CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glg
Yn l ir disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg: Dyffryn Hepste
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 2509-65 Caeau wedi'u cau yn tarddu, yn l pob tebyg, o'r cyfnod canoloesol neu'n gynharach yn nyffryn Hepste, yn edrych tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Lwyn-y-fedwen. Waliau o gerrig sychion a chloddiau carega sy'n eu diffinio, a gellir gweld brigiadau creigiog Garreg Lwyd ar y gorwel. Llun: CPAT 2509-65.

CPAT PHOTO 2509-76 Ln las sy'n tarddu, yn l pob tebyg, o'r canol oesoedd neu'n gynharach, ger Heol-las, gyda'i henw priodol, chloddiau carega a waliau adfeiliedig o gerrig sychion o boptu iddi. Llun: CPAT 2509-76.

CPAT PHOTO 08-C-29 Golygfa o'r awyr o dirwedd aeddfed o gaeau a ffermydd tuag at flaen dyffryn Hepste, glannau coediog afon Hepste yn ei chanol. Mae llawer o'r caeau yn afreolaidd eu ffurf, gan ddangos datblygiad graddol dros gyfnod hir. O weld yr olion sydd wedi goroesi yn y rhostir yn y cefndir, mae'n debygol fod llawer o'r caeau yma'n deillio o broses o glirio a chau tir a ddechreuodd gyntaf yn ystod Oes yr Efydd. Yn l pob tebyg, mae'r cae sgwr tua'r canol yn cynrychioli ad-drefnu rhai o ffiniau'r caeau yn y 19eg ganrif; mae'n amlwg y bu peth buddsoddi mewn ffermio yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r ffermdy presennol yn Hepste Fawr, yn y tu blaen ar y chwith, yn tarddu o dy hir canoloesol. Mae rhwydwaith o ffyrdd, traciau a lonydd glas yn cysylltu'r ffermydd yn y dyffryn y gellid eu defnyddio i yrru'r anifeiliaid o'r ffermydd i fyny i borfeydd y mynydd. Llun: CPAT 08-C-29.

CPAT PHOTO 08-C-40 Hen ffermydd, bythynnod a chaeau a adawyd yn segur, yn tarddu yn l pob tebyg o'r canol oesoedd, ar lannau afon Hepste ger Blaen Hepste a Thir-yr-onen. Llun: CPAT 08-C-40.