CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Cyrn-y-brain
Cymunedau Llandegla, Llantysilio, Sir Ddinbych, a Chymuned Y Mwynglawdd, Wrecsam
(HLCA 1143)


CPAT PHOTO 1766-267

Crib rhostir uwchdirol, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, gyda thomenni claddu cynhanesyddol, a reolwyd gynt yn rhannol fel rhostir grugieir.

Cefndir hanesyddol

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd yr ardal o fewn teyrnas Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, daeth yr ardal o fewn arglwyddiaeth mers Brwmffild ac Iâl. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 daeth o fewn cantref Iâl yn y sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Rhostir uwchdirol eang gyda grug, eithin, llus, rhedyn a brwyn, gyda rhai ardaloedd pori wedi’u gwella. Saif yr ardal ar uchder rhwng tua 350 a 560 metr uwchlaw lefel y môr, gyda daeareg waelodol o sialau Silwraidd ac Ordoficaidd sy’n ffurfio crib uwchdirol sy’n parhau ardaloedd nodwedd Mynydd Llantysilio a Maesyrychen.

Ni fu rhyw lawer o astudio hanes amgylcheddol cynnar yr ardal ers y rhewlifiant diwethaf, ond mae grwp o henebion claddu pen bryn o’r Oes Efydd ar gopaon Cyrn-y-brain a thomenni arunig ar lethrau dwyreiniol y mynydd sy’n tremio dros Nant Craig y Moch ac Aber Sychnant yn awgrymu rhywfaint o weithgaredd cynhanesyddol cynnar. Mae’r henebion hyn i’w cysylltu mae’n debyg â manteisio’n gynnar ar borfeydd uwchdirol ar gyfer pori. Ar lethrau dwyreiniol yr ucheldiroedd ger llednant afon Eglwyseg ceir olion hafod canoloesol neu ganoloesol hwyr o bosibl, sydd i bob golwg yn awgrymu manteisio ar borfeydd haf yr ucheldiroedd yn ystod cyfnod diweddarach. Yn arwyddocaol, mae ty anghyfannedd gerllaw ar y ffin â’r tir is sydd heb ei amgáu yn dwyn yr enw Cae’r-hafod. Mae lloches defaid groesffurf gerllaw a chorlan gerrig ger copa Cyrn-y-brain yn cynrychioli rheolaeth ddiweddarach ar gyfer pori defaid, gan eu bod yn ôl pob tebyg yn dyddio o’r canol oesoedd hwyr neu ddyddiad ôl-ganoloesol.

Mae grwpiau o garnau saethu ar ochrau dwyreiniol Cyrn-y-brain yn awgrymu rheoli rhannau o’r ardal yn flaenorol fel rhostir grugieir. Heddiw, tir comin heb ei amgáu yw’r ardal gan mwyaf, wedi’i rheoli yn gynt fel porfa defaid a rhostir grugieir. Defnyddir yr ardal at nifer o ddibenion hamdden modern, gan gynnwys cerdded y mynyddoedd. Mae yna dri mast telathrebu ar gopa Cyrn-y-brain sy’n ffurfio tirnod sy’n hawdd i’w weld o lawer o filltiroedd o amgylch. Gellir gweld olion radar o adeg y rhyfel yn is i lawr y bryn.

Ceir nifer o chwareli cerrig bychain yn yr ardal, yn ôl pob tebyg i ddarparu defnyddiau adeiladu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Ffynonellau

Burnham 1995; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b; Ellis 1924; Jones 1999; Llandegla MAG 2003; Richards 1969; Silvester a Hankinson 1995

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.