CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Pen Isaf Dyffryn Elwy


CPAT PHOTO 83-C-223

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Nodir terfynaur tirwedd cynwysedig hwn gan geunant yr Afon E lwy wrth iddo amgy l c hy nu Cefn Meiriadog, esgair isel ar ymy l o n dwyreiniol Bryniaur Rhos yng ngogledd Sir Ddinbych,ac fei l l eolir ir de orllewin o Lanelwy ar ochr orllewinol Dyffryn Clw y d . Mae llawr cul y dyffryn yn esgyn yn raddol o tua 30m uwchben SO yn y dwyrain i tua 50m uwchben SO yn y gorllewin,tra bod ei lethrau coediog trwchus yn esgyn yn serth neu yn glogwynog mewn mannau wrth iddynt dorri drwyr bryniau ar esgeiriau isel o amgylch sydd tua 100 a 150m uwchben SO.

Maen debyg y ffurfiwyd y dyffryn gan wyriad rhewlifol yr Afon Elwy, o bosibl yn ystod y cyfnod Pleistoseniadd Canol, cyn 250,000 mlynedd yn l.Ceir sawl clogwyn calch serth ar hyd ochr gogledd ddwyreiniol y dyffryn ac maer ardal o amgylch Cefn yn cynnwys un or grwpiau o ogofu Palaeolithig a diweddarach ar llochesau dan graig pwysicaf ym Mhrydain syn cynnwys gwaddodion daearegol ac archaeolegol Cwaternaidd o bwys rhyngwladol.Maer ogofu yn cynnwys Pontnewydd,Cefn,Cae Gronw, Galltfaenan a Brasgyll.

Erbyn y 1530au roedd yr ogofu yn nyffryn Elwy eisoes yn enwog ac feu nodir gan yr hynafiaethwr John Leland ar ei daith o 153639,ond nid archwiliwyd adnoddau cudd eu harwyddocd archaeolegol tan 1830,pan ymwelodd y Parchedig Edward Stanley (Esgob Norwich yn ddiweddarach) Hen Ogof Cefn a nododd human as well as animal bones,together with stags horns,and I believe, some remains of ancient weapons, have been found.Daliodd Stanley ati i archwilio Ogof Newydd Cefn,gan wneud canfyddiadau tebyg,ac erbyn yr 1870au roedd yr Athro Boyd Dawkins,anthropolegydd ac archaeolegwr amlwg iawn yn Oes Fictoria, wedi hysbysur darganfyddiadau yn nwy ogof y Cefn,ac ym Mhontnewydd,ble daeth ymchwiliadau gan yr Athro McKenny Hughes o hyd i lawer o weddillion anifeiliaid a gweddillion dynol ac offerynnau cerrig cysylltiedig.

Maer ogof ym Mhontnewydd,sydd wedi dod yn enwog yn ddiweddar yn sgl canfod gweddillion Neanderthaliaidd yno, yn cynrychiolir safle mwyaf gogledd orllewinol or cyfnod hwn syn hysbys yn Ewrop, rhai or gweddillion dynol cyntaf yn Ynysoedd Prydain ar preswyliad cyntaf syn hysbys yng Nghymru. Mae gwaith cloddio yn yr ogof gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru or 1970au ir 90au wedi canfod amrywiaeth eang o arteffactau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ac, yn bwysicaf oll,dannedd dynol a darnau o esgyrn sawl unigolyn syn dangos bod yr hil ddynol yn defnyddior ogof hon tua chwarter miliwn o flynyddoedd yn l.

Maer gyfres o waddodion yr ogof a oedd yn cynnwys y dystiolaeth bwysig a diddorol hon yn gymhleth,ond ymddengys bod preswyliad yn yr ogof ar ddiwedd y cyfnod cynhesach,neu ar ddechraur rhan oer ddilynol yn ystod Oes yr I.Dyddiwyd y gwaddodion yn wyddonol i rywbryd tua 225,000 mlynedd yn l. Mae estyniadau ac enciliadau eraill o i wedi ailfodelu topograffeg y dyffryn,ac mae canlyniadaur cloddio yn awgrymu bod safle wyneb y graig a cheg yr ogof ar adeg y preswyliad gryn dipyn ymhellach ymlaen nau safle presennol.Buasair rhan fwyaf o dystiolaeth am breswyliad y safle wedi diflannu o ganlyniad i hindreuliad wyneb y graig,yn enwedig tystiolaeth o geg yr ogof, ond beth bynnag ymddengys y cafodd y gwaddodion a ganfuwyd yn y rhan or ogof sydd wedi goroesi eu hysgubo i mewn fel dylifiadau mwd ac yn ffodus fe ddygodd ac fe warchododd ddeunydd gweddilliol a oedd yn deillio o breswyliad y safle.

Ir gogledd o Ogof Pontnewydd,ceir olion cyfundrefnau caeau or Canol Oesoedd ar ffurf glasleiniau sydd yn rhoi arlliw o economi amaethyddol canoloesol yr ardal,ac yng nghysgod y llethr coediog yn union uwchben llawr y dyffryn ir dwyrain ceir adfeilion ffynnon sanctaidd ganoloesol a chapel y Ffynnon Fair syn dystiolaeth o fywyd cyfoes crefyddol yr ardal.

Maer dyffryn heddiw yn cyflwyno tirwedd o ddiddordeb hanesyddol cydlynus,ac er ei fod yn fach oi gymharu r ardaloedd tirwedd eraill a nodir yn y Gofrestr hon,maen syndod o gyflawn,oherwydd yn ogystal r dystiolaeth archaeolegol gynnar bwysig iawn a geir yn yr ogofu,mae ffurfiaur tir eu hunain yn darparur allwedd i ddehongli hanes gwaddodol hir yr ardal ynghyd rhoi cipolwg pryfoclyd o amgylchedd y preswylydd cyntaf o Gymru.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.