CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Ystyrir amryw agwedd ar amgylchedd naturiol Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg yn eithaf manwl yn Mynydd Du and Fforest Fawr: The Evolution of an Upland Landscape in South Wales (1997) y Comisiwn Brenhinol, a cheir crynodeb yma.

Yn y gogledd, mae’r ardal yn codi hyd gopa Fan Fawr ar uchder o tua 734 metr uwchlaw lefel y môr. Fan Brycheiniog, tua 14 cilometr i’r gorllewin, yw’r unig gopa yn Fforest Fawr sy’n uwch na’r copa hwn. Tua’r de, mae’r ucheldir llwm yn disgyn yn raddol i uchder o tua 300 metr. Yn ei ddyrannu mae sianeli cul, adnewyddedig, ag ochrau serth afon Hepste a’i hisafonydd, sy’n uno’n raddol ar uchder o tua 350 metr yn rhannau is, amgaeedig dyffrynnoedd Hepste, Cwm Cadlan a Phant Sychbant, sy’n parhau i ddisgyn i tua 250-300 metr. O bopty, mae’r tir yn disgyn yn fwy sydyn o lawer, i lawr i ddyffrynnoedd ag ochrau mwy serth afon Mellte yn y gorllewin ac afon Taf Fawr yn y dwyrain

Mae’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal yn amrywiol ac yn cynnwys Hen Dywodfaen Coch i’r gogledd, sy’n ffurfio sgarp gogleddol Bannau Brycheiniog. Tua’r de o hwn, mae ardal o galchfaen Carbonifferaidd a Grut Melinfaen. Effeithiodd rhewlifau a haenau iâ ar y dirwedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Llifai rhew allan yn rheiddiol o gopa’r Bannau, gan ddyfnhau’r dyffrynnoedd a oedd yno eisoes yn draenio tua’r de, sef dyffrynnoedd Mellte, Hepste a Thaf Fawr, a gadael dyddodion drifft rhewlifol ynddynt. Achosodd y brigiad gwydn o Grut Melinfaen ar Fynydd-y-glôg wyriad yn llwybr y rhew, i’r dwyrain ac i’r gorllewin, gan greu Pant Sychbant, sef dyffryn sych sy’n torri ar draws y dirwedd ar ongl wahanol i ddyffrynnoedd yr afonydd. Nodwedd neilltuol y calchfaen Carbonifferaidd yw ffurfiad llyncdyllau niferus, llai, ac ychydig o rai mwy, yn gyffredinol rhwng 5 metr a 100 metr o led. Toddiad calchfaen ar hyd craciau yn y graig sy’n eu ffurfio, ac maent wedi’u cysylltu â nentydd a chyrsiau dwr tanddaearol.

Yn yr ardal o rostir i’r gogledd, gorwedda’r priddoedd yn bennaf ar ben Hen Dywodfaen Coch neu ddyddodion drifft tywodfaen. At ei gilydd, maent yn ddirlawn yn dymhorol, yn asidig gyda haenlin fawnaidd ar yr wyneb, sy’n cynnal rhostir gwlyb sy’n borfa wael ei hansawdd. Tua’r gorllewin, ceir ardaloedd llai o dir wedi’i ddraenio’n well ar ben tywodfaen yn ardal Gwaun Cefnygarreg, a thir wedi’i ddraenio’n well yn cynnal porfa rostirol o well ansawdd pori ar ben calchfaen yn ardal Garn Ganol. Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd o dir wedi’i ddraenio’n well i’r de, ar ben tywodfaen a chalchfaen yn ardaloedd Cefn Cadlan a Mynydd-y-glôg. Yn ardaloedd is dyffrynnoedd Hepste a Chadlan, mae’r priddoedd yn tarddu o ddyddodion drifft tywodfaen yn bennaf ac, yn gyffredinol, lomau ydynt sy’n ddirlawn yn dymhorol ac yn araf i ddraenio.

Cynhaliwyd nifer o astudiaethau palaeoamgylcheddol yn y rhanbarth, sydd wedi rhoi amlinelliad bras o hanes amgylcheddol a hanes llystyfiant ardal y dirwedd hanesyddol ers y rhewlifiant diwethaf. Mae’r astudiaethau’n cynnwys dadansoddi paill mewn dyddodion mawn ar ochr ddeheuol Pant Sychbant, a phriddoedd wedi’u claddu ger Nant-maden yng Nghwm Cadlan, yn ogystal â nifer o safleoedd eraill ym Mannau Brycheiniog a Fforest Fawr. Mae dilyniant a welodd ddyfodiad prysg merywen ac yn ddiweddarach coetir â bedw yn bennaf ac yna cyll, yn nodi’r cyfnod rhewlifol hwyr a’r cyfnod ôl-rewlifol cynnar, rhwng tua 12000 CC a 6000 CC. Gyda sefydlu coetir tymherus rhwng tua 6000 CC a 5000 CC, daeth coed derw a llwyf i’r amlwg, ac o’r rhain derw a ddaeth yn fwyaf cyffredin ar y tir is a phîn a bedw ar diroedd uwch, mwy agored. Ymddengys yn debygol fod gorchudd coed y cyfnod ôl-rewlifol wedi dod yn glytiog ar dir uwch na thua 500 i 600 metr, er y byddai peth coetir, yn amlwg, wedi ymestyn hyd at 800 metr neu uwch, gan gynnwys copa Fan Fawr ym mhen mwyaf gogleddol ardal y dirwedd hanesyddol.

