CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Defnydd Tir

Fel sy'n digwydd yn hanes yr aneddiadau, gwelir arlliw o batrymau yn hanes y defnydd tir ar Fynydd Hiraethog, diolch i gyfuniad o dystiolaeth o newid amgylcheddol, a thystiolaeth hanesyddol ac archeolegol sy'n cyflwyno microcosm o effaith gweithgareddau dyn ar ucheldiroedd Cymru ers yr oesoedd cyntefig.

Yn ddiamau, lle i fynd â'r anifeiliaid i bori dros yr haf oedd Mynydd Hiraethog o'r dechrau. Mae'n debygol mai buchesi o geirw coch gwyllt yr oedd y bobl Mesolithig yn eu hela oedd yno yn gyntaf, ac yna buchesi o wartheg, ac yn fwy diweddar diadelloedd o ddefaid o'r cyfnod Neolithig a'r Oes Efydd ymlaen. Mae'r sylw o'r 19eg ganrif mai prif waith ffermwyr yr ardal oedd 'gofalu am eu buchesi a'u diadelloedd' mor wir heddiw ag yr oedd ganrifoedd yn y gorffennol pell.

Mae tystiolaeth yn y paill a welwyd wrth astudio dyddodion mawn ar Waen Ddafad a Chors-maen-llwyd yn cynnig hanes rhesymol fanwl o lystyfiant dyffryn Brenig ar ymyl ddwyreiniol Mynydd Hiraethog. Roedd y dirwedd rostirol wedi ei sefydlu o'r cyfnod cynhanesyddol cynnar, o'i chymharu â dyffrynnoedd coediog y tir is o'i hamgylch. Erbyn tua 6000 CC roedd yr ucheldir yn foel ac yn ddi-goed, ond mae'n debygol fod coetir bedw a gwern ar hyd dyffrynnoedd mwy cysgodol yr afonydd a'r nentydd, a phîn, derw, llwyf a phalalwyf ar y tir is. Glaswelltir, gan gynnwys hesg a chawn mewn pantiau nad oedd y dwr yn llifo ohonynt yn dda oedd ar y rhostir, ac roedd hyn yn golygu bod mawn yn cael ei ffurfio. Mae'n bosibl mai yn y cyfnod Neolithig y cofnodwyd effaith gynharaf gweithgareddau dynol am y tro cyntaf. Fe estynnwyd rhostir glaswellt ac, yn anad dim, grug yn yr Oes Efydd, yn gyfoes â thirwedd defodau'r Oes Efydd, gan roi tirwedd agored, moel, tebyg i'r dirwedd heddiw. Roedd goruchafiaeth gynyddol y rhostir grugog o bosibl yn adlewyrchu newid o'r hinsawdd cymharol sych a chynnes i'r hinsawdd oerach a gwlypach a gafwyd o'r Oes Efydd ymlaen. Mae tystiolaeth bod gwern a bedw yn parhau i dyfu yn nyffrynnoedd yr afonydd a'r nentydd, er bod hynny i raddau llai na chynt, a bod cynnydd yn y coetiroedd cyll, o ganlyniad i goedlannu, o bosibl. Gwelir niferoedd bychain o beilliau grawn, sy'n awgrymu bod y rhain wedi eu tyfu'n gnwd rhywle yn y cyffiniau yn ystod cyfnodau'r Oes Efydd a'r Oes Haearn, ond mae'n bosibl bod hyn wedi ei gyfyngu i dir is. Gwelir dilyniant tebyg wrth astudio'r mawn ar Gefn Mawr, uwchlaw Llyn Aled. Fodd bynnag, yn y fan hon, ymhellach o ymylon y rhostir, cymharol ychydig dystiolaeth a geir o effaith dyn ar yr amgylchedd naturiol yn ystod y cyfnod Neolithig a'r Oes Haearn, cyn tua 1700 CC. Yng nghanol a diwedd yr Oes Efydd bu crebachiad yn y coetir, ac yn y cyfnod rhwng 200 CC a 60 OC, cafwyd y dystiolaeth gyntaf fod y tir yn cael ei drin a'i losgi, er mwyn rheoli'r rhostir grug o bosibl. Mae'r dilyniant yn y fan yma yn dangos cynnydd di-dor y grug ers y ganrif gyntaf, ynghyd â chynnydd yn y mawn, y ddau yn deillio mae'n debyg o'r ffaith fod yr hinsawdd yn wlypach ac yn oerach.

