CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Maen-llwyd
Cymunedau Nantglyn a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Sir Ddinbych
(HLCA 1113)


CPAT PHOTO cs012926

Rhostir grug pheth glaswelltir wedi'i wella, wedi'i rannu'n rhannol yn amgaeadau amlochrog mawr yn y 18fed/19eg ganrif, tirwedd angladdol a defodol o'r Oes Efydd, corlannau canoloesol wedi'u hamgu, hafodydd a ffermydd canoloesol a hwyrach, llwybr archeolegol.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif Nantglyn, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Nantglyn a'r Gyffylliog. Cynhaliwyd gwaith maes archeolegol helaeth trylwyr yn yr ardal, yn enwedig cyn adeiladu Cronfa Ddwr Brenig ar ddechrau'r 1970au.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Fymryn dan 7km o rostir ar ochr ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, ar ochrau gogleddol a gogledd-ddwyreiniol Cronfa Ddwr Brenig, rhwng 380 a 519 o fetrau dros y Datwm Ordnans, yw'r ardal nodwedd. Mae'r ardal yn cynnwys copaon Bryn Maen, Tir Mostyn, Foel Goch, Bryn yr Hen-groes a Bryniau. Mae'r golygfeydd ar y cyfan yn canolbwyntio i mewn tuag at ddyffryn Afon Fechan, lle mae Cronfa Brenig erbyn hyn. Mae Nant Bryn-morwyn, Afon Fechan, Aber Gors-maen-llwyd, Nant-y-criafolen, Aber Llech-Damer, Aber Berbo ac Afon Brenig, llednentydd Afon Alwen, sy'n ymuno system afon Ddyfrdwy yn draenio'r tir i'r de;

O ystyried uchder yr ardal, mae'n syndod pa mor llawn yw'r cofnod o anheddu a defnyddio'r tir o'r cyfnod cynhanesyddol cynnar hyd at y gorffennol diweddar. Mae peth o'r gorffennol wedi gadael ei hl amlwg ar y dirwedd gyfoes. Gwelir olion posibl anheddu ysbeidiol grwpiau hela Mesolithig a Neolithig yn y cloddfeydd a'r aelwydydd sy'n gysylltiedig deunydd lithig o'r cyfnod rhwng tua 6500-3000 CC ac yn y darnau o grochenwaith Bicer o ryw 2000 CC, a ddarganfuwyd yn ystod cloddio archeolegol yn y 1970au. Yn ystod cyfnod o bum can mlynedd neu fwy yn yr Oes Efydd cynnar, rhwng tua 2000-1500 CC, mae'n ymddangos i'r ardal fod yn dirwedd a neilltuwyd ar gyfer gweithgareddau defodol a oedd yn canolbwyntio ar grwpiau o henebion angladdol a defodol gan gynnwys tomenni glaswellt, carneddi carreg, carnedd ymylfaen a charnedd llwyfan o amgylch blaen dyffryn Afon Fechan, ac mae llawer ohonynt yn ffurfio rhan o lwybr archeolegol Brenig. Mae'n amlwg i'r henebion hyn gael eu codi gan gymuned a oedd yn parhau i fanteisio ar y tir pori uwchdirol o'u hamgylch, er bod eu aneddiadau parhaol ar y tir isel mwy cysgodol i'r de. Mae cymuned debyg, er un cwbl wahanol, i'w gweld yn y pr o garneddi ymylfaen ar Dir Mostyn tuag at gornel gogledd-ddwyreiniol yr ardal nodwedd.

Ceir awgrym o anheddiad posibl yn yr Oes Efydd, un tymhorol o bosibl, yn y strwythur tyllau pyst crynion a ddarganfuwyd wrth gloddio un o'r henebion yma. Gwelir anheddiad o'r Oes Haearn o natur debyg yn dyddio yn l i'r ail ganrif neu'r ganrif gyntaf CC mewn ail strwythur tyllau pyst crynion. Mae'n bosibl bod dirywiad yn yr hinsawdd wedi arwain at adael yr aneddiadau cynnar hyn yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid a'r canol oesoedd cynnar, er bod adfeddiannu'r adeiladau, yn dymhorol o bosibl, wedi digwydd yn ystod y cyfnod canoloesol, fel yr awgrymir yn enwau'r lleoedd megis Hafoty Sin Llwyd sy'n cynnwys yr elfen hafod ac a oedd yn gysylltiedig chymunedau i'r de o'r fan honno, ac magu gwartheg. Ni wyddys i sicrwydd pryd y sefydlwyd rhai o'r aneddiadau llai hyn ar y tir diffaith uwchdirol, er ei bod yn bosibl bod rhai, fel Hafod-lom (yn ardal nodwedd gyfagos Cronfa Ddwr Brenig) yn dyddio o'r canol oesoedd.

