CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Moel Maelogen
Cymuned Bro Garmon, Gwynedd
(HLCA 1099)


CPAT PHOTO cs013138

Porfeydd amgaeŽdig wedi'u gwella ar ymyl ogledd-orllewinol Mynydd Hiraethog, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau'r 19eg ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyf degwm 19eg ganrif, sef Llanrwst. Ychydig iawn o waith maes archeolegol a wnaed o fewn yr ardal, ac ychydig yn unig o safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Fymryn dros 3km≤ o borfa uwchdirol wedi'i gwella ar ymyl orllewinol Mynydd Hiraethog, rhwng 340 a 410 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd. Mae'n cynnwys llethrau deheuol Moel Maelogen a Ffriddog ac mae'n wynebu'r gogledd a'r gorllewin yn bennaf. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o nentydd bychain sy'n llifo i'r dwyrain i mewn i Afon Cledwen, sef llednant Afon Elwy, ac i'r gorllewin i lednentydd Afon Conwy. Mae'r ardal hon y tu allan i SoDdGA Mynydd Hiraethog, ac nid oes unrhyw ran ohoni wedi ei chofrestru fel Tir Comin.

Ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth o anheddu yn yr ardal. Dangosir ffiniau presennol yr ardal ‚'r tir isel sydd wedi ei amgŠu ar fap degwm Llanrwst ym 1836, a waliau cerrig sy'n ffurfio rhai o'r ffiniau hyn, a ffensys pyst-a-gwifrau sy'n ffurfio'r gweddill. Pyst-a-gwifrau yw'r rhan fwyaf o'r ffiniau o fewn yr ardal ei hun. Torri mawn yw'r unig ddefnydd tir a gofnodir ar gyfer yr ardal, ar wah‚n i bori anifeiliaid. O edrych ar fap degwm Llanrwst, gwelir y mawnfeydd ar Ffriddog ac ar ymyl y mynydd uwchlaw'r fferm yn Nhan-y-graig, ac mae'n bosibl i hyn barhau i raddau hyd at y 1950au. Gellir croesi'r ardal ar y llwybr mynydd troellog sy'n cysylltu Nebo a Gwytherin. Llwybr yw hwn a allai darddu o'r canol oesoedd, ond cofnodir ef am y tro cyntaf, ynghyd ‚ lonydd a llwybrau eraill, ar fap degwm Llanrwst.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion,
map degwm a dosraniadau Llanrwst

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.