Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg:
Mynydd y Garn
Ffotograffau o'r ardal nodwedd
Cefn Cadlan o'r gogledd-orllewin, gyda charnedd gladdu arunig o Oes yr Efydd yn nyffryn Hepste yn y tu blaen.
Llun: CPAT 2509-86.
Wal caeau creiriol ar ochr chwith y pellter canol ar lethrau deheuol Cefn Cadlan, o'r de.
Llun: CPAT 2509-11.
Golygfa o'r awyr o weithiau segur chwarel galchfaen a hen odynau calch ychydig i'r gogledd o Gadair Fawr, o'r gorllewin mewn tirwedd wedi'i chreithio â llyncdyllau. Yn y cefndir ar y dde mae'r briffordd (A4059) rhwng Penderyn ac Aberhonddu a ddechreuodd fel ffordd dyrpeg ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Llun: CPAT 08-C-82.
Golygfa o'r awyr o fferm fechan ar ymyl dyffryn nant i'r gogledd o Nant-moel-Uchaf, ar ochr ddeheuol Mynydd-y-glog, o'r de. Mae'r fferm, sydd o bosibl yn deillio o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, eisoes i'w gweld yn segur ar fap yr Arolwg Ordnans ym 1885.
Llun: CPAT 08-C-21.