CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Cwm Elan


CLUDIANT A CHYFATHREBU CYNNAR

Traciau a Llwybrau Porthmyn

Sefydlwyd sawl trac a llwybr ar draws y dirwedd hanesyddol ers y dyddiau cynnar. Mae’n sicr bod y llwybrau cynnar wedi cynnwys rhai a roddodd fynediad i aneddiadau cynnar cymoedd Elan a Chlaerwen o Ddyffryn Gwy, yn ogystal â’r llwybr dros y mynyddoedd o Ddyffryn Gwy i Gwmystwyth trwy ran uchaf cwm Elan. Awgryma’r gwersyll cyrch Rhufeinig ar Esgair Perfedd i’r linell gyswllt yma gael ei defnyddio o leiaf oddi ar adeg y Rhufeiniaid. Dangosir y llwybr hwn ar nifer o fapiau o ddiwedd y 17eg ganrif a dechrau’r 18fed, gan gynnwys map Morden o Dde Cymru a gyhoeddwyd yn Camden’s Britannia ym 1695. Ymhlith y llwybrau cynnar eraill a oedd yn croesi Elenydd oedd yr un a oedd yn cysylltu cwm Claerwen â rhan uchaf dyffryn Teifi a Thregaron, ac un arall sy’n mynd ar ei hynt dros y mynydd o gyfeiriad rhan uchaf dyffryn Teifi tuag at Aberglanhirin yn rhan uchaf cwm Elan, ac yna yn uniongyrchol i lawr i ddyffryn Gwy ger Llangurig.

Roedd llawer o’r llwybrau cynnar hyn yn addas ar gyfer cerdded neu farchogaeth yn unig, er y gwyddys i rywrai ddefnyddio sled olwynion a dynnid gan geffylau yn yr ardal cyn dyfodiad trafnidiaeth fecanyddol. Roedd yn ddelfrydol ar gyfer cludo llwythi o fawn, gwair, grug neu hyd yn oed rhedyn ar draws y rhostir gwlyb ac ochrau serth y cwm. Tynnodd Iorwerth Peate ffotograff o sled o’r math yma, ffurf nodweddiadol ar drafnidiaeth amaethyddol ar ffermydd cynnar Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed, yng ngwm Elan ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd nifer o’r llwybrau dros y mynyddoedd yn ffurfio rhan o rwydwaith llwybrau porthmyn cydnabyddedig Sir Faesyfed, i gysylltu ffermydd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion â threfi marchnad Canoldir Lloegr, masnach a oedd yn ei anterth yn y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg. Awgrymwyd mewn llyfrau cyfrifon llwybrau porthmyn y 19eg ganrif, mewn mapiau cynnar a thystiolaeth gwrthglawdd ac enwau lleoedd, bod pedwar llwybr yn croesi Elenydd. Roedd y llwybr porthmyn mwyaf gogleddol ar Elenydd yn arwain i Amwythig a gogledd Canoldir Lloegr. Roedd yn ymestyn o Gwmystwyth (Ceredigion), ar hyd ran uchaf cwm Ystwyth ac ar draws Yr Allt i Langurig (Sir Drefaldwyn). Mae’n debyg i gangen o’r llwybr hwn hefyd ymestyn ar hyd y ffordd dyrpeg ar hyd rhan uchaf cymoedd Ystwyth ac Elan i Raeadr. Byddai llwybr arall yn caniatáu i borthmyn yrru’u gwartheg drwy Langurig neu Raeadr, o Ffair Rhos (Ceredigion) trwy ran uchaf cymoedd Claerddu a Chlaerwen a’r ‘Hen Ffordd’ i ymuno â ffordd Cwmystwyth-Rhaeadr ger Aber Glanhirin neu i barhau i'r gogledd i mewn i ddyffryn Gwy trwy Gefn Bach. Ymddengys bod y llwybr porthmyn ychwanegol o Bontrhydfendigaid (Ceredigion) wedi mynd trwy Ystrad Fflur, rhan uchaf cwm Irfon, ar draws Drygarn Fawr, ac ar hyd gwm Rhiwnant i ran isaf cwm Claerwen ac oddi yno i Raeadr trwy gwm Elan. Mae’n ymddangos bod hwn wedi rhannu rhan o hynt llwybr o Dregaron (Ceredigion) a groesodd flaen deheuol Elenydd cyn mynd ar hyd cwm Irfon i Abergwesyn (Sir Frycheiniog).

