CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glôg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg: Cwm Cadlan
Cymuned Hirwaun, Rhondda Cynon Taff
(HLCA 1202)


CPAT PHOTO 2509-45

Dyffryn ucheldirol â phatrwm gwasgarog o ffermydd a ffermydd wedi’u gadael yn segur a chaeau bach afreolaidd yn gyffredinol, o darddiad canoloesol a chynharach ynghyd ag ardaloedd mwy o borfa wedi’i chau ar ymyl y rhostir gyda waliau o gerrig sychion a gwrychoedd yn ffiniau i’r caeau.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd yn nyffryn ucheldirol, llydan ond bas, nentydd Nant Cadlan a Cheunant Du, sef isafonydd afon Cynon, ac yn cwmpasu ardal o fwy na 380 hectar. Lluniwyd ffiniau’r ardal nodwedd ar y cyfan i gynnwys y tir fferm wedi’i gau yn y dyffryn. Mae’n bennaf ar uchder o rhwng 250 metr a 350 metr uwchben lefel y môr, ond mae’r ffiniau wedi’u hymestyn i gynnwys porfa ucheldirol, wedi’i chau yn hanesyddol, o amgylch ymylon yr ucheldir sy’n ymestyn hyd at tua 400 metr mewn rhai ardaloedd mwy cysgodol. Mae’r ffin dde-orllewinol braidd yn fympwyol ac, ar y cyfan, yn dilyn yr hyn a nodwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol. Er hwylustod, fe’i lluniwyd i gyd-fynd yn fwy pendant â llinell ffyrdd modern a ffiniau eiddo.

Tywodfaen gyda band o Galchfaen Carbonifferaidd ar hyd ymyl ddeheuol yr ardal, ynghyd ag ardal fach o Hen Dywodfaen Coch i’r de o Feili-Helyg ar yr ochr ddwyreiniol, yw llawer o’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal. Ar y tir uwch o amgylch ymylon y tir wedi’i gau, lomau sy’n draenio’n araf ac sy’n ddwrlawn yn dymhorol yw’r priddoedd. Yn hanesyddol, maent wedi cynnal porfa rostirol wael neu o werth cymedrol. Yn bennaf, priddoedd lôm sy’n draenio’n araf ac sy’n ddwrlawn yn dymhorol sydd yn rhannau isaf y dyffryn ar hyd Nant Cadlan. Yn hanesyddol, roedd y tir o fath a oedd yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu da byw ar laswelltir parhaol neu dymor byr, a pheth tyfu cnydau grawn mewn ardaloedd sychach.

Roedd yr ardal yn rhan o blwyf sifil Penderyn yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974. Dangosir o leiaf un eiddo yn y dyffryn, sef Gelli-ffynhonnau (Gelly Funnonanna) ar fap o stad yr Anrhydeddus George Venables Vernon â’r dyddiad 1776. Mae mwyafrif yr eiddo eraill wedi’u mapio a’u henwi am y tro cyntaf ar fap degwm Penderyn a’r rhestr atodol ym 1840. Roedd rhai ffermydd eraill yn eiddo i stad Bodwigiad ac wedi newid dwylo sawl gwaith rhwng nifer o dirfeddianwyr sylweddol Sir Frycheiniog, yn cynnwys y teulu Games, stad yr Arglwydd Venables a ddaeth i feddiant yr Arglwydd Jersey, perchennog stadau Margam a Llansawel. Yna, ym 1815, daeth i ddwylo’r Parchedig Reynold Davies, ffigwr adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol Llundain, cyn dod yn eiddo i Morgan Morgan. Dengys map degwm 1840 fwyafrif y ffermydd fel deiliadaethau o rhwng tua 15 hectar a 40 hectar (rhwng 40 erw a 100 erw), gyda chymysgedd o gaeau a ddefnyddid ar gyfer cnydau âr, porfa a dol. Cysylltir Cwm Cadlan â Lewis Lewis, ffigwr drwg-enwog a oedd yn fab i Jenkin, cigydd, a Margaret Lewis o ‘Flaencadlan’, Penderyn, a gysylltir, o bosibl, â fferm Beili-helyg. Chwaraeodd Lewis ran flaenllaw yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831 ac mae’n ffigwr arwyddocaol yn hanes cymdeithasol ac economaidd de Cymru ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ychydig o dystiolaeth o batrymau anheddu a defnydd tir hanesyddol a ddaw o enwau lleoedd. Yn wahanol i ddyffryn Hepste, anaml y gwelir yr elfennau ty a tir, ond mae digonedd o enwau coed a choetir. Gwelir yr elfen celli yn Gelli-ffynhonnau-isaf a Gelli-ffynhonnau-uchaf, ac mae paru’r ddwy fferm gyfagos hyn, gan ddefnyddio isaf ac uchaf i wahaniaethu rhyngddynt, yn awgrymu rhannu deiliadaeth deuluol gynharach, o ganlyniad i batrymau traddodiadol etifeddu tir Cymru. Ceir cyfeiriad at goetir unwaith eto yn yr elfen celli yn Gelli-dafolog a Gelli-neuadd a chan yr elfen coed yn yr enw Coed Cae Ddu. Mae’n debyg mai sail yr enw olaf yw’r elfen lleoedd coedcae/coetgae sydd ag ystod eang o ystyron posibl, gan gynnwys ‘land enclosed by a hedge, field, enclosure’, ‘land taken out of wood’ neu ‘land fenced with pails’. Weithiau, defnyddid y term hefyd yn gyfystyr â ffridd yn yr ystyr ‘enclosed mountain pasture’. Mae’n debygol felly bod lleoliad y fferm ger y gyfuchlin 330 metr a’r ymyl rhwng y caeau llai, wedi’u cau yn is yn y dyffryn a’r porfeydd mynydd mwy wedi’u cau yn uwch i fyny ar ymyl y rhostir, yn arwyddocaol. Cyfeirir at gaeau ac amgaeadau â’r elfen cae yng Nghae’r Arglwydd a’r elfen beili ym Meili-helyg, sydd hefyd yn cynnwys yr elfen helyg. Mae’r elfen gwern yn enwau’r ffermydd Gwern-pawl a Wern-las, ac yn enw’r nant Gwern Nant-ddu, yn dangos cyfyngiadau hanesyddol ar ddefnydd tir, ac mae’r elfen garw yn enwau ffermydd Pant?garw a Garw?dyle (Garw?dylau gynt) hefyd yn dangos hyn. Mae’r enw fferm Heol?las, gerllaw ffordd yr A4059 fodern i’r gogledd o Benderyn, a’r elfen tyle yn yr enw Garw-dyle ar linell y trac serth i fyny at y fferm gynt yng Nghae’r Arglwydd, yn awgrymu bodolaeth traciau.

