CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glg
Map or ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddur Dirwedd Hanesyddol

Dyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg: Mynydd y Garn
Cymunedau Ystradfellte, Glyn Tarrell a Llanfrynach, Powys
(HLCA 1198)


CPAT PHOTO 2509-86

Ardal o rostir eang ag olion pwysig o ddefnydd tir, anheddu a chladdu cynhanesyddol, ynghyd thystiolaeth o aneddiadau tymhorol or canol oesoedd a chyfnodau diweddarach, a chorlannau.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Dyma ardal helaeth o ychydig yn llai na 2,500 hectar o rostir, heb ei gau a heb ei wella gan mwyaf, ar sgarp deheuol Fforest Fawr. Maen disgyn o dros 730 metr uwchben lefel y mr ar gopa Fan Fawr tuar gogledd i tua 300 metr ar hyd ymylon y tir wedii gau, ymhellach ir de. Yn torri ar draws y rhostir mae dyffrynnoedd nentydd bach ond dwfn afon Hepste, yn draenio tuar de, isafonydd afon Mellte tuar gorllewin, ac afon Taf Fawr tuar dwyrain. Ymledar ardal tuar de yn fasn bas uwchlaw blaen y tir wedii gau yn rhan isaf dyffryn Hepste. Mae sgarpiau creigiog, serth syn tremio dros ddyffryn afon Mellte, yn diffinior ardal ar yr ochr orllewinol ond, ar yr ochr ddwyreiniol, maer tir yn disgyn yn serth i ddyffryn Taf Fawr. O amgylch blaenddyfroedd y nentydd, ac yn is i lawr tua blaen dyffryn Hepste, ceir ardaloedd dirlawn helaeth gyda sgrau a brigiadau creigiog ar wyneb y llethrau mwy agored tuar dwyrain, ac ar dir mwy garw Mynydd y Garn, Gwaun Cefnygarreg a Charn y Goetre ir gorllewin.

Hen Dywodfaen Coch ywr ddaeareg solet gan mwyaf yn rhan ogleddol yr ardal, hyd at Fan Fawr, ar ymyl ddwyreiniol, o Bant Brwynog i Bant y Waun. Calchfaen Carbonifferaidd yw gwahanfa ddwr rhan isaf dyffryn Hepste yn bennaf, gyda llyncdyllau niferus, ar wahn i Waun Cefnygarreg ac ardaloedd Cefn Cadlan a Garn Ddu, sydd o dywodfaen gan mwyaf er bod yno rai llyncdyllau. Maer priddoedd, at ei gilydd, yn gorchuddio Hen Dywodfaen Coch neu ddyddodion drifft tywodfaen sydd, gan mwyaf, yn ddirlawn yn dymhorol, yn asidig a chyda haenlin fawnaidd ar yr wyneb syn cynnal rhostir gwlyb o borfa wael ei hansawdd. Tuar gorllewin, ceir ardaloedd llai o dir wedii ddraenion well ar ben tywodfaen yn ardal Gwaun Cefnygarreg, a thir wedii ddraenion well yn cynnal porfa rostirol o well ansawdd pori ar ben calchfaen yn ardal Garn Ganol.

Mae ffiniaur ardal nodwedd yn dilyn, i raddau helaeth, y rheiny a nodir yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol, sef ffiniau syn cael eu diffinion dopograffig ar hyd y sgarp syn nodi terfynau dyffryn Mellte ir gorllewin a dyffryn Taf Fawr ir dwyrain. Yr eithriad i hyn ywr ffin ddwyreiniol sydd wedii hymestyn, er hwylustod, at ymyl y planhigfeydd coed modern o amgylch blaen dyffryn Taf Fawr. Lluniwyd ffin eithaf mympwyol tuar de, rhwng yr ardal hon ac ardal nodwedd Cefn Cadlan Cefn Sychbant, ar hyd llinell cefnffordd yr A4059 a llwybr troed ar draws y rhostir.

O ran nodweddion y dirwedd hanesyddol yn yr ardal, gellid bod wedi ei rhannu o gwmpas y llinell cyfuchlin 400 metr, gan fod y safleoedd syn is nar uchder hwn yn fwy dwys, ac ymddengys eu bod yn cynrychioli hyd a lled anheddu gydol y flwyddyn ar ei fwyaf mewn cyfnod cynharach. Uwchben y lefel hon, mae tystiolaeth o anheddu a defnydd tir yn fwy prin o lawer, ac ymddengys y byddent yn bennaf yn dymhorol eu natur. Fodd bynnag, maen anodd diffinior union ffin gan nad oes unrhyw raniadau ffisegol.

