Cymraeg / English
|
|
Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg:
Cwm Cadlan
Ffotograffau o'r ardal nodwedd
|
Caeau bach afreolaidd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o'r canol oesoedd neu'n gynharach ger Esgair-y-gadlan, gyda waliau o gerrig sychion, sydd bellach yn adfeiliedig, yn eu diffinio, yn edrych tua'r gogledd-orllewin tuag at rostir Cefn Cadlan heb ei gau ar y gorwel. Yr ysgubor, o'r 19eg ganrif mae'n debyg, yn y pellter canol yw'r cyfan sy'n goroesi o hen gymhlyg o adeiladau fferm.
Llun: CPAT 2509-045.
|
|
|
|
|
Dolydd llaith yr iseldir, â ffiniau afreolaidd wedi'u diffinio gan wrychoedd yn tarddu o'r canol oesoedd neu'n gynharach ger Nant Cadlan, yn edrych i'r de-ddwyrain tuag at Fynydd-y-glog ar y gorwel. Awgryma'r patrwm o gaeau ag ochrau syth o amgylch fferm Garw-dyle yn y pellter canol ad-drefnu'r dirwedd yn ystod y cyfnod o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau'r 19eg ganrif.
Photo: CPAT 2509-120.
|
|
|
|
|
Golygfa o'r awyr o ffermydd a chaeau tua blaen Cwm Cadlan, ger Wernlas ac Esgair-y-gadlan, o'r dwyrain. Mae llawer o'r caeau llai, afreolaidd eu ffurf, o darddiad hynafol, ond awgryma'r patrwm mwy rheolaidd o gaeau y tu hwnt i fferm Wernlas, a welir yn y tu blaen ar y chwith, rywfaint o ad-drefnu ffiniau caeau yn ystod y 19eg ganrif. Ymddengys yr adeiladwyd neu ailwampiwyd y fferm hon ar yr adeg honno. Yn ôl pob tebyg, yr ysgubor yn Esgair-y-gadlan, ar y dde yn y pellter canol, yw'r cyfan sy'n goroesi o fferm gynt a oedd eisoes wedi'i gadael yn segur erbyn y 1880au, o bosibl oherwydd cyfuno ffermydd.
Photo: CPAT 08-C-55.
|
|
|
|
|
Golygfa o'r awyr o ffermydd afreolaidd hynafol yng Nghwm Cadlan, ac ar y chwith eithaf gellir gweld fferm gynt Gwern-pawl a adawyd yn segur.
Photo: CPAT 08-C-52.
|
|
|
|
|