Daeth effaith eglur gyntaf gweithgaredd dynol i’r amlwg yn nilyniant llystyfiant naturiol Fforest Fawr tua 6000 CC, yn ystod y cyfnod cynhesach hwn ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Gwnaed yr awgrym mai dyma pryd cafodd llanerchau ucheldirol eu creu a’u cadw’n agored mewn coetir bedw trwy losgi llystyfiant a rhoi anifeiliaid i bori. Roedd rhai ardaloedd o rosydd grug a phrysg cyll hefyd yn dechrau dod i’r golwg tua’r cyfnod hwn, mewn ardaloedd a fu unwaith yn goediog; mae’n debygol mai gweithgaredd dynol oedd o leiaf yn rhannol gyfrifol am hyn. Achosodd mwy o ddirlawnder mewn rhai ardaloedd ddechrau ffurfiad mawn a chynnydd mewn gwern.

Gwelodd y cyfnod hyd at tua 4000 CC, yn ystod y cyfnod Neolithig cynnar, ychydig o ostyngiad mewn llwyf a rhai rhywogaethau coed eraill, gyda chynnydd cyfatebol mewn glaswelltydd a pherlysiau ac, o bosibl, y rhosydd yn ehangu. Mae’n amlwg y bu pwysau cynyddol ar goetir ar ddiwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd, rhwng tua 3500 CC a 1500 CC. Ceir tystiolaeth o gynnydd pellach mewn glaswelltir, peth aflonyddu ar y tir, ehangu parhaus y rhostir grug ond hefyd, mae’n debygol, goroesiad peth coetir derw a chyll ar dir gweddol uchel. Ymddengys fod yr amodau hinsoddol gweddol fwyn a barhaodd yn ystod y cyfnod hwn wedi sicrhau mwy o botensial i amaethyddiaeth ar dir uwch nag yn y gorffennol diweddar. Ymddengys hefyd fod hyn yn cyd-daro â dyfodiad gweithgareddau defnydd tir ac anheddu cynnar mewn rhannau o ardal y dirwedd hanesyddol.

Dechreuodd y cyfnod o hinsawdd mwy ffafriol hwn ddirywio tua 1500 CC, yn ystod canol Oes yr Efydd, gan ddiweddu â’r amodau gwlypach a mwy claear a ddaeth i fodolaeth yn y cyfnod rhwng tua 1000 CC a 500 CC. Roedd hyn fwy neu lai’n cyfateb i’r cyfnod o newid rhwng diwedd Oes yr Efydd a dechrau Oes yr Haearn. Mae’n debygol bod tymor tyfu byrrach, a mwy o lawiad yn ystod y cyfnod hwn â’i hinsawdd llai ffafriol, wedi arwain at adael caeau ac aneddiadau cynnar yn segur yn rhai o rannau uwch a mwy agored yr ardal, sydd bellach yn rhostir unwaith eto. Ymddengys fod amodau hinsoddol gwlypach yn gyffredinol, fodd bynnag, wedi arwain at fwy o ddirlawnder a dirywiad yn ffrwythlondeb y pridd. Arweiniodd hyn at lai o adfywio coetir er, yn ddiamau, parhau wnaeth anheddu a thrin y tir ar safleoedd is, cysgodol yn y dyffrynnoedd.

Ymddengys yn debygol fod nifer o amrywiadau hinsoddol wedi hynny wedi effeithio’n uniongyrchol ar hanes yr anheddu a’r defnydd tir yn yr ardal. Er enghraifft, fe gynhesodd y tymheredd ychydig yn y cyfnod ar ddiwedd Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid, rhwng tua 0 OC a 400 OC ac eto yn y Canol Oesoedd rhwng tua 1150 OC a 1250 OC. Mae’n bosibl y bu ymgartrefu parhaol am gyfnodau o sawl canrif ar y tro unwaith eto yn rhai o’r ardaloedd anheddu a defnydd tir mwy ymylol a adawyd yn ystod Oes yr Efydd. Fe’u gadawyd yn segur am y tro olaf pan waethygodd amodau yn ystod yr ‘Oes Iâ Fach’, rhwng tua 1300 OC a 1850 OC, pan wnaeth hafau gwlypach a mwy claear olygu cyfyngiadau eto, yn enwedig ar ffermio âr.

Awgrymwyd mai newidiadau gweddol ddiweddar i arferion pori a arweiniodd at y glaswelltir asidig helaeth sydd i’w weld ymhobman yn yr ucheldiroedd heb eu cau yn ardal y dirwedd hanesyddol heddiw, gan ddisodli’r rhostir grug a ymledodd yn raddol ond yn eang dros yr ardal ers y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Yn y cyfnod canoloesol ac mewn cyfnodau cynharach, mae’n debygol nad oedd y rhostir yn cael ei bori mor ddwys, ac efallai mai gwartheg oedd yn pori yno’n bennaf. Ers tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, fodd bynnag, daeth ffermio defaid yn ddwys yn dra-phwysig, a thybir ei fod wedi cyfrannu at y newid mewn llystyfiant.

(yn ôl i’r brig)