CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glôg
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glôg: Coed Penmailard – Coed Cefn-y-maes
Cymuned Hirwaun, Rhondda Cynon Taff
(HLCA 1203)


CPAT PHOTO CS07-06-35

Coetir conwydd modern, wedi’i blannu’n rhannol ar dirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau afreolaidd a gweithfeydd calch gwasgaredig yn dyddio o’r canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar.

Cefndir amgylcheddol a hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd hon yn cynnwys dwy ardal ar wahân o blanhigfeydd modern sy’n cynnwys conwydd yn bennaf, ac yn cwmpasu ardal o bron i 830 hectar. Gorwedda ar uchder o tua 230 metr i 400 metr uwchben lefel y môr ar ysgwyddau dwyreiniol a deheuol y mynydd, ac mae’n ymestyn ar hyd llethrau gorllewinol dyffryn Taf Fawr. Lluniwyd ffiniau dwyreiniol a deheuol yr ardal nodwedd i raddau helaeth ar hyd y llinell rhwng y planhigfeydd a’r rhostir heb ei gau. Mae’r ffiniau tua’r dwyrain a’r de yn adlewyrchu’r rheiny a ddiffiniwyd yn y gofrestr o dirweddau hanesyddol, ond fe’u lluniwyd yn fwy penodol ar hyd ymyl uwch y tir wedi’i gau yn nyffryn Taf Fawr, ac ar y llethrau i’r gorllewin o Gefncoedycymer ac o amgylch ffiniau gwaith nwy Bryn Du tua’r de-ddwyrain.

Calchfaen Carbonifferaidd yw’r ddaeareg soled yn bennaf yn rhan ogleddol yr ardal, sydd bellach wedi’i gorchuddio gan Goed Cefn-y-maes, i’r gogledd o Nant Aber-nant, ond Hen Dywodfaen Coch yw daeareg soled yr ardal ddeheuol yn bennaf. Yn rhan ogleddol yr ardal, ac ar hyd llawer o ymyl ddwyreiniol yr ardal sydd wedi’i gorchuddio gan Goed Penmailard, Calchfaen Carbonifferaidd yw’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal. I’r de o Benmoelallt ac Onllwyn, mae’r ddaeareg soled yn newid i dywodfaen a grut melinfaen. Lomau sy’n draenio’n araf ac sy’n ddwrlawn yn dymhorol yw’r priddoedd gan mwyaf, sydd wedi cynnal porfa rostirol wleb wael neu o werth pori cymedrol.

Roedd yr ardal yn rhan o blwyf sifil Penderyn yn Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Ceir cyfeiriad at yr hen fferm gynt yng Nghefn-y-maes mewn dogfennau’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif. Mae ffermydd ym Mhenmailard, Sychbant-uchaf a Sychbant-isaf i’w gweld ar fap o stad Penmailard ym 1749, sef stad a oedd yn eiddo i’r teulu Williams ac eraill ar y pryd. Map degwm Penderyn ym 1840 sy’n dangos mwyafrif yr hen ffiniau ac eiddo eraill am y tro cyntaf.

Mae’r coetir yn rhan o ardal goediog fwy o lawer yn rhan uchaf dyffryn Taf Fawr a’r cyffiniau. Daeth newidiadau mawr o ran defnydd tir yn yr ardal yn sgil adeiladu’r tair cronfa ddwr yn nyffryn Taf Fawr gan Gorfforaeth Caerdydd ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Cwblhawyd Cronfa Ddwr Cantref ym 1892, Cronfa Ddwr y Bannau ym 1897 a Chronfa Ddwr Llwyn-on ym 1926. Ym 1946, prynodd y Comisiwn Coedwigaeth dros 2,300 o erwau o dir yn rhan uchaf dyffryn Taf Fawr, sydd bellach â Chanolfan Garwnant yn ganolbwynt iddo. Darparwyd nifer o gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn yr ardal yn ddiweddar, gan gynnwys llwybrau trwy’r coetir, mannau picnic a darn o Lwybr Taf, sef llwybr pellter hir, sy’n mynd trwy’r coetir.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Cymharol brin yw’r enwau lleoedd sy’n arwyddocaol i hanes anheddu neu ddefnyddio tir yn yr ardal nodwedd fach hon. Mae’r ardal yn cynnwys safleoedd pedair fferm ucheldirol gynt, a orweddai’n uwch na 300 metr. Fe’u cysylltwyd gynt â chaeau wedi’u cau ac mae’r elfen pen yn yr enwau Pen-yr-heol a Phen-y-glog-fan-ddu yn pwysleisio’u huchder. Mae’n bosibl bod i’r elfen heol ym Mhen-yr-heol yr ystyr ’ffald’ neu ’amgaead’ ond awgryma ei leoliad ar y ffordd fach fodern sy’n croesi’r mynydd i Gwm Cadlan mai ‘ffordd’ neu ‘lwybr’ yw ei hystyr. O’r ddwy fferm sy’n weddill, sef Llwyn a Chefn-y-maes, awgryma’r ail ardal agored neu gae wedi’i gau yn ôl pob tebyg. Coed Penmailard yw enw’r llain mwy hynafol o goetir llydanddail a phrysg sydd wedi goroesi hyd heddiw ar lethrau serth y dyffryn ar ochr ddwyreiniol yr ardal, sy’n tremio dros afon Taf Fawr. Mae’r enw’n cynnwys yr elfennau coed, ynghyd â ffurf lygredig ar pen + moel + allt; disgrifia’r elfen ganol gyflwr copa’r bryn cyn coedwigo yn yr 20fed ganrif. Un o’r ychydig enwau eraill yn yr ardal sy’n disgrifio llystyfiant hanesyddol sydd bellach wedi’i orchuddio â phlanhigfa gonwydd yw Onllwyn, sy’n deillio o’r elfennau onn a llwyn.