Mae cloddio nifer o henebion o'r Oes Efydd yn nyffryn Brenig, yn ategu'r darlun cyffredinol a geir o ddadansoddi'r paill. Mae hyn yn datgelu bod yr henebion wedi'u codi ar dirwedd rhostir agored, tebyg i'r hyn sydd i'w weld heddiw, lle roedd y borfa'n eithaf gwael, a lle na chafwyd fawr o dystiolaeth o dyfu cnydau o fewn ardal y rhostir ei hun, a oedd beth ffordd o safleoedd yr aneddiadau ar dir is. Adeiladwyd rhai o'r twmpathau claddu mwy yn y dirwedd benodol yma o dyweirch a oedd wedi'u cludo yno o bell. Mae'n bosibl eu bod wedi eu codi wrth greu tir âr newydd yn is i lawr, tuag at ymylon deheuol ardal y dirwedd hanesyddol. Byddai cyfanswm y deunydd mewn pedwar o'r twmpathau mwyaf yn cyfateb i godi tyweirch o leiniau o dir rhwng tua wythfed rhan o erw a hanner erw o ran maint. Mae henebion angladdol a defodol eraill ar Fynydd Hiraethog wedi'u codi o garreg, wrth i gerrig gael eu clirio i wella porfeydd cynharach, o bosibl.

Gwelir adlewyrchu dau batrwm pendant yn y defnydd a wneir o dir yn nosbarthiad yr henebion o'r Oes Efydd ar Fynydd Hiraethog. Yn ardal dyffryn Brenig ceir cyfuniad o amrywiaeth eang o safleoedd angladdol a defodol, ac mae'n ymddangos ei bod yn dirwedd a ddefnyddid ar gyfer gweithgareddau seremonïol dros gyfnod o dros hanner can mlynedd gan gymuned a oedd yn byw yn ne'r rhostir, mae'n debyg. Ceir patrwm arall mewn mannau arall ar Fynydd Hiraethog, lle na cheir yn gyffredinol ond grwpiau henebion neu rai unigol, heb unrhyw strwythurau seremonïol arbenigol yn gysylltiedig â hwy. Nid hap a damwain mo dosbarthiad yr henebion claddu hyn o bell ffordd, ac fe ymddengys y gallent fod yn nodau tiriogaeth yn ogystal ag yn safleoedd claddu.

Mae'n debygol bod y twmpathau claddu mawr ger ymyl y rhostir ym Mlaen-y-cwm sy'n tremio dros ddyffryn Afon Hyrdd ac yn y Boncyn Crwn sy'n tremio dros Ddyffryn Aled yn gysylltiedig â chymunedau oedd yn meddiannu'r dyffrynnoedd isel ar wahân ar ochr ogleddol y rhos. Mae'n bosibl bod llinyn o garneddi crynion ar hyd grib Gorsedd Bran, sydd bellach wedi ei guddio'n rhannol gan y blanhigfa goed, hefyd yn nodi porfeydd ucheldirol arferol y cymunedau oedd wedi ymgartrefu yn nyffrynnoedd Nant y Lladron a Lliwen tuag at Fylchau a Nantglyn, ar ochr ogledd-ddwyreiniol y rhos. Yn yr un modd, mae'n ymddangos bod y twmpathau sydd i'w gweld fesul un neu fesul grwp ar gopaon deheuol y rhos, fel ar Foel Seisiog, Moel Bengam a Phen yr Orsedd, yn adlewyrchu'r modd y byddai'r cymunedau a oedd yn byw i'r de o'r rhos yn manteisio ar y porfeydd hynny. Mae henebion eraill tebyg wedi'u gwasgaru yn ardal Bwlch-y-garnedd tuag at flaen Afon Twllan, ac yn nyffrynnoedd Alwen uchaf ac Aled uchaf sy'n is ac yn agosach at ganol y rhos.

