CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg: Garreg-fawr
Cymuned Ystradfellte, Powys
(HLCA 1200)


CPAT PHOTO 2509-106

Tirweddau caeau a ffermydd yn tarddu yn ôl pob tebyg o’r canol oesoedd hwyr a’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn uchel ar ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte, ychydig yn is nag ymyl y rhostir.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Stribyn cul o tua 95 hectar o dirweddau caeau ar ffin orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae ffin ddwyreiniol yr ardal nodwedd wedi’i llunio i nodi ymyl y rhostir heb ei gau. Mae ffin orllewinol yr ardal nodwedd braidd yn fympwyol ac, i raddau helaeth, mae’n dilyn yr hyn a nodwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol. Er hwylustod, fe’i lluniwyd i gyd-fynd yn fwy pendant â ffyrdd modern a ffiniau eiddo. Yn dopograffig, mae’r ardal yn rhan o ymyl ddwyreiniol rhan uchaf dyffryn Mellte, ac yn wynebu tua’r gorllewin.

Yn bennaf, Calchfaen Carbonifferaidd yw’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal, gyda llyncdyllau, ac mae nant yn draenio i lyncdwll mawr o’r enw Pwll Derw. Priddoedd lôm sy’n ddwrlawn yn dymhorol yw’r priddoedd gan mwyaf, sef math sydd wedi gweddu orau yn hanesyddol i fagu da byw ar laswelltir tymor byr, gydag ychydig o dyfu cnydau grawn mewn ardaloedd sychach.

Gwelir rhai o’r ffermydd a’r ffiniau ger Pen-fathor ar fap stad yr Anrhydeddus George Venables Vernon, â’r dyddiad 1776, a gwelir llawer o eiddo a ffiniau eraill am y tro cyntaf ar fap degwm Ystradfellte ym 1840. Roedd y rhan fwyaf o’r ardal eisoes wedi’i chau erbyn i amgaead Fforest Brycheiniog (Fforest Fawr) ddod i feddiant Christie ym 1818. Gorweddai rhan ohoni yn union i’r gogledd a’r dwyrain. Roedd yr ardal yn rhan o blwyf sifil Ystradfellte yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ychydig o enwau lleoedd sy’n arwyddocaol i hanes anheddu neu ddefnyddio tir yr ardal nodwedd fach hon. Mae Tyr-llyn yn deillio o’r elfen ‘tir’ yn yr enw lle neu, o bosibl, ‘ty’, ond tarddiad modern sydd iddo. Mae’r adeilad gynt yng Nghae’r-prydydd yn cynnwys yr elfen ‘cae’ a’r enw priod ‘Prydydd’.

Patrwm o gaeau bach, afreolaidd sydd yn rhannau is yr ardal gan mwyaf, yn dyddio’n bennaf, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae hefyd yn cynnwys caeau wedi’u cau sydd bellach wedi dychwelyd yn rhostir. Gwelir rhai o’r ffiniau hyn ar fap stad y 1770au â’r label ‘old banks’. Yn hanesyddol, rhan o ardal o borfa ucheldirol wedi’i chau oedd yn ffurfio’r pen deheuol, gyda wal ôl-ganoloesol o gerrig sychion yn ei gwahanu oddi wrth rostir Gwaun Cefnygarreg. Yn hwyrach, roedd yr ardal hon yn rhan o blanhigfa gonwydd fwy helaeth yr 20fed ganrif a gwympwyd yn ddiweddar (2007). Waliau o gerrig sychion yw ffiniau eraill yn bennaf, er bod yno hefyd gloddiau caeau a gwrychoedd. Dengys corlannau sy’n bodoli ger Pen-fathor-uchaf ddefnydd tir amaethyddol, ac roedd rhai o’r rhain i’w gweld ar fap stad yn y 1770au. Fel tir pori y defnyddir y tir heddiw, yn bennaf.

Roedd y ffermydd a’r hen gymhlyg fferm yng Ngarreg-fawr, Goitre, Llwyn-onn a Phen-fathor eisoes yn bodoli erbyn o leiaf diwedd y 19eg ganrif. Dengys map stad o’r 1770au ffermydd Pen-fathor-uchaf a Phen-fathor-isaf, a gwelir safleoedd hen adeiladau ffermydd cynharach o bosibl, yn Llwyn-onn a Goitre, ar fapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au, sef adeiladau a oedd yn adfeilion erbyn hynny. Mae’r tai a rhai o’r tai allan yn Goitre a Garreg-fawr, sy’n bodoli o’r 19eg ganrif, yn dangos buddsoddi mewn ffermio yn ystod y 19eg ganrif.

Mae’r ardal yn cynnwys nifer o olion arwyddocaol diwydiant a thrafnidiaeth. Yn eu plith mae chwareli bach ac odynau calch gwasgaredig, yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg, ger Llwyn-onn, rhwng Tyr-llyn a Phen-fathor-uchaf a thua phen deheuol yr ardal. Gwelir hefyd ran o lwybr yr hen reilffordd a redai tua’r de i Benderyn, a adeiladwyd i gludo defnyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte i gyflenwi dwr i Gastell-nedd, rhwng 1907 a 1914. Mae’r hen reilffordd, sydd wedi goroesi hyd heddiw yn rhannol fel arglawdd ac yn rhannol fel trac ar hyd rhan o ffin orllewinol yr ardal, yn ffurfio nodwedd neilltuol yn y dirwedd, ac mae coed conwydd aeddfed ar ran o’i hyd.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Leighton 1997; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr1983; http://www.breconbeacons.org/content/geopark/understanding/archaeology-industrial-heritage/reservoir-of-fforest-fawr-geopark (edrychwyd arno 29-11-07); Swyddfa Gofnodion Morgannwg WGRO D/D BF E/164 (map stad yr Anrhydeddus George Venables Vernon, 1776); Jones a Smith 1972a; Thomas 1992; Kain a Chapman 2004; Chapman 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.