CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Cymharol ychydig o lwybrau, traciau neu ffyrdd sy'n croesi Mynydd Hiraethog. Mae'n debyg fod dau lwybr pwysig rhwng Dyffryn Dyfrdwy a Dyffryn Clwyd yn eithaf hynafol, ond erbyn hyn mae ffyrdd mwy modern wedi eu disodli bron yn gyfan gwbl. Y ffordd gynharach rhwng Pentrefoelas a Dinbych oedd y pwysicaf o'r llwybrau hyn, ac roedd ei hynt ychydig yn fwy dwyreiniol na'r ffordd bresennol, gan redeg o Fwlch-y-garnedd, Bwlch-gwyn i ddwyrain Tan-y-graig at bont dros afon Alwen yn Nant Heilyn ac oddi yno trwy Bont-y-Brenig a Bryn Maen i Nantglyn. Disodlwyd y llwybr yma yn y 1820au a'r 1830au cynnar gan y ffordd dyrpeg, a oedd ar yr un hynt 'r A543 presennol trwy Cottage Bridge, Pont-y-clogwyn a'r Sportsman's Arms ac yna ymlaen i Fylchau, lle roedd tolldy gynt yn Nhyrpeg Mynydd ar ymyl ddeheuol y rhos. Disgrifir y ffordd yn Topographical Dictionary of Wales, Lewis, a gyhoeddwyd ym 1833, fel a ganlyn, 'ffordd ardderchog'. . . a adeiladwyd yn ddiweddar . .dros y mynyddoedd.' Cafwyd gwelliannau ers hynny, ond mae olion y muriau gwreiddiol a'r cloddiau yn goroesi yma a thraw, ynghyd Cottage Bridge, sef pont ffordd gerrig un bwa o ddechrau'r 19eg ganrif dros Afon Alwen a nifer o chwareli cynnar ar ochr y ffordd i gloddio am ddeunyddiau adeiladu. Ymddengys i'r dafarn yn y Sportsman's Arms, a elwid ar un adeg yn Tan-bryn-trillyn, ynghyd 'r patrwm rheolaidd o gaeau ar y rhostir yr arferai'r ffordd droelli o'u hamgylch, ddatblygu yn dafarn y goets fawr, a oedd yn cynnig lifrau a thir pori i wasanaethu'r teithwyr cynnar dros y rhos.

Mae'r ail lwybr cynnar a oedd yn cysylltu Cerrigydrudion a Dinbych bellach dan ddyfroedd Llyn Brenig. Roedd yn rhedeg ar hyd ddyffryn Brenig ac Afon-fechan heibio i Elorgarreg a Hafod-lom, heibio i Hafoty Sin Llwyd trwy Ryd Sin Wyn a Bwlch-du ac oddi yno i lawr i darren Mynydd Hiraethog i gyfeiriad Dinbych trwy Garreg Lwyd, gan groesi ar flaen dyffryn Afon Fechan nifer o lwybrau a thraciau bychain a oedd yn ymuno 'r llwybr cynharach o Bentrefoelas i Ddinbych trwy Nantglyn, i'r Gogledd o Fryn-yr-hen-groes. Cyfeiriodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd at y llwybr hwn sy'n debygol unwaith eto o fod yn un hynafol iawn, tua diwedd y 17eg ganrif, dan yr enw Llwybr Elen neu Sarn Elen, sef enw a roddir ar nifer o ffyrdd hynafol eraill yng Nghymru. Mae ffordd fodern bellach trwy'r blanhigfa goed wedi disodli'r trac hynafol yma i'r gorllewin o Gronfa Ddwr Brenig sy'n rhannu yn ganghennau yn y gogledd i ymuno 'r ffordd o Bentrefoelas i Ddinbych i'r gogledd o'r Sportsman's Arms ac i'r dwyrain ar draws ymyl ogleddol y rhostir, heibio i Faen-llwyd. Mae'r enw Sarn Helen yn cael ei gadw yn y sarnau ar draws y nant wrth ymyl Hen Ddinbych. Roedd trac hynafol arall yn yr ardal hon yn cysylltu rhan uchaf dyffryn Brenig 'r Gyffylliog a Rhuthun i'r dwyrain, gan redeg trwy Goedwig Clocaenog trwy ddyffrynnoedd Aber Llech-Damer ac Afon Clywedog, a heibio i'r anheddiad canoloesol yn Hen Ddinbych.

Mae'r rhan fwyaf o draciau eraill ar y rhos, llawer ohonynt eto yn debygol o fod yn rhai eithaf hen, yn tueddu i fod yn llwybrau pellter byr a ffurfiwyd i gysylltu'r hendrefi a'r cymunedau 'r porfeydd rhostirol, (yr hafodydd), y ffermydd anghysbell yr oedd trigolion ynddynt trwy'r flwyddyn, gweithfeydd torri mawn neu chwareli a oedd yn darfod yn ddirybudd cyn iddynt gyrraedd eu nod. Dangosir amrywiol lwybrau ar nifer o fapiau o'r 19eg ganrif, a rhai ohonynt hefyd yn dangos nentydd sarnau a phontydd troed yn eu croesi. Mae rhai ohonynt wedi diflannu ers hynny. O'r cyfnodau cynharaf, cerdded neu gyrru cert ych fyddai'r ffordd mwyaf cyffredin o deithio ar y rhos neu ar ei draws. Mae pedolau, sbardun a darnau o harneisiau a gafwyd wrth gloddio un o'r tai cynnar ar Nant-y-griafolen yn awgrymu bod rhai ffermwyr wedi bod yn marchogaeth i'w hanheddau ucheldirol ac yn l ar gefn ceffyl.

Y ffordd dyrpeg o Bentrefoelas i Ddinbych ar ddechrau'r 19eg ganrif oedd y ffordd gyntaf i allu cludo cerbydau neu draffig arall ag olwynion yn ddibynadwy dros Fynydd Hiraethog bob adeg o'r flwyddyn, gan arbed arian ar siwrneiau'r gaeaf o'r gogledd i'r de a fyddai'n gorfod mynd i gyfeiriad Llanrwst ar y dwyrain neu Gorwen ar y gogledd. Yn ogystal gwella'r cysylltiadau, fe arweiniodd adeiladu'r ffordd dyrpeg at allu'r genhedlaeth gyntaf o lawer o dwristiaid i gyrchu rhostir mynyddog llwm Mynydd Hiraethog.