CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Moel Bengam
Cymuned Llansannan, Conwy
(HLCA 1107)


CPAT PHOTO cs012928

Rhostir heb ei amgáu, tir comin, corlan, carnedd gron fawr, nodau ffiniau ar ffin y plwyf a phorthdy saethu adfeiliedig o'r cyfnod Edwardaidd.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif, sef Llansannan a Henllan. Ni chynhaliwyd fawr ddim gwaith maes archeolegol yn ddiweddar yn yr ardal hon, a chymharol ychydig o olion gweithgarwch dynol a gofnodwyd yn yr ardal.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Rhyw 13.5km² o rostir grug tonnog tuag at darren ogleddol Mynydd Hiraethog, i gyfeiriad y dwyrain o Gronfa Ddwr Aled ar uchder o rhwng 280 a 490 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd, ac mae'n cynnwys copaon Moel y Bryniau, Bryn Trillyn a Chefn Tan-y-graig yn ogystal â Moel Bengam ei hun. Mae'r ardal yn gyffredinol yn wynebu tua'r gogledd. Mae cyfres o nentydd, gan gynnwys Nant-y-foel-ddu, Nant-y-foel-frech, a Nant Trwyn-swch, sy'n llednentydd Afon Aled, ac Afon Hyrdd a Nant y Fleiddiast, yn llifo o'r ardal tuag at system Afon Elwy.

Nodwyd y nesaf peth i ddim tystiolaeth o unrhyw gyfnod yn yr ardal nodwedd. Cyfyngir hynny o dystiolaeth sydd ar gael o ddefnydd tir i nifer o gorlannau yn nyffryn Nant y Foel, tuag at flaen Afon Aled, i'r dwyrain o Aled Isaf. Mae'r ffin rhwng plwyfi degwm Llansannan a Henllan yn rhedeg ar draws yr ardal, a nodir hyn ar y tir â chlawdd pridd a ffos sylweddol a chyfres o gerrig ffin â 500-700m rhyngddynt, ac mae'r rhain i'w gweld ar fap degwm Lansannan ym 1841.

Mae'r ardal yn cynnwys llyn naturiol bychan Llyn-y-foel-frech yn yr uwchdir, sydd ag arwynebedd o ryw 1.75ha yn y dalgylch rhwng Moel y Bryniau a Thrwyn Swch, ar uchder o ryw 400m dros y Datwm Ordnans yn ogystal â nifer o ardaloedd o gorsydd mawn y mae'n bosibl fod y cwbl ohonynt yn cadw dyddodion arwyddocaol i'r amgylchedd a hanes defnydd tir Mynydd Hiraethog.

Mae yna dwmpath claddu cynhanesyddol mawr ar lethrau isaf Rhos Bryn-llwyn, tuag at ochr ogleddol yr ardal. Ymddengys bod y twmpath claddu wedi ei leoli'n fwriadol i dremio dros y tir isel i'r dwyrain, sydd bellach wedi ei amgáu, yn nyffryn Afon Hyrdd. Mae nifer o lwybrau a thraciau'n croesi'r ardal, rhai ohonynt yn hen iawn efallai, ac mae'r rhain yn cysylltu ffermydd yn nyffryn Afon Hyrdd i'r gogledd â Llyn Aled a blaen Afon Aled.

Gorwedd adfeilion llwm porthordy saethu o'r 20fed ganrif, sef Gwylfa Hiraethog, tuag at ochr ddwyreiniol yr ardal, o fewn amgaead sy'n cwmpasu ffiniau Llansannan a Henllan ar uchder o fymryn dan 500m dros y Datwm Ordnans ar gopa Bryn Trillyn. Codwyd yr adeilad, sy'n un o brif nodau tir Mynydd Hiraethog, yn borthordy saethu i Hudson Ewbanke Kearley, Is-Iarll cyntaf Devonport, a oedd yn entrepreneur o Lannau Merswy. Codwyd ef am y tro cyntaf ym 1908, ond fe'i hail-luniwyd ym 1913.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP;
Hollet 2000;
Hubbard 1986;
Lloyd 1985

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.