CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg
Map or ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddur Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg: Dyffryn Hepste
Cymuned Ystradfellte, Powys
(HLCA 1201)


CPAT PHOTO 2509-65 Dyffryn ucheldirol phatrwm cydlynol mewn cyflwr da o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach afreolaidd yn gyffredinol, o darddiad canoloesol a chynharach gyda waliau o gerrig sychion a gwrychoedd yn ffiniau, ynghyd ag ardaloedd mwy o borfa wedii chau ar ymyl y rhostir.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Maer ardal nodwedd yn nyffryn ucheldirol afon Hepste, syn llydan ond bas, ac yn cwmpasu ardal o tua 280 hectar. Lluniwyd ffiniaur ardal nodwedd i raddau helaeth i gynnwys y tir fferm wedii gau yn y dyffryn, sydd yn bennaf ar uchder o rhwng 290 metr a 340 metr uwchben lefel y mr, ond mae wedii hymestyn i gynnwys porfa ucheldirol, wedii chau yn hanesyddol, yn benodol tuar gorllewin, syn ymestyn hyd at tua 410 metr. Maer ffin dde-orllewinol braidd yn fympwyol ac, ar y cyfan, yn dilyn yr hyn a nodwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol. Er hwylustod, fei lluniwyd i gyd-fynd yn fwy pendant llinell ffyrdd modern a ffiniau eiddo.

Calchfaen Carbonifferaidd, gan mwyaf, ywr ddaeareg soled syn sylfaen ir ardal, gyda pheth tywodfaen yn rhan orllewinol yr ardal ar Weunydd Hepste. Mae Pwll y Felin, sef llyncdwll mawr y mae afon yn draenio iddo, ar ochr dde-orllewinol yr ardal. Yn bennaf, priddoedd lm syn draenion araf ac syn ddwrlawn yn dymhorol sydd yn rhannau isaf yr ardal syn ymylu ar afon Hepste. Yn hanesyddol, roedd y tir yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu stoc ar laswelltir parhaol neu dymor byr, pheth tyfu cnydau grawn mewn ardaloedd sychach. Ar y tir uwch tuar gorllewin ac ar ochr ogleddol yr ardal, maer priddoedd yn gyfuniad o lomau syn ddwrlawn yn dymhorol a lomau sychach, syn hanesyddol wedi cynnal porfa rostirol gwael neu o werth cymedrol.

Roedd yr ardal gyfan fwy neu lai eisoes wedii chau erbyn i amgaead Fforest Brycheiniog (Fforest Fawr) ddod i feddiant Christie ym 1818, ac roedd rhan ohonin gorwedd yn union ir gogledd ar dwyrain. Dengys fapiau Stad Tredegar yn dyddio o 1780?81 yr eiddo yn Nhir-yr-onen. Gwelir llawer o eiddo a ffiniau eraill am y tro cyntaf ar fap degwm Penderyn ar rhestr atodol ym 1840. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Ystradfellte a Chantref yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ychydig o dystiolaeth o hanes anheddu a defnydd tir dyffryn Hepste a ddaw o enwau lleoedd. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf or enw Dyffryn Hepste ym 1503. Tybir bod enwr afon yn deillio or elfennau hesb a te(u) o bosibl oherwydd y ffaith bod yr afon yn sych o dro i dro gan ei bod yn llifo dros galchfaen mandyllog. Maer enwau Ty-mawr a Neuadd yn rhan isaf y dyffryn, yn rhoi awgrym o dai hyn ac, o bosibl, uwch eu statws yn wreiddiol. Gwelwyd yr ail am y tro cyntaf yn y ffurf Tyr y noyadd ym 1618. Er hynny, mewn llawer achos, maen amlwg bod yr elfennau enwau lleoedd wediu defnyddio i wahaniaethu tai a allai fod ond ychydig yn fwy nar cyfartaledd. Gwelir yr elfen tyr, tir mewn cyfran sylweddol o enwau ffermydd eraill yn y dyffryn hefyd, gan gynnwys Tirmawr, Tir-dyweunydd, Tir-yr-onen a Thir-Shencyn-Llewelyn (a ailenwyd yn Llwyncelyn), a chofnodir yr olaf or rhain am y tro cyntaf ym 1819. Maer enwau Llwyn-y-fedwen (a gofnodwyd am y tro cyntaf ym 1650) a Thir-yr-onen (syn cynnwys yr elfen onn) yn cyfeirio at y llystyfiant. Fel y nodwyd uchod, mae enwr hen fferm debygol yn Heol-las yn deillio or trac syn arwain or ffermydd ar waelod y dyffryn i borfeydd y mynydd y tu hwnt i flaen y dyffryn. Ychydig o dystiolaeth o ddefnydd tir blaenorol a geir o enwau lleoedd. Er hynny, maer enw ardal Gweunydd (neu Gwaunydd) Hepste, sef yr ardal wedii chau ar ymyl y rhostir ar ochr dde-orllewinol yr ardal, ar enw fferm Tir-dyweunydd, ill dau yn cynnwys lluosog gwaun.

