CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Tirweddau Anheddiad

Mae tirwedd Mynydd Hiraethog, a astudiwyd yn helaeth, wedi bod yn ddylanwad pwysig wrth ddarparu yr hyn yr ystyrir bellach yn fodel ar gyfer hanes anheddu ucheldiroedd yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y gosodiad ucheldirol anghysbell, ceir tystiolaeth bod pobl wedi bod yn byw ar Fynydd Hiraethog ers amser maith. Mae'r cofnod sy'n dod o ffynonellau archeolegol a hanesyddol yn gyflawn, er syndod, er ei fod yn ysbeidiol, gan gynnwys anheddu tymhorol ar rai adegau, a mwy parhaol ar adegau eraill oherwydd cyfuniad o ffactorau hinsoddol ac economaidd, ac mae'r cyfan wedi ei gysylltu'n annatod â hanes defnyddio'r tir. Trafodir hyn yn yr adran ddilynol.

Mae'r gweithgareddau dynol cynharaf y daethpwyd o hyd i dystiolaeth ohonynt ar Fynydd Hiraethog yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Mesolithig, ar ôl tua 6,000 CC, a gwelir hyn yn yr offer gwasgaredig o gerrig wedi'u crefftio a gafwyd wrth gloddio yn nyffryn Brenig i'r gorllewin o Hafoty Siôn Llwyd a ger y gwaith maes yn nyffryn Aled, o amgylch ymylon cronfa ddwr Aled Isaf. Yn draddodiadol, ystyriwyd bod darganfyddiadau o'r fath yn cynrychioli gwersylloedd dros dro lle trigai grwpiau teuluol bychain a oedd yn treulio gweddill y flwyddyn ar y tiroedd isel ger yr arfordir, ond a oedd yn dilyn y buchesi ceirw a'r helfilod eraill yn ystod yr haf wrth iddynt fudo i'r porfeydd ucheldirol mwy agored. Mae posibilrwydd bod rhai o'r cerrig cynhanesyddol cynnar gwasgaredig ar y rhostir yn dod o aneddiadau mwy parhaol, ond mae darganfod math unigryw o gornfaen du o'r bryniau calchfaen yn y bryniau i'r dwyrain o Brestatyn, 30km i'r gogledd-ddwyrain oddi yno, yn awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng y safleoedd ucheldirol hyn ac aneddiadau cyfoes eraill ar hyd arfordir Gogledd Cymru a thuag at enau Dyffryn Clwyd. Cafwyd tystiolaeth debyg hefyd mewn nifer o leoedd, yn enwedig o fewn dyffryn Brenig, gan gynnwys hapddarganfod Pen brysgyll Hafod-lom, sy'n awgrymu bod trigolion tymhorol yno yn ystod y cyfnod Neolithig canol neu ddiweddarach, tua 2,500 CC.

Er bod nifer o henebion claddu ac angladdol yn bresennol, ychydig o dystiolaeth sydd o aneddiadau ar y rhostir yng nghyfnod yr Oes Efydd cynnar. Mae'n bosibl bod aneddiadau tymhorol wedi parhau mewn ambell ardal. Unwaith eto, awgrymir hyn oherwydd yr offer carreg gwasgaredig a gafwyd o amgylch ymylon cronfa ddwr Aled Isaf. Mae'n ymddangos bod rhai o'r henebion, yn enwedig y rheiny o amgylch ymylon y rhostir, wedi eu gosod fel eu bod yn weladwy o'r preswylfeydd yr oedd pobl yn byw ynddynt yn fwy parhaol, ar y tir is. Awgrymir y gallai aneddiadau fod hyd yn oed wedi eu heithrio o'r dirwedd angladdol a defodol a grëwyd o amgylch blaenddyffryn eang Afon Brenig ac Afon Fechan, am gyfnod o dros 500 mlynedd yn ystod yr Oed Efydd cynnar. Mae'n bosibl y byddai poblogaeth sylweddol ei maint wedi bod yn byw ac yn gweithio o fewn tafliad carreg i feddrodau eu hynafiaid ar y pryd.