Po bellaf y mae'r henebion claddu hyn o ymyl y rhos, mwyaf tebygol ydyw eu bod yn arwydd o anheddu tymhorol cynnar sy'n gysylltiedig â phori ar yr ucheldiroedd. Fel y nodwyd yn yr adran flaenorol, mae strwythur pren crwn, ty crwn o bosibl, a gafwyd islaw carnedd ymylfaen tua blaen nant Aber Llech-Damer ac, yn fwy sicr na hynny, y ty crwn o'r Oes Haearn a ddarganfuwyd yn nyffryn Nant-y-griafolen, yn awgrymu anheddiad tymhorol posibl yng nghanol yr Oes Efydd. Mae nifer o domenni hel cerrig a geir mewn cysylltiad â dau dy crwn â muriau o gerrig yn ardal Bwlch-y-garnedd ym mlaen dyffryn Afon Twllan yn awgrymu y tyfid cnydau cynnar mewn lleoedd eraill ar ochr ddeheuol y rhos, efallai yn y cyfnod cynhanesyddol neu yn oes y Rhufeiniaid. Gwyddys am domenni hel cerrig eraill sydd o bosibl yn arwydd o dyfu cnydau cynnar mewn mannau eraill, yn enwedig yn y dyffrynnoedd mwy cysgodol, er enghraifft y rhai i'r gorllewin o Aled Isaf ac ar Waen Ddafad lle nodwyd grwp o 30 o bentyrrau bychain o gerrig.

Ychydig iawn o wybodaeth bellach sydd ar gael ynglyn â'r defnydd o'r tir a'r anheddu ar Hiraethog hyd yr Oesoedd Canol, er bod lle i gredu bod y patrymau eglur o anheddu a'r defnydd tymhorol o'r tir a oedd wedi dod i'r amlwg erbyn y cyfnod hwn wedi parhau i ddatblygu trwy'r mileniwm cyntaf OC, nes arwain at batrwm o drawstrefa a oedd yn cynnwys manteisio ar adnoddau deuol yr ucheldir a'r iseldir ar sail hendref a hafod. Yn wir, fe fu'r cyfuniad o dystiolaeth hanesyddol ac archeolegol, a'r dystiolaeth a ddaeth o enwau lleoedd a mapiau cynnar o Hiraethog yn ddylanwadol wrth esbonio cylchredau anheddu a defnydd tir tymhorol sy'n nodweddiadol o'r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar yng Nghymru yn gyffredinol. Yn ôl y model yma, ar ôl aredig a hau caeau'r iseldir yn y gwanwyn, fe fyddai'r anifeiliaid yn cael eu gyrru i fyny i borfeydd yr ucheldir Galan Mai er mwyn i'r amaethwyr allu medi'r gwair yn y dolydd. Roedd angen i rai aelodau o'r teulu symud i'r hafod ar yr adeg hon o'r flwyddyn i ofalu am yr anifeiliaid ac i wneud menyn a chaws, a'r dyddiad traddodiadol i symud yn ôl i'r hendre yn is i lawr y bryn oedd Gwyl yr Holl Saint (Calan Gaeaf).

