CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glg


ADEILADAU YN Y DIRWEDD

Mae adeiladau syn dal i sefyll iw gweld yn hanner yr ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol yn unig, sef dyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan. Maer rhain yn nodweddiadol or mathau o gymunedau ffermio sydd wedi goroesi o amgylch ymylon rhostir eang Fforest Fawr. Yr unig Adeilad Rhestredig sydd wedii ddynodi yw Hepste-fawr. Ond er nad oes tystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, mae ffurf a chymeriad cyffredinol yr adeiladau hynny sydd wedi goroesin cynrychioli mynegiant hanfodol a chydlynol o hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd o dir ffermio wedii amgu syn rhan or dirwedd hanesyddol ers o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol hyd heddiw.

Ffermdai a thai allan ffermydd yw mwyafrif yr adeiladau sydd wedi goroesi. Maen debygol bod rhai adeiladau sydd wedi goroesin tarddu or 17eg ganrif ar 18fed ganrif. Fodd bynnag, oherwydd y modd mae rhai wediu hadeiladu ar draws y llethr, ac oherwydd bod eu tai allan wediu trefnu mewn llinell, ymddengys fod nifer or rhain, ynghyd rhai or ffermdai a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif, yn deillio o dai hirion canoloesol neu l-ganoloesol cynnar a fyddain darparu llety ar gyfer pobl yn y pen uchaf ac anifeiliaid yn y pen isaf. Ceir adeiladau ar y ffurf hon yn nyffryn Hepste, ac feu cysylltir ar y cyfan hwsmonaeth gwartheg cynnar. Maer rhain yn cynnwys Hepste-fawr y sonnir amdano yn The Welsh House gan Iorwerth Peate (1940), ar ffermdy yn Neuadd. Roedd y ffermdai syn dyddio or 17eg ganrif ar 18fed ganrif yn nyffryn Cadlan, sef Nant-maden, Coed Cae Du a Gelli-ffynnonau-isaf gynt, wediu trefnu mewn llinell ar draws y llethr, syn awgrymu ailadeiladu strwythurau syn tarddu or cyfnod canoloesol neur cyfnod l-ganoloesol cynnar.

Mewn rhai achosion, ceir awgrymiadau bod ffermdai cwbl newydd wediu hadeiladu yn y 18fed ganrif ar 19eg ganrif, i ddisodli strwythurau cynharach. Roedd y ffermdai diweddarach hyn, mewn cyferbyniad, yn dilyn yr arferiad cyffredinol o adeiladu ar hyd y gyfuchlin, fel y ffermdy yn Llwyn-celyn y mae ei gynllun ai simnai fawr yn awgrymu ei fod yn tarddu or 18fed ganrif. Fodd bynnag, ymddengys fod nifer dda or ffermdai syn gysylltiedig ffermydd a allai fod o darddiad canoloesol neu l-ganoloesol cynnar wediu hailadeiladun sylweddol, neu wediu disodli gan dai newydd a adeiladwyd yn eu lle, yn ystod y 19eg ganrif. Gorweddar ffermdy yn Nhirmawr, syn dyddio or 19eg ganrif, ar hyd y gyfuchlin; mwy na thebyg, fe ddisodlodd hwn adeilad cynharach o darddiad canoloesol y mae hen lwyfan ty yn ei gynrychioli. Cysylltir y ffermdy or 19eg ganrif yn Nhir-dyweunydd rhes o adeiladau wediu trefnu ar draws y llethr, syn awgrymu ei fod o bosibl yn cynnwys ty cynharach. Yn yr un modd, ymddengys fod trefniad llinellol yr adeiladau fferm yn Beili-helyg, i ffermdy, ysgubor yd a beudy or 19eg ganrif, yn cynrychioli ailadeiladu casgliad cynharach o adeiladau. Roedd casgliadau eraill o adeiladau fferm wedi mabwysiadau trefniad syml o dai allan yn gyfochrog r ffermdy, neu ar ongl sgwr iddo. Unwaith eto, maen debygol bod ffermdai a thai allan diweddarach y 19eg ganrif yn Nhai-hirion a Gelli-ffynonnau-uchaf, sydd ill dau u manylion mewn brics melyn, ar safle ffermydd tharddiad cynharach.

Mae llawer or adeiladau fferm sydd wedi goroesin dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ar 19eg ganrif ac yn dangos yr economi ffermio cymysg oedd yn nodweddiadol or cyfnod hwnnw. Ffermydd thenantiaid oedd mwyafrif y ffermydd yn yr ardal yn y cyfnod hwn, ac maen debygol, felly, bod rhai or stadau deiliadaethau yn yr ardal wedi dylanwadu ar lawer or gwelliannau hyn. Maen bosibl yu cynhaliwyd law yn llaw r ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach a awgrymwyd uchod. Mae adeiladau fferm nodweddiadol yn cynnwys ysguboriau yd bach, gyda holltau awyru a drysau yn y canol, stablau, beudai a granarau. Byddent weithiau wediu cyfunon un strwythur a gellir gweld enghreifftiau ar nifer o ffermydd, gan gynnwys Hepste-fawr, Tirmawr a Neuadd yn nyffryn Hepste, ac ym Meili-helyg, Garw-dyle a Choed Cae Du yn nyffryn Cadlan. Mae tystiolaeth o waith adeiladu mwy helaeth yn Wern-las, lle mae trefniad adeiladaur fferm yn awgrymu dylanwad fferm fodel y 19eg ganrif. Efallai fod tystiolaeth yma, ac mewn mannau eraill yn yr ardal, o ddylanwad llesol Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd yng nghanol y 18fed ganrif. Gwnaeth Walter Davies ddwyn sylw yn ei General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales, a gyhoeddwyd ym 1814, at y gwelliannau mewn adeiladau ac arfer ffermio yr oedd Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd ym 1755, wediu hysbrydoli: Their improvements gradually extended to the remotest corners of the county; even in the hundreds of Dyfynog and Buallt, we recognise the superior buildings and farm-yards of the Brecon Society. Maen nodi, yn arbennig, ffurf nodweddiadol yr ysgubor yd yn Sir Frycheiniog, gyda double folding-doors on each side of the barn floor, for convenience, especially during precarious harvests, of driving in a load of grain under cover.

Nid yw llawer or hen fythynnod a thyddynnod yn yr ardal wedi goroesi; mae pr o fythynnod o ddiwedd y 19eg ganrif or enw Gelli-neuadd ar ochr y ffordd yn enghraifft brin o gartrefi gweithwyr. Maent ar y ln ir gogledd o Benderyn, ac maen debygol mai gweithwyr amaethyddol neu weithwyr chwarel oedd yn byw yno.

Buddsoddwyd llai o lawer mewn adeiladau yn ystod yr 20fed ganrif, ar wahn i nifer o achosion o adnewyddu ffermdai a bythynnod. Serch hynny, ceir rhai eithriadau fel ambell helm brin ac adeiladau diweddar ffrm o ddur ar gyfer wyna a storio gwair a gwellt, ac ambell strwythur symudol neu dros dro a wnaed o ddefnyddiau nad ydynt yn draddodiadol.

(yn l ir brig)