Ceir awgrym o ddefnydd tir, anheddu a chlirio cynhanesyddol cynnar gan hapddarganfyddiad bwyell garreg gaboledig o’r cyfnod Neolithig ger Cefn-y-maes. Mae’n bosibl bod awgrym arall o anheddu cynnar i’w weld mewn amgaead bach, nad oes dyddiad ar ei gyfer, tuag ochr ogleddol yr ardal ar ymyl dyffryn Pant Sychbant, mewn ardal sydd bellach dan goed.

Yn yr ardal ogleddol a rhan ddwyreiniol yr ardal ddeheuol, gorwedda’r coetir modern ar ben tirweddau caeau creiriol a oedd yn perthyn i’r ffermydd cynharach yn yr ardal, ar lethrau sy’n tremio dros ddyffryn Taf Fawr. Dengys map degwm 1840 y ffermydd hyn yn bennaf fel deiliadaethau o rhwng tua 15 hectar a 60 hectar (rhwng 40 erw a 140 erw). Roedd iddynt gymysgedd o gaeau a ddefnyddid ar gyfer cnydau âr, porfa a dol, ac roedd rhai o’r ffermydd hyn eisoes wedi’u cyfuno. Mae fferm Penmailard yn neilltuol gan ei bod yn ganolbwynt stad fach o tua 480 hectar (1200 erw) yn ymestyn i lawr i waelod dyffryn Taf Fawr. Gellir olrhain llawer o’r deiliadaethau hyn hyd heddiw, ac fe’u gwelir fel cloddiau pridd neu waliau o gerrig sychion sydd bellach yn aml wedi’u cuddio dan lystyfiant. Awgryma mapiau cynharach yr Arolwg Ordnans fod y tirweddau caeau yn yr ardaloedd hyn yn cynrychioli cymysgedd o gaeau bach afreolaidd, yn gyffredinol yn llai na 3 hectar o faint o amgylch yr hen ffermydd gynt. Maent yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir, o’r cyfnod canoloesol ymlaen yn ôl pob tebyg, ynghyd â phatrwm o amgaeadau mwy, yn aml dros 10 hectar o faint, ger y ffin â’r rhostir heb ei gau o amgylch. Yn achos yr ardal ogleddol o goetir, mae’r blanhigfa wedi’i chau i raddau helaeth gan waliau o gerrig sychion sy’n tarddu o’r 18fed ganrif neu’n gynharach yn ôl pob tebyg, ac mae’r rhain yn diffinio’r ffin rhwng y ffermydd hyn a’r rhostir o amgylch. Gwelir y rhan fwyaf o’r llinell ar fap o stad Penmailard sy’n dyddio o 1749, sydd hefyd yn dangos "old banks" eraill yn yr ardal hon. Roedd rhan orllewinol yr ardal ddeheuol wedi bod yn rhan o’r ardal helaeth o rostir heb ei gau tua’r gorllewin.

Mae’r ardal yn cynnwys nifer o hen ffermydd gynt, ym Mhenmailard (a symudwyd yn ddiweddarach i fferm yn is i lawr y rhiw tua’r de, ac a elwid gynt yn Ffrwd Ucha Fach), Sych-bant-isaf, Pen-yr-heol, Pen-y-glog-fan-ddu (yn yr ardal o’r enw Sycamore Grove bellach), Cefn-y-maes a Llwyn. Mewn rhai mannau, gellir adnabod hen adeiladau fferm gynt neu safleoedd hen adeiladau wedi’u lefelu.

Mae clystyrau o garneddau carega, a gysylltir â hen ffermydd a chaeau gynt ar ymyl ddwyreiniol yr ardal, ar lethrau sy’n tremio dros ddyffryn Taf Fawr, yn cynrychioli gweithgarwch amaethyddol, ynghyd â nifer o gorlannau, gan gynnwys un ger Penmailard a dwy ar ymyl ogleddol yr ardal gerllaw Nant Sychbant. Mae map o stad Penmailard sy’n dyddio o 1749 yn dangos rhai o’r rhain.

Mae grwp o ddwy odyn galch a chwarel ar ochr orllewinol Coed Cefn-y-maes, tuag at ymyl y rhostir, ar uchder o tua 400 metr, yn cynrychioli gweithgarwch diwydiannol sy’n dyddio, mae’n debyg, o ddiwedd y 18fed ganrif ac o’r 19eg ganrif. Mae nifer o chwareli bach a grwpiau o odynau calch yng Nghoed Penmailard, un ger Onllwyn ac efallai chwech neu fwy ar ymyl ddwyreiniol yr ardal, yn gysylltiedig â thraciau (mae rhai ohonynt bellach yn ffurfio rhan o Lwybr Taf rhwng Aberhonddu a Chaerdydd). Cofnodir hen geuffordd neu lefel gloddio yn Nhy Gwyn tuag at ochr ddeheuol yr ardal.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Clough a Cummins 1988; Leighton 1997; Swyddfa Gofnodion Gorllewin Morgannwg, stad Penmailard GRO D/D La 58, 1749; Thomas 1992; map degwm Penderyn a’r rhestr atodol, 1840

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ’ ar www.ccw.gov.uk.