Mae llawer yn credu bod y llwybrau ar draws Elenydd wedi bod â chysylltiadau â mynachlogydd, ac er nad oes sicrwydd ynghylch y cysylltiad hanesyddol hwn, mae nifer o’r llwybrau yn rhai hen iawn. Dangosir yr ‘Hen Ffordd’ y sonnir amdani uchod ar fapiau’r Arolwg Ordnans ym 1890, a'r enw arni ar lafar gwlad oedd 'Llwybr y Mynaich', neu 'Monks' Trod’, y tybid ei bod yn cysylltu’r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur â’i gangen yng Nghwm-hir. Daeth yn boblogaidd trwy History of Radnorshire gan John Williams, sef gwaith a gasglwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif, a oedd yn rhagweld y byddai mynaich y faenor fynachaidd yn Nant Madog, ger Pentref Elan, yn ymweld â'u mam-abaty yn Ystrad Fflur,

‘either for the purpose of their mutual peace and edification, or for consulting together on their temporary interests; and it is recorded that the inhabitants of this religious establishment were accustomed on certain periodical seasons, to visit their brethren in the abbey of Strata Florida . . . marching over the hills in procession, and making the rocks re-echo their loud and chaunted hymns. Their road over the mountains may at this date be traced.’

Tollffyrdd

Byddai rhai o’r traciau a’r llwybrau hyn a groesai’r mynyddoedd yn cael eu gwella yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg er mwyn iddynt gludo trafnidiaeth ag olwynion, mewn ymateb i alwadau cynyddol masnach, twristiaeth a’r post. Y ffordd fwyaf uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Rhaeadr dros Elenydd, trwy Bontarfynach a Chwmystwyth, oedd y mwyaf amlwg o'r rhain, a gwnaed y ffordd yn un â tholl arni tua 1790. Mae dwy garreg filltir bengrwn ar fin y ffordd, sy’n nodweddiadol o ddechrau’r 19eg ganrif, wedi goroesi o’r cyfnod hwn, y naill i’r dwyrain o Bont ar Elan a’r llall i’r de o Dderw, ac mae’r pellter o Aberystwyth a Rhaeadr wedi’i harysgrifennu arnynt.

Yn achos llawer o deithwyr Seisnig, byddai’r trawsnewidiad sydyn o olygfeydd iseldirol i rai ucheldirol wrth iddynt barhau ar eu siwrnai yn y goets ar draws Elenydd i’r gorllewin o Raeadr yn ysgytwad. I ddyfynnu Richard Moore-Colyer, ‘Henry Skrine wrote of his state of ‘perpetual alarm’ as he ascended the rocky road out of the town, and subsequently lamented the dreary, treeless expanse of open hill which he traversed ‘in mournful silence’’. Ceir golwg mwy cytbwys yn nyddiadur Michael Faraday, y gwyddonydd, ym 1819: ‘After a while we got among more mountains and nothing but large concave forms met the eye for a long time. Lively little catle with myriads of sheep now and then diversified the general monotony’. Erbyn 1829 roedd y ffordd is ar hyd cwm Rheidol a dyffryn Gwy trwy Bonterwyd a Llangurig (yr A44/A470) wedi disodli’r llwybr hwn dros y mynydd rhwng Aberystwyth a Rhaeadr, a bellach dyma’r prif ffordd.

Am gyfnod, rhwng diwedd y 18eg ganrif a dyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, cafwyd ambell wrthdrawiad rhwng y ffyrdd tyrpeg a’r porthmyn a theithwyr eraill. Byddai’r porthmyn yn ceisio cadw at lwybrau heb fetlin dros y mynyddoedd i osgoi’r tollau, os byddai modd gwneud hynny. Daeth y ffioedd a godwyd ar ddefnyddwyr eraill y ffordd yn amhoblogaidd dros ben, ac ysgogwyd 'Helynt Beca' mewn rhannau o Gymru. Cododd trafferthion yn lleol o amgylch Rhaeadr ym 1842. Yn gynnar ym mis Medi, dinistriwyd dwy glwyd lle roedd ffordd Aberystwyth yn troi i ffwrdd y tu hwnt i’r bont dros afon Gwy. Yn ystod y mis dilynol, digwyddodd un o’r terfysgoedd mwyaf treisgar yn yr helyntion i gyd. Wrth dollborth Bodtalog ger Abergwngu Hill, hanner ffordd ar draws y mynyddoedd, bu bron i’r ddynes a oedd ar ei phen ei hun yn geidwad y porth gael ei dallu gan ddryll llawn powdwr. Arweiniodd y terfysgoedd at newid yn y gyfraith a esgorodd ar sefydlu’r Byrddau Ffyrdd Sirol a ddisodlodd ymddiriedolaethau'r ffyrdd tyrpeg o 1845 ymlaen.

Rheilffyrdd

Byddai’r llwybrau porthmyn dros Elenydd yn dirwyn i ben gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Gwelwyd hyn yn lleol wrth i Reilffordd Canol Cymru agor o Lanidloes i Ffordd Llanfair-ym-Muallt ym 1864 gan groesi'r ardal nodwedd hanesyddol i'r gorllewin o Raeadr. Caeodd y rheilffordd ym 1962, mymryn o dan ganrif yn ddiweddarach, oherwydd y gystadleuaeth â chludiant ar y ffyrdd. Mae trychfa a thwnnel byr 271 llath, tua hanner cilometr i’r de o Raeadr ar lwybr y rheilffordd segur i'w gweld o hyd. Disgrifir isod y gyffordd â hen Reilffordd Cwm Elan, fymryn i’r de o’r twnnel.

(yn ôl i’r brig)