CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-Glôg


NODWEDDION ANGLADDOL A DEFODOL CYNHANESYDDOL

Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys cryn nifer o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, yn fwyaf penodol, carneddau crwn a charneddau cylchog, sy’n ddangosyddion pwysig o ddefnydd tir neu anheddu cynnar. Ychydig o safleoedd a gloddiwyd yn y cyfnod modern er, yn ôl pob tebyg, mae’r ddau fath o heneb yn perthyn i’r Oes Efydd Gynnar a’r Oes Efydd Ganol trwy gydweddiad â safleoedd mewn mannau eraill. Byddai’r carneddau crwn yn cynrychioli henebion claddu ac, o bosibl, defnyddiwyd y carneddau cylchog ar gyfer gweithgaredd defodol a chladdu. Yr unig ddarganfyddiadau y gellir eu cysylltu â’r henebion yw disgen o dywodfaen a ddarganfuwyd yn y col uwchlaw Cwm Cadlan, a darnau o grochenwaith yr Oes Efydd Gynnar a ddarganfuwyd yn ystod cloddio’r garnedd fawr ger fferm Nant-maden yng Nghwm Cadlan. Yn gyffredinol, mae’r henebion rhwng 6 metr ac 20 metr o led, a hyd at tua metr o uchder, er bod carnedd Nant-maden yn eithriad gan ei bod hyd at 1.8 metr o uchder. Mewn rhai achosion, mae olion posibl o ymylfaen crwn ac arwyddion o gist gladdu ganolog. Ymddengys fod mwyafrif y safleoedd mewn cyflwr da, er y bu ychydig o dyllu i mewn i rai henebion tra bo eraill wedi’u haddasu i fod yn gysgodfannau defaid.

Yn gyffredinol, gellir gwahaniaethu rhwng y mathau hyn o henebion a charneddau carega’n rhwydd oherwydd eu bod yn fwy o faint, neu oherwydd y’u gwelir fesul un yn hytrach nag mewn meysydd carneddau, neu oherwydd bod ganddynt fanylder strwythurol sy’n nodweddiadol o henebion claddu a henebion defodol cynnar. Bellach, ystyrir ei bod yn annhebygol bod cysylltiad rhwng rhai o’r henebion yn ardal Cwm Cadlan a brwydr ganoloesol, ddiweddarach o lawer, sef rhywbeth yr awgrymodd Theophilus Jones, hanesydd o Sir Frycheiniog ar sail yr enw lle ‘Cadlan’. Mae cysylltiad a awgrymwyd rhwng rhai o’r carneddau cylchog yn yr ardal hon a magu gwyddau hefyd yn annhebygol.

Ymddengys mai ychydig o’r henebion sydd ag enwau penodol o unrhyw oedran mawr, ar wahân i Garn Caniedydd a Garn Wen lle mae’n ymddangos bod a wnelo’r elfen â charneddau claddu cynhanesyddol. Mae’n bosibl bod Caniedydd yn cyfeirio at chwiban y gwynt yn y lle agored hwn, neu iddo ddeillio o enw personol, neu ei fod â chysylltiadau traddodiadol neu chwedlonol. Mae amlder yr elfen carn (neu’r lluosog carnau) mewn enwau lleoedd yn yr ardal yn pwysleisio arwyddocâd rhai o’r henebion hyn fel tirnodau mewn rhostir a fyddai fel arall yn ddinodwedd. Gwelir enghreifftiau o hyn mewn enwau fel Mynydd y Garn a Chefn Esgair-carnau er, mewn rhai achosion ac efallai yn y mwyafrif o achosion, ymddengys fod y gair yn cyfeirio at frigiadau creigiog naturiol yn hytrach na thwmpathau artiffisial.

Gwelir mwyafrif yr henebion y gwyddys amdanynt yn yr ardaloedd o ucheldir sydd heb eu cau heddiw (ardaloedd nodwedd tirweddau hanesyddol Mynydd y Garn, a Chefn Cadlan, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog). Mae presenoldeb nifer o henebion mewn tirweddau wedi’u cau, er enghraifft yn achos y garnedd gron sydd wedi’i chloddio’n rhannol ger Nant-maden (ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Cwm Cadlan), yn awgrymu’r posibilrwydd fod yr elfennau o henebion tebyg eraill y gellid eu gweld ar yr wyneb mewn ardaloedd is yn nyffryn Hepste a Chwm Cadlan wedi’u clirio ymaith neu wedi’u cuddio yn ystod gwaith clirio, cau tir ac amaethu diweddarach. Felly, mae’n debygol fod dosbarthiad y mathau hyn o henebion heddiw yn ffafrio ardaloedd mwy ymylol sydd wedi’u ffermio’n llai dwys.

Yn ardaloedd nodwedd tirweddau hanesyddol Mynydd y Garn a Chefn Cadlan, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog, fe welir yr henebion naill ai fesul un, mewn parau neu mewn clystyrau mwy. Yn gyffredinol, ymddengys eu bod wedi’u lleoli’n fwriadol ar lethr neu grib, lle gellid eu gweld efallai o aneddiadau’r cyfnod ar dir is. Yn y cyd-destun rhanbarthol, mae crynhoad nodedig o safleoedd yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, ar lwyfandiroedd ucheldirol Mynydd y Garn, Waun Tincer a Chefn Esgair-carnau. Yn gyffredinol, mae’r carneddau’n osgoi ardaloedd uchaf a mwyaf anghysbell y rhostir, sy’n uwch na thua 450 metr uwchlaw lefel y môr yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, islaw Fan Fawr. Ymddengys yn arwyddocaol fod dosbarthiad olion y mathau hyn o henebion sydd wedi goroesi’n tueddu i fod ar dir ychydig yn uwch ac yn cyd-fynd ag olion anheddu a defnydd tir cynnar sy’n debygol o fod o’r un cyfnod, o leiaf yn rhannol, yn hytrach na gorymylu â hwy. Awgryma hyn raniad eithaf manwl o ran swyddogaeth yn y dirwedd yn y cyfnod cynhanesyddol cynharach, gyda rhai ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer anheddu a defnydd tir mwy dwys tra bo ardaloedd eraill wedi’u neilltuo ar gyfer claddu, defod a defnydd tir mwy helaeth.

(yn ôl i’r brig)