CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Tirweddau Anheddu

Mae'n bosibl mai'r anheddiad cynharaf yn yr ardal hon yw'r ty hir ar gopa Moel y Gaer, Rhosesmor, sy'n dyddio o'r 3ydd mileniwm CC. Ychydig awyddys am anheddiad cynhanesyddol diweddarach neu Rufeinig yn yr ardal, ar wahân i'r fryngaer ddiweddarach ar Foel y Gaer, Rhosesmor, a drafodir isod yn yr adran ar diwedau amddiffynedig. Ymhlith y safleoedd anheddu eraill gyda dyddiadau cynnar ceir y lloc ger cwrs golff Treffynnon, i'r dwyrain o Galcoed, a safleoedd nifer o dai crwn ar Fryn-Sannan, i'r dwyrain o Brynford. Cofnodir nifer o aneddiadau neu drigfannau cynnar yn yr ardal yn Llyfr Domesday o 1086, gan gynnwys y rhi yn Brynford (Brunford/Brunfor) a Helygain (Helchene/Alchene), lle mae eglwys, er nad oes unrhyw olion arwynebol o aneddiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Dylanwadau yn drwm ar y patrwm anheddu modern, yn amlwg, gan y diwydianau mwyngloddio a chwarelu. Mae mapiau o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif o'r aneddiadau modern yng Ngorsedd, Brynford, Pentre Halkyn a Rhes-y-cae yn dangos dim ond tai gwasgaredig a nifer o lechfeddianiadau ar ymyl y tir comin, a gynrychiolir gan fythynnod carreg mwyngloddwyr a ffermdai bychan o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ar ymylon y tir comin. Mae enw lle Rhes-y-cae yn cyfeirio at res o dai, ond nid yw map o hanner cyntaf y 18fed ganrif yn dangos dim ond y dafarn bresennol, ar y ffordd o Laneurgain i Ddinbych.

Yn anochel, cododd anghydfod rhwng y ffermwyr a thirfeddianwyr sefydlog a'r rhai oedd yn sefydlu tai a chaeadleoedd newydd ar y mynydd, a bu yngyrchoedd pendant yn ystod yr 1780au i ddistrywio ffensiau caeadleoedd anghyfreithlon gan bobl gyffredin gyfreithlon ac asiantau Ystad Grosvenor.

Digwyddodd cynnydd sylweddol yn y boblogaeth yn ystod yr 17eg ganrif hwyr a'r 18fed ganrif hwyr yn dilyn ehangiad sydyn yn y diwydiant mwyngloddio, ac roedd cyfran sylweddol o'r mewnfudwyr yn fwyngloddwyr o Swydd Derby, ac o'r cyfnod hwn y mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau cnewyllog yn perthyn.

I bob pwrpas, pentref Helygain yw'r unighen anheddiad cnewyllog sefyfledig yn yr ardal. Ei ganolbwynt gwreiddiol oedd yr eglwyd ganoloesol, ond fe'i ailfodelwyd mewn ffordd radical yn ystod yr 1820au gan y teulu Grosvenor, drwy ailalinio'r ffordd a symud yreglwys a gosod eu cartref newydd, Castell Helygain, ar y safle lle buasai gynt galon yr hen gymuned. Codwyd ysgolion yn yr ardal yn Helygain ym 1849, Brynford yn 1852-54, Carmel ym 1862 (lle defnyddir yr adeilad bellach fel neuadd y pentref), ac yn Rhes-y-cae ym 1889.

Cynrychiolir adeiladau ffrâm bren cynnar yn y Grange a'r Old Farmhouse gerllaw, ac mae'r ty cynharach yn y Grange, oedd yn perthyn i Abaty Dinas Basing cyn y diddymu, yn neuadd ffrâm bren o'r 15fed ganrif hwyr neu'r 16ed ganrif gydag ychwanegiadau diweddarach mewn carreg, a ddefnyddir bellach fel tai allan. Ymhlith y tai mwyaf yn yr ardal, mae Henblas yn adeilad a godwyd o gerrig ym 1651, ac mae Halkyn Hall yn dy briciau cynnar sy'n dyddio o 1674, gyda rhai elfennau cynharach.