Mae'r darlun mwyaf eglur o'r prosesau oedd yn gysylltiedig â hyn yn ymwneud â nifer o dyddynnod a oedd yn perthyn i'r eglwys, ar ochr ddeheuol y rhos, ac mae dogfennau cynnar ar gael sy'n tystio i hyn. Roedd arglwyddi Cymreig lleol wedi rhoi nifer o eiddo cysylltiedig dan yr enwau Tiryrabad-isaf a Thiryrabad-uchaf ar hanner deheuol y rhos wedi eu rhoi yn rhodd i'r abaty Sistersaidd yn Aberconwy erbyn diwedd y 12fed ganrif, ac roedd y ddau yn cynnwys ardal pori ucheldirol helaeth a neilltuwyd ar gyfer hwsmonaeth gwartheg drefnus a chynnyrch cig a llaeth, yn gysylltiedig â phlastai ar yr iseldir. Enwir yn benodol porfa wartheg yn ardal Pentre Llyn Cymmer. Ni cheir unrhyw sôn am renti yn nogfennau'r 1290au, sy'n awgrymu bod y mynaich yn parhau i reoli'r tyddynnod hyn eu hunain yn y cyfnod hwnnw. Erbyn y 1330au, mae'n amlwg bod cyfran o'r plastai hyn yn cael eu gosod i denantiaid lleyg oedd â hawl i godi hafod dros dro yno, fel mannau eraill tebyg yng Nghymru, i'w galluogi i fanteisio ar borfeydd yr ucheldiroedd yn ystod yr haf. Gwelir gwerth isel y tir pori, fodd bynnag, yn y ffaith fod rhai o'r tenantiaid yn talu trwy roi anrheg fechan i'r abad bob blwyddyn yn hytrach na rhent fel y cyfryw. Roedd rhai teuluoedd lleol wedi dod yn stiwardiaid etifeddol a oedd yn rheoli tiroedd yr abaty i raddau helaeth erbyn diwedd yr oesoedd canol. Cafodd pob un o dyddynnod yr eglwys ar Fynydd Hiraethog eu morgeisio yn gynnar yn y 16eg ganrif oherwydd yr anawsterau ariannol a oedd yn wynebu abaty Aberconwy, a gwerthwyd gweddill y tyddynnod ar gyfnod y Diddymiad, tua chanol y 16eg ganrif.

Gwelir patrwm tebyg yn Hen Ddinbych o aneddiadau gwasgaredig dros dro yn codi wrth i stad eglwysig cynnar chwalu, tuag ochr ddwyreiniol y rhos. Roedd yr fferm amgaeëdig hon, a adwaenid gyntaf fel Bisshopswalle ar un adeg yn cynnwys nifer o gytiau defaid hyd at 25m o hyd i aeafu'r defaid ar y mynydd, ac roedd yn gysylltiedig i raddau helaeth â'r fasnach wlân a oedd yn gyffredin ymysg stadau eglwysig canoloesol yn ardal y Cotswolds ac mewn lleoedd eraill yn Lloegr wedi iddynt gael eu atafaelu oddi wrth Dafydd ap Gruffudd a'u rhoi wedi hynny i iarll Lincoln fel rhan o arglwyddiaeth Dinbych yn gynnar yn y 1280au. Nid oes tebyg i'r safle hwn yng Ngogledd Cymru, ac mae'n bosibl mai olion arbrawf byrhoedlog ar ddefnyddio ucheldir Cymru ydoedd.

Erbyn dechrau'r 14eg ganrif, roedd yr arglwydd yn gosod y borfa a oedd unwaith yn gysylltiedig â'r fferm i'r gymuned ar gyfer magu gwartheg, ac mae'n debyg mai dyma oedd y prif ddefnydd a wnaed o'r tir dros sawl canrif o'r adeg honno. Dywedir, er enghraifft, y gallai'r 1,128 erw o borfa ucheldirol oedd yn rhan o Bisshopswalle ar yr adeg yma gynnal 8 tarw a 192 buwch drwy'r gaeaf a'r haf. Fel y trafodwyd uchod, mae hyn yn cefnogi'r awgrym mai unedau ffermio gwartheg yn y canol oesoedd oedd nifer o'r hafodydd ar ymylon y rhostir. Roedd Havodlom (Hafod-lom) a Havodelwe (Hafod-elwy) yn ddau hafod o'r fath ar hyd ymyl y rhostir, yn nyffrynnoedd Afon Brenig ac Afon Alwen, ac mae'r cofnod cynharaf ohonynt yn yr arolwg o arglwyddiaeth Dinbych yn 1334. Disgrifir Havodelwe fel diffeithwch o 650 erw allai gynnal 180 anifail, ac mae'n bosibl o ystyried eu gwerth mai gwartheg ac ychen oedd y rhain. Roedd yr aneddiadau cynnar hyn fel nifer o eraill a nodwyd trwy dystiolaeth gwaith maes, yn nifer o ddyffrynnoedd y nentydd ar ochrau deheuol a dwyreiniol Mynydd Hiraethog. Golygai'r lleoliad cysgodol a'r pridd mwy maethlon yn y fan honno bod porfeydd ucheldirol yn cael eu defnyddio yn nes ac yn nes at ganol y rhos - mae ochrau dwyreiniol Mynydd Hiraethog ymhlith yr ardaloedd â'r dwysedd uchaf o ffermydd bychain yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae'n debyg bod nifer o hafodydd eraill o amgylch ymylon y rhostir â'u gwreiddiau yn y tiroedd y byddai'r arglwyddi lleol yn eu rhoi ar osod yn hytrach nag yn y stadau eglwysig.