Maer rhan fwyaf or ardal yn Dir Comin cofrestredig, ar wahn i ran o Waun Cefnygarreg. Roedd rhan ogleddol a rhan orllewinol yr ardal, ir gorllewin o afon Hepste a Nant y Cwrier ac ir gogledd o Nant yr Eira, yn rhan o amgaead Fforest Brycheiniog (Fforest Fawr) a ddaeth i feddiant Christie ym 1818. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Glyn, Ystradfellte, Cantref a Phenderyn yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal eang yw hon, sydd heddiw yn rhostir heb ei wella, i raddau helaeth, gydag un llechfeddiant arunig o gaeau bach afreolaidd yn Hepste-fechan, sydd tua 6 hectar ei faint ac o bosibl yn tarddu o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu gynharach. Cododd y Cominwyr ffensys pyst-a-gwifrau modern yn ddiweddar ar hyd Nant yr Eira tuag at ochr ogledd-ddwyreiniol yr ardal, er mwyn atal anifeiliaid rhag crwydro or naill ochr or mynydd ir llall. Maer gyfran o Waun Cefnygarreg sydd wedii chau ac sydd wedii chynnwys yn yr ardal nodwedd hon yn ffurfio ardal o borfa rostirol wedii chau waliau o gerrig sychion.

Nid oes sicrwydd o ran hynafiaeth yr enw lle Fan Fawr, sef y pegwn uchaf ond un yn y Bannau; maer enwn tarddu or elfennau ban a mawr. Ymddengys na chofnodwyd yr enw cyn 1900 ac, yn l pob golwg, cyfeirir ato yn ffynonellau cynnar y 19eg ganrif fel y-Fan-dringarth ar l afon Dringarth, sef enw a nodir 2 cilometr ymhellach ir gorllewin ar fapiau modern.

Rhy tystiolaeth enwau lleoedd ryw awgrym o ddefnydd tir blaenorol, ond gweddol brin yw tystiolaeth yn ymwneud ag anheddu neu ddiwydiant. Maen bosibl fod hyn yn awgrymu bod llawer or dystiolaeth hon yn berthnasol i gyfnod cynharach na chanol y 19eg ganrif ymlaen, pan oedd mwyafrif y mapiau cynnar or ardal yn cael eu llunio. Dengys nifer o enwau lleoedd syn cynnwys yr elfennau cors a brwyn dir corsiog yng Nghors y Beddau a Phant Brwynog.

Yn l y disgwyl, mae gwaun yn un or elfennau mwyaf cyffredin mewn enwau lleoedd, ac fei gwelir yn Afon y Waun, Waun Llywarch, Pant y Waun, Waun Tincer, Waun Dywarch, Llynnaur Waun, a Gwaun Cefnygarreg. Mae hyn yn pwysleisio y bu manteisio economaidd a hanesyddol ar dir yr ardal yn bennaf ar gyfer porfa arw, er efallai bod ynysoedd o laswellt gwell mewn rhai ardaloedd is. Maen bosibl bod yr elfen botel yn yr enw lle Carn y Botel yn awgrymur arfer o gasglu gwair tenaur mynydd yn hanesyddol ar ardal o Fynydd y Garn. Efallai fod yr enw Ton Teg a roddwyd ir llethr ir gogledd o Hepste-fechan yn awgrymu ardal o well porfeydd yn hanesyddol. Nifer fach yn unig o enwau lleoedd syn cyfeirio at ffermio anifeiliaid, gan gynnwys yr elfen ychen yn enw Nant yr Ychen ar elfen ffald yn Ffald Newydd; dyma enw a welwyd gyntaf ar fapiaur Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1890, mewn ardal lle gwyddys am gorlan a nifer o amgaeadau carreg ar lannau Afon y Waun, ir gogledd-ddwyrain o Hepste-fechan.

Oni bai ei bod yn tarddu o garw, maen bosibl bod yr elfen yn enw nentydd Garwnant Fawr a Garwnant Fach, Nant Carw (enw cynharach ar Nant Sychbant) yn deillio o carw. Mae hyn o ddiddordeb gan fod yr ardal nodwedd yn rhan o goedwig hela ganoloesol gynt Fforest Fawr, ac yn gorwedd ar ei hymylon. Yn yr un modd, gwelir yr elfen iwrch yn enwr nant or enw Nant Iwrch.

