn mannau lle y byddai dŵr y gronfa yn eu boddi maes o law. Mae rhai o elfennau'r gwaith i'w gweld o hyd, fodd bynnag, gan gynnwys rhan o hynt traciau’r rheilffyrdd i argaeau Penygarreg a Chraig Goch, y bont reilffordd o frics ar draws Nant Hesgog yn ogystal â’r cysylltiad â chyn Reilffordd Canol Cymru yn Rhaeadr.

Mae sylfeini nifer o’r hen dai i’w gweld pan fydd y dŵr yn isel, gan gynnwys rhai Cwm Elan a Nantgwyllt, yr ardd furiog a'r bont ar y ffordd yn Nantgwyllt, a'r hen ffermdai yn Nhŷ Nant islaw cronfa ddŵr Penygarreg a Dol-faenog islaw cronfa ddŵr Garreg-ddu. Mae elfennau amrywiol y gwaith adeiladu i’w gweld hefyd pan fydd sychdwr, yn arbennig iard y seiri maen i’r de-orllewin o argae Caban-coch, a sylfeini carreg a phren cwt gweithwyr ychydig i’r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch, sy’n debyg i’r cwt cyfan sy’n dal i sefyll ger Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

CPAT PHOTO 1526.05

Yn y blaendir, gwelir caeau, muriau a sylfeini'r hen dŷ yng Ngharreg-ddu, islaw cronfa ddŵr Caban-coch, a roddodd ei enw i draphont Garreg-Ddu. Llun: CPAT 1526.05.

Mae pensaernïaeth beirianyddol y prosiect yn golygu bod gan yr ardal un ddelwedd gadarn, gan ei bod yn eglur bod tirwedd gyfan y cronfeydd wedi’i dylunio’n ofalus. Roedd defnyddioldeb a golygfeydd ysblennydd y naill mor bwysig â’r llall. Mae’r ffyrdd a’r planhigion ar ochr y llyn, y golygfannau sydd wedi’u llunio’n benodol, yn enwedig yr un islaw argae Penygarreg, a’r effeithiau darluniaidd megis lleoliad a chyfosodiad eglwys Nantgwyllt, traphont Garreg-ddu a thŵr y Foel, canolbwynt y cynllun cyfan, yn awgrymu estheteg lywodraethol gadarn. Mae traphont Garreg-ddu yn un o elfennau gweledol pwysig y cynllun, ac er ei fod ymhell uwchben y gored danddwr, yng ngeiriau Haslam, mae’n ‘gives the illusion on of crossing a shallow lake’. Mae bwriadau Mansergh yn eithaf eglur, yn datgan ‘when more than full water will overflow from all the reservoirs in picturesque cascades down the faces of the dams’, ac fe gyfrifwyd y byddai argae Caban-coch ar gyfnod gorlifiad mwyaf yn ffurfio ‘probably the finest waterfall in this country’.

Torrwyd ffyrdd newydd yn lle’r ffyrdd a'r lonydd a oedd yn cysylltu'r ffermydd a oedd ar ôl yng nghymoedd Elan a Chlaerwen, ond maent yn golygu mwy na hyn. Roedd teithiau cerbyd ar lannau rheiliog y llyn yn rhan o’r cysyniad gwreiddiol a oedd yn rhoi mynediad i dirwedd y bwriadwyd iddi gael ei gweld. Tirwedd oedd hon, fel Llyn Efyrnwy o'i blaen, a fyddai'n denu llawer o ymwelwyr, yn enwedig, o bosibl, o Birmingham. Byddai pob argae yn dwyn plac yn dynodi ei faint a chyfaint y dŵr yr oedd yn ei gronni. Ymddengys bod Gwesty Cwm Elan, ar y ffordd tuag at Raeadr, yn gyfoes â’r argae ar y cyfan. Mae ei adain fawr a ddefnyddir ar gyfer achlysuron yn awgrymu bod ganddi ran gynnar yn y gwaith o hybu twristiaeth yn yr ardal.

