Cymraeg / English
|
|
Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen:
Mynydd Rhiwabon
Cymunedau Llangollen a Llantysilio, Sir Ddinbych, a chymunedau Esclusham, y Mwynglawdd a Phen-y-cae, Wrecsam
(HLCA 1144)
Llwyfandir rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, a reolir fel rhostir grugieir. Yno ceir henebion claddu a henebion defodol mewn clystyrau a rhai mwy anghysbell o’r Oes Efydd, ac olion mwyngloddio a chwilota am fetel yn y 19eg ganrif.
Cefndir hanesyddol
Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd yr ardal o fewn teyrnas Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl concwest Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, daeth yr ardal o fewn arglwyddiaeth mers Brwmffild ac Iâl. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 daeth o fewn cantref Iâl yn y sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Rhostir eang a phellennig, gyda mawn a grug yn ei orchuddio yn bennaf, ar uchder rhwng tua 250 a 500 metr uwchlaw lefel y môr, gan ddod i ben yn sydyn â tharren galchfaen Creigiau Eglwyseg i’r de-orllewin a’r de, a chwympo’n serth i ddyffryn Aber Sychnant i’r gogledd a llechweddu’n raddol tuag at Wrecsam i’r dwyrain. Ceir rhai ardaloedd o borfeydd wedi’u gwella a’u hamgáu ar ochr ddeheuol y rhos. Mae’r ddaeareg waelodol yn cynnwys gwely o grut Melinfaen yn gorchuddio calchfaen Carbonifferaidd. Rheolir ardaloedd mawr fel rhostir grugieir o hyd, a defnyddir y tir yn bennaf y dyddiau hyn i ddefaid bori dros yr haf.
Mae tomenni claddu niferus o’r Oes Efydd yn cynrychioli gweithgaredd cynnar yn yr ardal, wedi’u gwasgaru ar draws y rhos ar gopaon cribau neu ar sgarpiau’r bryniau, a gellir gweld llawer ohonynt o gryn bellter. Carneddau cerrig syml yw rhai ohonynt, gydag ymylfaen o garreg o bryd i’w gilydd. Mae eraill ar ffurf clawdd cylch o gerrig neu gylch cerrig. Mae’r henebion i’w gweld ar eu pennau eu hunain neu mewn clystyrau bychain, ac mae’n debyg eu bod wedi arddel sawl swyddogaeth yn y dirwedd wrth iddi ddatblygu yn ystod y pedwerydd a’r ail fileniwm CC, rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae’n bosibl fod clystyrau o henebion yn cynrychioli canolbwyntiau seremonïol yn y dirwedd hon, ac mae’n bosibl eu bod yn diffinio gweithgareddau gwahanol deuluoedd neu lwythau. Nid oes tystiolaeth fod yma aneddiadau cysylltiedig o’r cyfnod hwn, ac mae’n debygol y dylid cysylltu’r henebion mewn rhyw ffordd â manteisio ar borfeydd haf yr ucheldiroedd.
Gwelir nifer fach o lwyfannau tai anghyfannedd ac adfeilion adeiladau o amgylch ymylon y rhos. Gallai rhai o’r rhain gynrychioli hafodydd lle byddai pobl yn byw yn dymhorol, yn gysylltiedig â manteisio ar borfeydd yr ucheldiroedd yn ystod y cyfnod canoloesol, er y gallai nifer gynrychioli bythynnod sgwatwyr diweddarach y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Gwelir nifer gymharol fach o gorlannau cerrig sychion, unwaith eto o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg.
Ceir nifer o odynnau calch bychain ger brigiadau calchfaen, ond yn fwy ymwthiol na hyn mae olion mwyngloddiau plwm, arian a sinc o’r 19eg ganrif, llawer ohonynt o’r cyfnod rhwng y 1860au a’r 1890au, yn enwedig yn ardal ogleddol y rhos. Mae hyn yn ffurfio rhan o dirwedd mwyngloddio ehangach sy’n estyn i’r gogledd tuag at y Mwynglawdd, gan gynnwys cyfadeilau helaeth sydd wedi’u cadw’n dda uwchlaw’r ddaear a than y ddaear ym mhyllau Park Mine a Pool Park a siafftiau mwy arunig yn gyffredinol mewn mannau eraill, wedi’u rhyng-gysylltu gan rwydwaith o draciau a llwybrau troed. Ymhlith yr olion mwyngloddio nodweddiadol mae siafftiau sy’n rhedeg ar hyd wythiennau mwynau yn y tywodfaen, ceuffyrdd draenio, pentyrrau o wastraff mwynau, ardaloedd prosesu, a sylfeini tramffyrdd a pheiriandai. Mae nodweddion eraill y dirwedd yn cynnwys dwy ddyfrffos a fyddai’n tynnu dwr o nant Aber Sychnant, y naill i gyflenwi Pool Park a Lower Park ychydig i’r gogledd, a’r llall i gyflenwi mwyngloddiau’r Mwynglawdd ar draws y dyffryn, sawl cilometr ymhellach i’r gogledd.
Mae’r rhostir wedi cael ei reoli’n ysbeidiol ar gyfer saethu grugieir ers y 19eg ganrif, gan weinyddu hyn o Mountain Lodge a oedd yn perthyn i stad Wynnstay ar ochr ddwyreiniol y rhos. Gwelir llinellau o garnau saethu ar sawl rhan o’r rhos, ar ffurf crafbantiau yn y tir â chlawdd siâp pedol o’u hamgylch. Gwelir y rhain weithiau mewn grwpiau bychain, ond mae yna nifer o linellau llawer hirach o garnau bob 50 metr, mwy neu lai, yn ymestyn mewn rhai achosion am fwy na chilometr.
Roedd rhannau o’r rhos yn darged camsyniol i fomiau tân y gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan adael craterau bomiau sydd yn dal i’w gweld mewn mannau. Ymhlith olion eraill o’r cyfnod hwn mae ffordd fynydd rhwng y Mwynglawdd a World’s End a grëwyd ar hyd traciau cynharach, a gwylfa brics a choncrit ar ochr ddwyreiniol y rhos yn tremio dros Wrecsam.
Bennett 1995; Burnham 1995; Cofnod YACP o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929; Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b; Jones 1999; Jones et al. 2004; Lynch 1969; Richards 1969; Silvester a Hankinson 1995; Wrecsam 2003
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.
|