Mae'n bosibl fod strwythur pren ar siâp cylch, sef ty crwn o ganol yr Oes Efydd yn dyddio o tua 1,300 BC o bosibl, yn nodi diwedd y dirwedd gysegredig hon. Daethpwyd o hyd i hwn islaw carnedd ymylfaen (Brenig 6) tuag at flaen nant Aber Llech-Damer. Ceir tystiolaeth fwy sicr o anheddiad a adnewyddwyd, naill ai un dros dro neu un parhaol mewn ail strwythur tyllau pyst sy'n cynrychioli ty crwn ag aelwyd ganolog, yn perthyn i gyfnod yr Oes Haearn yn ystod y 3edd ganrif i'r ganrif 1af CC. Daethpwyd o hyd i'r rhain wrth gloddio preswylfa ôl-ganoloesol yn nyffryn Nant-y-griafolen (nodyn isod). Mae tystiolaeth i anheddu cynhanesyddol yn eithaf prin yn ardal y dirwedd hanesyddol yn gyffredinol. Fodd bynnag, nodwyd nifer o dai crwn posibl â sylfeini cerrig, gan gynnwys dau strwythur bychan â diamedr o tua 5-6m yn nyffryn Afon Twllan, tua blaen Bwlch-y-garnedd, ac mae'n bosibl bod y rhain yn gysylltiedig â nifer o domenni hel cerrig ac felly maent yn awgrymu anheddiad parhaol.

Mae yna dystiolaeth gyffredin a chydlynol o anheddu tymhorol a pharhaol mewn ffynonellau archeolegol a hanesyddol o'r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol ymlaen.

Mae fferm amgaeëdig sydd wedi ei rhan-gloddio yn dangos sefydliad ffermio sylweddol yn Hen Ddinbych yn nyffryn nant Aber Llech-Damer tuag at ochr orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol, yn yr ardal a elwir Bisshopswalle (sef 'wal' neu 'lloc' yr esgob) erbyn diwedd y 1270au ac, o'i gymharu â safleoedd eraill, ymddengys fod annedd a nifer o gorlannau â thoeau wedi'u cynnwys o'i fewn, er mwyn i'r diadelloedd aeafu yn un o ardaloedd mwyaf cysgodol y mynydd. Mae enw Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch yn awgrymu ei fod yn safle i faenor eglwysig ar yr ucheldiroedd, ac yn ddiamau yn dangos bod un o dirfeddianwyr eglwysig canoloesol mwyaf pwysig wedi buddsoddi'n helaeth ynddo. Ni wyddys hyd yma enw'r sawl a sefydlodd y fferm, ond mae'n bosibl mai un o esgobion Bangor ydoedd, gan eu bod hwy unwaith yn berchen ar nifer o faenordai yn y plwyf. Roedd y fferm wedi ei sefydlu cyn y goncwest Edwardaidd, dan nawdd Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffydd "Ein Llyw Olaf", mae'n bur debyg, ac roedd anialwch Bisshopswalle yn rhan o'r eiddo a roddwyd i Henry de Lacy, iarll Lincoln fel rhan o arglwyddiaeth newydd Dinbych ym 1282, ar ôl gwrthryfel a gorchfygiad Dafydd y tywysog Cymreig.

Mae'n bosibl bod y fferm arbenigol hon wedi bod yn un fyrhoedlog, gan ei bod yn amlwg nad oedd yn gweithredu fel fferm ddefaid erbyn y 1330au, gan fod arglwyddiaeth Dinbych yn gwerthu'r borfa o'i hamgylch bob blwyddyn i'r gymuned leol. Mae'r Survey of the Honour of Denbigh a gasglwyd ym 1334 yn datgan bod y porfeydd a oedd yn gysylltiedig â'r anheddiad yn gallu cynnal magu gwartheg yn yr haf a'r gaeaf, ac felly'n awgrymu bod yna aneddiadau gydol y flwyddyn o leiaf ym mannau mwy cysgodol y rhan hon o'r rhostir yn y cyfnod yma. Yn wir, diffinnir y tiroedd sy'n perthyn i Bisshopswalle yn yr arolwg trwy gyfeirio at Havothlum (Hafod-lom), ffermdy pwysig yn yr ardal, a safai ar y fan nes adeiladu cronfa ddwr Llyn Brenig yn y 1970au. Yn y 16eg ganrif, ymddengys mai hen dref oedd enw diweddarach Edward Lhuyd ar Bisshopswalle a Place amedowe (plas y meudwy, o bosibl) oedd enw John Leland arno. Mae'n ymddangos bod yr enw 'Hen Ddinbych' wedi ei fathu am y tro cyntaf yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae anheddau bach oedd yn gysylltiedig â ffermio bugeiliol yn ystod y canol oesoedd yn fwy nodweddiadol o hanes anheddu diweddarach Mynydd Hiraethog. Mae hyn i'w weld yn nifer yr hafodydd ac, fel yn achos Hafod-lom y sonnir amdano uchod, mae tystiolaeth ddogfennol o'r rhain yn dyddio o ddechrau'r 14eg ganrif ymlaen. Ceir awgrym bod nifer fawr o anheddau tymhorol dros dro wedi datblygu yn nifer lai o ffermdai parhaol a thyddynnod dros gyfnod, a phob un ohonynt yn gysylltiedig ag aneddiadau gydol y flwyddyn, neu hendrefi, ar dir is, rhwyddach ei drin. Y rheswm dros hyn oedd patrwm cyfnewidiol defnydd tir. Cafwyd cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal yn ystod diwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif o ganlyniad i'r polisi bwriadol o wasgaru cymunedau Cymraeg Dyffryn Clwyd ar ôl creu arglwyddiaeth Dinbych. Fe arweiniodd hyn at adsefydlu trigolion nifer o'r cymunedau hynny ar ymylon Mynydd Hiraethog.