Mewn sawl ffordd, tirwedd wedi’u chynllunio’n llwyr oedd hon: mae’r argaeau a’r tyrau falfiau yn ddigyffelyb ynddi, ond mae'r ffyrdd a gynlluniwyd mor ofalus a'u rheiliau, eu pontydd a’u waliau cynnal oll yn rhan o gynllun y gellir mapio ei gwmpas yn nosbarthiad hyd yn oed y mân-nodweddion pensaernïol megis ceuffosydd a pharapedau. Mae’r gyfres o waliau cynnal ar ochrau'r ffyrdd ymhlith y pwysicaf o'r rhain: Mae’r rhain yn amrywio o gerrig ag wyneb o graig arnynt, rwbel o bob math, a blociau syth, wedi’u mewnlenwi â waliau cerrig sychion. Mae’n debyg i’r olaf ddeillio o draddodiad brodorol lleol o godi muriau o amgylch y caeau. Tirwedd oedd hon a gynlluniwyd, fodd bynnag, i asio â gweddillion yr hyn a oedd wedi bod o'r blaen. Byddai’r caeau a’r ffermydd mwy cyfoethog, a'r ffyrdd a'r pontydd yn diflannu dan y dyfroedd. Yr hyn a oroesodd oedd gweddill y coetir llydanddeiliog ar ochrau serth y dyffryn a oedd heb eu hamaethu, a’r caeau a’r tyddynnod mwy ymylol ar ymylon y rhostir.

CPAT PHOTO 1539.19

Waliau ar ochrau’r ffordd mewn arddull gyffredin ger cronfa ddŵr Dol-y-mynach. Llun: CPAT 1539.19.

Fel mewn achos nifer o gynlluniau mawr cronfeydd dŵr ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed, plannwyd coed ar raddfa fawr yn lle gadael i anifeiliaid bori’r tir ac fel dull o reoli hylendid y dŵr ffo, yn enwedig yn ymyl y gronfa ddŵr. Yn ôl William Linnard, ‘over 1,000 acres had been planted before 1918, mainly with Scots pine and European larch, but also with Japanese larch, Douglas fir, Sitka spruce and Corsican pine. One plantation of European larch, with Scots pine for shelter at the higher elevations, planted in 1904-05, was awarded the Silver Medal at the Royal Agricultural Society’s show in 1919’. Asiwyd y coed a blannwyd yn ofalus â'r coed hynafol llydan-ddeiliog oedd yn bodoli eisoes a'r coetiroedd llydan-ddeiliog a ailblannwyd o amgylch ochrau'r cwm. Mae gweddillion y rhain yn goroesi o amgylch ymylon cronfeydd dŵr Caban-coch, Garreg-ddu a Phenygarreg. Ni fyddai coed yn cael eu plannu wedi hynny yn rhan fwyaf o ddalgylch cronfeydd cwm Elan fodd bynnag, gan fod profiad mewn ardaloedd eraill yn dangos bod y gronfa’n colli dŵr trwy drydarthiad oherwydd y coedwigiad, yn wahanol i lawer o’r bryniau cyfagos yng Ngheredigion a gogledd Brycheiniog sydd erbyn hyn wedi’u gorchuddio â choedwig a blannwyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

CPAT PHOTO 1527.31

Tŵr falf Penygarreg, yn ystod cyfnod o ddŵr isel. Llun: CPAT 1527.31.
Mae gan y bensaernïaeth beirianyddol hon lofnod arddulliadol a geirfa luniadol gref. Math ar faróc ddinesig ydyw, ac mae'n theatraidd dros ben. Yr enw poblogaidd arni yw Baróc Birmingham. Mae’n dibynnu ar ormodedd: defnyddir y manylder, sydd ar raddfa fawr iawn, ar gerrig yr argaeau, er enghraifft, yn fwriadol i awgrymu cadernid; roedd y deunyddiau, mae’n debyg, yn rhai lleol ar y cyfan, ac mae’n debygol bod dylunwyr y cynllun yn chwilio am arddull a fyddai rhywsut yn addas ar gyfer tiroedd garw’r ardal; y rhyfeddu maith at bethau darluniaidd mewn pensaernïaeth Seisnig a phensaernïaeth y dirwedd yw’r cyd-destun, yn rhannol o leiaf.

