Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg:
Coed Penmailard - Coed Cefn-y-maes
Ffotograffau o'r ardal nodwedd
Planhigfa gonwydd yr 20fed ganrif o amgylch blaenddyfroedd Nant Aber-nant a'i hisafonydd. Gorwedda'r blanhigfa ar ben nifer o ffermydd cynharach yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar sydd bellach wedi'u gadael yn segur. Waliau o gerrig sychion, yn dyddio yn ôl pob tebyg o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif o leiaf, sy'n nodi'r ffin rhwng y ffermydd hyn a'r rhostir heb ei gau.
Llun: CPAT 2509-123.
Planhigfa gonwydd yr 20fed ganrif yn ardal Onllwyn a Phenmoelallt, o'r gogledd-orllewin.
Llun: CPAT CS07-06-35.
Golygfa o'r awyr o blanhigfeydd conwydd modern ar ymylon dwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr i'r dde, gyda Chronfa Ddwr Llwyn-onn i'w gweld yn y cefndir ar y dde.
Llun: CPAT 08-C-67.