CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Yr Amgylchedd Naturiol

Mae Mynydd Hiraethog a adnabyddir hefyd fel Rhostir Dinbych, yn ffurfio ucheldir mawr rhwng dau ddyffryn o bwys yng Ngogledd Cymru, sef Dyffryn Conwy i'r gorllewin a Dyffryn Clwyd i'r dwyrain. Mae'n ffurfio llwyfandir tonnog uchel, llawer ohono uwchlaw 400m uwch y dyffryn Datwm Ordnans (OD), ac mae pantiau nentydd yn rhedeg ar ei draws gan lifo i'r gogledd-ddwyrain i afon Conwy, i'r gogledd i afonydd Elwy a Chlwyd, ac i afonydd Alwen a Dyfrdwy i'r de a'r dwyrain.

Mae'r afonydd a'r nentydd hyn yn rhannu'r rhostir ymhellach yn nifer o flociau a'u nodweddion topograffigol eu hunain. Mae Afon Alwen, llyn blaenddwr naturiol Llyn Alwen, a nifer o bantiau nentydd sy'n bwydo "Afon Cledwen" ar ochr ogledd-orllewinol y rhostir yn gwahanu ardaloedd deheuol a gogleddol y rhostir. Mae crib uchel sy'n rhedeg o gopaon Foelasfechan a Moel Seisiog i'r gorllewin yn tremio dros ochrau deheuol a gorllewinol y rhostir trwy Foel Rhiwlug a Phen-yr-orsedd i Fwdwl-eithin i'r dwyrain. Mae'r olaf 532m dros OD, a dyma'r pwynt uchaf ar y rhostir.

Mae ochr ogleddol y rhostir yn rhannu yn nifer o flociau ar wahn, yn rhannol ar sail topograffeg ac yn rhannol ar sail defnydd tir modern. Mae yna un bloc mawr rhwng dyffrynnoedd Afon Cledwen i'r gorllewin ac Afon Aled a llyn blaenddwr Llyn Aled i'r dwyrain, gan gynnwys Creigiau Llwydion, Llys Dymper, Bryn Euryn, Bryn Mawr a Moel y Gaseg Wen. Mae ail floc yn cynnwys yr ardal i'r gogledd o afon Alwen, i'r dwyrain o afon Aled ac i'r gorllewin o Lyn Brenig, gan gynnwys Moel Bengam, Bryn Trillyn, Gorsedd Bran a Bryn-y-gors-goch.

Mae ochr ddwyreiniol y rhostir yn cynnwys copaon Tir Mostyn a'r Foel Goch, yn disgyn i uchder o tua 330m dros OD islaw argaeau cronfeydd dwr Alwen a Brenig ac yn diflannu i Goedwig Clocaenog i'r dwyrain. Mae cronfeydd dwr bellach yn meddiannu dau ddyffryn pwysig a dorrai ar draws y rhostir. Mae dyffryn Alwen, sy'n gymharol gul ag ochrau serth yn cyferbynnu dyffryn Brenig sy'n lletach ac yn fwy bas, ac mae'r ddau ddyffryn sy'n cyfuno yng nghymer Afon Alwen ac Afon Brenig ychydig y tu hwnt i ffiniau'r ardal tirwedd hanesyddol. Roedd llyn mawr naturiol wedi ymgasglu yn nyffryn Brenig yn ystod cyfnod diweddar y rhewlifoedd, ac fe ddihangodd yn y pen draw trwy geunant cul trwy ddrymlin oedd yn cau porth y dyffryn i'r de, tua safle'r argae modern.

