CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Craig-dduallt
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych
(HLCA 1147)


CPAT PHOTO 1766-79

Uwchdir a choetir amgaeedig o’r 19eg ganrif ar ffin ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen gyda thystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol cynnar.

Cefndir hanesyddol

Awgrymir gweithgaredd cynnar gan un pen saeth fflint a ddarganfuwyd ger Blaenau Uchaf a dwy domen gladdu anghysbell o’r Oes Efydd ar dir rhwng 390 a 430 uwchlaw lefel y môr yn rhan orllewinol yr ardal ger Ffynnon-las a Blaen Nant. Efallai bod hyn yn awgrymu hela a chlirio ar gyfer pori anifeiliaid dof yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Roedd rhan orllewinol yr ardal, ynghyd â rhan o ardal nodwedd Vivod, o fewn darn o goetir o’r enw Cwmcathi yn y 14eg ganrif, a oedd dan berchnogaeth arglwyddiaeth ganoloesol y Waun. Roedd plwm a barytes yn cael eu mwyngloddio ar raddfa fechan ar ddechrau’r 20fed ganrif mewn safle mwyngloddio ar ymylon gogleddol yr ardal, ger Ty’n y Celyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tir serth a phen bryn sy’n codi’n fwy graddol yn yr ucheldiroedd ar ffin ddeheuol Dyffryn Llangollen ar uchder o rhwng tua 200 a 450m uwchlaw lefel y môr. Mae yma borfa uwchdirol wedi’i gwella a’i hamgáu, a chaeau pori mawrion a rhai bychain ag ochrau syth yn cynrychioli cau bryniau yn y 19eg ganrif. Gwrychoedd o ddraenen wen un rhywogaeth yw terfynau’r caeau yn bennaf, rhai ohonynt wedi gordyfu erbyn hyn, a ffensys pyst-a-gwifrau. O bryd i’w gilydd ceir waliau cerrig sychion a chloddiau caeau â wyneb cerrig arnynt, yn ôl pob tebyg o ddyddiad yn y 19eg ganrif, ac mae rhai o’r rhain mewn cyflwr adfeiliedig. Meini crwydr rhewlifol mawrion wedi’u gwasgaru ar ymylon y caeau. Blociau o goetir cymysg a phlanhigfa gonwydd o’r 20fed ganrif, a lleiniau ar rai o’r llethrau mwyaf serth neu ar dir uwch. Ardaloedd bychain unigol corsog dan ddwr. Nifer fechan yn unig o ffermdai a bythynnod sydd yn yr ardal, yn dyddio yn bennaf o’r 19eg ganrif. Mae nifer o chwareli cerrig bychain ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg, ar gyfer codi adeiladau a waliau, wedi’u gwasgaru ledled yr ardal.

Ffynonellau

Archer 1959; Cofnod YACP o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929; Pratt 1990; CBHC 1914

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.