Gwyddys trwy ffynonellau hanesyddol am hafodydd cynnar eraill ar Fynydd Hiraethog. Crybwyllir Hafod-elwy, fel Hafod-lom, yn arolwg Survey of the Honour of Denbigh sy'n dyddio o'r 14eg ganrif a gellir ei gysylltu â dwy fferm ddiweddarach yn nyffrynnoedd Afon Alwen, sef Ty-isaf a Thy-uchaf, er bod planhigfa'r goedwig bellach wedi llyncu rhan o'r tiroedd.(Mae'r ty o'r enw Hafod Elwy ger Tan-y-graig, ymhellach i'r gogledd, yn amlwg yn fenthyciad mwy diweddar o'r enw.) Crybwyllir Hafod-y-llan yn gynt, yn y 16eg ganrif, ac mae'r enw'n parhau yn y tri thyddyn sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, ychydig islaw Hafod-elwy sef Hafod-y-llan-uchaf, Hafod-y-llan-isaf a Hafod-y-llan-bach, ac mae'n bosibl mai o'r Hauot y llan yma yr ysgrifennodd Llywelyn Tywysog Cymru at Edward I ym 1280. Cyfeirir at Havotty-llyn-dau-uchain, anheddiad na nodwyd mohono, ac sydd bellach dan Gronfa Ddwr Alwen, yn gynnar yn y 17eg ganrif.

Cofnodwyd nifer o enwau yn cynnwys yr elfen hafod ar Fynydd Hiraethog am y tro cyntaf yn ffynonellau cartograffeg y 19eg ganrif, fel yn achos Hafod-gau, Pant-y-fotty a Pant-y-fotty-bach ar ran ogleddol y rhostir i'r gorllewin o Aled Isaf, Hafod-yr-onnen a Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig. Nid yw pob un o'r tyddynnod hyn yn dyddio o'r canol oesoedd, fodd bynnag. Ar sail tystiolaeth gartograffig, ar ddechrau'r 19eg ganrif yr ymddangosodd Hafod-y-llan-bach ac, fel y nodwyd uchod, dim ond yn ystod yr 20fed ganrif yr atgyfodwyd enw'r Hafod Elwy presennol.