Gwelir olion ecsbloetio'r tir pori uwchdirol ar raddfa fwy yn yr amgaead cloddwaith yn Hen Ddinbych, sy'n amgu nifer o lwyfannau yr ymddengys mai corlannau defaid thoeau oeddynt. Byddai'r rhain yn galluogi diadelloedd o ddefaid i aeafu yno ar y mynydd at ddiben cynhyrchu gwln a nwyddau eraill. Roedd y safle eisoes yn bodoli erbyn y 1280 cynnar, a chyfeiriwyd ato fel Bisshopswalle. Fe fyddai'n angenrheidiol i dirfeddiannwr o bwys wario cyfalaf sylweddol ar y grwp hwn, gan fod yr enw yn awgrymu buddsoddiad gan glerigwr sy'n parhau i fod yn anhysbys hyd yma. Mae'n bosibl mai un byrhoedlog oedd y fenter hon, gan i arglwyddiaeth Dinbych ddechrau gwerthu'r tir pori cysylltiedig i'r gymuned leol bob blwyddyn erbyn y 1330au.

Y clwstwr hynod o saith annedd y mae eu holion i'w gweld yn y llwyfannau, sylfeini'r tai a'r tiroedd amgaedig ar hyd lannau Nant-y-griafolen, y dangosodd cloddiadau archeolegol eu bod yn dyddio o'r 15fed/16eg ganrif, er bod peth ansicrwydd ai preswylfeydd parhaol ynteu rhai tymhorol oeddynt. Roedd nifer fechan o ffermydd parhaol wedi eu sefydlu erbyn y 18fed a'r 19eg ganrif, gan gynnwys y pr o fythynnod cerrig un-llawr o'r 18fed ganrif sydd bellach wedi dadfeilio ond a oedd unwaith yn rhai to gwellt ym Mwlch-du a'r ffermdy cerrig deulawr yn Hafoty Sion Llwyd, a ailadeiladwyd ym 1880s ond sydd bellach yn segur. Roedd y rhain yn gysylltiedig chaeau hyd at 6-7ha ag argloddiau o laswelltir wedi'i wella a oedd wedi'u cau rhag y rhostir o'u hamgylch. Nid oes unrhyw dystiolaeth bendant o drin y tir ar unrhyw gyfnod, er bod grwp o domenni hel cerrig heb ddyddiad wedi'u cofnodi ar Waen Ddafad.

Roedd y gwaith o amgu'r rhostir ymhellach yn mynd rhagddo yn ystod y 19eg ganrif er mwyn rheoli stoc a gwella'r tir pori mewn rhai ardaloedd, a rhannwyd y rhan helaethaf o'r ardal yn amgaeadau mawr amlochrog, er enghraifft ar Dir Mostyn, a chloddiau o bridd yn diffinio'r amgaeadau mwy a ffensys pyst-a-gwifrau'n diffinio'r israniadau. Yn y 1930au, gorchuddiwyd yr hen gaeau a'r ffiniau i'r dwyrain o'r ardal nodwedd o dan blanhigfeydd conifferaidd Coedwig Clocaenog.

Prin yw'r olion sydd wedi goroesi o'r llwybrau pwysig a oedd yn croesi'r ardal ar un adeg, gan gysylltu cymunedau gogledd a de'r rhos. Cyn adeiladu ffordd dyrpeg Pentrefoelas-Dinbych yn gynnar yn y 19eg ganrif, ac adeiladu Cronfa Ddwr Brenig, blaen dyffryn Afon Fechan rhwng Hafoty Sion Llwyd a Bwlch-du oedd man cyfarfod y rhwydwaith ffyrdd a thraciau lleol lle'r ymunai'r hen ffordd o Bentrefoelas i Ddinbych trwy Nantglyn 'r ffyrdd o Gerrigydrudion i Ddinbych a Nantglyn trwy Elorgarreg.

Mae dyddodion mawnog gwlyb 3m o ddyfnder wedi parhau yn yr ardal, yn arbennig yn y pant naturiol rhwng nentydd Afon Fechan ac Aber-gors-maen-llwyd, sy'n adnodd arwyddocaol wrth geisio deall hanes defnydd tir a thyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog. Cofnodir cloddio am fawn yn nosraniad degwm plwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ar Dir Mostyn, ac yn yr ardal i'r gorllewin o Fwlch-du, ond ni wyddys am dystiolaeth archeolegol sydd wedi goroesi o'r diwydiant hwn yn y fan hon.

Ffynonellau


Allen 1979;
Burnham 1995;
Davies 1977;
Dyer 1995;
Gresham, Hemp a Thompson 1959;
Lynch 1993;
Musson 1994;
Silvester, ar y gweill

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.