Awgryma bresenoldeb dau gylch cytiau, mewn ardal o borfa rostirol wedii chau ir gogledd o fferm Heol-las, anheddu cynhanesyddol. Maer rhain yn ffurfio rhan or dystiolaeth helaeth o ddefnydd tir ac anheddu cynnar yn y rhostir heb ei gau tuar gogledd ar gogledd-ddwyrain a guddiwyd, yn l pob tebyg, yn ystod clirio a chau tir yn ddiweddarach yn rhannau isaf y dyffryn.

Nodweddir rhannau isaf yr ardal gan batrwm o gaeau bach afreolaidd, yn llai na 3 hectar o faint yn gyffredinol, yr ymddengys eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir, yn l pob tebyg or cyfnod canoloesol o leiaf. Awgrymar patrymau caeau consentrig o amgylch Llwyn-y-fedwen a Blaen-hepste fod y rhain ac, o bosibl, ffermydd eraill gerllaw ymyl y rhostir, wedi dechrau fel llechfeddiannau arunig, fel Hepste-fechan syn gorwedd yn y rhostir tuar gogledd-ddwyrain, efallai tua diwedd y cyfnod canoloesol i ddechraur cyfnod l-ganoloesol. Awgryma clystyrau o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd gerllawr ffermydd yn Nhirmawr, Tir-dyweunydd, Llwyncelyn a Hepste-fawr ad-drefnu ffiniau caeau, yn ystod y 19eg ganrif yn l pob tebyg. Y tu hwnt ir rhain, mae patrwm o amgaeadau afreolaidd mwy o lawer ar hyd ymyl y rhostir heb ei gau syn dyddio, yn l pob tebyg, o ddiwedd y cyfnod canoloesol i ddechraur cyfnod l-ganoloesol. Yn gyffredinol, maer rhain yn fwy nag 8 hectar o faint, ac yn amgu ardaloedd o borfa arw y mae peth ohoni bellach wedi dychwelyd yn rhostir unwaith eto. Mae rhan or amgaeadau rhostirol hyn ar Weunydd Hepste, ar ochr orllewinol yr ardal nodwedd, bellach yn ffurfio rhan o ardal fwy helaeth o goetir conwydd a blannwyd gyntaf yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Maer ln fodern ar hyd y dyffryn, ynghyd phatrwm sydd wedi goroesin rhannol o lonydd glas a ddefnyddiwyd ar gyfer trafnidiaeth ac i yrru anifeiliaid, yn cynrychioli llwybrau hynafol yn y dyffryn. Ymhlith y lonydd glas hyn mae un syn rhedeg ar hyd ochr orllewinol afon Hepste, heibio i Hepste-fawr, a Heol-las i henw arwyddocaol, syn arwain at borfeydd rhostirol Fforest Fawr tuar gogledd. Gellir olrhain ln arall ar ochr ddwyreiniol afon Hepste, yn rhedeg o Lwyncelyn, heibio i Neuadd a Thirmawr ac eto allan ir rhostir tuar gogledd. Gellid defnyddior lonydd glas rhydau neu sarnau dros afon Hepste i gyfathrebu rhwng un ochr y dyffryn ar llall, rhwng Tirmawr a Llwyn-y-fedwen a rhwng Llwyncelyn a Thir-dyweunydd. Ymddengys yn debygol fod ffermydd Tirmawr, Neuadd a Llwyncelyn, ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, wedi creu prif fynedfeydd o gyfeiriad arall er mwyn manteisio ar y ffordd dyrpeg newydd o Hirwaun i Aberhonddu (A4059), ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechraur 19eg ganrif. Cyn hynny, ymddengys mair unig ffordd i fynd ir ffermydd hyn oedd ar hyd y lonydd glas ar rhydau a groesai afon Hepste, gan ymuno r llwybr ar ochr orllewinol y dyffryn.

Mae waliau o gerrig sychion yn cynrychioli mwyafrif y ffiniau caeau ar lonydd glas, ond bellach mae ffensys pyst-a-gwifraun aml wediu hychwanegu at y rhain, er mai gwrychoedd yw rhai or ffiniau diweddarach a ad-drefnwyd. Deunydd clirio caeau, gan gynnwys cyfran fawr o glogfeini crwn Hen Dywodfaen Coch syn deillio, yn l pob tebyg, o ddrifft rhewlifol sydd, i raddau helaeth, yn ffurfio rhai or ffiniau cynharach tebygol o gerrig sychion. Mae rhai or ffiniau, syn diweddarach yn l pob tebyg, yn enwedig y rheiny syn diffinio ffiniaur ardaloedd o borfa arw wedii chau ar hyd ymyl y rhostir, wediu gwneud o galchfaen neu dywodfaen o chwareli.