Roedd y patrwm trawstrefa seiliedig ar yr hafod a'r hendre eisoes wedi crebachu'n aruthrol trwy Gymru erbyn canol y 18fed ganrif, yn bennaf oherwydd pwysigrwydd cynyddol ffermio defaid o ddiwedd yr oesoedd canol ymlaen. Diben hyn yn y lle cyntaf oedd cynhyrchu gwlân, ac yna gwlân a chig. Arweiniodd y gwahanol alwadau oherwydd ffermio defaid at adael nifer o'r ffermydd llaeth cynharach, er i rai o'r hafodydd yn y lleoedd mwy croesawus ddatblygu yn ffermydd bychain sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu gwartheg cig eidion yn yr ardaloedd lle roedd y glaswelltir wedi'i wella, ar dyfu grawn ar y caeau mwyaf ffrwythlon, ac ar hwsmonaeth defaid yn ardaloedd uwch a mwy pellennig y rhos. Ymddengys i'r dymuniad i reoli bridio, i rwystro diadelloedd o ddefaid rhag crwydro i un ochr i'r rhos, ac i ofalu am y borfa arwain at greu llociau mawr neu ffriddoedd ar y rhostir, ac fe welir hyn mewn amryw o enwau'r lleoedd, er enghraifft Ffriddog, Ffrithuchaf, Ffrith-y-foel a Ffridd Fawr. Mae cyfeiriad at ffriddoedd 'Havott Elway' yn nyffryn Alwen ym 1537 yn awgrymu bod y broses eisoes wedi dechrau erbyn dechrau'r 16eg ganrif, er nad oes amheuaeth y cyflymodd hyn yn sgîl y gwelliannau amaethyddol helaeth a gafwyd o ganol y 18fed ganrif ymlaen.

Arweiniodd y system defnydd tir a gododd ar Fynydd Hiraethog erbyn canol y 19eg ganrif at batrwm o ffermydd cymharol fychain o amgylch ymylon y rhostir, lle roedd hinsawdd, cysgod, a hygyrchedd gwael oll yn cyfuno i leihau hyfywedd economaidd yr amaethu. Roedd cyfran uchel o'r ffermydd ym meddiant y perchnogion ac, erbyn y dyddiad hwn, magu gwartheg eidion a defaid am eu cig a'u gwlân oedd prif gynheiliaid yr amaethu yn y fan yma. Byddai gwartheg yn cael eu magu ar laswelltir wedi'i wella ger y fferm, ac yn cael eu gyrru i'r farchnad yn yr hydref neu eu gaeafu mewn beudái gwartheg ger y fferm a'u cynnal ar gyflenwad o wair tenau'r mynydd. Fe fyddai mamogiaid bridio yn cael eu gaeafu ar ffermydd ar yr iseldir, ac yn wyna yn hwyr fis Mawrth neu'n gynnar mis Ebrill yn y caeau amgaeëdig ger y fferm a'u dychwelyd i'r bryn i bori tua chanol mis Mai. Adeiladwyd cytiau fferm nodweddiadol o gerrig ar gyfer godro, storio bwyd anifeiliaid a gaeafu stoc ar rai o'r ffermydd mwy yn y 18fed a'r 19eg ganrif, gan gynnwys yr adeiladau blaenorol yn Hafod-lom a'r casgliad o adeiladau sy'n goroesi yn Nhan-y-graig.

