CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol

Nodweddur Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg


CPAT PHOTO 2509-102

Disgrifiad

Maer disgrifiad canlynol, a gymerwyd or Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn ewir themu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Maer tarenni trawiadol syn wynebu ir gogledd a mynyddoedd dramatig cysylltiedig y Mynyddoedd Du, Bannau Brycheiniog, Fforest Fawr ar Mynydd Du gydai gilydd yn ffurfio esgair faith naturiol a rhwystr ffisegol syn rhannu De Cymru oddi wrth y Canolbarth. Fforest Fawr syn ffurfio rhan ganolog y rhwystr hwn gydar ardal a nodir yma yn cynnwys ei hochr ddwyreiniol a leolir rhwng dyffrynnoedd y Mellte yn y gorllewin a Thaf Fawr yn y dwyrain. Maer bloc naturiol hwn o dir yn ymestyn o Fan Fawr a Mynydd y Garn yn y gogledd, i Gadair Fawr, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glg yn y de syn gorwedd y tu allan i ffin hanesyddol y Fforest. Maer bloc yn cynnwys llwyfandiroedd uwchdir rhanedig syn gwyro i lawr yn raddol ir de o 734m uwchben SO ar begwn gwastad nodedig Fan Fawr, i rhwng 250 a 300 uwchben SO yn nyffrynnoedd Hepste a Chwm Cadlan - Pant Sychbant syn torri drwyr canol ac syn cynnwys yr unig rannau o dir amgaedig mewn ardal o rostir sydd fel arall yn amlwg yn llwm ac yn anghysbell.

Datgelodd arolwg tirwedd maes archaeolegol a hanesyddol dwys a gynhaliwyd yn y Mynydd Du a Fforest Fawr ynghanol yr 1980au oroesiad eang o olion archaeolegol syn cynrychioli preswyliad ac ymelwad a ddigwyddodd droeon, ar brydiaun ddwys, or ardal ai hadnoddau naturiol, or cyfnod cynhanesyddol ir gorffennol diweddar. Maer olion hyn yn cynnwys henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, tystiolaeth o amaethu a gosod tir cynnar, ac ystod o aneddiadau or cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, r cwbl wedii orchuddio mewn mannau gan olion mwy diweddar chwareli,gweithiau calch a derbyniadau tir segur.

Digwyddodd y preswyliad cynharaf or ardal fwy na thebyg yn y cyfnod Mesolithig gyda chasgliad o fflintiau wediu cloddio o Bant Sychbant yn dangos math o offeryn yr ystyrir ei fod yn dyddio or cyfnod Mesolithig diweddar. Fodd bynnag, maen debyg na ddigwyddodd defnydd dwys a pharhaus or tir yn yr ardal tan Oes yr Efydd, lle codwyd llawer o garneddau ar lethrau Mynydd-y-glg, Cefn Sychbant, Penmoelallt, Cefn Esgair-caerau, Waun Tincer ac ym Mhant Sychbant. Maer rhan fwyaf or safleoedd yn cynnwys tomenni crwn syml o gerrig, ond mae gan rai strwythurau mwy rheolaidd syn awgrymu eu bod wedi cael eu hail-ddefnyddio au haddasu, statws gwahanol o bosibl, er mai ychydig iawn o safleoedd sydd wedi cael eu cloddio.

Maer garnedd gylch, sydd, fel yr awgrymar enw, yn gylch o gerrig mewn tomen, yn fath arall o heneb angladdol o Oes yr Efydd a gynrychiolir yn yr ardal, er bod llai ohonynt na charneddau crwn. O dystiolaeth yn dilyn cloddio mewn mannau eraill, roedd gan garneddau cylch ystod ehangach o swyddogaethau defodol na charneddau crwn, a oedd fwy na thebyg wediu bwriadu ar gyfer claddur meirw yn unig. Maer garnedd gylch fawr yng Nghwm Cadlan yn enghraifft dda iawn oi math.

