CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Comin Treffynnon a Mynydd Helygain


Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Mae'n bosibl bod ffordd Rufeinig wedi ei hadeiladu ar hyd Mynydd Helygain fel rhan o ffordd rhwng aneddiadau Rhufeinig yng Nghaer a Llanelwy,ac efallai er mwyn cyrraedd y cloddfeydd, ond mae'r dystiolaeth archaeolegol breennol yn amhendant.

Mae llwybrau llydan a llwybrau troed niferus ar draws y tir comin Tyn rhedeg rhwng y siafftiau a'r cloddfeydd, a chofnodwyd rhai ohonynt am y tro cyntaf ar fapiau a chynlluniau cynnar y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'ndebygol fod nifer o'r llwybrau llydan yn bur hen a'u bod yn cynnig ffordd o gyrraedd y cloddfeydd ac yn darparu cyfathrebu rhwng y cymunedau o bobtu'r bryn. Croeswyd y mynydd agored hefyd gan nifer o lwybrau pellter hir a ddangoswyd ar fapiau ffyrdd o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, gan gynnwys llwybr o'r gogledd i'r de rhwng Amwythig a Threffynnon, gan fydn drwy Windmill, ffordd rhwng Llaneurgain a Dinbych heibio Rhes-y-cae, a ffordd rhwng y Fflint a Dinbych heibio Pentre Helygain a Waen-brodlas.

Amser maith yn ôl, byddai llawer o'r mwynau a gloddwyd ar Fynydd Helygain wedi eu cario ymaith ar geffylau neu ar gertiau i'r mannau smeltio, ond yn ystod y 18fed ganrif dechreuwyd defnyddio tramffyrdd neu reilffyrdd cul, a thynnwyd y cerbydau gan geffylau neu fe wthiwyd hwy â llaw, gellir gweld cwrs y ffordd o hyd ger Berth-ddu, i'r de o Helygain. Adeiladwyd camlesi tanddaearol yn rhan o'r cloddfeydd mwyaf yn ystod y 18fed ganrif, a disodlwyd hwy gan reilffyrdd tanddaearol yn ystod y 19eg ganrif.

Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, codwyd twr pren fel begwn o fewn bryngaer gynhanesyddol Moel y Gaer, Rhosesmor, fel rhan o rwydwaith cyfathrebu pellter hir rhwng Caergybi a Chaer.