CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Bryn-y-gors-goch
Cymuned Nantglyn, Sir Ddinbych a Chymuned Cerrigydrudion, Conwy
(HLCA 1110)


CPAT PHOTO cs012921

Planhigfa coedwig gonifferaidd fodern dros dirwedd ganoloesol a hwyrach sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig â chyfundrefnau caeau cysylltiedig a chwareli cherrig.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif Nantglyn, Henllan a Cherrigydrudion. Ymgymerwyd â peth gwaith maes archeolegol yn neiliadaethau'r Fenter Coedwigaeth yn y 1990au.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Tua 14km² o ardal goediog ar y llethrau sy'n wynebu'r de a'r dwyrain, i'r gogledd o Gronfa Ddwr Alwen ac i'r gorllewin o Gronfa Ddwr Brenig, tuag ochr ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yw'r ardal nodwedd, ar uchder o rhwng 360-510m o fetrau dros y Datwm Ordnans. Mae Nant Bryn-y-gors-goch, Brenig ac Afon Fechan yn bwydo Afon Alwen i'r de, ac maent yn llednentydd system Afon Dyfrdwy. Ar ben gogleddol yr ardal mae llyn naturiol bychan sef Llyn Bran, â choetir o'i amgylch. Mae'r llyn fymryn yn fwy nag ydoedd ar un adeg oherwydd i argae gael ei adeiladu ar y pen gogleddol. Mae'r ardal erbyn hyn dan goedwig gonifferaidd fodern, rhai ohoni ar esgeiriau wedi'u haredig ac yn dyddio yn bennaf o'r 1930au. Mae'r ffyrdd a'r llwybrau yn rhannu'r goedwig yn glytiau, er bod ardaloedd llai o gonifferau a chonifferau cymysg a choed bytholwyrdd ar ymylon deheuol yr ardal nodwedd eisoes mewn bodolaeth erbyn dechrau'r 19eg ganrif, a phlanhigfeydd eraill yn amlwg yn cael eu plannu yn ystod diwedd y 19eg ganrif.

Ychydig dystiolaeth sydd o anheddu cynnar yn yr ardal, er bod y twmpathau claddu o'r Oes Efydd ar Orsedd Bran a darganfyddiad meingledd o'r Oes Efydd Hwyr mewn cors fawn ar lethrau Craig-hir, sy'n tremio dros ddyffryn Brenig yn awgrymu bod anheddu wedi mynd rhagddo. Gwelir olion anheddu canoloesol a hwyrach yn ffermydd a'r tyddynnod bychain gwasgaredig ar y llethrau deheuol sy'n tremio dros Afon Awen tuag at ben deheuol yr ardal, ar uchder o rhwng ryw 370 a 400m. Mae eu caeau a'u hadeiladau yn anghyfannedd bron yn ddieithriad bellach naill ai yng nghanol planhigfa gonifferaidd Alwen neu dan ddyfroedd cronfa ddwr Alwen ar ymyl ddeheuol yr ardal nodwedd. Mae nifer o'r ffermydd, yn enwedig Hafod-y-llan-isaf ac -uchaf, yn cynnwys yr elfen hafod yn yr enw, gan awgrymu bod pob un wedi bod ar un tro yn annedd tymhorol yn gysylltiedig â hendre neu anheddiad ar dir is. Mae tystiolaeth ddogfennol yn dangos bod ffermydd parhaol â chaeau cysylltiedig wedi eu sefydlu mewn nifer o achosion erbyn canol y 16eg ganrif o leiaf. Mae nifer o'r bythynnod, gan gynnwys Hafod-y-llan-bach, yn perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif.

Gadawyd y rhan fwyaf o'r anheddau ac ambell un o'r cytiau fferm cysylltiedig yn segur ac maent bellach wedi adfeilio, fel yn achos yr adeiladau o'r 18fed/19eg ganrif yn Nhy-isaf a Thy-uchaf, er bod ambell un fel Hafod-y-llan-uchaf yn cael ei gynnal o hyd, a rhywun yn parhau i fyw yn Hafod-y-llan-isaf. Mae modd olrhain ffiniau'r caeau a ddangosir ar fapiau cynharach o'r ardal trwy nodi cloddiau a waliau dadfeiliedig yn y goedwig. Roedd y ffermdai yn strwythurau un llawr o garreg fel arfer, ac roedd y cytiau fferm yn rhai bychain o gerrig neu frics, ac roedd gan fferm Ty-isaf feudái sydd bellach yn adfeilion.

Roedd y gwaith o gloddio am slabiau llechi yn mynd rhagddo mewn nifer o chwareli masnachol gweddol helaeth yn rhan ogleddol yr ardal yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, er mai chwareli cymharol fychain oedd y rhain, ar ochr ddeheuol Gorsedd Bran. Mae'r goedwig erbyn hyn yn lled-guddio'r rhain. Fe barhaodd y cynhyrchu yn Aber, a oedd yn dibynnu yn bennaf ar lifio â llawlif ond hefyd o bosibl â llif bwer hyd at yr 1920au yn achos Chwareli Aber a'r 1950au yn achos Chwarel Nantglyn. Gwelir olion gwaith chwarel ar raddfa fechan a waliau caeau o'r cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar yng nghyffiniau nifer o'r hen ffermydd yn rhan ddeheuol yr ardal, fel yng nghyffiniau Ty-isaf a Thy-uchaf.

Mae rhan helaethaf y system ffyrdd sy'n rhedeg i'r gogledd o Gerrigydrudion trwy'r goedwig yn dyddio o gyfnod adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig yn y 1970au.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o ddyddodion mawnog gwlyb sydd o bosibl yn arwyddocaol i ddealltwriaeth o hanes amgylcheddol a defnydd tir yn y fan honno.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP;
CAP 1998;
Davies 1977;
Jones 1966;
Richards 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.