CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Llangollen
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Gafaeliau
Cymunedau Llantysilio a Llangollen, Sir Ddinbych
(HLCA 1141)


CPAT PHOTO 1766-184

Darn anghysbell o ddyffryn Dyfrdwy i’r gorllewin o Langollen, gyda ffermydd ar yr iseldiroedd ac ymylon yr ucheldiroedd a thirweddau caeau o’r cyfnod canoloesol a diweddarach; plastai, parcdir a gerddi o oes Fictoria, ffermydd stad a bythynnod; aneddiadau cnewyllol bychain yn rhannol gysylltiedig â mwyngloddio llechi yn y gorffennol.

Cefndir hanesyddol

Roedd darganfod celc bychan o fwyeill efydd socedog a blaen gwaywffon siâp deilen o’r Oes Efydd ym mhlwyf Llantysilio yn awgrymu anheddu cynnar, cynhanesyddol, er mai prin yw’r dystiolaeth eglur o anheddu a defnyddio tir cyn y cyfnod canoloesol. Erbyn y 7fed neu’r 8fed ganrif roedd yr ardal o fewn teyrnas Gymreig Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Roedd Eglwys Llantysilio wedi’i sefydlu erbyn y 12fed ganrif fan bellaf, yn ôl pob tebyg yn gwasanaethu cymuned wledig wasgaredig yn yr ardal. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif roedd yr ardal i’r de o Afon Dyfrdwy o fewn dwy arglwyddiaeth mers oedd wedi’u creu o’r newydd, sef Swydd y Waun i’r de o’r afon a Brwmffild ac Iâl i’r gogledd o’r afon. Gan fod yr ardal wedi’i hynysu o weddill yr arglwyddiaethau mae’n ymddangos bod nifer o ffermydd rhyddfraint bychain wedi dod i fodolaeth erbyn dechrau’r 14eg ganrif, a llawer cynt mae’n debyg, a gwyddys bod eu heconomi wedi cynnwys magu wyn a moch, tyfu ceirch a chasglu cnau. Erbyn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif roedd ffermio stad wedi dod i’r amlwg, yn bennaf stad Llantysilio y dechreuwyd ei chwalu yn sgîl yr Ail Ryfel Byd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal yn llunio darn nodedig o ddyffryn Dyfrdwy i’r gorllewin o Langollen sydd, oherwydd dolen neilltuol yn yr afon, wedi’i ynysu oddi wrth y prif linellau cysylltu o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae gwaelod y dyffryn yn gyffredinol rhwng 130–150 metr uwchlaw lefel y môr, ond amlinellwyd yr ardal i gynnwys nifer o ffermydd mynydd ar ymylon deheuol Mynydd Llantysilio a’r ardal uwchdirol fechan yn nolen yr afon, sy’n codi i uchder o dros 300 metr.

Defnyddir y rhan fwyaf o’r tir heddiw fel porfa, gyda phlanhigfeydd conwydd yr 20fed ganrif a pheth coetir llydanddail hynafol sy’n goroesi ar dir mwy serth ac o amgylch ymylon yr ucheldiroedd a nifer o ardaloedd bychain ar wahân lle nad yw’r ucheldiroedd wedi’u cau. Mae caeau bach afreolaidd i’w gweld yn helaeth iawn yn nhirwedd y caeau, ac ardal fechan o gaeau llain wedi’u haildrefnu o bosibl i’r de o Landynnan. Gwrychoedd aml-rywogaeth, rhai ohonynt wedi gordyfu erbyn hyn, yw ffiniau’r rhan fwyaf o gaeau ar y tir is, gyda ffensys pyst-a-gwifrau o amgylch ymylon yr ucheldiroedd.

Mae nifer o batrymau anheddu cyferbyniol i’w gweld yn yr ardal. O amgylch ymylon yr ucheldiroedd ar y naill ochr i’r dyffryn a’r llall, ceir tirwedd o ffermydd gwasgaredig sy’n dyddio o’r canol oesoedd a diwedd y canol oesoedd yn ôl pob tebyg. Y fferm stad a thir ffermio Fferm Llantysilio, ynghyd â bythynnod gweithwyr y fferm, a stad lai Plas Berwyn, Rhysgog, â’i thy arddull Sioraidd hwyr o 1836 a’r ty coets a stablau cysylltiedig, sydd ar lawer o dir is dyffryn Dyfrdwy a dolen greiriol afon Dyfrdwy ar ochr ddwyreiniol yr ardal nodwedd. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o bentrefannau bychain. Nid yw’n eglur pryd sefydlwyd Llandynnan, ond roedd mewn bodolaeth erbyn y 14eg ganrif, ac mae tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu mai anheddiad eglwys ydoedd yn wreiddiol. Mae’n ymddangos bod Llandynnan a Rhewl wedi cael budd o fod ar lwybr porthmyn o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar draws Mynydd Llantysilio trwy Cymmo, gyda’r Sun Inn yn Rhewl a Fferm Ty-isaf, Llandynnan yn darparu’r cyfleusterau yn ôl y sôn. Byddai’r aneddiadau, y ddau ohonynt â chapel anghydffurfiol, hefyd yn darparu llety i chwarelwyr a oedd yn gweithio yn chwareli llechi’r Berwyn ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, tua hanner cilomedr i’r gogledd. Llidiart Annie yw un o gynlluniau tai gwledig prin yr awdurdod lleol yn yr ardal. Adeiladwyd y tai tua chanol yr 20fed ganrif ar arddull bythynnod, ar bwys yr ysgol a adeiladwyd ym 1858 i addysgu plant y gweithwyr ym mhlwyf Llantysilio.

Mae’r dirwedd ddeniadol sy’n cwmpasu Neuadd Llantysilio, Eglwys Llantysilio, Bryntysilio, a Rhaeadr Bwlch yr Oernant yn nodweddiadol o ran ddeheuol yr ardal ar hyd afon Dyfrdwy. Plasty cerrig sylweddol o’r 1870au yw Neuadd Llantysilio, ar arddull Fictoraidd Jacobeaidd; stablau, iard a thy coets gyda gardd furiog yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif a rhodfa o’r 18fed ganrif a thua diwedd y 19eg ganrif, yn ogystal â phorthdy deulawr. Disodlodd y ty presennol neuadd frics a adeiladwyd yn gynnar yn y cyfnod Sioraidd a oedd, yn ei thro, wedi disodli ffermdy llawer cynharach yn ôl pob tebyg.

Sefydlwyd ty stwco sylweddol Bryntysilio, yn y dull Eidalaidd, a’i erddi yn y 1860au a’r 1870au, yn tremio dros Raeadr Bwlch yr Oernant a adeiladwyd gan Thomas Telford dros afon Dyfrdwy i gyflenwi dwr i’r gamlas yn Llangollen ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif.

Ffynonellau

CCadw 1995; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Coulter 1986; Davies 1929; Ellis 1924; Hubbard 1986; Lloyd-Williams ac Underwood; Quartermaine et al. 2003; Radford a Hemp 1959; Sivewright 1986; Silvester 1995; Silvester 1999; Wheeler 1923; Wheeler 1925; Sherrat 2000; Thomas 1908-13.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.