CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Tirweddau Diwydiannol

RoeddMynydd Helygain unwaith yn un o'r meysydd plwm a sinc pwysicaf yng Nghymru. Mae'n cynnwys ardal o fwygloddio di-dor bron sy'n rhedeg am tua 9km o Orsedd yn y gogledd-orllewin i Rosesmor yn y de-ddwyrain, heibio Brynford, Pentre Halkyn, Rhes-y-cae a Phentre Helygain. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gloddfeydd plwm ond mae nifer o chwareli bychain lle ceid calchfaen, siert, clai a thywod wedi eu gwasgaru ar draws y tirwedd, yn ogystal â'r chwareli carreg a siert modern, mawr ym Mryn Mawr, Pen yr Henblas a Phant-y-pwll-dwr.

Y prif fwyn metel yw galena (sylffad plwm), yn ogystal â sffalerid (sylffad sinc) c ychydig o galcopyrid (copr, (sylffad haearn), a'r prif gynnyrch yw plwm, gydag arian fel sgilgynnyrch gwerhfawr. Ceid y mwynau gan amlaf mewn gwythiennau tenau gan eu bod wedi gwaddodi mewn ffawtiau oedd eisoes yn bodoli oyn y Calchfaen Carbonifferaidd. Yn y dyddiau a fu roedd gan y gwythiennau enwau fel gwythiennau Long Rake, Old Rake, Chwarel Las, Pant-y-pydew, Pant-y-pwll-dwr a thraws-gwrs Pant-y-ffrith a Chaleb Bell.

Er prined tystiolaeth bendant, mae'n edrych yn debygol bod cloddio am fwynau wedi dechrau yn ystod yr Oes Efydd yn yr ardal hon, ac mae'n debyg mai gweithiau cymharol fas neu bydewau cloch neu doriadau agored ar hyd y wythïen oedd y rhai gwreiddiol. Prin yw'r dystiolaeth uniongyrchol am fwyngloddio yn ystod yr Oes Haearn hefyd, ond dywedir bod dysglau copr sydd efallai'n dydio o'r cyfnod hwn wedieu darganfod yng nghanlol y18fed ganriwrth agor siafft ar Long Rake, Helygain, gwythïen sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws y comin, gan dorridrwy Res-y-cae. There is mCeir tystiolaeth fwy pendant o fwyngloddio am blwm ac arian yn dilyn y goncwest Rufeinig, ond unwaith eto prin yw'r dystiolaeth am leoliad safleoedd mwyngloddio. Cafwyd hyd i 'hwch' Rhufeinig neu ingot o blwm ym 1950 wrth godi Ysgol Carmel a'r llythrennau C NIPI ASCANI wedi eu hysgythru arno, sef enw cynhyrchydd plwm preifat, C. Nipius Ascanius, ac yn ddi-os cafwyd y plwm a smeltiwyd ef ar Fynydd Helygain. Darganfuwyd hychod tebyg ger y gaer Rufeinig yng Nghaer, ac mae'r llythrennau DECEANGL ar ddau ohonynt, sef enw'r llwyth oedd yn byw yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru. Trwy gloddio yn ardal Pentre Oakenholt, Fflint cafwyd tystiolaeth o smeltio plwm, o fwynau a gludwyd i lawr o Fynydd Helygain mae'n debyg. Roedd olion adeiladau domestig Rhufeinig a baddondy yn Fferm Pentre, Fflint yn gartref mae'n debyg i'r swyddog Rhufeinig oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r diwydiant hwn a oedd yn allforio plwm ar hyd ber yr afon Dyfrdwy i Gaer a'r tu hwnt.