Mae tystiolaeth o dyfu cnydau ar raddfa fechan yn gysylltiedig â nifer o ffermydd ucheldirol, wedi i awyrluniau neu dystiolaeth gwaith maes nodi cribau amaethu yn Hafod-yr-onen. Ceirch oedd y cnwd mwyaf cyffredin ar ôl haidd yn y data amaethyddol ar gyfer Mynydd Hiraethog ar droad y 19eg ganrif, ac roedd trigolion Cerrig-y-drudion yn ystyried bara gwyn yn foethus hyd yn oed mor hwyr â'r 1830au, gan eu bod fel arfer yn bwyta cacen geirch neu fara haidd. Ceir cyfeiriadau penodol am y tro cyntaf at dyfu cnydau ar Fynydd Hiraethog yn ystod y 16eg ganrif. Cyfnod oedd hwn pan roedd llawer o ddiddordeb yng ngallu sawl rhan o'r wlad i gynhyrchu yn amaethyddol. Yn ei daith o amgylch Prydain yn 1530au, disgrifiodd John Leland gantref Uwch Aled, â llawer ohono yn cwmpasu Mynydd Hiraethog, fel 'y rhan waethaf o dir Dinbych, a'r mwyaf diffrwyth. Golygai'r holl gorsydd, y creigiau a'r tir rhostirol a'i bridd oer nad oedd yr ardal yn addas i ddim ond magu ceffylau a defaid, er bod ceirch a rhyg yn cael eu cnydio. Mae'n amlwg i economi amaethyddol Mynydd Hiraethog barhau i fod yn anrhagweladwy, ac ychydig iawn o gyfle oedd i'w wella, gan mai ychydig iawn oedd wedi newid yn y cyfnod o 300 mlynedd rhwng diwedd y 16eg a diwedd y 18fed ganrif pan soniodd Walter Davies fod y canlynol yn wir am ambell ran o Ros Hiraethog. '... ni heuir unrhyw rawn ar wahân i geirch, sy'n wydn, a gwelir caeau cyfan o'r rhain ambell flwyddyn, mor wyrdd â chennin ym mis Hydref, heb fod yn debyg o aeddfedu o gwbl.' Er gwaethaf gwelliannau amaethyddol eang y 18fed a'r 19eg ganrif, ar Fynydd Hiraethog oedd un o'r darnau mwyaf o dir heb ei amgáu yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac yng nghanol y 19eg ganrif, tir comin o hyd oedd hanner ardaloedd y prif blwyfi degymu oedd yn cwmpasu'r rhos, sef Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas), Gwytherin, Llansannan, Nantglyn, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Y Gyffylliog a Cherrigydrudion.

Gwelir hanes defnydd tir yn parhau ac yn datblygu o'r cyfnod canoloesol ymlaen yn y patrymau anheddu, y llociau a'r strwythurau a welir yn nirwedd Mynydd Hiraethog heddiw.

Roedd ffermydd bychain megis Hafod-yr-onnen a Hafod-lom (y ddwy bellach dan ddyfroedd Llyn Brenig), yn nodweddu patrwm defnydd tir y mannau isaf yn y dirwedd hanesyddol. Mae'n debygol bod y rhain â'u gwreiddiau yn yr hafodydd unigol dros dro yn y canol oesoedd cyn dod yn ffermydd parhaol. Byddai hafod ar ymylon tir y fferm, gerllaw'r mynydd agored yn datblygu ei hafod ei hun yn ei dro, ymhellach i mewn i'r rhostir. Yn y cyfamser, byddai amgáu a sefydlu ffermydd megis Ty'n-y-ddol a Rhos-ddu yn y fan hon yn y cyfamser yn arwain at gydweddu'r anheddau tymhorol cynharach mewn tirwedd oedd yn cynnwys caeau bychain afreolaidd oedd yn fwy nodweddiadol o ffermio iseldirol a'r hendrefi a oedd unwaith yn gysylltiedig â hwy. Daeth patrwm llociau'r iseldir i'r rhostir oherwydd fod dyffryn Brenig yn cynnwys mwy o gysgod a phridd oedd rhywfaint yn well.