Nodweddir anheddu heddiw gan batrwm cydlynol o ffermydd bach gwasgaredig ucheldirol, yn deillio or cyfnod canoloesol neun ddiweddarach. Yn gyffredinol, mae tua 200 metr i 800 metr rhyngddynt ac maent yn nodweddiadol o economi ffermio cymysg. Mae ffurf neu drefniant adeiladaun arwydd o ffermydd cynharach. Yn achos y ty hir o gerrig yn Hepste-fawr, dengys cynllun y llawr fod teulur fferm au hanifeiliaid yn byw o dan un to, ac maen debygol ei fod yn tarddu or cyfnod canoloesol neur canol oesoedd hwyr. Gosodwyd yr adeilad, y mae The Welsh House Iorwerth Peate (1940) yn cyfeirio ato, ar draws y llethr, ac roedd mynediad uniongyrchol gynt rhwng y breswylfa, i lle tn agored, a lletyr gwartheg. Maer ffermdy yn Neuadd wedii osod ar draws y llethr yn yr un modd ac mae o bosibl tharddiad tebyg. Gorweddar ffermdy yn Nhirmawr, ar y llaw arall, ar hyd y gyfuchlin. Maen debygol i hwn ddisodli adeilad cynharach o darddiad canoloesol y mae llwyfan ty segur yn ei gynrychioli. Gwyddys am drigfannau segur eraill syn deillio or cyfnod canoloesol neur cyfnod l-ganoloesol ar ymyl y rhostir ir dwyrain o Dirmawr y mae llwyfan ty, amgaead a charneddi clirion eu cynrychioli.

Ymddengys, fodd bynnag, fod mwyafrif y ffermdai wediu hailadeiladun sylweddol, neu ffermdai newydd wediu hadeiladu yn eu lle cyn diwedd y 19eg ganrif. Gwelir hyn yn achos ffermdy Llwyncelyn, syn deillio or 18fed ganrif yn l pob tebyg, er bod iddo darddiad cynharach tebygol, fel nifer o rai eraill. Cysylltir y ffermdy or 19eg ganrif yn Nhir-dyweunydd rhes o adeiladau yn is i lawr y llethr, syn awgrymu ei fod o bosibl yn cynnwys ty cynharach. Maer ffermdy a thai allan yn Nhai-hirion, o ddiwedd y 19eg ganrif, gerllaw ceg y dyffryn, o garreg gyda manylion mewn brics. Cofnodir enwr fferm am y tro cyntaf ar ddechraur 19eg ganrif, syn awgrymu sylfaen cynharach. Dengys ysguboriau yd syn nodweddiadol fach, gydag holltau awyru a drysau yn y canol ar gyfer certi, stablau, beudai a granarau, fuddsoddiad pellach mewn amaethyddiaeth yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechraur 19eg ganrif. Byddent weithiau wediu cyfunon un strwythur a gellir gweld enghreifftiau o hyn mewn nifer o ffermydd, gan gynnwys Hepste-fawr, Tirmawr a Neuadd.

Maen amlwg bod nifer o ffermydd bach wediu gadael yn segur yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif, o bosibl o ganlyniad i gyfuno tyddynnod yn unedau economaidd mwy hyfyw. Ymhlith yr enghreifftiau mae ty rhwng Tirmawr a Thir-yr-onen, a thyddyn posibl ar ymyl y rhostir ir gorllewin o Lwyn-y-fedwen, a oedd wediu gadael neu wedi mynd yn adfeilion erbyn y 1880au. Maen bosibl mair ysgubor arunig yn Heol-las ywr cyfan sydd ar l bellach o hen gymhlyg o adeiladau fferm a adawyd yn y 19eg ganrif. Gadawyd ffermydd eraill, fel Blaen Hepste, am resymau tebyg yn y 1920au.

Mae nifer o olion diwydiannol yn dyddio, yn l pob tebyg, o rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechraur 20fed ganrif yn yr ardal. Yn eu plith mae dwy odyn galch ger Fferm Neuadd a oedd ar waith erbyn y 1880au, ac odynnau calch unigol ir gorllewin o Flaen Hepste, ac ir dwyrain o Fferm Tirmawr. Roedd y rhain hefyd ar waith erbyn y 1880au, a dywedir bod yr olaf yn dal i fod ar waith hyd at y 1920au neur 1930au. Dangosir chwareli cerrig bach, heb ddyddiad, ir gogledd o fferm Tir-dyweunydd ac ir gogledd o fferm Hepste-fawr fel hen chwareli yn y 1880au. Maen bosibl yu defnyddiwyd fel ffynhonnell cerrig ar gyfer adeiladau neu waliau caeau, neu ar gyfer gweithfeydd calch.

Maer ardal yn cynnwys nifer o ddyddodion palaeoamgylcheddol posibl gan gynnwys, er enghraifft, mawnog a ddangoswyd ar argraffiadau cynharach yr Arolwg Ordnans, yn ymylu cwrs dwr yn arwain i Bwll y Felin. Ffynonellau Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Haslam 1979; Jones a Smith 1972a; Leighton 1997; Morgan a Powell 1999; Peate 1944; CBHC 1997; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Stad Tredegar, Stad Aberhonddu Cyf. 2, 1780-81; Kain a Chapman 2004; Chapman 1991; Owen a Morgan 2007; Peate 1944; Peate 1963; Powell 1988/89; Smith, J. T., 1963; Smith, P. 1975.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.