CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu’r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


ODYNAU CALCH A CHWARELI

O’r Canol Oesoedd ymlaen, mae’n debygol bod y rheiny a oedd yn meddu ar hawliau cominwyr yn y Fforest Fawr yn gallu manteisio ar yr adnoddau naturiol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Nid oes tystiolaeth eglur wedi goroesi o dorri mawn yn yr ardal, mwy na thebyg oherwydd prinder dyddodion addas. Ond mae olion helaeth o ddiwydiannau echdynnu sy’n gysylltiedig â chynhyrchu carreg a chalch yno o hyd. Mae i’r rhain arwyddocâd o ran hanes anheddu a defnyddio tir yn yr ardal, er eu bod ar raddfa lai, yn aml, na’r rheiny a welir mewn ardaloedd cyfagos o dde Cymru. Trosglwyddwyd holl hawliau chwarela yn y Fforest Fawr i’r entrepreneur John Christie pan brynodd yr hawliau mwynau ar ddechrau’r 1820au. Wedi iddo fynd yn fethdalwr, fe drosglwyddwyd yr hawliau hyn cyn pen dim i eraill.

Mae odynau calch wedi’u nodi naill ai’n unigol neu mewn clystyrau ym mhob un o’r ardaloedd nodwedd. Ni roddwyd dyddiad manwl i lawer ohonynt, ac yn gyffredinol maent i’w gweld yn agos at ymylon y rhostir heb ei gau, mewn mannau lle ceir calchfaen yn naturiol. Mae’n bosibl y cynhyrchwyd peth calch yn yr ardal yn ystod y Canol Oesoedd, ond hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth archaeolegol eglur o gynhyrchu yn y cyfnod hwnnw. Mae’n debygol mai cynhyrchu calch amaethyddol rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif oedd diben y rhan fwyaf o olion y diwydiant calch sydd dal i’w gweld yn yr ardal. Byddent wedi mynd yn segur, yn bennaf, pan sefydlwyd odynau calch mwy masnachol mewn mannau eraill ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ymhlith yr odynau cynharaf y gwyddys amdanynt yn yr ardal mae’r rheiny tua chornel de-ddwyrain yr ardal a welir ar fap stad Penmailard â’r dyddiad 1749. Cynrychiolir llawer o odynau y gwyddys amdanynt ar fapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn y 1880au, ond nodir bod rhai ohonynt eisoes yn segur erbyn y dyddiad hwnnw. Dywedir bod odyn ar fferm Tirmawr yn nyffryn Hepste yn dal ar waith hyd at y 1920au neu’r 1930au.

Cysylltir yr odynau â gweithgareddau chwarela, ar raddfa fach yn aml, a fyddai fel arfer yn canolbwyntio ar frigiadau naturiol a chlogwyni, er mwyn arbed arian. Gwelir odyn unigol ambell dro, ond yn amlach na dim maent mewn parau neu glystyrau o hyd at ddeg neu fwy. Mae llawer o’r odynau i’w gweld yn unig fel twmpathau glaswelltog â phant yn y canol, er ambell dro gellir gweld manylion strwythurol fel waliau cerrig sychion ac un neu fwy o ffliwiau. Cysylltir rhai odynau â llwyfannau neu rampiau a ddefnyddid i’w llwytho â chalchfaen, ac â phentyrrau gwastraff. Yn aml, gorwedda’r odynau ar hyd llwybrau neu draciau ar gyfer certi a fyddai’n cludo’r glo yr oedd ei angen i danio’r odynau, ac yn cludo ymaith y calch gorffenedig. Mae’n debygol fod o leiaf rhai o’r odynau’n cynrychioli gweithgareddau tymhorol gweithwyr a fyddai fel arall yn gweithio ar ffermydd a thyddynnod yn yr ardal.

Gwyddys am lawer o chwareli bach calchfaen a thywodfaen eraill yn yr ardal, ac mae’n debygol eu bod wedi darparu defnyddiau ar gyfer adeiladu tai ac adeiladau fferm, waliau caeau a ffyrdd. Yn bennaf, byddai hyn yn y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a chanol y 19eg ganrif efallai, cyn sefydlu chwareli carreg masnachol ar raddfa fawr yn y rhanbarth. Ymddengys fod dyddiad diweddarach i nifer fach o chwareli tywodfaen segur, ac awgryma tystiolaeth gartograffig ar gyfer y rheiny ar Garn Ddu ac ar ochr orllewinol Cefn Cadlan, er enghraifft, fod y chwareli’n tarddu o hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar un adeg roedd dyddodion tywod silica ar gyfer gweithgynhyrchu brics anhydrin a ddefnyddid mewn ffwrneisi mwyndoddi yn ne Cymru hefyd yn cael eu gweithio yn chwarel Cefn Cadlan.

(yn ôl i’r brig)