Ceir ail batrwm o nifer o ffermydd mwy anghysbell a oedd unwaith â phobl yn byw ynddynt drwy'r flwyddyn yng nghanol y mynyddoedd. Mae'n bosibl bod rhai o'r rhain hefyd o darddiad canoloesol, ond aros yn ynysoedd o dir amgaeëdig yn y rhostir oedd eu hanes, naill ai fesul un fel yn achos Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig (ardal nodwedd Maen-llwyd), neu fesul clwstwr, fel yn achos y gosodiad llinellol ar hyd lan ogleddol dyffryn Alwen, sef Hafod-y-llan-isaf, Hafod-y-llan-uchaf, Hafod-elwy Ty-isaf a Thy-uchaf (y mae planhigfeydd coed bellach yn ei guddio, yn ardal nodwedd Bryn-y-gors-goch), neu yn achos yr aneddiadau lluosog sy'n ffurfio blociau mwy cryno tuag at ochr ogleddol y rhos ym Mhant-y-fotty a Phant-y-fotty-bach, Waen-isaf-las a Waen-isaf-uchaf (yn ardal nodwedd Creigiau Llwydion). Fe barodd y broses o ledaeniad parhaus ac o greu ffermydd a bythynnod newydd o'r cnewyll cynharach hyn ymhell i'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac mae Rhwngyddwyffordd a Hafod-y-llan-bach yn ddwy enghraifft o anheddau â llociau sy'n dyddio o'r cyfnod yma. Ymddengys bod tir y fferm arunig yn Nhy'n-y-llyn, i'r gogledd o Lyn Aled (ardal nodwedd Creigiau Llwydion) ac o bosibl clwstwr o ffermydd heddiw, gan gynnwys Tan-y-graig, Ty-isaf a Thai-pellaf, i'r gogledd o Afon Alwen (ardal nodwedd Tan-y-graig) yn gorgyffwrdd â'r rhostir yn y cyfnod diweddarach hwn. Mae llawer o'r aneddiadau 'ynysig' hyn a adawyd yn segur yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif, yn gysylltiedig â phatrwm cynnar nodweddiadol o gaeau bychain â ffiniau crom o amgylch y fferm i fagu lloi ac i odro. Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd y rhain yn llociau porfa garw helaethach a mwy unionlin wrth symud i mewn i'r rhostir agored. Aeth ffermydd tebyg ond llai llwyddiannus yn segur gan ddadfeilio ar y rhostir cyn y 19eg ganrif, ar ôl methu â throsi i sefydliad parhaol wrth i bwysigrwydd ffermio defaid gynyddu. Gwelwyd nifer o'r aneddiadau hyn wedi ymgaregu â threigl amser, gyda'u llociau â chloddiau, yn nhystiolaeth gwaith maes a gafwyd o amgylch ymylon y rhos.

Gwelir trydydd patrwm amlwg ar ochr orllewinol y rhos, uwchlaw ddyffryn Conwy, lle aeth yr anheddiad a'r llociau y tu hwnt i'r strimyn hafodydd cyn y 19eg ganrif, fel y gwelir yn enwau'r lleoedd: Hafoty-fawr, Hafoty-fach, Hafod-las, Hafod-y-geunen, Hafoty-cerrig a Hafoty-gwyn sydd cryn bellter islaw ffiniau'r rhostir. Mae patrwm defnydd tir yn yr ardal i'w weld yn y gyfres o lociau mawr amlochrog â chloddiau, ffensys a waliau, yn dilyn amgáu ardaloedd helaeth o borfa garw ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, mae'n debyg (ardaloedd nodwedd Moel Maelogen a Fawnog-fawr), ac mae rhai o'r rhain wedi eu gwella ymhellach dros y blynyddoedd diweddaraf.