Adeiladwyd Pentref Elan, llawer ohono’n dyddio o 1909, i letya’r gweithwyr cynnal a chadw, gan ddisodli’r anheddiad pren cynharach i letya’r gweithlu a oedd yn adeiladu’r gronfa ddŵr. Mae’r pentref yn enghraifft o gasgliad perffaith o adeiladau ar yr arddull celf a chrefft, gan gynnwys tai, swyddfa’r stad a strwythurau ategol eraill. Unwaith eto mae’n defnyddio cerrig ac, o bosibl, llechi lleol, ond mae’n defnyddio arddulliau a oedd yn gyffredin yn y symudiad celf a chrefft, ac er y gwelwyd y mudiad fel diwygiad brodorol, ychydig oedd a wnelo ef â thraddodiadau rhanbarthol penodol. Dylid ystyried y pentref yn enghraifft arall o’r darluniaidd, wedi’i gyfansoddi’n ofalus iawn ac yn integreiddio mannau agored a phlanhigion fel rhan o’r cynllun cyffredinol. Mae ei iaith bensaernïol gymedrol yn arbennig o addas i natur gartrefol ei bwrpas, yn cyferbynnu â nerth cadarn pensaernïaeth y cronfeydd eu hunain, ac yn cyd-fynd â’r syniadau ynghylch addasrwydd at y diben a fyddai wedi bod yn gyffredin ar y pryd.

Trwy weinyddiaeth uniongyrchol y gwnaed y gwaith hwn yng nghwm Elan ei hun. Contractwyr, ar y llaw arall, a adeiladodd y draphont ddŵr, ac nid oes yma gymaint o ymgais i asio’r strwythur newydd â’i amgylchoedd. Mae 73 milltir y draphont ddŵr, yn cysylltu cwm Elan â’r gronfa wasanaethu yn Frankley, tua 7 milltir o ganol Birmingham, rhyw 600 uwchlaw lefel y môr, sef cwymp o ryw 170 troedfedd. Mae’r dŵr yn llifo ar wasgedd atmosfferig mewn pibell â leinin o frics y tu mewn i ffos torri-a-gorchuddio am hanner ei siwrnai, ond lle mae’r draphont ddŵr islaw’r graddiant hydrolig, er enghraifft, lle mae’n croesi cymoedd, mae’n llifo mewn pibelli haearn dan bwysau, a phan adeiladwyd hi gyntaf, roedd yn cynnwys tua 13 milltir o dwnneli. Roedd y cynllun cychwynnol yn defnyddio dwy bibell 42 modfedd o ddiamedr ac ychwanegwyd dwy bibell arall 60 modfedd o ddiamedr atynt yn 1919 a 1961, gan gynyddu cynhwysedd y traphontydd dŵr i 75 miliwn galwyn y dydd. Mae ‘Siambr All-lif’ frics sy’n unigryw ac yn ymwthiol braidd i’r gogledd-ddwyrain o fferm Coed-y-mynach yn nodweddiadol o’r strwythurau sy’n nodi llinell y draphont ddŵr sy’n ymestyn ar draws Sir Faesyfed a Chanoldir Lloegr i gronfa ddŵr Frankley, gan osgoi trefi Rhaeadr, Nantmel, Bleddfa a Cleobury Mortimer.

CPAT PHOTO 1525.07

Rhan o Bentref Elan, a godwyd i letya’r gweithwyr cynnal a chadw ym 1909. Llun: CPAT 1525.07.

Byddai cysylltiadau rhamantaidd cwm Elan yn cael eu hailgynnau yn y nofel The House Under the Water gan Francis Brett Young, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1932. Cafodd Young ei eni a’i fagu yn Halesowen yn Swydd Gaerwrangon, ac roedd yn naw oed pan ddechreuodd y gwaith ar gronfeydd dŵr cwm Elan. Yn y rhagair i argraffiadau diweddarach y nofel, fe ysgrifennodd:

‘In every childhood there are, I suppose, certain features in the physical environment which exercise a preponderating effect on the imagination. Such, for me, without doubt, was the building of the Elan Valley reservoirs which impounded the wild waters of the Rhayader Massif in Radnorshire, diverting them from their natural outlet, which was by way of the Wye and the Bristol Channel to the Atlantic, into the sewers of a city which lay on the eastern side of the central watershed, and discharging them finally, by way of the Trent, into the North Sea.’