Gwelir yr elfen carn (neur lluosog carnau) mewn enwau lleoedd yn aml yn yr ardal drwyddi draw, er enghraifft yng Ngharn y Goetre, Carn Ganol, Carn y Botel, Talcen y Garn, Cefn Esgair?carnau, Cefn Nantygeugarn, Mynydd y Garn, Garn Ddu, Carn a Nant y Geugarn. Yn gyffredinol, ymddengys bod hyn yn dynodi brigiadau creigiog naturiol, yn enwedig yn yr ardal o galchfaen ir gogledd o ddyffryn Hepste, yn ardal Mynydd y Garn. Gall yr elfen bedd (neur lluosog beddau) yng Nghors y Beddau a Bedd Llywarch naill ai gyfeirio at safleoedd beddau neu, o bosibl, at ffurf hynafol ar ddeiliadaethau tir teuluol Cymru.

Maen syndod cyn lleied o gofnodion enwau lleoedd syn gysylltiedig safleoedd echdynnu a phrosesu yn yr ardal nodwedd. Or rheiny y maer Arolwg Ordnans yn eu cofnodi, maer elfen odynau yn enwr brigiadau creigiog yn Nhwyn yr Odynau; nid ywn syndod y saif dwy odyn gerllaw a gofnodwyd ar argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1886. Cyfeiriar enw Cwar Llwyd, syn cynnwys yr elfen cwar, at chwarel gerrig fach segur mewn ardal o Hen Dywodfaen Coch, syn anarferol o uchel i fynyr bryn uwchben Waun Llywarch.

Dengys yr elfen rhyd lwybrau cysylltiadau, ac fei gwelir yn yr enwau Rhyd Uchaf a Rhyd ap Sin; felly hefyd yr elfen bosibl rhiw yng Nghefn yr Henriw syn arwain i fyny at Fan Fawr.

Maer ardal nodwedd yn cynnwys nifer o ardaloedd arwyddocaol o anheddu a defnydd tir hynafol ar wahanol uchderau, yn dyddio or cyfnod cynhanesyddol hyd y cyfnodau canoloesol a thu hwnt.

Mae ardal bwysig o anheddu a defnydd tir cynnar a adawyd yn segur yn ymestyn hyd at arwynebedd o tua 70 hectar yn rhan uchaf dyffryn afon Hepste, ar uchder o rhwng 320 metr a 400 metr uwchben lefel y mr. Maen ymestyn i ddyffrynnoedd isafonydd Nant Hepste fechan ac Afon y Waun, ac i lethrau cysgodol Mynydd y Garn a Waun Tincer syn wynebur dwyrain. Ymddengys fod yr olion defnydd tir ac anheddu hyn ar dir is yn arwyddion o anheddu a gweithgarwch amaethyddol gydol y flwyddyn yn ystod cyfnodau o hinsawdd ffafriol, yn l pob tebyg yn y cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol ychydig y tu hwnt i derfynau modern cau tir. Ymhlith yr olion sydd iw gweld mae clystyrau o garneddau carega yr ymddengys eu bod yn arwyddion o drin tir, a chytiau crwn cynhanesyddol niferus o gerrig sychion. Mae rhai or rhain yn gysylltiedig chloddiau a waliau llinellol afreolaidd o gerrig sychion, a rhai ohonynt yn ffurfio amgaeadau crwm afreolaidd o rhwng 0.4 hectar a 3 hectar mewn maint. Gwelir hefyd grwpiau o lwyfannau adeiladu ar ffurf petryal ag olion cytiau hir wediu hadeiladu o garreg, wediu clystyrun arbennig ar hyd afon Hepste, islawr gyfuchlin 380 metr. Maen debygol eu bod yn cynrychioli anheddu a defnydd tir yn y cyfnod canoloesol hyd ddechraur cyfnod l?ganoloesol. Yn gyffredinol, maer cytiau crwn rhwng 4.5 metr a 10 metr mewn diamedr a mwyafrif y carneddau carega rhwng 2 fetr a 10 metr mewn diamedr. Cofnodir hefyd grwp arunig o gytiau crwn, sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol, yng Ngharn Caniedydd, tuag ochr ddwyreiniol yr ardal, rhwng 400 metr a 410 metr uwchben lefel y mr. Mae llechfeddiant rhostirol ar wahn, tua 6 hectar mewn maint yn Hepste-fechan, ar uchder o rhwng 330 metr a 370 metr. Dangosir y llechfeddiant, sydd waliaun ei rannun nifer o gaeau bach, am y tro cyntaf ar fap o Stad Tredegar r dyddiad 1780?81, ond maen debygol ei fod yn dangos gwelliant a goroesiad rhannol gweithgaredd defnydd tir mewn cyfnod cynharach o lawer.

