CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Canol Dyffryn Gwy

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy: Bryn-yr-hydd
Cymunedau Cleirwy a'r Clas ar Wy, Powys
(HLCA 1082)


CPAT PHOTO 1035.14

Aneddiadau bychain cnewyllol o'r canol oesoedd o gwmpas castell ac eglwys ar ymyl y dyffryn, a ffermydd gwasgaredig o'r cyfnod canol a diweddarach ar dir isel mynyddig o fewn tirlun o gaeau bychain afreolaidd, yn cynrychioli proses raddol o ymestyn i mewn i diroedd comin yr ucheldir.

Cefndir hanesyddol

Dangosir yr ymsefydlu cynnar a fu yn yr ardal gan ddarnau gwasgaredig o fflint o gyfnodau'r Oes Fesolithig, Neolithig a'r Oes Efydd gynnar, bwyell garreg wedi'i llyfnhau o'r cyfnod Neolithig, a gweddillion siambr gladdu Neolithig yn Court Farm, ychydig i'r de-orllewin o Gleirwy. Mae cloddwaith caedig ar Dir Comin Bryn-yr-hydd yn awgrymu ymsefydlu yn yr Oes Haearn. Mae'r ardal nodwedd yn dilyn terfyn deheuol tywysogaeth ganol oesol Gymreig Elfael, tywysogaeth yr oedd ei ffiniau yn y cyfnod hwn yn rhedeg ar hyd afon Gwy yn y de ac, yn l pob tebyg, ar hyd llinell Glyn Cilcenni yn y gorllewin. Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canol oesol Cleirwy a Llowes. Croes addurniedig o'r unfed ganrif ar ddeg yw'r dystiolaeth gynharaf yn gysylltiedig ag eglwys Sant Meilig, Llowes, ond mae'r eglwys a'r anheddiad o'i chwmpas yn dyddio'n l i'r cyfnod canol oesol cynnar, cyn y Goncwest o bosibl. Nid yw hanes cynnar Eglwys San Mihangel yng Nghleirwy mor eglur. Mae rhannau o'r eglwys yn perthyn i ddechrau'r 15fed ganrif o bosibl, er fod yr eglwys a'r anheddiad cysylltiedig wedi cael eu sefydlu gyntaf mewn cysylltiad 'r cloddwaith a'r castell carreg a adnabyddir fel La Royl, i'r de-ddwyrain o'r pentref. Caiff y castell ei grybwyll gyntaf ym 1396, ond mae'n bosibl fod ei ddechreuadau'n mynd yn l i'r cyfnod rhwng yr unfed a'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n debyg fod Castell mwnt a beili Evan Gwynne yn perthyn i'r cyfnod hwn hefyd. Mae rhai adeiladau yn Court Farm, Cleirwy, yn cynnwys rhan o adeiladau carreg o'r canol oesoedd, yn l pob tebyg yn perthyn i faenor fynachaidd Abaty Cwm-hir yn Sir Faesyfed. Wedi Deddf Uno 1536 roedd yr ardal yn rhan o gantref Castell Paen yn Sir Faesyfed. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth yr ardal yn rhan o blwyfi degwm Cleirwy a Llowes.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r ardal ar fryniau pantiog isel yn wynebu'r de, yn tremio dros gorlifdir afon Gwy, ar uchder o rhwng 80 a 244m uwchlaw Datwm yr Ordnans. Pridd mn cochlyd sy'n draenio'n dda a geir fwyaf (Cyfres Milford) ar wely o dywodfaen. Defnyddir y tir heddiw ar gyfer pori gan fwyaf, gyda llecynnau modern o goed coniffer ar y llethrau mwyaf serth, fel yng Nghoed Cwm-Sirhwy, Forest Wood a Phen-y-lan. Ceir rhai llecynnau o goed hynafol llydanddail lled-naturiol ar hyd rhai o'r ceunentydd dyfnion, gyda llethrau serth megis Nant Cleirwy, Glyn Garth, Coed Fron a Glyn Cilcenni. Mae gweddillion rhai darnau bychain o Diroedd Comin heb eu cau yn dal ar l yn yr ucheldir, yng Nghomin Llowes a Chomin Bryn-yr-hydd, gyda llwyni bedw a rhedyn.

Mae patrwm yr anheddiad heddiw yn cynnwys pentrefi bychain cnewyllol Cleirwy a Llowes ar y tir isel ar ymyl gorlifdir afon Gwy, ynghyd phatrwm o ffermydd gwasgaredig canolig neu fychan o ran maint tua 300-900m oddi wrth ei gilydd, y rhan fwyaf ar dir uwch, yn aml o fewn eu tiroedd eu hunain gyda ffordd fferm yn arwain tuag atynt. Mae rhodfa hir o dde-orllewin Cleirwy yn arwain at Clyro Court, plasty mawr o'r 1840au a leolwyd ar safle amlwg uwchben yr hen ffordd dyrpeg i'r de.