Roedd gwaith cloddio'n dal i gael ei wneud ar raddfa sylweddol yn ystod y canoloesoedd, gan gyrraedd uchafbwynt yn hwyr yn y 13eg ganrif pan roedd galw mawram blwm ar gyfer toi cestyll newydd Edward yn y Fflint a Rhuddlan yn ogystal â rhai pellach i ffwrdd yn Sir Gaernarfon, Sir Fôn a chanolbarth Cymru. Mae cofnodion ar gael o'r 1350au am gyfreithiau a breintiau'r mwynwyr rhyddion yn Englefield, a oedd yn cynnwys ardal Treffynnon-Helygain. Rhoddid darn o dir i gloddwyr a oedd yn ddigon mawr i godi cartref a gardd, a digon o goed i atgywierio'r cartref a'u ffensys, ac i wneud cynhalbyst i'w mwynfeydd. Dynion rhydd oeddent, a gallent bori eu da byw ar ir comin, gwerthu eu mwynau ar y farchnad rydd, ar yr amod eu bod yn talu trethi i'w harglwydd, a oedd biau'r hawliau i gloddio. Mae'n debyg bod llawer o'r dystiolaeth faes ar gyfer hweithfeydd canoloesol a chynharach wedi cael ei distrywio neu ei chuddio gan weithfeydd ehangach a gychwynnodd yn ystod yr 17eg ganrif, gan fod cloddfeydd pob cyfnod wedi eucyfyngu i'r gwythiennau cul a farciwyd gan linellau a siafftiau, pydewau cloch a phydewau treialu, heb fod yn fwy na rhyw 4-5m mewn diamedr.

Yn yr1630au, rhoddodd y goron hawl i gloddio am blwm ym mhlwyf Treffynnon, cantrefi Coleshill a Rhuddlan, i ystad Grosvenor, gan gadw iddi hi ei hun y hawliau ar gyfer Heylgain a Llaneurgain. Bryd hynny, rhoddid les felbargen flynyddol a fesurwyd yn nhermau rhyw 30 0 lathenni yn unig. Y diffyg buddsoddi a berwyd yn y cychwyn gan hyn oedd un o'r rhesymau bod pydewau cymharol fas yn nhirwedd Comin Treffynnon a Mynydd Helygain.

Roedd y London Lead Company, neu'r Quaker Company fel y'i gelwir yn amlach, yn cloddio yn Sir y Fflint o tua 1695. Yn 1698, roedd y cwmni eisoes mewn angydfod ag ystad Grosvenor ynghylch mwyngloddio ar Old Rake, Helygain, un o'r gwythiennau cyfoethocaf ar y mynydd. Roedd mwyncyfoethog yn cael ei godi mewn basgedi yn Old Rake a Long Rake, ac erbyn 1701 roedd gan y cwmni adeilad a oed yn cynnwys gefail, cyfrifdy, storfa ar gyfer mwyn, preswylfa i'w asiant a simnai er cyfleustra i'r mwynwyr yn ystod y gaeaf. Roedd y Quaker Company yn amlwg yn gyfrifol am ddull mwy trefnus o gloddio ar y mynydd; gwneid y gwaith o baratoi'r mwyn ger y gloddfa a chludid y mwyn pan oedd wedi'i brosesu ar gert i'r man smeltio ryw 2-3km i ffwrdd, wrth droed y mynydd yn y Gadlys, ger Bagillt, a oedd yn cynhyrchu erbyn 1704.

Hyd nes dyfod y peiriant ager codid y mwynau drwy ddulliau syml fel rhaff a bwced, winshis a cheffylau. O ganlyniad, roedd y siafftydd yn eithaf bas, ar ffurf pydewau cloch fel arfer, a'r rheiny heb fod yn ddyfnach na 10m. Roed y Quaker Company yn gfrifol am gflwyno newidiadau technolegol niferus fel y felin wynt ar gyfer pwmpio dwr a weindio mwyn ym Mhant-y-pwll-dwr Rake, ac yn ddiweddarach codwyd ty injan ar gyfer peiriant ager Newcomen erbyn 1729, un o'r cyntaf o'r saith i'w gosod gan y cwmni ar Fynydd Helygain. Roedd diddordeb y Crynwyr ar Fynydd Helygain yn cynnwys Maeslygan, Old Rake, Long Rake, Silver Rake a Moel-y-crio a chloddiwyd siafftiau hyd at 60 llathen mewn dyfnder erbyn yr 1720au. Datblygiad arall a wnaed gan y Cwmni oedd defnyddio mynedfeydd a oedd yn cynnig traeniad a lefelau mynediad. Cynhynny, byddai'r rhanfwyaf o'w cloddfeydd dan ddwr ac yn anweithiadwy yn ystod misoedd y gaeaf. Golygodd y gwelliannau hyn fod modd mwyngloddio gydol y flwyddyn a chyrraedd gwythiennau dyfnach a chyfoethocach. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y nwyafrif o'r gwythiennau cyfoethocaf ar Fynydd Helygain yn cael eu gweithio, ac o ganlyniad i ehangu bu raid cloddio'n ddyfnach i'r gwythiennau hyn.