Roedd The House Under the Water yn un o gyfres o nofelau gan Young a oedd wedi’u lleoli yng Nghanoldir Lloegr mewn lleoliadau ‘like beads along the string’, sef cynllun pibelli cwm Elan. Yn yr achos hwn roedd wedi’i lleoli ar y gororau mewn ardal yr oedd awduron o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed fel A. E. Housman a Mary Webb wedi ei gwneud yn boblogaidd. Roedd ei rhagflaenydd, Undergrowth, a ysgrifennwyd ar y cyd â’i frawd a’i chyhoeddi ym 1911 pan oedd yn ei ugeiniau, hefyd yn disgrifio adeiladu argae mewn cwm yng Nghymru. Mae ei nofel The Black Diamond wedi’i lleoli ar hynt traphont ddŵr Birmingham o gwm Elan. Mae The House Under the Water yn cofnodi hanesion rhamantus Griffith Tregaron a’i deulu wrth iddynt symud o Sir Gaerwrangon i’r plas teuluol yn Nant Escob, sydd wedi’i leoli mewn cwm serth yng Nghymru, a’r orfodaeth arnynt yn y pen draw i adael y tŷ a’r cwm wrth iddo foddi yn raddol yn nyfroedd afon Garon. Roedd y cyferbyniad rhwng gerwinder y cymoedd a’r mynyddoedd Cymreig a oedd serch hynny o fewn cyrraedd tirwedd amaethu fwy croesawus Canoldir Lloegr yn un o themâu gwaelodol y nofel hon gan nofelydd yr oedd edmygedd mawr iddo yn ystod ei oes, er bod rhai yn ei ystyried yn or-deimladwy. Roedd natur y lle wedi newid am byth, ond yn ddiamau fe fynegodd Phillipa, arwres y nofel, farn boblogaidd ynghylch cwm Elan, sef bod ysbryd y lle, a oedd yn ‘resurgent, inviolable, had perfected out of man’s disfigurement, a new loveliness surpassing any that conscious man could achieve’:

‘a new earth, if not a new heaven. For the earth that she knew and loved had passed away and the waters lay everywhere . . . in two shining lakes whose clear surface, swept by the draughts curling through the valley, danced with crystalline wavelets, which lapped their shores in an innocent gaiety, or, when flaws of wind passed, spread mirrors of indigo in whose depths the reflected mountains appeared to dream, as though lost in the contemplation of their own still beauty’.

CPAT PHOTO 03-c-0659

Argae Claerwen, a ddechreuwyd ym 1946, ac a agorwyd yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth ym 1952 fel un o’i hymrwymiadau swyddogol cyntaf. Llun: CPAT 03-c-0659.

Daeth rhybudd yn sgîl sychder difrifol 1937 y byddai angen i ddinas Birmingham gynyddu ei chyflenwad dŵr, ac er bod cynlluniau ar gyfer cronfa newydd yn eithaf datblygedig erbyn 1939, ac yn aros am fesur seneddol pellach, gohiriwyd y gwaith adeiladu oherwydd dechrau’r Ail Ryfel Byd. Ystyrid argaeau a chronfeydd dŵr cwm Elan yn dargedau amlwg i’w difrodi neu eu bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan y byddai hyn yn bygwth prif gyflenwad dŵr Birmingham, a byddai gweithwyr ac unedau’r Gwarchodlu Cartref yn eu gwarchod trwy gydol y rhyfel. Mae dau safle caerau tanddaearol chweongl o frics coch yng Nghoed y Foel ar y gyffordd rhwng cronfeydd dŵr Caban-coch a Garreg-ddu yn olion gweladwy o’r cyfnod. Byddai argae cerrig bychan 35 troedfedd o uchder a adeiladwyd ar draws Nant-y-gro uwchlaw argae Caban-coch, yn gynnar ar ddiwedd y 19eg ganrif i gyflenwi pentref y gweithwyr yn chwarae rhan hynod ym misoedd Mai a Gorffennaf 1942, gan iddo gael ei ddefnyddio yn ystod y paratoadau cynnar a chyfrinachol iawn ar gyfer cyrchoedd ‘Dambusters’ Barnes Wallis ar argaeau dyffryn Ruhr ym 1943. Mae’r argae yn Nant-y-gro a fomiwyd i’w weld yn yr un cyflwr fwy neu lai ag y gadawyd ef yn ystod y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel aed ati unwaith eto i helaethu cynhwysedd cronfeydd dŵr cwm Elan. Roedd y datblygiadau ym maes peirianneg a mecaneg a ddigwyddodd ar ddechrau'r 20fed ganrif wedi caniatáu adeiladu argae lletach ac uwch nag a ragwelwyd yn wreiddiol, tua 1.5 cilometr i lawr yr afon o'r argae a fwriadwyd ar gyfer cronfa ddŵr Pant-y-beddau. Dechreuwyd adeiladu’r gronfa ym 1946 ac agorwyd hi yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth ym 1952 fel un o’i hymrwymiadau swyddogol cyntaf, gan ddyblu bron iawn y cyflenwad dŵr o Gwm Elan i Birmingham