Mae'n debygol, fodd bynnag, bod cyfran o'r hafodydd hyn (fel yr awgrymir yn Survey of the Honour of Denbigh) wedi eu sefydlu erbyn dechrau'r 14eg ganrif, naill ai fel anheddau dros dro neu rai parhaol yn gysylltiedig â magu gwartheg at ddibenion cynhyrchu cig, cynhyrchion llaeth a chrwyn, mae'n debyg. Roedd yn amlwg bod nifer o'r anheddau'n wag cyn diwedd y 16eg ganrif a hanner cyntaf yr 17eg ganrif, pan roedd y cyfeiriadau dogfennol yn fwy niferus. Dyma'n amlwg oedd tynged y grwp hynod o saith annedd oedd â thrigolion dros dro neu barhaol a welir yn y llwyfannau, seiliau'r tai a'r llociau ar hyd lannau Nant-y-griafolen i'r gogledd o Hafoty Siôn Llwyd. Yn sgîl cloddio archeolegol gwelwyd eu bod wedi eu codi a bod pobl wedi bod yn byw ynddynt yn y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif. Mae natur glystyrog yr anheddau hyn yn ymddangos yn beth anarferol ar Fynydd Hiraethog, fodd bynnag, lle roedd un annedd ar ei phen ei hun neu bâr o anheddau fymryn uwchlaw ymyl y rhostir yn fwy nodweddiadol o batrwm yr anheddu yn y cyfnod, yma ac yn ardaloedd ucheldirol eraill Gogledd Cymru. Mae'n ymddangos bod ymgais i osgoi'r rhostir agored ehangach, gan fod yr anheddau cynnar, fel y rhai yn anheddiad Nant-y-griafolen, yn nyffrynnoedd y nentydd lle roedd yna fwy o gysgod, gwell porfa a ffynonellau dwr dibynadwy ar gyfer magu gwartheg. Roedd prif ddyffrynnoedd Afon Alwen, Afon Brenig ac Afon Fechan yn amlwg yn atyniad pwysig yn yr ystyr yma o gyfnod cynnar, a'r hyn a wnaethant mewn gwirionedd oedd estyn y parth anheddu i galon y rhostir. Gellir gweld aneddiadau nodweddiadol o'r math yma, yn llwyfannau adeiladu neu yn seiliau tai hir hyd at 4-5m o led a 8-9m o hyd mewn nifer o leoedd. Maent yn gysylltiedig yn aml â lloc neu glwstwr o gaeau, at ddiben godro neu fagu lloi o bosibl. Mae olion aneddiadau fel hyn a adawyd yn segur amser maith yn ôl i'w gweld ar flaenau pob un o ddyffrynnoedd y tair nant ar ochr ddeheuol y rhostir, sef dyffrynnoedd Nant y Foel, Afon Nug, ac Afon Llaethog. Mae'n debygol bod y rhain yn gysylltiedig â godro, gan fod enwau Ffynnon Llaethog ac Afon Llaethog, yn cyfeirio at hyn o bosibl.

Yn ystod diwedd y canol oesoedd ac yn fuan wedi hynny, cafwyd cynnydd ym mhwysigrwydd cynhyrchu gwlân yn yr ucheldiroedd yng Nghymru yn gyffredinol. Ystyrir mai natur llai llafurus ffermio defaid sy'n gyfrifol am benderfyniad pobl i adael llawer o'r ffermydd llaeth ar yr ucheldiroedd oedd yn gysylltiedig â ffermydd ar y tir is. Gwelir arwydd ffisegol uniongyrchol o'r broses yma yn achos nifer o aneddiadau blaenorol a droswyd yn gorlannau defaid neu'n gysgodfeydd, ac oherwydd i gutiau cerrig bychain dim ond tua 2-3m o led gael eu codi, yn aml yn ardaloedd llai croesawus y rhostir, fel cysgodfeydd dros dro i'r bugeiliaid. Roedd trigolion yn parhau yn nifer o'r ffermdai â gwreiddiau canoloesol hyd y 17eg a'r 19eg ganrif, fodd bynnag, yn enwedig yn nyffrynnoedd mwy ffafriedig a chysgodol, megis Alwen a Brenig, fel yn achos Hafod-lom, Ty-isaf, Ty-uchaf, Hafod-y-llan-isaf, a Hafod-y-llan-uchaf. Daeth aneddiadau newydd eraill i'r fei yn ystod y cyfnod hwn o ganlyniad i ddefnydd cynyddol o'r tir comin, er enghraifft y bythynnod a'r tyddynnod newydd y mae'n ymddangos iddynt gael eu sefydlu yn Nhan-y-graig, Tai-pellaf a Thai-isaf yn nyffryn Alwen, Rhwngyddwyffordd yn nyffryn Aled, ac efallai Hafoty Siôn Llwyd yn nyffryn Brenig. Roedd rhai o'r ffermwyr yn byw bywyd cymharol gysurus, er enghraifft yn Hafod-lom, a oedd yn fferm eithaf sylweddol ag enw da am gerdd a chân, ond roedd trigolion yr anheddau yn crafu byw mewn tlodi. Yn gynnar yn y 19eg ganrif, bocs pren yn fwrdd, a cherrig yn gadeiriau oedd unig gelfi un teulu fu'n byw yn Hafod-elwy.