Ffactorau eraill a arweiniodd at ehangu graddfa'r cloddio yn ystod y 18fed ganrif gynnar a'r tu hwnt oedd y ffaith bod digonedd o lo yn Sir y Fflint a'r modd y dechreuid ei ddefnyddio yn lle siarcol i smeltio plwm ac mewn peiriannau ager. Roedd y ffaith bod aber yr afon Dyfrdwy gerllaw yn ei gwneud hi'n llawer haws i anfon mwynau ar longau i ganolfannau gwneuthur a smeltfeydd ar hyd yr arfordir. Un anfantais oedd prinder dwr i yrru peiriannau, a fu'n gymorth mawr mewn ardaloedd mwyngloddio eraill, ac oherwydd hyn daethpwyd i ddibynnu ar beiriannau ager a danwyd â glo ar gyfer y rhan fwyaf o'r cloddfeydd yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif.

O ganlyniad i'r ehangu yn y diwydianta'r angen am lefelau uwch o fuddsoddi, disodlwyd mentrau mwyngloddio bychain gan gwmnïau mwyngloddio mawr yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn diwedd y 19ed ganrif Sir y Fflint oedd yr ardal fwyaf cynhyrchiol yng Nghymru, a'r Pennines oedd yr unig le mwy cynhyrhciol ym Mhrydain. Roedd y gwaith cyharach wedi cyrraedd y mwynau hawsaf i gyd. Roed angen buddsoddi mwy o gyfalaf ar gyfer cloddio dwfn, yn enwdig ar gyfer traenio dwr a daeth yn fwyfwy hanfodol wrth i'r gweithfeydd gloddio'n ddyfnach dan y lefel trwythiad. Cloddiwyd nifer o fynedfeydd traenio llai gan gwmnïau unigol, ond torrwyd dau dwnel mawr drwy'n mynydd fel cyd-fenter. Cychwynnwyd y 'Halkyn Deep Level Tunnel' gan Ystad Grosvenor yn 1818, ac aethpwyd â'r gwaith ymlaen gan y Halkyn District Mines Drainage Company yn 1875. Roedd yn traenio'r cloddfeydd ar ochr dde-ddwyreiniol y mynydd, fel y New North Halkyn a'r Mount Halkyn, cyn parhau i'r de tua Hendre a Llyn-y-pandy. Yn 1897 ffurfiodd grwp o gwmnïau y Holywell-Halkyn Mining and Tunnel Company a dechrau gyrru Twnel Milwr o aber yr afon Dyfrdwy ym Magillt. Roedd yn torri ar draws canol y maes mwynau o'r gogledd i'r de, ac ymhen amser estynnwyd ef i Fwyngloddiau'r Wyddgrug ym 1957. Fel hyn, gellid ailweithio'r holl gloddfeydd cynharach a fuasai'n gweithio'r gwythiennau ar hyd y twnel yn ddyfnach o hyd, a hyd at 800tr yn achos cloddfeydd Helygain. Ymhlith y gwelliannau eraill yn y 19eg ganrif dyfeisiwyd dril cerrig, defnyddid aer gywasgedig dan ddaear, a deinameit.