Roedd tua 470 o ddynion wedi gweithio i adeiladu'r argae, yn 56 metr o uchder ac yn 355 metr o led, ac yn wahanol i'r gweithlu a fu'n adeiladu'r cronfeydd cynharach, roedd pob un ohonynt yn byw yn y gymuned leol ac yn cael eu cludo mewn cerbydau ffordd i'r safle. Roedd y gweithlu’n cynnwys tua 100 o seiri maen o’r Eidal oherwydd bod yna brinder crefftwyr medrus yn sgîl y ffaith eu bod wrthi'n atgyweirio adeiladau a ddifrodwyd mewn sawl dinas Brydeinig yn ystod y rhyfel, gan gynnwys gwaith adfer ar y Senedd-dy yn Llundain. Cludid y rhan fwyaf o’r deunyddiau ar y ffordd o depo’r rheilffordd yn Rhaeadr.

Hon fyddai’r gronfa ddŵr fwyaf yng nghymhlyg cwm Elan. Mae wedi’i hadeiladu o goncrid, ond ar gost ychwanegol sylweddol o ran arian a llafur, gosodwyd meini ag wynebau cerrig o Dde Cymru a Swydd Derby arno ac ymgorfforwyd nodweddion dyluniad eraill fyddai’n sicrhau ei fod yn cyd-fynd â safonau esthetig yr argaeau cynharach yng Ngwm Elan. Rhyddheir dŵr o’r gronfa gan un o ddwy bibell sy’n 1.2 metr ei diamedr y naill ochr i waelod yr argae, sy'n gollwng y dŵr i afon Claerwen.

CPAT PHOTO 1526.14

Falfdy’r Foel ar gronfa ddŵr Garreg-ddu, lle tynnir y dŵr i ddechrau ar ei daith i gronfa ddŵr Frankley i’r de o Birmingham. Mae rhan isaf y tŵr wedi’i guddio fel arfer islaw wyneb y gronfa ddŵr. Llun: CPAT 1526.14.
Rhoddwyd ystyriaeth weithredol i’r cynigion pellach i helaethu cynhwysedd cronfeydd dŵr cwm Elan yn gynnar yn y 1970au, gan ganolbwyntio ar ‘Argae Uchel’ newydd a fyddai i bob pwrpas yn disodli argae Craig Goch. Ni roddwyd y cynllun ar waith, fodd bynnag, er ei bod yn amlwg o adroddiad a gyflwynwyd ym 1973 y byddai’r gwaith peirianneg newydd hwn wedi bod yn groes i’r traddodiad:

‘at the time of their construction these structures were technological achievements of the highest order. A new and higher dam at Craig Goch would, in our view, best be designed in a style appropriate to its size and the times in which we live.’
Yn ogystal â’r tai tyrbinau gwreiddiol islaw argae Caban-coch, ychwanegwyd tyrbinau trydan dŵr at argaeau Claerwen, Craig Goch a Phenygarreg a thŵr y Foel ym 1998. Mae’r safleoedd generadu wedi’u cuddio cyn belled ag y mae modd, ac maent wedi’u cysylltu â cheblau tanddaearol.

Rheolwyd Stad Elan i amddiffyn safon a swm y cyflenwadau dŵr ers 1892, ac yn rhannol o ganlyniad i hyn, mae ei rhostiroedd, ei chorsydd, ei choetiroedd, ei hafonydd a’i chronfeydd dŵr yn bwysig ar lefel genedlaethol i blanhigion a bywyd gwyllt. Heddiw mae’r stad 17,402 hectar wedi ei rhannu yn 43 tyddyn, pump ohonynt wedi’u rheoli’n uniongyrchol gan y stad a’r gweddill gan denantiaid Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Defnyddir y rhostir o fewn cefndeuddwr y cronfeydd dŵr ar gyfer ffermio defaid yn bennaf, er bod yno hefyd nifer gyfyngedig o wartheg a llond dwrn o ferlod mynydd Cymreig lled-wyllt.

(yn ôl i’r brig)