Erbyn y 18fed a'r 19eg ganrif, roedd rhai o'r ffermydd mawr wedi datblygu yn safleoedd â nifer o adeiladau cerrig o amgylch tair neu bedair ochr i'r buarth. Dyma a welir yn Nhan-y-graig, yr hen ffermdy yn Hafod-lom, ac yn yr hapglystyrau o adeiladau bychain sy'n parhau i fodoli yn y coetir yn Hafod-y-llan-uchaf a Hafod-y-llan-isaf. Roedd gan y ffermydd llai yn y lleoedd mwy ymylol lai o gytiau fferm ar y cyfan ac, yn aml, ty ar ei ben ei hun fyddai'r trefniant, neu res o adeiladau lle byddai un neu fwy o gytiau fferm yn cael eu hatodi ar un pen i'r ty, er enghraifft fel yr un a welir yn Rhwngyddwyffordd a Waen-isaf-las neu, ambell waith, cynllun siâp L gyda chut fferm wedi ei osod ar ongl sgwâr i'r ty, fel a gafwyd gynt yn Hafod-yr-onnen. Mae'n bosibl fod y pâr o fythynnod carreg un llawr anghyfannedd yn Rhwngyddwyffordd a Bwlch-du yn nodweddiadol o anheddau'r 18fed ganrif. Yn ôl disgrifiad o'r 1930au, roedd gan yr olaf is-do o rug, ac uwch-do o frwyn, ynghyd â chrib o dyweirch. Mae'r ddau ffermdy bychan deulawr o garreg yn Hafoty Siôn Llwyd yn nodweddiadol o ffermdai diwedd y 19eg ganrif. Ailgodwyd y rhain yn yr 1880au, ac i ddechrau roedd ganddynt do o lechi, adwyon briciau a cherrig i'r ffenestri a'r drysau, a chut fferm ategol â ffwrn o frics.

Codwyd nifer o anheddau arbenigol ar y rhostir yn sgîl adeiladu ffordd dyrpeg ar ddechrau'r 19eg ganrif, gan gynnwys y ty tyrpeg yn Nhyrpeg Mynydd, y dafarn coets fawr o'r enw Sportsman's Arms bellach ac, yn anad dim, porthdy'r helwyr yng Ngwylfa Hiraethog. Gellir gweld y tirnod hwn am filltiroedd. Codwyd ef ar ddechrau'r 20fed ganrif gan Is-iarll Devonport ar raddfa ac mewn arddull gynhenid Seisnig a oedd yn gwbl anghymharus â'r cyd-destun, ond a oedd yn sawru o fyd breintiedig a diddordebau cefn gwlad yn y dyddiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Codwyd nifer o fythynnod ar hyd y ffordd dyrpeg newydd, gan gynnwys Bryn-pellaf a'r annedd fechan o'r enw Cottage Bridge ar ei ôl, er bod pob un wedi diflannu erbyn hyn. Codwyd anheddau newydd eraill islaw'r argae pan adeiladwyd Cronfa Ddwr Alwen yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Yn eu plith roedd gwersylltai i'r adeiladwyr a theras o dai mwy parhaol i'r gweithlu a oedd yn gweithio yn y gwaith dwr.

Cafwyd cyfnod arall o adael adeiladau yn segur ar Fynydd Hiraethog yn ystod yr 20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ostyngodd y boblogaeth o'r nifer uchaf erioed ar ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif i'r lefel isaf ers sawl canrif, fel y gwelir o'r aneddiadau arunig yn Hafod-gau, Rhwngyddwyffordd, a Hafoty Siôn Llwyd, y ffermydd anghyfannedd yn Hafod-y-llan-uchaf a lyncwyd erbyn hyn gan y fforestydd, a'r ffermydd yn Hafod-yr-onnen a Hafod-lom, sydd bellach dan ddyfroedd cronfa ddwr Llyn Brenig ers y 1970au. Bron nad yw'n amhosibl canfod adfeilion nifer o fythynnod segur fel Pant-y-maen, ond mae'r sycamorwydd a fu unwaith yn eu cysgodi rhag y gwynt yn nodi'r lleoliad ar y dirwedd.