Mae'r twf ym mhwysigrwydd ffermio defaid rhwng diwedd y canol oesoedd a heddiw wedi arwain at adeiladu amrywiaeth o strwythurau carreg a phridd i gysgodi'r ddiadell a oedd yn pori yno gydol y flwyddyn, yn enwedig ar rannau uwch a mwy agored y rhos. Mae'r rhain yn amrywio o gloddiau ac atalfeydd gwynt syml i strwythurau mwy cymhleth ar ffurf croes neu lythyren L neu Z, i amddiffyn y defaid rhag gwyntoedd o wahanol gyfeiriadau. Mae rhai o'r strwythurau yn rhai cymharol diweddar, er bod eraill wedi dadfeilio ac yn eithaf hen. Mae ambell un wedi ei adeiladu o ddeunyddiau adeilad blaenorol. Mae'n bosibl mai cysgodfa gerrig â thair braich ar flaen dyffryn Brenig yw tarddiad yr enw Hen-groes, sy'n parhau yn yr enw Bryn yr Hen-groes a gofnodir yn yr ardal yma. Yr enw Waen Ddafad ar ystlys ddwyreiniol dyffryn Brenig, yn ddiddorol, yw'r unig le ar Fynydd Hiraethog sydd â'i enw yn gysylltiedig â magu defaid. Yn yr un modd, mae'r angen i gasglu'r defaid ynghyd ar wahanol adegau o'r flwyddyn ar gyfer cneifio, nodi, dipio neu gwlio wedi arwain at gorlannau defaid niferus ar y rhos, a llawer o'r rheiny ar lwybrau neu o amgylch ymylon y rhostir. Mae'r corlannau hyn, fel y cysgodfeydd, yn dyddio o wahanol gyfnodau, ac yn amrywio o ran ffurf o lociau bychain â waliau i strwythurau mwy eu maint a mwy manwl sy'n cynnwys nifer o wahanol ffaldau. Mae llawer o'r ffaldau cerrig hyn bellach wedi mynd yn segur, a'r rhai newydd, a godwyd o bren, pyst, gwifren a dalenni haearn gwrymiog, ynghyd â strwythurau eraill, yn darparu maeth atodol.

Bellach, mae gwaith cynhyrchu pren yn fasnachol i'w weld ar y rhan helaeth o ymyl ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae gwaith cwympo coed ac ailblannu yn mynd rhagddo yn helaeth mewn rhai ardaloedd. Mae'r planhigfeydd ffynidwydd, sy'n ffurfio rhan o Goedwig Clocaenog, dan reolaeth y Fenter Coedwigaeth, yn cwmpasu miloedd o hectarau o gyn rostir, ac maent yn dyddio o'r 1930au yn bennaf, yn dilyn yr argyfwng mewn ffermio ucheldirol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae llawer o'r goedwigaeth o fewn ardal y dirwedd hanesyddol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd nifer o ardaloedd llai o ffynidwydd a ffynidwydd cymysg yn yr ardal ger Ty-isaf i'r gogledd o Gronfa Ddwr Alwen ac yng nghyffiniau Tan-y-graig eisoes wedi'u plannu erbyn dechrau'r 19eg ganrif, fodd bynnag, ac roedd planhigfeydd eraill wrthi'n cael eu plannu yn yr ardal gyffredinol hon yn ystod y 19eg ganrif.

Am gyfnod gweddol fyr yn gynnar yn yr 20fed ganrif, rheolwyd llawer o'r rhostir grug yn enwedig ar ochr ddeheuol y rhos, yn stad i saethu grugieir, ac mae porthdy hela Gwylfa Hiraethog yn dystiolaeth archeolegol o'r gweithgaredd yn y cyfnod hwnnw. Mae'r porthdy yn dyddio o ddau ddegawd cyntaf yr 20fed ganrif, ac mae ganddo carnau saethu cerrig a phridd. Trefnir y carnau saethu yn grwpiau neu'n llinellau, ac weithiau fe'u nodir â charneddi. Mae'r carnau saethu hyn i'w gweld ar sawl ffurf, gan gynnwys muriau byr, strwythurau petryal, crwn neu hanner crwn a rhai mwy cymhleth eu siâp gan gynnwys rhai ar ffurf H, L neu T.

Erbyn heddiw, saif rhannau mawr o rostir ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog, a neilltuwyd oherwydd ei rhostir uchel a'i chorsydd, a'i hamrywiaeth o adar sy'n bridio yno. Caniateir pori dwysedd isel yno.