CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Diwydiant

Ychydig iawn o ddiwydiant a gafwyd ar dirwedd Mynydd Hiraethog. Mae'n debygol i'r gwaith o godi mawn a cherrig ddyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac mae olion unigryw ond anymwthiol o'r gwaith yma i'w gweld yma ac acw ar y rhos.

Gwelir olion torri'r mawn, gwaith a wnaed yn draddodiadol yn ystod mis Mai, yn y pantiau petryal a'r ceudodau llawn dwr mewn nifer o'r basnau nentydd mawnog ledled y rhos, yn arbennig ar y llwyfandir tonnog i'r de o Afon Alwen ac ar y llethrau a'r esgeiriau i'r dwyrain o Lyn Alwen. Byddai llawer o'r ffermydd o amgylch ymyl y rhos yn torri, yn sychu ac yn cludo adref ddigon o danwydd at eu defnydd eu hunain. Roedd rhai ffermydd yn parhau i dorri mawn hyd at y 1950au, a dywedir i un fferm fod wedi parhau hyn hyd yr 1980au. Mae tarddiad y diwydiant mawn yn ansicr ond, fel ffynhonnell tanwydd gaeaf, nid yw'n debygol o fod wedi cael ei ddefnyddio nes i'r coetir naturiol ar lethrau isaf y mynydd gael ei ddisbyddu, ond mae'n debygol iddo gael ei ddefnyddio i gyflenwi'r anheddau dros dro neu dymhorol ar y rhostir o gyfnod llawer cynharach. Mae'r dystiolaeth ddogfennol gynharaf o gloddio am y mawn yn yr ardal i'w weld yn y Survey of the Honour of Denbigh a gasglwyd ym 1334, sy'n cofnodi hawliau mawnfa tenantiaid nifer o dreflannau, gan gynnwys un y cofnodir iddo fod ar anialwch y tir comin yng Ngwytherin, lle roedd y tenantiaid yn talu 12c am drwydded i gloddio am dyweirch. Mae'n siwr i'r gwaith o dorri mawn barhau'n ddi-dor trwy gydol y canol oesoedd a'r cyfnod l ganoloesol ac, erbyn y 1830au, roedd un sylwebydd yn ei ystyried yn un o brif weithgareddau trigolion yr ardal, ynghyd magu gwartheg a defaid a nyddu a gweu. Mae nifer o fapiau degwm y plwyfi ar ffiniau'r rhos yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodi'r mawnfeydd neu'r mannau torri mawn ar y rhostir, ac weithiau ceir traciau yn cysylltu'r rhain ffermydd yr iseldir. Gwelir tystiolaeth archeolegol pellach o gloddio am fawn yn y llwyfannau arbennig a godid i sychu mawn a hyd yn oed pentyrrau segur o fawn ar y rhostir, er enghraifft ar Foel y Gaseg-wen ac yn nyffryn Nant Goch ar flaen Afon Cledwen. Mae'n bosibl mai canlyniad torri mawn yw'r carneddau a'r cerrig gwasgaredig mewn ambell le.

Mae mn chwareli at ddibenion codi ffermdai, cutiau fferm a waliau i'w gweld o amgylch ymylon y rhostir, ac yn aml maent ar y llwybrau sy'n arwain at ffermydd yr iseldir neu'n gysylltiedig ffermdai a thyddynnod y mae eu tir wedi ymestyn i mewn i'r rhostir. Agorwyd chwareli bychain eraill ar gyfer cerrig ffordd, ac mae'r mn chwareli ar gyfer adeiladu ffyrdd a gwaith adeiladu atodol yn amlwg ar hyd y ffordd dyrpeg o'r 19eg ganrif sy'n torri drwy'r rhostir ar yr hynt rhwng Pentrefoelas a Dinbych. Nifer o chwareli slabiau cerrig segur fu'n fasnachol ar raddfa fechan, yn rhannol guddiedig gan y planhigfeydd coed uwchlaw Nantglyn, a nifer o'r chwareli hyn, yn enwedig Chwarel Nantglyn a Chwareli Aber, yn arbennig o brysur ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif yn diwallu'r galw lleol yn bennaf. Llifio 'r llaw oedd y dull mwyaf cyffredin, er bod peth tystiolaeth ar gael bod llifio mecanyddol wedi mynd rhagddo yn chwarel Aber. Roedd cynhyrchu wedi dod i ben yn chwarel Aber erbyn y 1920au, ac yn Nantglyn erbyn y 1950au. Mae'n ymddangos i nifer o chwareli agor yn fwy diweddar, er enghraifft ger Aled Isaf, er mwyn cael deunyddiau i godi rhai o'r cronfeydd dwr a'r gwaith peirianneg cysylltiedig.

Roedd nyddu edafedd gwln a gwneud brethyn eisoes wedi dod yn un o'r diwydiannau cydnabyddedig yn 'rhannau uchaf Sir Ddinbych' o gyfnod y Frenhines Elisabeth ymlaen, ac ystyried mai gweu sanau oedd prif weithgaredd merched yr ardal yn y 1830au. Byddai'r rhan fwyaf o'r gwln wedi dod o gneifio yn y gwanwyn, ond byddai rhai o'r trigolion tlotaf yn draddodiadol wedi casglu gwln yr oedd y defaid yn ei fwrw yn naturiol. Gwelir olion nyddu'r gwln 'r llaw ar y rhos ei hun o'r canol oesoedd ymlaen, o bosibl, yn nifer y gwerthydau o'r 15fed a'r 16eg ganrif a gafwyd wrth gloddio rhai o'r tai a oedd yn rhai tymhorol yn nyffryn Nant-y-griafolen, ar ochr ddwyreiniol y rhos, ac yn nifer o hapddarganfyddiadau mewn mannau eraill.