Dengys y garnedd gladdu o Oes yr Efydd i’r de-ddwyrain o Nant-maden, sydd wedi’i chloddio’n rhannol, weithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal yn ystod dechrau a chanol Oes yr Efydd. Felly hefyd y twmpath llosg nodweddiadol ar ffurf cilgant, ar ben gorllewinol Cefn Sychbant, er nad oes unrhyw dystiolaeth eglur hyd yma o anheddu a defnydd tir. Gall safle ymylol y twmpath llosg, yn agos at ymyl y rhostir, a maint sylweddol carnedd Nant-maden, a oedd tua 20 metr o led ac 1.8 metr o uchder yn wreiddiol, esbonio o bosibl sut y goroesodd y mathau hyn o henebion yn y dirwedd hon sydd, yn ei hanfod, wedi’i chau. Mae’r fath oroesiad yn anarferol ac mae’n bosibl i henebion llai eraill o’r fath gael eu clirio ymaith yn ystod clirio a chau tir yn ddiweddarach.

Nodweddir rhannau isaf yr ardal gan batrwm o gaeau bach afreolaidd, yn llai na 3 hectar o faint yn gyffredinol, sy’n cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir, yn ôl pob tebyg o’r cyfnod canoloesol o leiaf. Awgryma’r patrymau caeau consentrig o amgylch Gelli-ffynhonnau-isaf a Gelli-ffynhonnau-uchaf fod y ffermydd hyn ac, o bosibl, ffermydd eraill gerllaw ymyl y rhostir, yn tarddu o lechfeddiannau arunig. Awgryma ardaloedd o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd yn agos at ffermydd yng Nglyn-perfedd, Garw-dyle, Gelli?dafolog, Wern-las a Nant-maden ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach, yn ystod y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Y tu hwnt i’r rhain, mae patrwm o amgaeadau afreolaidd mwy o lawer ar hyd ymyl y rhostir heb ei gau sy’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn fwy na thua 6 hectar o faint ac yn amgáu ardaloedd o borfa arw y mae peth ohoni bellach wedi dychwelyd yn rhostir unwaith eto. Dynodwyd ardal sylweddol ar ochr ddeheuol yr ardal yn Warchodfa Natur Cwm Cadlan.

Waliau o gerrig sychion yw ffiniau’r caeau gan mwyaf, gyda rhai gwrychoedd a ffensys pyst-a-gwifrau. Fel yn achos dyffryn Hepste, deunydd clirio caeau, gan gynnwys cyfran fawr o glogfeini crwn Hen Dywodfaen Coch sy’n deillio, yn ôl pob tebyg, o ddrifft rhewlifol, sy’n ffurfio llawer o’r ffiniau cynharach tebygol o gerrig sychion. Mae rhai o’r ffiniau, sy’n diweddarach yn ôl pob tebyg, yn enwedig y rheiny sy’n diffinio ffiniau’r ardaloedd o borfa arw wedi’i chau ar hyd ymyl y rhostir, wedi’u gwneud o galchfaen neu dywodfaen o chwareli.