Daw olion anheddu yn fwy prin ar dir uwch. Gwyddys fod nifer o glystyrau bach o gytiau crwn, yn dyddio or cyfnod cynhanesyddol yn l pob tebyg, a chytiau ar ffurf petryal, yn dyddio or cyfnod canoloesol yn l pob tebyg, yn ogystal ag amgaeadau bach chloddiau ou hamgylch yma ac acw ar uchder o rhwng 430 metr a 480 metr ar Gors y Beddau ar y sbardun rhwng Nant Ganol a Nant Mawr, ger Nant Llywarch, ar Waun Llywarch rhwng Nant Llywarch ac Afon y Waun a hefyd mewn ambell le gerllaw Afon y Waun. Nid ywr olion uwch hyn o aneddiadau cynnar yn cael eu cysylltu mor aml ag olion trin tir ar ffurf cloddiau caeau neu garneddau carega. Yn gyffredinol, ymddengys yn fwy tebygol eu bod yn dyddio or cyfnod canoloesol o leiaf, fel hafodydd, syn gysylltiedig thrawstrefa a manteisio ar borfeydd ucheldirol yn dymhorol yn ystod misoedd yr haf. Maen debygol hefyd fod nifer fach o gysgodfannau bras o garreg ar lethrau uwch y mynydd yn arwydd o fugeilio anifeiliaid hyd at yn weddol ddiweddar.

Gwelir enwau personol mewn nifer o enwau lleoedd, gan gynnwys ap Sin yn Rhyd ap Sin a Llywarch yn Waun Llywarch a Nant Llywarch.

Cofnodwyd nifer o dwmpathau llosg yn yr ardal nodwedd. Yn nodweddiadol, twmpathau ar ffurf pedol o gerrig llosg y gellir eu dehongli orau fel rhyw fath o faddon sawna ywr rhain, er ei bod yn bosibl i rai gael eu defnyddio fel safleoedd coginio. Tybir eu bod yn dyddio o ganol i ddiwedd Oes yr Efydd. Gorweddar enghreifftiau y gwyddys amdanynt yn yr ardal yn nodweddiadol gerllaw nentydd ac ar gyrion tystiolaeth o ddefnydd tir ac anheddu cyfoes posibl, neu ar wahn ir dystiolaeth honno. Gwyddys am un safle ar lan isafon fach nant Garwnant Fawr ar ochr ddwyreiniol Cefn Esgair-carnau, yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr. Nodwyd un arall ar lan un o isafonydd Afon y Waun, ar ymyl gweithgarwch anheddu y gwyddys amdano.

Mae carneddau crwn o gerrig rhydd, rhwng tua 6 a 18 metr mewn diamedr ac yn is nag 1 metr o uchder ar y cyfan, yn gydran bwysig or dystiolaeth o weithgarwch a defnydd tir cynnar yn yr ardal nodwedd. Cynrychioli henebion claddu syn dyddio o ddechrau Oes yr Efydd maer rhain, ac ni chloddiwyd unrhyw rai ohonynt yn y cyfnod modern. Ychydig or henebion sydd ag enwau penodol unrhyw hynafiaeth er, fel y nodwyd uchod, maent wedi arwain at yr elfennau carn a carnau a welir yn aml mewn enwau lleoedd yn yr ardal. Mae dwy eithriad yn unig, sef Carn Caniedydd a Garn Wen. Ymddengys fod a wnelor elfen charneddau claddu cynhanesyddol ac maen bosibl, yn yr enghraifft gyntaf, bod Caniedydd yn cyfeirio at chwiban y gwynt yn y lle agored hwn, neu iddo ddeillio o enw personol, neu ei fod chysylltiadau traddodiadol neu chwedlonol. Yn gyffredinol, saif yr henebion ar uchder o rhwng 350 metr a 450 metr, gan osgoir tir uchel ar tir isel. Mae eu gwasgariad, i raddau helaeth, yn cyd-fynd r olion anheddu a defnydd tir cynnar yn hytrach nan gorymylu nhw, ac maen debygol eu bod, yn rhannol o leiaf, yn dyddio or un cyfnod.

