Cymraeg / English
|
Nodweddion Tirwedd HanesyddolComin Treffynnon a Mynydd HelygainTirweddau Amddiffynnol a MilwrolY prif gloddwaith amddiffynnol yn yr ardal tirwedd hanesyddol hon yw bryngaer fawr Moel y Gaer, Rhosesmor, o'r cyfnod cynhanesyddol hwyr, a gloddiwyd yn fanwl yn ystod yr 1970au, cyn codi argae. Defnyddid y fryngaer - yn ysbeidiol o bosibl - rhwng tua diwedd y 7fed ganrif CC ac ychydig cyn dyfod y Rhufeiniaid. Yn ystod cyfnod cynharach, amddiffynnwyd anheddiad o dai crwn pren gan balisâd pren. Yn ddiweddarach, yn lle'r amddiffynfa crewyd ffos a gwrthglawdd o gerrig a phridd a oedd, yn yr achos yma, yn amddiffyn anheddiad o dai crwn â waliau â stanciau ac adeiladau petryal niferus â phedwar postyn mawr, lle bu adeiladau codedig efallai ar gyfer cadw gwenith. Ychydig o weithiau amddiffynnol a milwrol eraill y gwyddyd amdanynt yn yr ardal hon. |