Cymraeg / English
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolComin Treffynnon a Mynydd HelygainY Tirwedd GweinyddolYn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwythau'r Deceangli, a oedd yn ymestyn, mae'n debyg, o'r afon Dyfrdwy yn y dwyrain i'r afon Conwy yn y gorllewin. Mae'n debyg bod yr ardal wedi ei choncro gan y Rhufeiniaid erbyn 60 OC. Erbyn canol y 60au, roedd plwm smelt eisoes yn cael ei allforio o'r ardal gan brydleswyr preifat ond erbyn diwedd y degawd nesaf daeth y diwydiant dan reolaeth ymerodrol Rhufain, i bob golwg. Mae'n debyg bod yr ardal wedi parhau'n ardal ddiwydiannol bwysig tan y 3edd ganrif a'r tu hwnt. Erbyn diwedd yr 8fed ganrif efallai, daeth yr ardal dan ddylanwad teyrnas Eingl-Sacsonaidd ehangol Mersia, gan orwedd yn rhannol rhwng Clawdd Chwitffordd yn y gorllewin a Chlawdd Wat sydd yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol Mynydd Helygain, gan gynnwys yr iseldir arfordirol rhwng Dinas Basing a Fflint. Parhaodd y brwydro dros yr ardal rhwng teyrnasoedd datblygol Cymru a Lloegr am sawl canrif. Pan luniwyd Llyfr Domesday yn 1086 roedd Mynydd Helygain yn rhan o ardal Englefeld (Englefield, Tegeingl), a oedd yn rhan o gantref Atiscros yn Sir Gaer. Erbyn y 13eg ganrif. Tegeingl, ar y cyd â chantrefi Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd oedd Perfeddwlad teyrnas Gwynedd Is-Conwy. Goresgynnwyd yr ardal gan arglwyddi Normanaidd y Mers a brenhinoedd Lloegr ar wahanol adegau rhwng diwedd yr 11eg ganrif a dechrau'r 13eg ganrif hyd nes y goresgynnwyd hi yn y diwedd gan Edward I yn ystod yr 1270au a'r 1280au. Cadwyd Tegeingl fel rhan o eiddo personol y brenin, a rhoddwyd yr enw Coleshill arni pan ddaeth yn rhan o sir newydd y Fflint yn 1284. |