Mae adeiladau o'r canol oesoedd sydd wedi goroesi yn cynnwys rhan o adeiladwaith Eglwys San Mihangel yng Nghleirwy a'r bwu pwyntiedig mewn ysgubor yn Court Farm, Cleirwy, y credir eu bod yn rhan o faenor fynachaidd yn perthyn i Abaty Sistersaidd Cwm-hir.

Mae nifer o lecynnau adeiladu gwastad ar dir llechweddog i'r gogledd o bentref Llowes o bosibl yn cynrychioli safleoedd o'r canol oesoedd a adawyd neu safleoedd tai diweddarach. Mae'r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r cyfnod canol hwyr neu'r cyfnod l-ganol cynnar, ac yn cynnwys nifer o adeiladau coed ffrm nenfforch a ailadeiladwyd mewn carreg rhwng yr 17eg a'r 19eg ganrif. Cynrychiolir y llinell derfyn adeiladu hon gan nifer o anheddau ym mhentref Cleirwy, yr Hen Ficerdy a'r Radnor Arms yn Llowes (y ddau yma yn seiliedig ar dai neuadd o'r oesoedd canol hwyr), a ffermdy Bryn-yr-hydd a'r ysgubor, y ffermdy o bosibl yn seiliedig ar gynllun ty hir. Adeiladwyd y ffermdai eraill, ac anheddau mwy a llai a godwyd o'r newydd o'r 17eg ganrif hyd ddechrau'r 19eg, o gerrig rwbel, megis ffermdy Moity, Parciau, a bythynnod ym mhentrefi Cleirwy a Llowes. Mae nifer o adeiladau fferm carreg o'r 17eg a'r 18fed ganrif wedi goroesi, weithiau gyda thalcen carreg ac ochrau gydag estyll tywydd, gan gynnwys ystod unionlin o adeiladau Fferm Moity, Fferm Gaer ac ysgubor wair yng Nghwrt Evan Gwynne ac ysgubor wair garreg wedi ei throsi o fewn pentref Llowes. Cerrig rwbel, weithiau wedi'u rendro neu ar gynllun chwipiad garw, oedd y prif ddeunydd adeiladu yn yr ardal yn y 18fed ganrif hyd at ddechrau neu ganol y 19eg ganrif, fel yn achos tai a bythynnod gweision ffermydd o fewn pentref Llowes a Chleirwy, gan gynnwys rhai ag addurniadau brics fer y ffenestri a'r drysau. Roedd teiliau cerrig lleol yn gyffredin mae'n debyg ar gyfer toi cyn i lechi gael eu mabwysiadu'n gyffredinol yn rhan olaf y 19eg ganrif. Mae teiliau cerrig yn dal i fodoli ar nifer o adeiladau, gan gynnwys yr Hen Ficerdy, y Radnor Arms a Barn Cottage yn Llowes a Sacred Cottage a nifer o fythynnod eraill yng Nghleirwy.

Fe ehangodd Cleirwy yn arbennig yn dilyn gwelliannau i drefn y ffyrdd o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Mae adeiladau nodedig o'r cyfnod hwn yn cynnwys Gwesty'r Baskerville Arms o ddechrau'r 19eg ganrif, yr hen ysgol garreg Fictoraidd, Clyro Court (Gwesty Baskerville Hall bellach), a hen stablau a cherbyty Clyro Court (Cil y Bleiddiau bellach) a'r ysgol garreg Fictoraidd a Thy'r Ysgol. Fe adeiladwyd Clyro Court a nifer o adeiladau yn hwyrach yn y 19eg ganrif, megis y Ficerdy yn Llowes, mewn meini nadd, neu byddai meini nadd yn eu haddurno.