Nodweddir patrwm anheddu heddiw gan ffermydd bach gwasgaredig ucheldirol o darddiad canoloesol a diweddarach. Yn gyffredinol, mae tua 300 metr i 500 metr rhyngddynt ac, yn aml, fe’u sefydlwyd gerllaw nentydd neu ffynhonnau. Ymddengys fod y patrwm anheddu’n fwy chwit chwat a gwasgarog nag yn nyffryn cyfagos afon Hepste, ac mae’n debyg mai’r nifer sylweddol o ffermydd a adawyd yn segur yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif sy’n gyfrifol am hyn. Mae’r adeiladau fferm sydd wedi goroesi yn nodweddiadol o economi ffermio cymysg mewn ardaloedd mwy ymylol ac, yn aml, ceir cyfuniad o ysguboriau yd bach, gyda holltau awyru, beudai a stablau. Roedd y ffermydd a’r bythynnod yng Ngwern-pawl a Blaen-cadlan-isaf eisoes yn adfeilion yn y 1880au, ac ymddengys fod y rheiny yng Nghae’r Arglwydd, Gelli-ffynhonnau-isaf a Blaen-cadlan-uchaf oll wedi’u gadael yn segur ers dechrau’r 20fed ganrif ymlaen. Yr ysgubor arunig yn Esgair-y-gadlan yw’r cyfan sydd ar ôl bellach o hen gymhlyg o adeiladau fferm. Roedd y ffermdai o garreg sy’n dyddio o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn Nant-maden, Coed Cae Ddu a Gelli-ffynhonnau-isaf gynt, wedi’u trefnu mewn llinell ar draws y llethr, sy’n awgrymu ailadeiladu strwythurau sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Ymddengys fod cynllun yr adeiladau fferm ym Meili-helyg, â’i ffermdy, ysgubor yd a beudy o’r 19eg ganrif, oll mewn llinell hefyd yn cynrychioli ailadeiladu cymhlyg cynharach o adeiladau. Dengys rhesi o adeiladau o garreg, yn cyfuno ysguboriau yd, a naill ai stablau neu feudai yma ac yng Ngarw-dyle a Choed Cae Ddu, a’r ysgubor yn Esgair-y-gadlan, fuddsoddiad mewn ffermio yn ystod y 19eg ganrif. Mewn rhai achosion, mae’r adeiladau diweddarach ar wahân ac wedi’u gosod ar hyd y gyfuchlin. Gwelir tystiolaeth o waith adeiladu mwy helaeth yn Wern-las, lle mae cynllun y fferm yn awgrymu fferm fodel o’r 19eg ganrif, sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â’r rhesymoli ffiniau caeau y soniwyd amdano uchod, a’r ffermdy yn Gelli-ffynhonnau-uchaf, sy’n dyddio o bosibl o’r 19eg ganrif a lle mae rhai manylion mewn bricsen felen ar y ffermdy presennol.

Mae’n debygol fod y ffordd fodern yn y dyffryn yn ffurfio rhan o lwybr hynafol a oedd yn cysylltu ffermydd ar hyd y dyffryn ac oddi yno ar draws y rhostir i gymunedau eraill yn nyffryn Taf Fawr ymhellach i’r dwyrain. Rhy patrwm o lwybrau, lonydd glas a rhydau sy’n cysylltu Cae’r Arglwydd, Garw-dyle a Glyn-perfedd, a Gelli-ffynhonnau-uchaf, Egair-y-gadlan a Wern-las arwyddion o lwybrau cynnar eraill. Roedd rhai o’r rhain, ar un adeg, yn arwain at borfeydd rhostirol ar y bryniau o amgylch.

Mae grwp o dair odyn galch i’r gorllewin o Fferm Coed Cae ac odynnau unigol ger Heol?las, Gelli-dafolog, a Chae’r Arglwydd yn cynrychioli olion diwydiannol, yn dyddio’n bennaf o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae llwybr hen reilffordd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte ar ddechrau’r 20fed ganrif yn torri ar draws pen gorllewinol yr ardal.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; CBHC 1997; Crampton a Webley 1964; Stephens 1998; Swyddfa Gofnodion Morgannwg WGRO D/D BF E/164 (map stad yr Anrhydeddus George Venables Vernon, 1776); Jones a Smith 1972a; Thomas 1992; Lloyd, Davies a Davies 1959; map degwm Penderyn a’r rhestr atodol, 1840

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.