Prin yw'r dystiolaeth ddogfennol yn aml, a dim ond mewn achosion prin y mae cofnodion a chynlluniau manwl o'r cloddfeydd wedi goroesi. Yn aml, yr unig gyfeiriad dogfennol at yr agos i100 o gloddfeydd yn y triwedd hanesyddol hwn, gydag enwau fel Dog Pit, Prince Patrick, Queen of the Mountain, neu True Blue, yw nodyn yn y Mining Journal yn ymwneud â ffigyrau cyhoeddi, newid mewn pechnogaeth, a gosod offer newydd o bryd i'w giydd, a figyrau ar gyfer cynhyrchu plwm a gpfnodwyd gan y Mining Record Office ym 1845. Mewn rhai achosion, ceir adroddiadau asiantau a all roi mewnwelediad gwerthfawr i'r gwaith ar ddyddiad penodol. Er bod cofnodion y cwmni argael yn achos nifer o gloddfeydd, yn aml maent yn angyflawn ac mae'n anodd eu cymharu â'r hyn sydd i'w weld ar y llawr. Weithiau mae cynlluniau'r cloddfeydd a darnau o'r gweithfeydd wedi goroesi,ond yn aml dim nd at y rhannau tanddaearol y maent yn cyfeirio ac ychydig sydd ynddynt, neu ddim o gwbl, am yr hynoedd uwchben y ddaear. Yn achos llawer o safleoedd ceir y cynlluniau arwyneb cynharaf sydd wedi goroesi yn argraffiad 1af mapiau'r Ordnans, o'r 1880au fel arfer. Cofnodwyd y gwaith a'r strwythurau ar yr wyneb o bryd i'w gilydd yn ffotograffau cyfoes, ond gwaetha'r modd prin iawn yn cofnodion o'r fath. Er bod llawer o'r c;oddfeydd yn dydio o gyfnod cymharol ddiweddar, mae dehongli'r dystiolaeth sydd y y maes o bwys mwr i'n dealltwriaeth o'r technegau mwyngloddio a phrosesu a ddefnyddid mewn gwahanol gyfnodau.

Roedd uchelfannau yny cynhyrchu tua 1850 ac 1895. Ddiwedd y 19eg ganrif gwelwyd lleihad yn y diwydiant mwyngloddio oherwydd cystadleuaeth dramor. Yn ysod y Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddodd y Weinyddiaeth Arfau fenthyciadau i sbarduno'r diwydiant. Ym 1913, dechreuodd yr Holywell-Halkyn Mining and Tunnel Company ymestyn y Sea Level Tunnel. Cyfunwyd materion traeniad a mwyngloddio ym 1928, pan ymestynnodd yr Halkyn District United Mines y Sea Level Tunnel yua'r de gan agod gwythiennau newydd. Roed y twnel yn gwasanaethu system reilffordd ddanddaearol gan ddefnyddio trenau â batri i gludo mwynau a phersonél. Trydan a ddefnyddid ar gyfer y gwaith ar yr wyneb yn ystod yr 20fed ganrif. Gohiriwyd y gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond ailgychwynnodd pan ymgyfunodd nifer o gwmnïau i gloddio am blwm a chwarelu calchfaen at ddibenion amaethyddol. Canolbwynt gwaith mawr yr Halkyn District United Mines (cyfuniad o naw cwmni cloddio blaenorol) oedd Siafft Pen-y-bryn Fynydd Helygain. Parhaodd gwaith mwyngloddio ar raddfa fechan tan yr 1970au, a thynnwyd y brif ffrâm ym Mhen-y-bryn o'r diwedd ym 1987.