Cymysgedd o greigiau gwaddod gan gynnwys grutiau Silwraidd, tywodfeini, cerrig llaid a sil sy'n ffurfio daeareg Mynydd Hiraethog. Mae rhan helaeth o'r ardal wedi'i chuddio gan glog-glai a drymlinau, yn enwedig ar ochr ogleddol y rhostir (yn ardaloedd nodwedd Creigiau Llwydion, Moel Bengam, Bryn-y-gors-goch a Maen-llwyd). Mae daeareg a hydroleg wedi arwain at dri math sylfaenol o bridd o wahanol ansawdd yn y rhostir: pridd lom ucheldiroedd ag uwchbridd mawnog dros greigiau (Hafren) yn cynnal cynefinoedd rhostir a glaswelltir o werth cymedrol o ran pori; pridd dwrlawn yn ysbeidiol, sydd wedi gleio ac sy'n fawnog dros ddyddodion clog-glai (Wilcocks 2) yn cynnal porfa rostirol wleb a pheth glaswelltir parhaus o werth cymedrol o ran pori; a phridd mawn amrwd sy'n barhaol wlyb dros ffurfiannau mawn gorgors a basn (Crowdy 2) yn cynnal rhostir gwlyb a chynefinoedd gwlyb o werth cymedrol i isel o ran pori. Glaswelltir (Nardus strictus), ffurfiannau mawn a brwyn yn y pantiau, ac eangderau o rug yw'r llystyfiant helaethaf erbyn heddiw. Mae'r glawiad cyfartalog yn fwy na 1250mm y flwyddyn. Ar yr wyneb, o leiaf, mae enwau lleoedd ar Fynydd Hiraethog yn gwbl nodweddiadol o gymeriad rhostirol yr ardal, ac mae enwau cyfeiriadau topograffig yn rhemp, gan gynnwys yr elfennau canlynol: moel/foel, bryn/bryniau, clogwyn, craig/graig a creigiau, bron, cefn, rhiw, esgynfa a llech. Disgrifir lliw y nodweddion hyn yn aml, er enghraifft gwen/wen/wyn, du/ddu/duon, llwyd/llwydion, coch a rhudd neu maint y nodweddion, e.e. mawr/fawr, fechan a hir. Ymhlith y disgrifiadau eraill sy'n cynnwys enwau lliwiau ceir glas a llaethog, wrth ddisgrifio porfa a ffynnon. Ambell waith, disgrifir sip nodwedd dopograffig unigryw trwy gyfeirio at ymadroddion megis braich, swch a thrwyn, a mwdwl (sydd o bosibl yn cyfeirio at sip conigol y bryn). Mae nifer gyfyngedig o ymadroddion yn nodi'r defnydd a wneir o'r tir neu gyflwr y tir, gan gynnwys waen, ffridd/ffrith, fawnog, a nodir llystyfiant y rhostir yn y geiriau eithin, onen/onnen a criafolen. Cyfeirir at ddwr a ffynonellau dwr, megis rhaeadr, ffynnon, pwll, llyn, nant ac afon. Nodir nodweddion penodol eraill ar y dirwedd tharddiad naturiol neu artiffisial ag ymadroddion fel maen, a gelwir hynafolion eraill yn boncyn, groes a carnedd/garnedd. Nodir yr aneddiadau 'r ymadroddion tai/ty, hafod/hafotty/fotty, a llys yn ogystal defnyddio enwau mwy penodol, fel Hen Ddinbych, a nodir y mannau cyfarfod 'r ymadrodd gorsedd/orsedd. Nodir cyfeiriad aneddiadau neu berthynas aneddiadau a'i gilydd 'r ymadroddion isaf, uchaf, tan a pellaf. Ar wahn i nifer o enwau priod, cyfeirir at bobl chymeriad chwedlonol fel Merddyn, derwydd, heilyn (y sawl sy'n cludo'r cwpan) a clochydd. Nodir perchnogaeth 'r ymadrodd tir, ac efallai cynefir (?cynefin) a terfyn, a nodir trefniadau cysylltiadau naid-y-march a bwlch. Nodir anifeiliaid ac adar 'r geiriau tarw, march, gaseg, ci, dafad, bleiddiau, brn, hydd (carw), hwyad ac alarch. I orffen, pwysleisir natur agored y tir yn yr ymadroddion haul a llannerch ac ymdeimlad atgofus o lymdra yn amlwg yn yr enw hiraethog ei hun, er bod peth amheuaeth ynglyn tharddiad yr enw.

Mae modd olrhain ambell enw topograffig, fel Wauneos (gwenn eneas) a Moel Seisiog (Moel-seissiauc) i ddiwedd y 12fed ganrif, a'r enw Hiraethog ei hun i Hir 'hadok ar ddiwedd y 13eg ganrif, ond mae ansicrwydd ynglyn tharddiad y rhan fwyaf o enwau, rhai ohonynt yn ymddangos am y tro cyntaf ar fapiau degwm y 1840au neu ar y mapiau a gyhoeddodd yr Arolwg Ordnans yn y 1870au a'r 1880au. Mae gan rai safleoedd archeolegol enwau sydd yn eithaf hen. Enwir nifer o'r twmpathau claddu o'r Oes Efydd, gan gynnwys Boncyn Arian, o bosibl oherwydd bod pobl yn credu bod twmpathau fel hyn yn cuddio claddfannau trysorau. Mae Boncyn Crwn, Boncyn Cynefir Cleirrach, a Boncyn Melyn yn henebion angladdol cynhanesyddol a enwyd, ynghyd ag enwau ardaloedd megis "Pen-y-garnedd" a "Phen yr orsedd" a allai fod ag arwyddocd tebyg. Mae'n bosibl mai yn y groes sydd ar fin un o'r traciau hynafol sy'n cyfarfod ym mlaen Afon Fechan y mae tarddiad yr enw Bryn yr Hen-groes, neu fe allai fod yn gyfeiriad at loches thair coes i ddefaid a godwyd gerllaw. Mae nifer o enwau lleoedd neu enwau ar hynafiaethau yn ymddangos yn eithaf diweddar, fodd bynnag. Rhoddwyd yr enw Hen Ddinbych ar yr anheddiad canoloesol amgaedig ar ochr ddwyreiniol y rhos yn y 1860au. Sarn Helen yw'r enw a roddir heddiw ar y sarnau ar draws nant Aber Llech-Damer ger Hen Ddinbych ond a roddwyd cyn hynny ar ffurf Llwybr Elen neu Sarn Elen, i drac pwysig ar hyd ddyffryn Brenig ymhellach i'r gorllewin.