CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu’r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


CYSYLLTIADAU HANESYDDOL A DIWYLLIANNOL

Mae ardal y dirwedd hanesyddol ymhell o ganolfannau poblogaeth, ac felly ychydig o gysylltiadau hanesyddol neu ddiwylliannol arwyddocaol sydd ganddi.

Roedd nifer o hynafiaethwyr cynnar, gan gynnwys Theophilus Jones, yr hanesydd o Sir Frycheiniog, yn cysylltu Cwm Cadlan â brwydr rhwng rhengoedd Iestyn ap Gwrgan a Rhys ap Tewdwr yn yr 11eg ganrif. Fodd bynnag, cysylltiad chwedlonol yw hwn yn ôl pob tebyg ac, yn ddiamau, dyfaliad ydyw ar sail ail elfen yr enw, sef ‘cadlan’ â’r ystyr ‘maes y gad’, a phresenoldeb carneddau niferus yn yr ardal hon yr ystyrir heddiw eu bod yn ôl pob tebyg o ddyddiad cynhanesyddol cynnar.

Mae lle i gredu bod gan Gwm Cadlan gysylltiadau â Lewis Lewis, ffigwr drwg-enwog ac eithaf arwyddocaol yn hanes cymdeithasol de Cymru ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mab cigydd o’r enw Jenkin, a Margaret Lewis o Flaencadlan, Penderyn oedd Lewis, neu ‘Lewsyn yr Heliwr’ neu ‘Lewsyn Shanco Lewis’ i roi enwau eraill arno, a aned ym 1793. Chwaraeodd ran flaenllaw yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831, sef protest boblogaidd o ganlyniad i brisiau’n codi, caledi ac amodau gwaith gwael. Mae’n bosibl mai fferm Beili-helyg oedd ‘Blaencadlan’ (er mai Beili-helyg sydd ar fap degwm 1840 o Benderyn, fe’i gelwir yn ‘Blaen Cadlan’ ar y rhestr atodol), yn hytrach na’r bythynnod sydd bellach yn adfeilion ar ymylon y rhostir ym Mlaen-cadlan-uchaf a Blaen-cadlan-isaf. Adeg y terfysgoedd, certio glo o’r pyllau yn Llwydcoed i’r odynnau calch ym Mhenderyn oedd gwaith Lewis; dyma oedd tarddiad ei lysenw ’Lewsyn yr Heliwr’. Ym Mrawdlys Caerdydd yn ddiweddarach fe’i cyhuddwyd o annog yr ymosodiad ar dy Joseph Coffin, clerc y Llys Deisyfion, ar 2 Mehefin, ac ysgogi’r dyrfa i gipio arfau milwyr 93ain Catrawd y Troedfilwyr (Yr Ucheldiroedd) y tu allan i Dafarn y Castell ym Merthyr Tudful trannoeth. Cipiwyd Lewis Lewis yn ardal Penderyn ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach, ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth ochr yn ochr â Richard Lewis (’Dic Penderyn’) am gynulliad terfysglyd ac am ddinistrio ty ac eiddo Joseph Coffin. Yn achos Lewis Lewis, fe newidiwyd y ddedfryd i fod yn alltudiaeth am oes.

(yn ôl i’r brig)