Er bod llawer o'r safleoedd wedi eu cadw mewn cyflwr cymharol dda yn ardaloedd craidd y tirwedd hwn sydd heb eu gwella, collwyd rhai o'r safleoedd i'r chwarelu diweddar am galchfaen a hefyd i amaethyddiaeth a thai, yn enwedig o gwmpas yr ymylon. Mae safle cloddfeydd i'r gogledd o Brynford wedi eu tirweddu ar gyfer Clwb Golff Treffynnon, ac wrth adeiladu fordd yr A55 torrwyd drwy llawer o'r safleoedd ymhellach i'r gogled yn enwedig yn ardal Smithy Gate. Yn yr ardal o gwmpas Pen-y-ball Top dim ond rhannau o'r cloddfeydd sydd wedi goroesi o ganlyniad i adfeddiannu'r tir ar gyfer amaetyddiaeth. Mewn mannau dim ond y siafftiau mawr a'r tomenni rwbel sydd ar ôl, ynghyd ag olion y tranffyrdd a oedd yn oerthyn i Chwareli y Grange a Coetia Butler Caewyd nifer o siafftiau â choncrid er diogelwch fel rhan o raglen gan Gyngor Sir Clwyd yn ystod yr 1970au. Mae cynlluniau adfer tir diffaith gan gynnwys capio siafftiau, mewnlenwi a chael gwared o wastraff ar raddfa fawr, wedi lefelu llawer o weithfeydd yr 20fed ganrif hwyr, yn enwedig yn yr ardal i'r de-orellwin o bentref Helygain, a oedd yn cynnwys gweithfeydd Halkyn District United Mines ar wythïen Pant-y-go. Areiniodd cynlluniau eraill at golli Cloddfa Prince Patrick i Chwarel Pant-y-pwll-dwr a rhai o weithfeydd ar wythïen Pant-y-pydew i Chwarel Siert Pen yr Henblas.

Y dystiolaeth orau o gloddio sydd wedi goroesi ar yr wyneb yw'r siafftiau a phydewau treilau niferus sydd mewn clystyrau a chadwyni ar hyd y gwithiennau mwyn. Mae tua 4,700 wedi eu cofnodi ar Fynydd Helygain, ac mae nifer lai osiafftuay dyfnion wedi eu gwasgaru ar y bryn. Er bod rhai o'r siafftiau a phyllau treialu'n dal ar agor, mae llawer wedi mynd a'u pennau iddynt a'r cyfan a welir ohonynt yw pant. Dangosir dyfnder gwreiddiol y siafftiay gan y rwbel a welir mewn cadwyni o bentyrrau llai, twmpathau crwn yr olwg o gwmas ceg y siafft neu fel twmpathau sefydlog. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r siafftiau dyfnion diweddarach, a gloddiwd er cael mynediad, traeniad neu aer, wedi eu capio â cherrig neu goncrit.

Ychydig o adeiladau'r cloddfeydd neu unrhyw adeiladweithiau eraill uwchben y ddaearsydd wedi goroesi, o ganlyniad i ddihoeni naturiol yn ogystal â pholisi bwriadol o glirio adeiladau gadawedig. Mae darnau o un neu ddau o dai injan gwreiddiol wedi goroesi, fel yng Nglan Nant, ger Holway, a ddefnyddiwyd ddiwethaf fel cwt moch, ac efalli yn mhentref Helygain, yn ogystal â hen simnai gynt. Mae olion twll olwyn posibl â wyneb o gerrig hefyd wedi goroesi yn Holway. Mae hen swyddfeydd mwyn neu dai rheolwyra drowyd bellach yn anheddau ywedi goroesi ym Mhwll Parry, i'r gorllewin o Bentre Helygain, a Phwll Clwt Mine, i'r gogledd o Galcoed. Mae nifer o'r gefeiliau gwreiddiol wedi goroesi fel ym mhyllau Glan Nant, Carmel, Ty Newydd a Mona gynt, a drowyd at ddefnydd arall erbyn hyn. Ymhlith yr adeiladweithiau eraill ar yr wyneb a ddangoswyd ar hen fapiau ond nad oes olingweladwy ohonynt bellach ceir gêr weindio, storfeydd powdr, a llifbyllau, ond mae modd adnabod nifer o safleoedd chwimsi ceffylau, gan gynnwys un yn Rhes-y-cae, syd i'w weld fel cylch tua 13.5m mewn diamedr. Dangosir sawl cronfa ddwr, ffos a thramffordd hefyd arhen fapiau a gellir canfod rai ohonynt yn hawdd ymhlith y siafftiau. Mae cerrig ffin calchfaen hyd at 1m mewn uchder wedi goroesi yma ac acw, a oedd yn dynodi consesiynau mwyngloddio gwahanol, La bu anghytuno mynych ynghylch safle'r cerrig rhwng Ystad Grosvenor Estate ac asiantau'r goron yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. I bob golwg, proseswyd llawer ar y mwynau oddi ar y mynydd ond yn Holway ceir gwastraff trin a phantiau lle bu unwaith gafnau golchi. Ni wyddys am saflleoedd smeltio cynnar ar y mynydd, ond un arwydd ohonynt yw'r elfen mewn enwau leoedd, ‘ball’, fel yn Coitia Ball a Pen-y-ball Top, sy'n dod o'r gair 'bole'.

