CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen
Map o’r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Llangollen: Cwm Alys
Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam
(HLCA 1148)


CPAT PHOTO 1766-252

Coetir llydanddeiliog, prysg a chlytiau o gaeau afreolaidd bychain ar lethrau serth y dyffryn ar ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen.

Cefndir hanesyddol

Ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar ac anheddu’r ardal. Cyn i’r Brenin Edward orchfygu Cymru tua diwedd y 13eg ganrif, roedd yn rhan o deyrnas ganoloesol gynnar Powys, ac yna’n rhan o gyfran ogleddol y deyrnas o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru tua diwedd y 13eg ganrif, roedd yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 roedd yn rhan o sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tir serth ar ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen, rhwng rhyw 100 a 360m uwchlaw lefel y môr, yn cynnwys coetir llydanddeiliog a phrysg, a chaeau bychain afreolaidd yn bennaf ar gyfer pori ar dir mwy gwastad, gan gynrychioli clirio coetir yn dameidiog a chau tir, o’r canol oesoedd ymlaen o leiaf yn ôl pob tebyg. Cynrychiolir amrywiaeth o fathau o derfynau caeau, gan gynnwys gwrychoedd amlrywogaeth, cloddiau pridd a cherrig, a rhai waliau cerrig sychion ar ymyl ffyrdd, rhai ohonynt y mae ffensys pyst-a-gwifrau wedi’u disodli. Meini crwydr rhewlifol o bryd i’w gilydd ar ymylon y caeau.

Mae patrwm o ffermydd a bythynnod gwasgaredig yn nodweddu’r anheddu heddiw. Mae traddodiadau adeiladu cynnar yn yr ardal yn amlwg ym Mryn-dethol, sef cyn ffermdy yn tarddu o adeilad â nenfforch o ddiwedd y canol oesoedd, gydag addasiadau o’r 18fed ganrif a diweddarach.

Ffynonellau

Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig; Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Jones 1932; Suggett 2001

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.