Heb eu dyddio, ond y tybir eu bod or cyfnod cynhanesyddol yn fras ar sail tebygrwydd safleoedd a ddyddiwyd gan gloddio mewn mannau eraill, mae clystyrau dystiolaeth yn cynnwys cylchoedd cytiau neu sylfeini cerrig tai crwn, llwyfannau wediu creu neu bantiau wediu tyllu o bosibl ar gyfer strwythurau pren, amgaeadau, cyfundrefnau caeau a grwpiau o garneddau bach wediu clirio, ac weithiau tomenni o gerrig wediu llosgi sydd wedi cael eu dehongli fel malurion yn deillio o goginio bwyd mewn dŵr a gynheswyd mewn pwll neu gafn gan gerrig poeth.Mae clystyrau nodedig a helaeth or nodweddion hyn ym Mhant Sychbant,Cwm Cadlan ac yn nyffryn Hepste. Dadleuwyd hyd yn oed bod patrymaur llync-dyllau o galchfaen yn yr ardal hon o bosib yn gysylltiedig gweithgaredd dynol cynhanesyddol, y gwaith o godi cofadeiladau a chlirio caeau. Maer nodweddion erydu hyn yn nodwedd amlwg or tirwedd lleol.

Roedd aneddiadau canoloesol fel arfer yn dewis lleoliadau tebyg ir cyfnod cynhanesyddol ond ar y cyfan, ymddengys bod mwy o wasgariad aneddiadau gyda safleoedd mwy anghysbell yn digwydd yn yr ardal. Mae clystyrau o sylfeini adeiladau cerrig canoloesol nodweddiadol a llwyfannau tai ym Mhant Sychbant, Pant y Gadair ac yn nyffryn Hepste. Mae safleoedd Pant Sychbant yn agos at strwythurau cynharach, cynhanesyddol. Mae llai o dystiolaeth ar gyfer amaethu ysylltiedig yn y cyfnod canoloesol ac ystyrir y safleoedd ar y cyfan fel rhai bugeiliol yn bennaf, er nid oes un o fewn yr ardal wedi cael ei gloddio i ddarparu awgrymiadau mwy cywir o ddyddiad a hefyd, pun a oedd y safleoedd yn barhaol neun hafodydd tymhorol mewn cyfundrefn o drawstrefa.

Yn hanesyddol, yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, daeth y rhan ogleddol or ardal sydd nawr o fewn Powys, yn rhan o Fforest Fawr a neilltuwyd ar gyfer hela fel Fforest Arglwyddiaeth Aberhonddu gan Bernard de Neufmarch ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Ym 1521, fodd bynnag, daeth y Fforest yn eiddo ir Goron ac yn dilyn hynny dirywiodd mewn maint yn raddol wrth i dirfeddianwyr brynu breinryddid rhag rhwystrau cyfraith y fforest, neu drwy asartio ac amgu, fel, er enghraifft, yn nyffryn Hepste. Ym 1819, gwerthwyd y Fforest ac amgaewyd y rhan ganolog, neu Randir y Comin, gan Amgaead Seneddol, gydar darn a gynhwysir yma yn aros fel rhostir agored fel Rhandir Comin. Maer darnau tir a adawyd sydd ar yr ymylon rhwng y tir amgaedig ar rhostir agored yn dyddio o tuar cyfnod hwn: mae enghraifft dda yng Nghwm Cadlan. Yn rhyfedd ddigon, amgaewyd Hepste-fechan, daliad ym mhen uchaf dyffryn Hepste allan or rhostir agored ar ryw adeg cyn y gwerthiant, ac maer daliad yn parhau i fod yn ynys weladwy iawn o dir pori gwell o fewn y Rhandir Comin.

Ceir tystiolaeth o weithgaredd diwydiannol y gorffennol or ddwy ganrif ddiwethaf yn bennaf, ar Gadair Fawr a Mynydd-y-glg, gan gynnwys chwarelu a llosgi calchfaen. Roedd gweithio calch yn Fforest Fawr yn y cyfnod canoloesol gan fod ffynonellau dogfennol yn nodi tystiolaeth o hawliaur bobl i chwarelu, llosgi a gwerthu calch, ond roedd y clwstwr o olion sydd wedi goroesi yn yr ardaloedd a nodir yma, a oedd yn gorwedd y tu allan ir Fforest, fwy na thebyg yn perthyn ir prif gyfnod cynhyrchu calch yn y 18fed ar 19eg ganrifoedd, pan gynyddodd y galw gan fyd amaeth, ac i raddau llai, gan waith adeiladu. Gweithiwyd tywod silica a ddefnyddiwyd ar gyfer gwneud briciau tn anhydrin yn ddiweddar yn chwarel Cefn Cadlan, ond rhoddwyd y gorau i echdynnu bellach. Maer corlannau niferus yn yr ardal yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynyddol ffermio defaid yn ystod y cyfnod l-ganoloesol.