Ymhlith y gweithgareddau diwylliannol eraill o bwys yn yr ardal tirwedd hanesyddol bu chwarelu am siert, ‘marbl’, calchfaen hydrolig, calchfaen ar gyfer adeiladu ac ar gyfer amaethyddiaeth, ac mae pob un o'r rhain wedi gadaelei farc annileadwy ar y tirwedd, yn aml yn agos iawn at ei gilydd ac i olion cloddfeydd plwm. Roedd siert ar gyfer malu ac i gynhychu llestri carreg a phorslen ar gyfer ffatrïoedd Minton a Wedgwood yn y Potteries yn cael ei chwarelu rhwng yr 1770au a dechrau'r 20fed ganrif ym Mhant-y-pwll-dwr, Pen yr Henblas, Pen-yr-garreg, Pen-yr-hwylfa, Bryn Mawr ac ar ochr ogleddol Moel y Gaer. Chwarelwyd Marbl Helygain ym Mhant-y-pwll-dwr o'r 1830au ac fe'i hallforiwyd i'r wlad o gwmpas. Cynhyrchwys calchfaen hydroig a fyddai'n caled dan y dwr hefyd yn The Grange, Holway ac ym Mhant-y-pydew rhwng yr 1830au a'r 1890au, ac roedd gofyn amdano ar gyfer adeiladu dociau newydd yn Lerpwl, Penbedw a Belffast. Chwarelwyd calchfaen argyfer adeiladu, cerrig bess a physt giât a llosgi calch mewn nifer o ganolfannau, yn bennaf unwaith eto ym Mhant-y-pwll-dwr an rhwng Helygain a Rhes-y-cae. Gwyddys am lawer o odynnau calch gynt diolch i hen fapiau ond mae rhai ohonynt, fel y rhai oedd ym Mhen-y-parc, Bryn Rodyn, a Billins wedi diflannu bellach. Mae odynnau calcheraill yn bod dim ond fel sylfeini neu dwmpathau isel, ond gwyddyd am odynnau a gafwyd mewn cyflwr da yng Ngharmel a Chwarel-wen, gyda bloc o bum odyn ym Mhant-y-pydew.

Chwarelwyd dyddodion o dywod a chlai rhewlifol hefyd, yn enwedig at ochr ddeheuol yr ardal. Roedd clai a oedd yn addas ar gyfer porslen yn cael ei gloddio o chwareli yn y Foelddu, rhwng Helygain a Rhes-y-cae, rhwng yr 1820au a'r 1890au. Gosodwyd pyllau clai ac odyn frics yn Waen-y-trochwaed,i'r gorllewin o Res-y-cae, yn hwyr yn y 19eg ganrif. Chwarelwyd llawer ar esgair rewlifol am dywod ger Moel-y-crio yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif.

Parheir i chwarelu cerrig hyd heddiw ac mae nifer o'r chwareli mwyaf bellach yn gannoedd o droedfeddi mewn dyfnder ac yn dylanwadu ar y tirwedd o'u cwmpas.