Maer henebion iw gweld fesul un, mewn parau neu mewn clystyrau mwy, ac yn gyffredinol ymddengys eu bod wediu lleolin fwriadol ar lethr neu gopa, lle gellid eu gweld o dir is. Saif mwyafrif y safleoedd yn yr ardal nodwedd fwy neu lai o amgylch ymylon rhan uchaf dyffryn Hepste ai isafonydd ar lethrau dwyreiniol Mynydd y Garn, llethrau deheuol Ton Teg a llethrau gorllewinol Cefn Esgair-carnau, sydd ag enw arwyddocaol. Gwelir grwpiau eraill, llai eu maint ar y llethrau gorllewinol syn tremio dros Ben-fathor yn nyffryn afon Dringarth, ac ar y llethrau dwyreiniol uwchben Pant y Gadair a Thwyn Garreg-wen, syn tremio dros ddyffryn Taf Fawr. Ymddengys fod mwyafrif yr henebion mewn cyflwr da, er y bu ychydig o dyllu i mewn i rai ohonynt, tra bod eraill wediu haddasun gysgodfannau defaid.

Gwyddys fod llond dwrn o gorlannau yn yr ardal, naill ai o amgylch ymylon y rhostir, fel uwchben Pen-fathor-uchaf a Garreg-fawr yn y gorllewin, neu mewn mannau cyfleus eraill i hel y defaid or bryniau, fel ar ymyl ddwyreiniol Mynydd y Garn ac ar hyd Afon y Waun. Mae llawer or rhain yn segur bellach. Er bod rhai or strwythurau hyn o bosibl ar safleoedd hafodydd cynharach, maen bur debyg eu bod yn cynrychioli cyfnod o ffermio defaid yn ddwys yn dilyn bwrwr system ganoloesol, sef trawstrefa wedii seilio ar ffermio llaeth a gwartheg, ir cysgod. Hefyd, maen debygol bod rhai enghreifftiaun tarddu or gwelliannau amaethyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechraur 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth ddogfennol o rai or corlannau ger Pen-fathor yn y 1770au. Rhyr ddwy gorlan ar Glog-las arwyddion pellach ynghylch dyddiadau. Disgrifir y ddwy ohonynt fel Old Sheepfold ar fapiaur Arolwg Ordnans yn y 1880au. Felly hefyd Ffald-newydd gerllaw Afon y Waun, a welir ar fap yr Arolwg Ordnans ym 1890.

Ymddengys fod ardal helaeth o hyd at tua 200 hectar ym mlaenddyfroedd afon Hepste ai hisafonydd wedii draenio, efallai yn ystod cyfnod diwethaf yr ail ryfel byd neun fuan wedi hynny, gan rwydwaith o sianeli draenio syth, hyd at 400 metr o hyd thua 8 metr i 18 metr rhyngddynt. Gellir gweld y rhain yn fwyaf clir or awyr. Yn l pob tebyg, y bwriad oedd gwella potensial porir borfa rostirol islaw Fan Fawr. Bellach, mae mwyafrif y ffosydd draenio wedi llenwi llaid i raddau helaeth, ac wediu herydu nes eu bod yn dilyn llwybrau mwy afreolaidd ac yn aml yn edrych fel cyrsiau dwr naturiol.

Bu ychydig o weithgarwch diwydiannol gynt yn ardal y brigiadau calchfaen ger ffin orllewinol yr ardal nodwedd, ac yn cynrychioli hyn mae grwpiau o odynau calch a chwareli bach ger ymyl y rhostir, a ddefnyddiwyd yn ddiamau i gynhyrchu calch amaethyddol. Mae hen draciaun cysylltu un clawdd o odynau ar Garn y Goetre ffermydd Garreg?fawr a Llwyn-onn. Mae yna o leiaf un enghraifft o odyn ddwbl. Saif rhes arall o odynau gerllaw Twyn yr Odynau, i enw arwyddocaol, syn cynnwys yr elfen enw lle odynau, ir de-ddwyrain or fferm gynt ym Mhen-fathor-uchaf. Mae ambell un or odynau mewn cyflwr cymharol dda, gyda gwaith maen yn sefyll, ond twmpathau wediu gorchuddio glaswellt yw eraill. Dengys mapiaur Arolwg Ordnans yn y 1880au rai or odynau, er bod o leiaf un enghraifft o ddisgrifior strwythur fel Old Limekiln.

Mae rhan o ffin ddeheuol yr ardal yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg gynharach or 19eg ganrif, o Hirwaun i Aberhonddu (yr A4059 fodern), a gellir gweld olion nifer o chwareli bach a cherrig milltir ar ochr y ffordd hyd heddiw.

Mae i ardaloedd mawnog, priddoedd claddedig a dyddodion eraill yn yr ardal botensial sylweddol ar gyfer ail-greu newid amgylcheddol a defnydd tir yn y gorffennol.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Leighton 1997; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr 1983; Kain a Chapman 2004; Chapman 1991; awyrluniau fertigol yr RAF fis Tachwedd 1945 a mis Mai 1946; Powell 1998/99.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.