Cymru, sydd mewn sawl ffordd yn nodweddiadol, yn dangos pa mor frwd y bu ymelwa gan boblogaethau dynol y parthau hyn yn y gorffennol - weithiau drosodd a thro, weithiau yn barhaus. Mae graddfa a dwyster y gweithgaredd dynol yn rhyfeddol. Maer arolwg tirwedd hanesyddol diweddar, gan ddefnyddio mapio modern, arolygu a dulliau cynllunio ffotograffau or awyr dros ardaloedd eang a chynrychioliadol iawn, yn dod r dwyster gweithgaredd yma yn fyw yn yr hyn sydd heddiw yn ymddangos fel ardal o rostir gwag a diffaith.

Llunio Tirwedd Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg

Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfior dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau syn dilyn.

Yr Amgylchedd Naturiol

Ffiniau a Dynodiadau

Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir

Adeiladau yn y Dirwedd

Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Traciau, Ffyrdd, Rheilffyrdd a Phibelli

Odynau Calch a Chwareli

Cysylltiadau Hanesyddol a Diwylliannol

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wediu cyhoeddi.

Ffynonellau gwybodaeth cyhoeddedig a rhai nad ydynt wediu cyhoeddi

Ardaloedd nodwedd

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd nodwedd a ddiffinnir yn Nhirlun Hanesyddol Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glg


CPAT PHOTO 2509-86

1198 Ardal nodwedd Mynydd y Garn. Ardal o rostir eang ag olion pwysig o ddefnydd tir, anheddu a chladdu cynhanesyddol, ynghyd thystiolaeth o aneddiadau tymhorol or canol oesoedd a chyfnodau diweddarach, a chorlannau. Llun: CPAT 2509-86. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd

CPAT PHOTO 2509-32

1199 Ardal nodwedd Cefn Cadlan - Cefn Sychbant - Mynydd-y-glg. Ardal o rostir eang ag olion pwysig o ddefnydd tir, anheddu a chladdu cynhanesyddol, ynghyd dyrnaid o gorlannau l-ganoloesol a diweddarach yma ac acw, a chwareli bach segur ac odynau calch cysylltiedig. Llun: CPAT 2509-32. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd

CPAT PHOTO 2509-106

1200 Ardal nodwedd Garreg-fawr. Tirweddau caeau a ffermydd yn tarddu yn l pob tebyg or canol oesoedd hwyr ar cyfnod l-ganoloesol, yn uchel ar ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte, ychydig yn is nag ymyl y rhostir. Llun: CPAT 2509-106. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd

CPAT PHOTO 2509-65

1201 Ardal nodwedd Dyffryn Hepste. Dyffryn ucheldirol phatrwm cydlynol mewn cyflwr da o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach afreolaidd yn gyffredinol, o darddiad canoloesol a chynharach gyda waliau o gerrig sychion a gwrychoedd yn ffiniau, ynghyd ag ardaloedd mwy o borfa wedii chau ar ymyl y rhostir. Llun: CPAT 2509-65. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd

CPAT PHOTO 2509-45

1202 Ardal nodwedd Cwm Cadlan. Dyffryn ucheldirol phatrwm gwasgarog o ffermydd a ffermydd wediu gadael yn segur a chaeau bach afreolaidd yn gyffredinol, o darddiad canoloesol a chynharach ynghyd ag ardaloedd mwy o borfa wedii chau ar ymyl y rhostir gyda waliau o gerrig sychion a gwrychoedd yn ffiniau ir caeau. Llun: CPAT 2509-45. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd

CPAT PHOTO CS07-06-0035

1203 Ardal nodwedd Coed Penmailard - Coed Cefn-y-maes. Coetir conwydd modern, wedii blannun rhannol ar dirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau afreolaidd a gweithfeydd calch gwasgaredig yn dyddio or canol oesoedd ar cyfnod l-ganoloesol cynnar. Llun: CPAT CS07-06-35. (yn l ir map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap or ardal nodwedd


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.

1139 1139 1139 1138 1138 1138 1138 1137 1137 1137 1137 1131 1131 1131 1131 1135 1134 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1132 1132 1132