Mae olion cefnen a rhych ar ochr orllewinol Cleirwy o bosibl yn cynrychioli hen gaeau agored o'r oesoedd canol oedd yn perthyn i'r pentref. Caeau bychain o siapiau afreolaidd sydd amlycaf yn y tirlun amaethyddol modern, gyda glasleiniau wedi ffurfio ar y llechweddau mwyaf serth, sy'n dangos bod y tir wedi ei drin yn fwy eang yn y gorffennol. Gwrychoedd o wahanol rywogaethau yw ffiniau'r caeau gan fwyaf, gan gynnwys cyll, celyn, a drain duon. Mae darnau bychain o dir heb ei gau ar Gomin Bryn-yr-hydd a Chomin Llowes fel petaent yn cynrychioli gweddillion darnau helaethach o dir pori ar yr ucheldir, a gafodd eu cau o bosibl yn ystod y 18fed ganrif. Awgrymir bod y cau wedi digwydd yn gymharol ddiweddar gan batrwm o gaeau petryal o faint canolig gyda gwrychoedd un rhywogaeth yng ngogledd-orllewin Comin Llowes, yn yr ardal rhwng Old Forest a Fforest-cwm. Mae nifer o ffermydd yr ucheldir yn amlwg yn cynrychioli proses gynharach o ymestyn yn y canol oesoedd a'r canol oesoedd diweddar, gydag ambell i wal sych fel terfyn a chloddion isel ar beth o'r tir uwch. Roedd perllannau yn gysylltiedig llawer o ffermydd a thai yr ardal yn y 19eg ganrif, yn enwedig o amgylch Cleirwy, ac mae rhai olion i'w gweld o hyd.

Mae patrwm o lonydd a llwybrau troellog yn cysylltu'r ffermydd, y trefi a'r canolfannau pentrefol, llawer ohonynt yn deillio o'r cyfnod canol yn l pob tebyg. Mae'r ffyrdd fel arfer yn rhedeg o gwmpas terfynau'r caeau, rhai gyda cheuffyrdd hyd at 3m o ddyfnder, a ffurfiwyd yn y cyfnod cyn i wynebau metlin gael eu cyflwyno ar ffyrdd. Mae cerrig milltir wedi goroesi o gyfnod trafnidiaeth y ffyrdd tyrpeg ger Cleirwy, Courtway a Llowes a Bronydd.

Cynrychiolir y diwydiant prosesu gan nifer o hen felinau dwr i falu yd. Caiff Melin Llowes ar Nant Garth, sy'n llifo i afon Wysg, ei chrybwyll gyntaf yn y 1840au; daeth ei gwaith i ben tua 1920 ac adfail ydyw bellach. Roedd Nant Cleirwy ym mhentref Cleirwy ar un adeg yn cyflenwi dwr i ddwy felin yd, Melin Pentwyn a Melin Paradise, y ddwy wedi cychwyn o bosib yn y 18fed ganrif. Roedd gwaith Melin Pentwyn yn l pob tebyg wedi dod i ben erbyn 1840, tra bod gwaith Melin Paradise wedi dod i ben ym 1940. Cynrychiolir y diwydiant cloddio gan nifer o chwareli cerrig bychain a gloddiwyd ar gyfer cerrig yn l pob tebyg o'r 17eg ganrif ymlaen.

Mae adeiladwaith amddiffynnol yn yr ardal yn cynnwys gwrthglawdd Bryn-yr-hydd, o'r Oes Haearn o bosib, Castell mwnt a beili Kinsey yng Nghwrt Evan Gwynne, a Chastell Cleirwy, sydd llwyfan tebyg i fwnt gyda sylfeini o bosib ar gyfer twr carreg.

Mae adeiladau crefyddol pwysig yn cynnwys yr eglwysi o fewn aneddiadau cnewyllol o'r oesoedd canol yn Llowes a Chleirwy, a gafodd ill dau eu hailadeiladu'n sylweddol yn yr 1850au. Adeiladwyd Capel New Zion o'r 19eg ganrif ger Fferm Moity, o gerrig rwbel. Fel llawer o addoldai anghydffurfiol yn yr ardal, fe'i gosodwyd ar ei ben ei hun ar dir uwch er mwyn gwasanaethu cymuned wasgarog.

O ran cysylltiadau diwylliannol, mae'r ardal yn adnabyddus am ei chysylltiadau chynnyrch y dyddiadurwr Francis Kilvert, curad Cleirwy rhwng 1864-76. Cysylltir Clyro Court Syr Arthur Conan Doyle a fu'n aros yn y ty (a adeiladwyd gan deulu'r Baskervilles) yn l y sn er mwyn ysgrifennu The Hound of the Baskervilles, a ymddangosodd fel cyfres yn y Strand Magazine rhwng 1901 ac 1902.

Ffynonellau


Bartley 1960a;
1960b;
Cadw 1994a;
Cadw 1995d;
Haslam 1979;
Jenkinson 1997;
King 1983;
Cofnod Safleoedd a Henebion Powys;
RCAHMW 1997;
Richards 1969;
Silvester 1994; 1997b;
Soil Survey 1983;
Sothern & Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.