CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Vivod
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych
(HLCA 1146)


CPAT PHOTO 1766.250

Tirwedd caeau afreolaidd a choetir mewn dyffrynnoedd nentydd a llethrau i’r de a’r gorllewin o Langollen, gyda stad o’r 19eg ganrif, a ffermydd a bythynnod y stad.

Cefndir hanesyddol

Erbyn y 7fed a’r 8fed ganrif roedd yr ardal o fewn teyrnas Gymreig Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif roedd yr ardal i’r de o Afon Dyfrdwy o fewn arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, a oedd wedi’i chreu o’r newydd. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 roedd yn rhan o sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Prin yw’r dystiolaeth o anheddu cynnar a defnyddio tir sydd wedi’i darganfod hyd yma yn yr ardal nodwedd. Roedd rhan orllewinol yr ardal, ynghyd â rhan o ardal nodwedd Craig-dduallt, o fewn darn o goetir o’r enw coedwig Cwmcathi yn y 14eg ganrif, a oedd dan berchnogaeth arglwyddiaeth ganoloesol y Waun. Roedd trefgorddau Vivod a Bache mewn bodolaeth erbyn o leiaf y 14eg ganrif, ill dwy yn cynnwys nifer o afaelion teuluol a oedd yn cynhyrchu gwenith a cheirch ymhlith cynnyrch eraill. Mae’n ymddangos bod rhywfaint o ran ddwyreiniol yr ardal wedi ffurfio rhan o faenor fynachaidd ganoloesol Tirabad a oedd dan berchnogaeth mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu natur anheddu cynharach a defnydd tir yn y cyfnod canoloesol o bosibl. Mae’r elfen maidd yn yr enw Hafod-y-maidd yn awgrymu ei bod wedi tarddu o fferm uwchdirol dymhorol a oedd yn gysylltiedig â llaethyddiaeth. Yn anarferol, un fferm yn unig, sef Ty’n-y-pistyll sy’n cynnwys yr elfen gyffredin tyddyn, sy’n cynrychioli ffermydd uwchdirol â thenantiaid rhydd-ddaliadol. Mae nifer o dai yma a thraw, megis Ty-cerrig, Ty-uchaf a Thy-isaf yn cynnwys elfen gyffredin ty sy’n aml yn cyfeirio at fwthyn. Ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif daeth llawer o’r ardal i fod yn rhan o stad Vivod sy’n parhau hyd heddiw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal yn cwmpasu llethrau serth a dyffrynnoedd nentydd Eirianallt, Nant y Bache a Chyflymen i’r de a’r gorllewin o Langollen, yn bennaf ar uchder o rhwng 100 a 400m uwchlaw lefel y môr. Ceir clytwaith o gaeau bychain afreolaidd yn bennaf ar lawer o’r tir is, sy’n cynrychioli clirio coetir yn raddol ac amgáu’r tir ers o leiaf y cyfnod canoloesol. Mae ardaloedd o weddillion coetir llydanddeiliog cynhenid a llystyfiant prysg wedi goroesi ar rai o’r llethrau mwyaf serth ac yn y dyffrynnoedd nentydd. Mae’r patrymau caeau mwy rheolaidd, ag ochrau syth ar beth o’r tir uwch o fewn ffiniau’r ardal ac o’u hamgylch yn cynrychioli amgáu ardaloedd ymylol porfeydd uwchdirol o oddeutu’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ymlaen, yn ôl pob tebyg. Crëwyd nifer o ardaloedd o blanhigfeydd conwydd y stad yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae gwrychoedd amlrywogaeth a rhai coed aeddfed yn nodi llawer o derfynau caeau ar y tir is a amgaewyd mewn cyfnod hynafol, ac yn ategol at hyn mewn llawer o ardaloedd mae ffensys stad nodedig o haearn gyredig, sy’n ildio i wrychoedd un rhywogaeth, rhai wedi gordyfu erbyn hyn, ynghyd â ffensys pyst-a-gwifrau a waliau cerrig sychion mewn rhannau uwchdirol mwy ymylol yr ardal. Defnyddir y tir yn bennaf ar gyfer pori defaid y dyddiau hyn, er bod glasleiniau wedi ffurfio’n eang, gan gadarnhau bod ffermio âr wedi bod yn fwy cyffredin yn y gorffennol.

Ffermydd gwasgaredig canolig eu maint sy’n cynrychioli anheddu i raddau helaeth, llawer ohonynt yn dal i fod dan berchnogaeth stad Vivod. Yn nodweddiadol o’r rhain mae Ty Cerrig, ffermdy cerrig o ganol y 18fed ganrif, wedi’i adeiladu i fyny ac i lawr y llethr, gyda rhes o adeiladau ynghlwm ar yr ochr sy’n mynd ar i lawr. Mae’r ty Fictoraidd ym Mhlas-yn-Vivod o’r 1850au a’r 1860au yn cynrychioli ffocws stad Vivod, wedi’i godi ar safle ty o’r 18fed ganrif a chyn hynny yn ôl pob tebyg, ynghyd â’i erddi cysylltiedig a hen deithiau cerdded deniadol, porthdy, bythynnod gweithwyr y stad a stablau a chyfadail llaethdy cerrig cyfoes a chertws yn fferm stad gyfagos Bryn-Newydd.

Mae’n debyg y byddai grym dwr yn cael ei harneisio yn y cyfnod canoloesol ar gyfer malu yd o fewn yr ardal nodwedd, ac mae cyfadeilau melin diweddarach Bache a Pengwern ar nant Cyflymen ychydig i’r de o Langollen yn cynrychioli hyn, gyda stad Vivod yn harneisio nant Eirianallt i gael pwer trydan.

Daeth chwareli cerrig bychain i’r amlwg yn gyffredinol o amgylch ymylon uwchdirol yr ardal, o’r cyfnod canoloesol diweddarach ymlaen mae’n debyg, yn bennaf ar gyfer adeiladu tai a waliau.

Ffynonellau

Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Frost 1995; Hubbard 1986; Williams 1990; Jones 1932

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.